Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Geirfa o Dermau Beiblaidd

A B C Ch D E Ff G H I J L Ll M N O P Ph Rh S T Th U W Y Z

A

  • Aberth.

    Offrwm a gyflwynwyd i Dduw i ddangos diolchgarwch, i gydnabod euogrwydd, ac i adfer perthynas dda ag ef. Yn cychwyn ag Abel, roedd bodau dynol yn offrymu amryw aberthau gwirfoddol, gan gynnwys anifeiliaid, hyd nes i gyfamod Cyfraith Moses wneud hynny’n ofynnol. Doedd aberthu anifeiliaid ddim yn angenrheidiol ar ôl i Iesu roi ei fywyd ei hun yn aberth perffaith, ond mae Cristnogion yn parhau i offrymu aberthau ysbrydol i Dduw.—Ge 4:4; Heb 13:15, 16; 1In 4:10.

  • Achaia.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, talaith Rufeinig yn ne Gwlad Groeg a’i phrifddinas yng Nghorinth. Roedd Achaia yn cynnwys Peloponnesos a chanolbarth Gwlad Groeg y cyfandir.—Act 18:12.

  • Adduned.

    Addewid difrifol wedi ei wneud i Dduw ynglŷn â chyflawni rhyw weithred, rhyw offrwm neu rodd, dechrau rhyw wasanaeth, neu ymgadw rhag rhai pethau nad ydyn nhw’n anghyfreithlon ynddyn nhw eu hunain. Roedd yr un mor rymus â llw.—Mth 5:33.

  • Aflan.

    Efallai’n cyfeirio at fod yn fudr yn gorfforol neu at dorri cyfreithiau moesol. Ond yn y Beibl, mae’r gair yn aml yn cyfeirio at yr hyn sydd ddim yn dderbyniol, neu sydd ddim yn lân, yn ôl Cyfraith Moses. (Le 5:2; 13:45; Mth 10:1; Act 10:14; Eff 5:5)—Gweler GLÂN.

  • Anghrist.

    Mae gan y term Groeg hwn ddau ystyr. Mae’n cyfeirio at yr hyn sy’n gwrthwynebu Crist. Mae hefyd yn gallu cyfeirio at gau Grist, un sydd yn lle Crist. Mae’n briodol i alw’n anghristiau unrhyw bobl, cyfundrefnau, neu grwpiau sy’n honni eu bod nhw’n cynrychioli Crist neu’n honni mai nhw ydy’r Meseia neu sy’n gwrthwynebu Crist a’i ddisgyblion.—1In 2:22.

  • Angylion.

    O’r gair Hebraeg malach a’r gair Groeg angelos. Yn llythrennol, mae’r ddau air yn golygu “negesydd” ond yn cael eu trosi’n “angel” wrth gyfeirio at ysbryd negeswyr. (Ge 16:7; 32:3; Iag 2:25; Dat 22:8) Mae’r angylion yn ysbryd greaduriaid nerthol a gafodd eu creu gan Dduw ymhell cyn iddo greu dynolryw. Mae’r Beibl hefyd yn cyfeirio atyn nhw fel myrddiynau sanctaidd, meibion Duw, a sêr y bore. (De 33:2; Job 1:6; 38:7; Jwd 14) Ni chawson nhw eu creu â’r gallu i atgenhedlu ond fe gawson nhw eu creu yn unigol. Mae dros gan miliwn ohonyn nhw. (Da 7:10) Mae’r Beibl yn awgrymu bod ganddyn nhw enwau unigol a phersonoliaethau unigryw, ond eto, yn eu gostyngeiddrwydd, maen nhw’n gwrthod derbyn addoliad, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n osgoi datgelu eu henwau hyd yn oed. (Ge 32:29; Lc 1:26; Dat 22:8, 9) Mae ganddyn nhw wahanol safleoedd ac yn cael eu haseinio i wahanol fathau o waith, gan gynnwys gwasanaethu o flaen gorsedd Jehofa, cyflwyno ei negeseuon, camu i mewn ar ran gweision daearol Jehofa, cyflawni barnedigaethau Duw, a chefnogi’r gwaith o bregethu’r newyddion da. (2Br 19:35; Sal 34:7; Mth 4:11; Lc 1:30, 31; Dat 5:11; 14:6) Yn y dyfodol byddan nhw’n cefnogi Iesu drwy ymladd ym mrwydr Armagedon.—Dat 19:14, 15.

  • Alabastr.

    Enw ar jariau bach i ddal persawr a oedd wedi eu gwneud yn wreiddiol o garreg sy’n dod o Alabastron, Yr Aifft. Roedd gwddf tenau’r jariau yn ei gwneud hi’n bosib eu selio nhw er mwyn stopio unrhyw bersawr gwerthfawr rhag gollwng. Yn y pen draw, cafodd y garreg ei hun ei galw wrth yr un enw.—Mc 14:3.

  • Alffa ac Omega.

    Enwau’r llythyren gyntaf a’r llythyren olaf yn yr wyddor Roeg; maen nhw’n cael eu defnyddio gyda’i gilydd dair gwaith yn Datguddiad fel teitl ar Dduw. Yn y cyd-destunau hyn mae’r ymadrodd hwn yn golygu’r un peth ag “y cyntaf a’r olaf” ac “y dechrau a’r diwedd.”—Dat 1:8; 21:6; 22:13.

  • Allor.

    Llwyfan wedi ei wneud o bridd, o greigiau, o un darn o garreg, neu o bren wedi ei orchuddio â metel lle byddai aberthau neu arogldarth yn cael eu hoffrymu mewn addoliad. Yn ystafell gyntaf y tabernacl a’r deml, roedd ’na allor fach aur ar gyfer offrymu arogldarth. Roedd wedi ei gwneud o bren wedi ei orchuddio ag aur. Roedd ’na allor gopr fwy ar gyfer aberthau llosg y tu allan yn y cwrt. Roedd allorau hefyd yn gyffredin mewn gau addoliad.—Ex 39:38, 39; 1Br 6:20; Mth 5:23, 24; Lc 1:11; Act 17:23.

  • Amen.

    “Felly y byddo,” neu “yn sicr.” Mae’r gair yn dod o’r gwreiddair Hebraeg aman, sy’n golygu “bod yn ffyddlon, yn ddibynadwy.” Roedd “amen” yn cael ei ddweud er mwyn cytuno â llw, gweddi, neu ddatganiad. Yn Datguddiad, mae’n cael ei ddefnyddio fel teitl ar gyfer Iesu.—De 27:26; 1Cr 16:36; Rhu 1:25; Dat 3:14.

  • Anfoesoldeb rhywiol.

    O’r gair Groeg porneia, term a ddefnyddir yn yr Ysgrythurau i gyfeirio at weithgareddau rhywiol penodol sydd wedi eu gwahardd gan Dduw. Mae’n cynnwys godineb, puteindra, cyfathrach rywiol rhwng unigolion dibriod, cyfunrywioldeb, a bwystfileidd-dra. Mae’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol yn Datguddiad i gyfeirio at y butain grefyddol sy’n cael ei galw “Babilon Fawr” er mwyn ei disgrifio hi’n cydweithio â rheolwyr y byd hwn i gael grym ac elw materol. (Dat 14:8; 17:2; 18:3; Mth 5:32; Act 15:29; Ga 5:19)—Gweler PUTAIN.

  • Apostol.

    Ystyr sylfaenol y gair ydy “rhywun sy’n cael ei anfon allan,” ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Iesu a rhai penodol a gafodd eu hanfon i wasanaethu eraill. Yn fwy aml, mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r disgyblion a gafodd eu dewis yn bersonol gan Iesu fel grŵp o 12 cynrychiolydd penodedig.—Mc 3:14; Act 14:14.

  • Aramaeg.

    Iaith Semitig sy’n perthyn yn agos i’r Hebraeg, gan ddefnyddio’r un wyddor. Roedd yr iaith yn cael ei siarad yn wreiddiol gan yr Arameaid ond yn ddiweddarach fe ddaeth yn iaith ryngwladol ar gyfer masnach a chyfathrebu yn Ymerodraeth Asyria ac yn Ymerodraeth Babilon. Roedd hefyd yn iaith weinyddol swyddogol yn Ymerodraeth Persia. (Esr 4:7) Cafodd rhannau o lyfrau Esra, Jeremeia, a Daniel eu hysgrifennu yn yr Aramaeg. Mae rhai geiriau Aramaeg wedi cael eu defnyddio yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.—Esr 4:8–6:18; 7:12-26; Jer 10:11; Da 2:4b–7:28; Mc 14:36; Act 9:36.

  • Archangel.

    Mae’n golygu “pennaeth yr angylion.” Mae’r rhagddodiad “arch” yn golygu “pennaeth.” Mae’r diffiniad hwn, yn ogystal â’r ffaith fod “archangel” yn y Beibl yn cael ei ddefnyddio dim ond yn yr unigol, yn dangos mai un archangel sydd yn unig. Mae’r Beibl yn datgelu enw’r archangel, gan roi’r enw Michael arno.—Da 12:1; Jwd 9; Dat 12:7.

  • Archoffeiriad.

    O dan Gyfraith Moses, yr offeiriad pennaf a oedd yn cynrychioli’r bobl o flaen Duw ac yn arolygu’r offeiriaid eraill. Ef yn unig oedd yn cael mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd, yr adran fwyaf mewnol yn y tabernacl ac, yn hwyrach ymlaen, yn y deml. Roedd yn gwneud hyn bob blwyddyn ar Ddydd y Cymod yn unig. Mae’r teitl “archoffeiriad” hefyd yn cael ei roi ar Iesu Grist.—Le 16:2, 17; 21:10; Mth 26:3; Heb 4:14.

  • Arch y cyfamod.

    Cist wedi ei gwneud o bren acasia ac wedi ei gorchuddio ag aur, a oedd yn cael ei chadw yn y Mwyaf Sanctaidd yn y tabernacl ac yn nes ymlaen yn y Mwyaf Sanctaidd yn y deml a adeiladwyd gan Solomon. Roedd gan yr arch gaead wedi ei wneud o aur pur â dau geriwb yn wynebu ei gilydd. Y prif bethau a oedd yn cael eu cadw yn yr arch oedd dwy lech y Deg Gorchymyn.—De 31:26; 1Br 6:19; Heb 9:4.

  • Areopagus.

    Bryn uchel yn Athen, i’r gogledd-orllewin o’r Acropolis. Hwn hefyd oedd yr enw ar y cyngor (llys) a oedd yn cynnal cyfarfodydd yno. Gwnaeth athronwyr Stoicaidd ac Epicwraidd ddod â Paul i’r Areopagus er mwyn iddo esbonio ei ddaliadau.—Act 17:19.

  • Arfogaeth.

    Dillad a oedd yn cael eu gwisgo gan filwyr i’w hamddiffyn, sef y helmed, y llurig, y belt, y goesarf, a’r darian.—1Sa 31:9; Eff 6:13-17.

  • Armagedon.

    O’r Hebraeg Har Meghidohn, sy’n golygu “Mynydd Megido.” Mae’r gair yn cael ei gysylltu â “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog” lle bydd ‘brenhinoedd y ddaear gyfan’ yn cael eu casglu i ryfela yn erbyn Jehofa. (Dat 16:14, 16; 19:11-21)—Gweler TRYCHINEB MAWR.

  • Arogldarth.

    Cymysgedd o gymiau a balmau sy’n llosgi’n araf deg, gan ryddhau arogl persawrus. Roedd pedwar cynhwysyn i’r arogldarth arbennig a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y tabernacl ac yn y deml. Roedd yn cael ei losgi yn y bore a gyda’r nos ar allor yr arogldarth yn yr adran Sanctaidd, ac, ar Ddydd y Cymod, roedd yn cael ei losgi y tu mewn i’r Mwyaf Sanctaidd. Roedd yn symboleiddio gweddïau derbyniol gweision ffyddlon Duw. Doedd dim rhaid i Gristnogion ei ddefnyddio.—Ex 30:34, 35; Le 16:13; Dat 5:8.

  • Arolygwr.

    Dyn sydd â’r prif gyfrifoldeb o ofalu am y gynulleidfa a’i bugeilio. Y syniad sylfaenol yn y gair Groeg episcopos ydy arolygu er mwyn gwarchod. Mae’r termau “arolygwr” a “henuriad” (presbyteros) yn cyfeirio at yr un safle yn y gynulleidfa Gristnogol. Mae’r gair “henuriad” yn pwysleisio rhinweddau aeddfed yr un sydd wedi cael ei benodi i’r swydd honno, ac mae’r gair “arolygwr” yn pwysleisio ei gyfrifoldebau.—Act 20:28; 1Ti 3:2-7; 1Pe 5:2.

  • Arwydd.

    Gwrthrych, gweithred, sefyllfa, neu rywbeth anarferol sy’n arwyddocaol am ei fod yn dynodi rhywbeth arall, yn y presennol neu yn y dyfodol.​—Mth 24:3; Dat 1:1.

  • Aselgeia.​—

  • Asia.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, hwn ydy’r enw ar y dalaith Rufeinig a oedd yn cynnwys ardal sydd heddiw yn rhan orllewinol Twrci, yn ogystal â rhai ynysoedd arfordirol fel Samos a Patmos. Y brifddinas oedd Effesus.—Act 20:16; Dat 1:4.

  • Astrolegwr.

    Rhywun sy’n astudio symudiadau’r haul, y lleuad, a’r sêr er mwyn rhagfynegi digwyddiadau’r dyfodol.—Mth 2:1.

  • Atgyfodiad.

    Rhywun yn cael ei godi o’r meirw. Mae’r gair Groeg anastasis yn golygu’n llythrennol “codi; sefyll.” Mae’r Beibl yn sôn am naw atgyfodiad, sy’n cynnwys atgyfodiad Iesu gan Jehofa Dduw. Er bod atgyfodiadau eraill wedi cael eu cyflawni gan Elias, Eliseus, Pedr, a Paul, mae’r gwyrthiau hynny’n cael eu priodoli’n glir i rym Duw. Mae’r atgyfodiad daearol o’r “rhai cyfiawn a’r rhai anghyfiawn” yn rhan hanfodol o bwrpas Duw. (Act 24:15) Mae’r Beibl hefyd yn sôn am atgyfodiad nefol, sy’n cael ei alw’r atgyfodiad “cynharach” neu “cyntaf,” ac sy’n ymwneud â brodyr ysbryd-eneiniog Iesu.—Php 3:11; Dat 20:5, 6; In 5:28, 29; 11:25.

  • Athronwyr Epicwraidd.

    Dilynwyr yr athronydd Groeg Epicwrus (341-270 COG). Roedd eu hathroniaeth yn seiliedig ar y syniad mai pleser yr unigolyn ydy prif nod bywyd.—Act 17:18.

  • Athronwyr Stoicaidd.

    Ysgol o athronwyr Groegaidd a oedd yn credu bod hapusrwydd yn golygu byw yn unol â rheswm a natur. Roedd dyn a oedd yn wirioneddol ddoeth, yn eu barn nhw, yn ddifater ynghylch poen neu bleser.—Act 17:18.

B

  • Baal.

    Duw Canaaneaidd a oedd yn cael ei ystyried fel perchennog yr awyr a rhoddwr glawogydd a ffrwythlondeb. Roedd “Baal” hefyd yn cael ei ddefnyddio fel teitl ar dduwiau lleol llai pwysig. Mae’r gair Hebraeg yn golygu “Perchennog; Meistr.”—1Br 18:21; Rhu 11:4.

  • Bara croyw.

    Yn cyfeirio at fara wedi ei wneud heb lefain neu furum.—De 16:3; Mc 14:12; 1Co 5:8.

  • Bara wedi ei gyflwyno i Dduw.

    Deuddeg torth o fara a oedd yn cael eu rhoi mewn dau bentwr o chwe thorth ar y bwrdd yn adran Sanctaidd y tabernacl a’r deml. Mae hefyd yn cael ei alw “bara gosod” a “bara dangos.” Roedd bara ffres yn cael ei roi yn lle’r offrwm hwn bob Saboth. Roedd y bara a oedd yn cael ei gymryd oddi yno fel arfer yn cael ei fwyta gan yr offeiriaid yn unig.—2Cr 2:4; Ex 25:30; Le 24:5-9; Mth 12:4; Heb 9:2.

  • Bedydd; Bedyddio.

    Mae’r ferf yn golygu “trochi,” neu dipio o dan ddŵr. Cafodd bedydd ei wneud yn angenrheidiol gan Iesu ar gyfer ei ddilynwyr. Mae’r Ysgrythurau hefyd yn cyfeirio at fedydd Ioan, bedydd â’r ysbryd glân, a bedydd â thân, ymhlith eraill.—Mth 3:11, 16; 28:19; In 3:23; 1Pe 3:21.

  • Bedd.

    Pan fydd yn ymddangos mewn llythrennau bach, mae’n cyfeirio at fedd unigol; pan fydd wedi ei briflythrennu, mae’n cyfeirio at fedd cyffredin dynolryw, sy’n cyfateb i’r Hebraeg “Sheol” a’r Roeg “Hades.” Mae’n cael ei ddisgrifio yn y Beibl fel lleoliad neu gyflwr symbolaidd lle mae pob gweithgaredd ac ymwybod yn stopio.—Ge 47:30; Pre 9:10; Mth 27:61; Act 2:31.

  • Beddrod coffa.

    Man claddu lle roedd corff rhywun a fu farw yn cael ei osod. Mae’r term hwn yn gyfieithiad o’r gair Groeg mnemeion, sy’n dod o’r ferf “atgoffa,” sy’n awgrymu bod y person sydd wedi marw yn cael ei gofio.—In 5:28, 29, tdn.

  • Beelsebwl; Beelsebub.

    Enw ar Satan, tywysog, neu reolwr, y cythreuliaid. Mae’n bosib iddo fod yn newidiad ar Baal-sebub, y Baal roedd y Philistiaid yn ei addoli yn Ecron.—2Br 1:3; Mth 12:24.

  • Blaenffrwyth.

    Ffrwythau cynharaf tymor y cynhaeaf; canlyniadau neu gynhyrchion cyntaf unrhyw beth. Roedd Jehofa’n disgwyl i genedl Israel offrymu ei blaenffrwyth iddo, a allai fod o ddyn, o anifail, neu o ffrwyth y ddaear. Fel cenedl, roedd yr Israeliaid yn offrymu eu blaenffrwyth i Dduw yn ystod Gŵyl y Bara Croyw ac yn ystod Pentecost. Roedd y term “blaenffrwyth” hefyd yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol i ddisgrifio Crist a’i ddilynwyr eneiniog.—1Co 15:23; Nu 15:21; Dia 3:9; Dat 14:4.

C

  • Caead; Lle y cymod; Y drugareddfa.

    Caead arch y cyfamod. O flaen y caead, roedd yr Archoffeiriad yn taenellu gwaed yr offrymau dros bechod ar Ddydd y Cymod. Mae’r gair Hebraeg yn dod o ferf sy’n golygu “gorchuddio (pechod)” neu efallai “dileu (pechod).” Roedd wedi ei wneud o aur solet, â dau gerwb, un wedi ei osod ar bob pen.—Ex 25:17-22; 1Cr 28:11; Heb 9:5.

  • Cafn ar gyfer gwasgu grawnwin.

    Yn arferol, dau bwll (cafn) wedi eu torri o galchfaen naturiol, un yn uwch na’r llall, ac wedi eu cysylltu â sianel fechan. Tra oedd y grawnwin yn cael eu gwasgu yn y pwll uchaf, roedd y sudd yn llifo i mewn i’r pwll isaf. Mae’r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol i gyfleu barnedigaeth Duw.—Dat 19:15.

  • Caldeaid.

    Y bobl a oedd yn byw yn ardaloedd delta afonydd Tigris ac Ewffrates. Yn y cyfnodau cynharaf, y ddinas fwyaf pwysig yng ngwlad y Caldeaid oedd Ur, dinas enedigol Abraham.—Act 7:4.

  • Canolwr.

    Rhywun sy’n dod rhwng dau berson er mwyn eu cymodi nhw. Yn yr Ysgrythurau, Moses ydy canolwr cyfamod y Gyfraith ac Iesu ydy canolwr y cyfamod newydd.—Ga 3:19; 1Ti 2:5; Heb 12:24.

  • Caredigrwydd rhyfeddol.

    Gair Groeg sy’n cynnwys y syniad canolog o’r hyn sy’n ddymunol ac yn ddeniadol. Mae’r gair yn aml yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at rodd garedig neu ffordd garedig o roi. Pan fydd yn cyfeirio at garedigrwydd rhyfeddol Duw, mae’r gair yn disgrifio rhodd sy’n rhad ac am ddim ac sydd wedi ei rhoi’n hael gan Dduw, heb iddo ddisgwyl cael ei dalu’n ôl. Felly, mae’n mynegi haelioni Duw a’i gariad a’i garedigrwydd hael tuag at bobl. Mae ymadroddion fel “ffafr” a “rhodd garedig” hefyd yn gallu cyfieithu’r term Groeg. Mae’n cael ei roi heb ei ennill a heb ei haeddu, yn cael ei ysgogi gan haelioni’r rhoddwr yn unig.—2Co 6:1; Eff 1:7.

  • Carreg gornel.

    Carreg sy’n cael ei gosod yng nghornel adeilad lle mae dwy wal yn cwrdd, ac sy’n bwysig ar gyfer eu cysylltu nhw â’i gilydd. Y brif garreg gornel oedd y garreg gornel sylfaenol; roedd carreg a oedd yn arbennig o gryf yn cael ei dewis ar gyfer adeiladau cyhoeddus a waliau dinasoedd. Mae’r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ffigurol i ddisgrifio seilio’r byd, ac Iesu ydy ‘carreg gornel sylfaenol’ y gynulleidfa Gristnogol, sy’n cael ei chymharu â thŷ ysbrydol.—Eff 2:20; Job 38:6.

  • Cefnogwyr Herod.

    Hefyd yn cael eu galw’n Herodiaid. Roedden nhw’n blaid o genedlaetholwyr a oedd yn cefnogi amcanion gwleidyddol pob un Herod wrth iddo reoli o dan y Rhufeiniaid. Mae’n debyg fod rhai o’r Sadwceaid wedi perthyn i’r blaid hon. Ymunodd yr Herodiaid â’r Phariseaid i wrthwynebu Iesu.—Mc 3:6.

  • Cerbyd.

    Roedd hwn yn gerbyd dwy olwyn a oedd yn cael ei dynnu gan geffyl ar gyfer cludiant a rhyfel.—Ex 14:23; Bar 4:13; Act 8:28; Dat 9:9.

  • Cerwbiaid.

    Angylion â safle uchel sy’n cael cyfrifoldebau arbennig. Maen nhw’n wahanol i seraffiaid.—Ge 3:24; Ex 25:20; Esei 37:16; Heb 9:5.

  • Cesar.

    Enw teuluol Rhufeinig a ddaeth yn deitl ar yr ymerawdwyr Rhufeinig. Mae Awgwstus, Tiberius, a Clawdius yn cael eu henwi yn y Beibl, ac er nad ydy Nero yn cael ei enwi, mae’r teitl yn cyfeirio ato ef hefyd. Mae “Cesar” hefyd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol i gynrychioli awdurdodau sifil, neu’r Wladwriaeth.—Mc 12:17; Act 25:12.

  • Coeden y bywyd.

    Coeden yng ngardd Eden. Dydy’r Beibl ddim yn nodi bod gan ei ffrwythau rym cynhenid a oedd yn rhoi bywyd; yn hytrach, mae’n cynrychioli gwarant Duw o fywyd tragwyddol i’r rhai y byddai ef yn caniatáu i fwyta ei ffrwyth. Yn llyfr Datguddiad, mae’n symbol o ddarpariaeth Duw i gynnal bywyd.—Ge 2:9; 3:22; Dat 2:7; 22:19.

  • Coelbrennau.

    Cerrig mân neu ddarnau bach o bren a ddefnyddiwyd i wneud penderfyniadau. Roedden nhw’n cael eu rhoi ym mhlygiadau dillad neu mewn llestr ac yna eu hysgwyd. Y coelbren a syrthiodd allan neu a gafodd ei dynnu oedd yr un a ddewiswyd. Roedd hyn yn aml yn cael ei wneud yn weddigar.—Mth 27:35; Act 1:26.

  • Colofn.

    Piler sy’n cynnal rhyw adeiladwaith, neu rywbeth sy’n debyg i biler o’r fath. Roedd colofnau yn rhan o adeiladwaith y deml a’r adeiladau brenhinol a gafodd eu codi gan Solomon. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol fel symbol o gefnogaeth (1Ti 3:15) neu safle sy’n para.—Bar 16:29; 1Br 7:21; Dat 3:12.

  • Colofnres Solomon.

    Yn y deml yn nyddiau Iesu, coridor dan do i’r dwyrain o’r cwrt allanol, ac roedd llawer yn credu mai olion o deml Solomon oedd y golofnres. Roedd Iesu’n cerdded yno “yn ystod y gaeaf,” ac roedd y Cristnogion cynnar yn cwrdd yno ar gyfer addoli.—In 10:22, 23; Act 5:12.

  • Corn.

    Yn cyfeirio at gyrn anifeiliaid, a oedd yn cael eu defnyddio i yfed ohonyn nhw, i ddal olew, inc, a cholur, ac i’w canu fel offerynnau cerddorol neu i anfon signal. (1Sa 16:1, 13; 1Br 1:39; Esec 9:2) Mae “corn” yn aml yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol ar gyfer cryfder, concwest, a buddugoliaeth.—De 33:17; Mich 4:13; Lc 1:69.

  • Corsen.

    Term a ddefnyddiwyd ar gyfer nifer o blanhigion sy’n gyffredin mewn llefydd gwlyb. Y planhigyn dan sylw mewn llawer o achosion ydy Arundo donax.Mth 27:29; Dat 11:1.

  • Corus.

    Mesur sych a hylifol. Roedd yn gyfartal â 220 L (48.4 gal/200 chwart sych), ac yn seiliedig ar gyfaint amcangyfrifedig y mesur bath.—1Br 5:11; Lc 16:7, tdn.

  • Crist.

    Teitl Iesu, o’r gair Groeg Christos, sy’n cyfateb i’r gair Hebraeg sy’n cael ei gyfieithu “Meseia,” neu “Un Eneiniog.”—Mth 1:16; In 1:41.

  • Cristion.

    Enw a roddwyd gan Dduw ar ddilynwyr Iesu Grist.—Act 11:26; 26:28.

  • Crochenydd.

    Rhywun sy’n gwneud potiau, dysglau, a llestri pridd eraill. Yn llythrennol mae’r gair Hebraeg ar gyfer crochenydd yn golygu “rhywun sy’n ffurfio.” Mae awdurdod y crochenydd dros y clai yn aml yn cael ei ddefnyddio i esbonio sofraniaeth Jehofa dros unigolion a chenhedloedd.—Esei 64:8; Rhu 9:21.

  • Crwyn.

    Poteli crwyn wedi eu gwneud o groen cyfan anifail, fel gafr neu ddafad, ar gyfer dal gwin. Roedd gwin yn cael ei roi i mewn i grwyn newydd, oherwydd wrth iddo eplesu, mae’n cynhyrchu’r nwy carbon deuocsid sy’n rhoi pwysau ar y poteli crwyn. Mae crwyn newydd yn ehangu; mae rhai hen ac anystwyth yn byrstio o dan y pwysau.—Jos 9:4; Mth 9:17.

  • Cufydd.

    Mesur llinol, sef y pellter yn fras o’r penelin i flaen y bys canol. Roedd yr Israeliaid yn aml yn defnyddio cufydd yn mesur tua 44.5 cm (17.5 mod), ond roedden nhw hefyd yn defnyddio cufydd mwy a oedd yn lled llaw yn hirach, tua 51.8 cm (20.4 mod).—Ge 6:15; Mth 6:27; Lc 12:25; Dat 21:17.

  • Cwrt.

    Lle agored o amgylch y tabernacl a oedd wedi cael ei ffensio, ac yn ddiweddarach, un o’r iardiau awyr-agored a wal o’i chwmpas a oedd yn amgylchynu prif adeilad y deml. Roedd allor yr offrwm llosg wedi ei lleoli yng nghwrt y tabernacl ac yng nghwrt mewnol y deml. Mae’r Beibl hefyd yn crybwyll cwrtiau yng nghyd-destun tai a phalasau.—Ex 8:13; 27:9; 1Br 7:12; Mth 26:3; Mc 15:16; Dat 11:2.

  • Cyfamod.

    Cytundeb ffurfiol rhwng Duw a bodau dynol neu rhwng pobl i wneud rhywbeth neu i beidio â’i wneud. Weithiau dim ond un grŵp oedd yn gyfrifol am weithredu’r telerau (cyfamod unochrog, a oedd yn y bôn yn addewid). Ar adegau eraill roedd yn rhaid i’r ddau grŵp weithredu’r telerau (cyfamod dwyochrog). Yn ogystal â’r cyfamodau rhwng Duw a bodau dynol, mae’r Beibl yn crybwyll cyfamodau rhwng dynion, llwythau, cenhedloedd, neu grwpiau o bobl. Ymhlith y cyfamodau sy’n cael yr effaith fwyaf yw’r rhai rhwng Duw ac Abraham, Dafydd, cenedl Israel (cyfamod y Gyfraith), ac Israel Duw (cyfamod newydd).—Ge 9:11; 15:18; 21:27; Ex 24:7; 2Cr 21:7; Lc 22:29; Act 3:25; 2Co 3:6; Heb 8:6.

  • Cyfiawnder.

    Yn yr Ysgrythurau, mae’n golygu’r hyn sy’n iawn yn ôl safon Duw o’r hyn sy’n dda neu’n ddrwg.—Ge 15:6; De 6:25; Seff 2:3; Mth 6:33.

  • Cyfnod olaf y system hon.

    Y cyfnod sy’n arwain hyd at ddiwedd y system hon, neu systemau dynol y byd hwn, sydd o dan reolaeth Satan. Mae’n parhau yr un pryd â phresenoldeb Crist. O dan gyfarwyddyd Iesu, bydd angylion yn “gwahanu’r rhai drwg o blith y rhai cyfiawn” ac yn eu dinistrio nhw. (Mth 13:40-42, 49) Roedd pa bryd y byddai’r “cyfnod olaf” hwn yn digwydd o ddiddordeb mawr i ddisgyblion Iesu. (Mth 24:3) Cyn iddo fynd yn ôl i’r nef, gwnaeth Iesu addo i’w ddilynwyr y byddai gyda nhw hyd at yr amser hwnnw.—Mth 28:20.

  • Cyfraith.

    Pan fydd yn cael ei briflythrennu, mae’r gair hwn yn aml yn cyfeirio at naill ai Cyfraith Moses neu at bum llyfr cyntaf y Beibl. Heb ei briflythrennu, gall gyfeirio at ddeddfau unigol Cyfraith Moses neu at egwyddor gyfreithiol.—Nu 15:16; De 4:8; Mth 7:12; Ga 3:24.

  • Cyfraith Moses.

    Y Gyfraith a roddodd Jehofa i Israel drwy Moses yn anialwch Sinai yn 1513 COG. Mae pum llyfr cyntaf y Beibl yn aml yn cael eu galw y Gyfraith.—Mth 5:17; Lc 24:44.

  • Cyfrinach gysegredig.

    Rhan o bwrpas Duw sy’n tarddu o Dduw, sy’n cael ei dal yn ôl hyd at ei amser ef ei hun, ac sy’n cael ei datgelu dim ond i’r rhai mae ef yn eu dewis.—Mc 4:11; Col 1:26.

  • Cyffion.

    Rhywbeth ar gyfer cyfyngu unigolyn er mwyn ei gosbi. Roedd rhai yn dal y traed yn unig tra oedd eraill yn dal y corff yn gam, efallai drwy gyfyngu ar y traed, y dwylo, a’r gwddf.—Jer 20:2; Act 16:24.

  • Cyntaf-anedig.

    Yn bennaf, mab hynaf y tad. Yng nghyfnod y Beibl, roedd gan y mab cyntaf-anedig safle anrhydeddus yn y teulu ac roedd y benteuluaeth yn cael ei rhoi iddo ar ôl marwolaeth y tad. Yn ogystal â bod yn gyntaf-anedig i Jehofa, Iesu oedd cyntaf-anedig yr holl greadigaeth a’r cyntaf-anedig o’r meirw.—Ge 25:33; Ex 11:5; Col 1:15; Dat 1:5.

  • Cynulleidfa.

    Grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd ar gyfer pwrpas neu weithgaredd penodol. Yn yr Ysgrythurau Hebraeg, yn gyffredinol mae’n cyfeirio at genedl Israel. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’n cyfeirio at gynulleidfaoedd unigol o Gristnogion ond yn fwy aml at y gynulleidfa Gristnogol yn gyffredinol.—1Br 8:22; Act 9:31; Rhu 16:5.

  • Cyrn yr allor.

    Pethau tebyg i gyrn a oedd yn estyn allan o bedair cornel rhai allorau.—Le 8:15; 1Br 2:28; Dat 9:13.

  • Cysegr.

    Yn gyffredinol, lle wedi ei neilltuo ar gyfer addoli, lle sanctaidd. Ond gan amlaf, mae’n dynodi naill ai’r tabernacl neu’r deml yn Jerwsalem. Mae’r term hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lle Duw yn y nefoedd.—Ex 25:8, 9; 2Br 10:25; 1Cr 28:10; Dat 11:19.

  • Cythreuliaid.

    Ysbryd greaduriaid drwg ac anweledig sydd â galluoedd goruwchddynol. Maen nhw’n cael eu galw’n feibion y gwir Dduw yn Genesis 6:2 ac yn “angylion” yn Jwdas 6. Ni chawson nhw eu creu’n ddrwg; yn hytrach, angylion oedden nhw a wnaeth eu troi eu hunain yn elynion i Dduw drwy anufuddhau iddo yn nyddiau Noa a thrwy ymuno yng ngwrthryfel Satan yn erbyn Jehofa.—De 32:17; Lc 8:30; Act 16:16; Iag 2:19.

Ch

  • Chwipio.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’n cyfeirio at guro neu fflangellu â chwip a oedd â chlymau neu bennau pigog.—In 19:1.

D

  • Decapolis.

    Grŵp o ddinasoedd Groegaidd a oedd yn wreiddiol yn cynnwys deg dinas (o’r Roeg deca, sy’n golygu “deg,” a polis, “dinas”). Hwn hefyd oedd yr enw a roddwyd ar yr ardal i’r dwyrain o Fôr Galilea ac Afon Iorddonen, lle roedd y rhan fwyaf o’r dinasoedd hyn wedi eu lleoli. Roedden nhw’n ganolfannau o ddiwylliant Helenistaidd a masnach. Pasiodd Iesu drwy’r ardal hon, ond nid oes cofnod ohono’n ymweld ag unrhyw un o’r dinasoedd.—Mth 4:25; Mc 5:20.

  • Defosiwn duwiol.

    Parch tuag at Jehofa Dduw yn ogystal ag addoliad a gwasanaeth iddo, ynghyd â ffyddlondeb i’w sofraniaeth.—1Ti 4:8; 2Ti 3:12.

  • Denariws.

    Darn o arian Rhufeinig a oedd yn pwyso tua 3.85 g (0.124 oz t) a llun Cesar ar un ochr. Cyflog dyddiol gweithiwr a’r dreth roedd y Rhufeiniaid yn ei mynnu gan yr Iddewon.—Mth 22:17; Lc 20:24.

  • Diafol.

    Yr enw disgrifiadol ar Satan yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, sy’n golygu “Enllibiwr.” Fe gafodd Satan yr enw Diafol gan mai ef yw’r enllibiwr pennaf sy’n camgyhuddo Jehofa, Ei air da, a’i enw sanctaidd.—Mth 4:1; In 8:44; Dat 12:9.

  • Dihareb.

    Dywediad doeth neu stori fer sy’n dysgu gwers neu’n mynegi gwirionedd pwysig mewn ychydig iawn o eiriau. Gall dihareb Feiblaidd fod ar ffurf pos neu ymadrodd anodd ei ddeall. Mae dihareb yn crynhoi gwirionedd mewn iaith ddisgrifiadol, ac yn aml yn ffigurol. Daeth rhai ymadroddion yn gyffredin ar gyfer bychanu neu ddirmygu rhai pobl.—Pre 12:9; 2Pe 2:22.

  • Drachma.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’r gair hwn yn cyfeirio at ddarn arian Groegaidd, a oedd yn pwyso tua 3.4 g (0.109 oz t).—Mth 17:24.

  • Dweud ffortiwn.

    Mae rhywun sy’n dweud ffortiwn yn honni ei fod yn gallu rhagfynegi digwyddiadau’r dyfodol. Mae offeiriaid sy’n ymarfer hudoliaeth, dewiniaid ysbrydegol, astrolegwyr, ac eraill yn cael eu rhestru yn y Beibl fel pobl sy’n gwneud hynny.—Le 19:31; De 18:11; Act 16:16.

  • Dyddiau olaf.

    Mae hwn ac ymadroddion tebyg, fel ‘y rhan olaf o’r dyddiau,’ yn cael eu defnyddio ym mhroffwydoliaethau’r Beibl i gyfeirio at yr amser pan fydd digwyddiadau hanesyddol yn dod i’w huchafbwynt olaf. (Esec 38:16; Da 10:14; Act 2:17) Yn dibynnu ar natur y broffwydoliaeth, gall hyn fod yn gyfnod sy’n para am ychydig o flynyddoedd yn unig neu am flynyddoedd lawer. Yn arbennig o arwyddocaol, mae’r Beibl yn defnyddio’r term hwn i gyfeirio at ‘ddyddiau olaf’ y system hon, yn ystod presenoldeb anweledig Iesu.—2Ti 3:1; Iag 5:3; 2Pe 3:3.

  • Dydd y Cymod.

    Y dydd sanctaidd mwyaf pwysig i’r Israeliaid, sy’n cael ei alw hefyd yn Yom Kippur (o’r Hebraeg yohm hakkippurim, “dydd y gorchuddion”), a oedd yn cael ei gynnal ar Ethanim 10. Yn yr Ysgrythurau Hebraeg, yr enw arno ydy Dydd y Cymod. Ar y diwrnod hwn o’r flwyddyn, roedd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd yn y tabernacl i offrymu gwaed yr aberthau dros ei bechodau, a thros bechodau’r Lefiaid eraill, a thros bechodau’r bobl. Roedd yr aberthau hynny yn pwyntio at aberth Iesu, a wnaeth yn iawn am bechodau dynolryw unwaith ac am byth, gan roi i bobl y cyfle i gael eu cymodi â Jehofa. Roedd yn gyfnod ar gyfer cynnal cynhadledd sanctaidd ac ymprydio, ac roedd hefyd yn saboth, yn amser i ymatal rhag gwneud gwaith arferol.—Le 23:27, 28; Act 27:9; Col 1:20; Heb 9:12.

  • Dydd y Farn.

    Diwrnod, neu gyfnod, penodol pan fydd grwpiau, cenhedloedd, neu bobl yn gyffredinol yn cael eu dwyn i gyfri gan Dduw. Gallai fod yn amser pan fydd y rhai sy’n cael eu barnu ac sy’n haeddu marwolaeth yn cael eu dienyddio, neu efallai y bydd y farnedigaeth yn rhoi cyfle i rai gael eu hachub a chael bywyd tragwyddol. Roedd Iesu a’i apostolion yn cyfeirio at “Ddydd y Farn” yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar y byw a hefyd y rhai sydd wedi marw yn y gorffennol.—Mth 12:36.

  • Dyfnder.

    Yn dod o’r gair Groeg abyssos, sy’n golygu “yn ddwfn iawn” neu “diwaelod, diderfyn.” Mae’n cael ei ddefnyddio yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol i gyfeirio at le neu gyflwr o garchariad. Mae’n cynnwys y bedd ond nid yw’n gyfyngedig i hynny.—Lc 8:31; Rhu 10:7; Dat 20:3.

  • Dyn rhydd; Caethwas rhydd.

    O dan reolaeth Rhufain, “dyn rhydd” oedd rhywun a gafodd ei eni’n rhydd ac roedd ganddo hawliau llawn dinasyddiaeth. I’r gwrthwyneb, “caethwas rhydd” oedd rhywun a oedd wedi cael ei ryddhau o afael caethwasiaeth. Roedd rhyddhad ffurfiol yn rhoi dinasyddiaeth Rufeinig i’r caethwas rhydd, ond nid oedd yn gymwys i ddal swydd wleidyddol. Roedd rhyddhad anffurfiol yn rhyddhau’r unigolyn o gaethwasiaeth ond nid oedd yn derbyn hawliau sifil llawn.—1Co 7:22.

  • Dyrnu; Llawr dyrnu.

    Y broses o ryddhau grawn o’i goesyn a’r us; y fan lle roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud. Roedd dyrnu yn cael ei wneud â’r dwylo drwy ddefnyddio ffon, neu ar gyfer llwythi mawr, drwy ddefnyddio offer arbennig, fel slediau neu roleri dyrnu, a oedd yn cael eu tynnu gan anifeiliaid. Roedd yr offer yn mynd dros y grawn a oedd wedi ei ledaenu ar y llawr dyrnu, lle crwn gwastad sydd fel arfer ar dir uchel ac yn agored i’r gwynt.​—Le 26:5; Esei 41:15; Mth 3:12.

E

  • Edifeirwch.

    Yn y Beibl, mae rhywun edifeiriol yn newid ei feddwl ac yn difaru yn ei galon oherwydd ei hen ffordd o fyw, ei weithredoedd drwg, neu rywbeth y mae wedi methu ei wneud. Mae edifeirwch go iawn yn cynhyrchu ffrwyth, sef newid o ran gweithredoedd.—Mth 3:8; Act 3:19; 2Pe 3:9.

  • Eilun; Addoli eilunod.

    Delw ydy eilun, sy’n cynrychioli unrhyw beth sy’n real neu’n ddychmygol, ac sy’n cael ei ddefnyddio wrth addoli. Mae addoli eilun yn cynnwys parchu a charu’r eilun hwnnw.—Sal 115:4; Act 17:16; 1Co 10:14.

  • Enaid.

    Cyfieithiad traddodiadol y gair Hebraeg nephesh a’r gair Groeg psyche. Wrth archwilio’r ffordd mae’r termau hyn yn cael eu defnyddio yn y Beibl, mae’n dod yn amlwg eu bod nhw yn y bôn yn cyfeirio at (1) pobl, (2) anifeiliaid, neu (3) y bywyd sydd gan unigolyn neu anifail. (Ge 1:20; 2:7; Nu 31:28; 1Pe 3:20; hefyd y troednodiadau) Yn wahanol i’r ffordd mae’r term “enaid” yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o gyd-destunau crefyddol, mae’r Beibl yn dangos bod nephesh a psyche, mewn cysylltiad â chreaduriaid daearol, yn cyfeirio at yr hyn sy’n faterol, yn gyffyrddadwy, yn weledol, ac yn feidrol. Yn y cyfieithiad hwn, mae’r geiriau hyn o’r ieithoedd gwreiddiol wedi cael eu trosi gan amlaf yn ôl eu hystyron ym mhob cyd-destun, gan ddefnyddio termau fel “bywyd,” “creadur,” “person,” “holl enaid,” neu fel rhagenw personol (er enghraifft, “rydw i” ar gyfer “fy enaid”). Yn y rhan fwyaf o achosion, mae troednodiadau yn rhoi’r cyfieithiad arall “enaid.” Pan fydd y term “enaid” yn cael ei ddefnyddio, naill ai yn y prif destun neu mewn troednodiadau, dylai rhywun ddeall y term yn unol â’r esboniad uchod. Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth â’i holl enaid, mae’n golygu ei fod yn gwneud hynny â’i holl galon, neu â’i holl fywyd. (De 6:5; Mth 22:37) Mewn rhai cyd-destunau, mae’r geiriau hyn o’r ieithoedd gwreiddiol yn gallu cael eu defnyddio i gyfeirio at ddymuniadau neu ddyheadau creaduriaid byw. Maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio at rywun sydd wedi marw neu at gorff marw.—Nu 6:6; Dia 23:2; Esei 56:11; Hag 2:13.

  • Eneinio.

    Yn fras, mae’r gair Hebraeg yn golygu “rhwbio â hylif.” Roedd olew yn cael ei roi ar rywun neu ar wrthrych i symboleiddio cysegriad i wasanaeth arbennig. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfleu’r ysbryd glân yn cael ei dywallt ar y rhai a ddewiswyd ar gyfer y gobaith nefol.—Ex 28:41; 1Sa 16:13; Lc 4:18; Act 10:38; 2Co 1:21.

  • Enwaediad.

    Torri blaengroen i ffwrdd o’r organ cenhedlu gwrywol. Roedd gwneud hyn yn orfodol ar gyfer Abraham a’i ddisgynyddion, ond nid yw’n ofynnol i Gristnogion. Mae’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol mewn gwahanol gyd-destunau.—Ge 17:10; 1Co 7:19; Php 3:3.

  • Ethiopiad.

    Person o Ethiopia, yr hen genedl i’r de o’r Aifft a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf deheuol o’r Aifft heddiw a hanner gogleddol Swdan heddiw.—Act 8:27.

  • Eunuch.

    Yn llythrennol, gwryw sydd wedi cael ei sbaddu. Roedd dynion o’r fath yn aml yn cael eu penodi mewn llysoedd brenhinol fel gweinyddwyr neu ofalwyr y frenhines a’r gordderchadon. Mae’r term hefyd yn cyfeirio at ddyn nad oedd yn eunuch llythrennol, ond yn swyddog â chyfrifoldebau yn llys y brenin. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd ffigurol ar gyfer rhywun sy’n ‘eunuch er mwyn y Deyrnas,’ un sy’n ymarfer hunanreolaeth er mwyn ymroi yn fwy i wasanaeth Duw.—Mth 19:12; Est 2:15; Act 8:27.

  • Ewffrates.

    Yr afon fwyaf hir a phwysig yn ne orllewin Asia, ac un o’r ddwy brif afon ym Mesopotamia. Mae’n cael ei chrybwyll am y tro cyntaf yn Genesis 2:14 fel un o bedair afon Eden. Yn aml mae’n cael ei galw yr afon. (Ge 31:21) Terfyn gogleddol tiriogaeth Israel oedd hi.—Ge 15:18; Dat 9:14; 16:12.

Ff

  • Ffordd, y.

    Ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio’n ffigurol yn yr Ysgrythurau i gyfeirio at ddull o weithredu neu ymddygiad sy’n gymeradwy neu’n anghymeradwy gan Jehofa. Roedd y rhai a ddaeth yn ddilynwyr i Iesu Grist yn cael eu disgrifio yn rhai a oedd yn perthyn i’r “Ffordd,” hynny yw, roedden nhw’n byw bywyd a oedd yn troi o amgylch eu ffydd yn Iesu Grist, gan ddilyn ei esiampl.—Act 19:9.

G

  • Galar.

    Mynegiant o dristwch oherwydd marwolaeth neu ryw drychineb arall. Yn adeg y Beibl, yr arferiad oedd galaru am gyfnod o amser. Yn ogystal â llefain yn uchel, roedd galarwyr yn gwisgo dillad arbennig, yn rhoi lludw ar eu pennau, yn rhwygo eu dillad, ac yn curo’r frest. Weithiau roedd galarwyr proffesiynol yn cael eu gwahodd i angladdau.—Est 4:3; Mth 11:17; Mc 5:38; In 11:33; Dat 21:4.

  • Gehenna.

    Yr enw Groeg ar Ddyffryn Hinnom, i’r de ac i’r de orllewin o Jerwsalem gynt. (Jer 7:31) Yn broffwydol, byddai cyrff marw yn cael eu gwasgaru yn y lle hwn. (Jer 7:32; 19:6) Does dim tystiolaeth i anifeiliaid neu i fodau dynol gael eu taflu i Gehenna er mwyn iddyn nhw gael eu llosgi’n fyw neu i’w poenydio. Felly, ni allai’r lle hwn symboleiddio lle anweledig i boenydio eneidiau bodau dynol yn dragwyddol mewn tân llythrennol. Yn hytrach, defnyddiwyd Gehenna gan Iesu a’i ddisgyblion i symboleiddio cosb dragwyddol yr “ail farwolaeth,” hynny yw, dinistr neu ddifodiad tragwyddol.—Dat 20:14; Mth 5:22; 10:28.

  • Glân.

    Yn y Beibl, mae’r gair hwn yn cyfeirio nid yn unig at lendid corfforol ond hefyd at y cyflwr o fod heb nam, heb fai, ac yn rhydd o unrhyw beth sy’n baeddu, yn amhuro, neu’n llygru mewn ffordd foesol neu ysbrydol. O dan Gyfraith Moses, mae’r gair yn cyfeirio at fod yn seremonïol lân.—Le 10:10; Sal 51:7; Mth 8:2; 1Co 6:11.

  • Godineb.

    Cyfathrach rywiol wirfoddol gan ddyn priod neu ddynes briod gyda rhywun heblaw am eu cymar.—Ex 20:14; Mth 5:27; 19:9.

  • Groeg; Groegwr.

    Yr iaith sy’n cael ei siarad gan bobl yng Ngwlad Groeg. Mae’r term Groegwr yn golygu brodor o Wlad Groeg neu rywun â theulu yn dod o’r wlad honno. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae gan y gair ddefnydd ehangach hefyd, gan gyfeirio at yr holl bobloedd nad oedden nhw’n Iddewon neu at y rhai roedd yr iaith Roeg a’r diwylliant Groegaidd wedi dylanwadu arnyn nhw.—Joe 3:6; In 12:20.

  • Gwahanglwyf; Gwahanglaf.

    Afiechyd difrifol y croen. Yn yr Ysgrythurau, dydy’r gwahanglwyf ddim yn gyfyngedig i’r afiechyd sy’n dwyn yr enw hwnnw heddiw, oherwydd roedd yn gallu effeithio nid yn unig ar bobl ond hefyd ar ddillad a thai. Gwahanglaf ydy person sy’n cael y gwahanglwyf.—Le 14:54, 55; Lc 5:12.

  • Gwarchodlu Praetoraidd.

    Grŵp o filwyr Rhufeinig a gafodd ei sefydlu i warchod yr ymerawdwr Rhufeinig. Daeth y gwarchodlu yn rym gwleidyddol pwerus o ran cefnogi neu ddisodli ymerawdwr.—Php 1:13.

  • Gwarchodwr.

    Un sy’n gwarchod pobl neu eiddo rhag niwed posib, yn aml yn ystod y nos, ac a fyddai’n seinio rhybudd yn wyneb bygythiad peryglus. Roedd gwarchodwyr yn aml yn cael eu gosod ar waliau a thyrau dinasoedd i wylio’r rhai a oedd yn nesáu cyn iddyn nhw ddod yn rhy agos. Roedd gwarchodwyr hefyd i’w cael yn y fyddin.—Mth 27:65; 28:4.

  • Gwasanaeth cysegredig.

    Gweinidogaeth, neu waith, sy’n gysegredig, ac sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag addoli Duw.—Rhu 12:1; Dat 7:15.

  • Gwas y gynulleidfa.

    Cyfieithiad o’r gair Groeg diaconos, sy’n aml yn cael ei gyfieithu “gweinidog” neu “gwas.” Mae “gwas y gynulleidfa” yn cyfeirio at rywun sy’n gwasanaethu fel cynorthwyydd i gorff henuriaid y gynulleidfa. Mae’n rhaid iddo gwrdd â safonau Beiblaidd er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y fraint hon.—1Ti 3:8-10, 12.

  • Gwialen.

    Baton neu ffon a oedd yn cael ei chario gan reolwr fel symbol o awdurdod brenhinol.—Ge 49:10; Heb 1:8.

  • Gwrthgiliad.

    Yn yr iaith Roeg, mae’r term hwn (apostasia) yn dod o ferf sy’n golygu’n llythrennol “sefyll i ffwrdd oddi wrth.” Mae’r enw yn cynnwys y syniad o “adael, cefnu ar, neu wrthwynebu.” Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae “gwrthgilio” yn cael ei ddefnyddio’n bennaf yn achos y rhai sy’n gadael gwir addoliad.—Dia 11:9; Act 21:21; 2The 2:3.

  • Gwryd.

    Mesur llinol ar gyfer mesur dyfnder dŵr, yn gyfartal ag 1.8 m (6 tr).—Act 27:28.

  • Gŵyl y Bara Croyw.

    Y gyntaf o dair prif ŵyl flynyddol yr Israeliaid. Roedd yn dechrau ar Nisan 15, y dydd ar ôl y Pasg, ac roedd yn parhau am saith diwrnod. Dim ond bara croyw oedd yn gallu cael ei fwyta, i gofio am yr Exodus o’r Aifft.—Ex 23:15; Mc 14:1.

  • Gŵyl y Cysegru.

    Y diwrnod blynyddol ar gyfer coffáu ac ar gyfer glanhau’r deml ar ôl iddi gael ei llygru gan Antiochus Epiphanes. Dechreuodd y dathliadau ar Cislef 25 a gwnaethon nhw barhau am wyth diwrnod.—In 10:22.

  • Gŵyl y Tabernaclau.

    Hefyd yn cael ei galw Gŵyl y Pebyll, neu Gŵyl y Cynnull. Roedd yn cael ei chynnal ar Ethanim 15-21, sef mis penodol yn y calendr Hebraeg. Roedd yn dathlu’r cynhaeaf ar ddiwedd blwyddyn amaethyddol Israel ac roedd yn amser o lawenhau a diolchgarwch am fendithion Jehofa ar eu cnydau. Yn ystod dyddiau’r ŵyl, roedd pobl yn byw mewn pebyll, neu gysgodfannau a oedd yn debyg i doeau, i’w hatgoffa nhw am yr Exodus o’r Aifft. Roedd yn un o’r tair gŵyl roedd rhaid i wrywod fynd i Jerwsalem i’w dathlu.—Le 23:34; Esr 3:4; In 7:2.

  • Gwyrthiau; Gweithredoedd nerthol.

    Gweithredoedd neu ffenomena sydd y tu hwnt i’r holl rymoedd y mae bodau dynol yn gwybod amdanyn nhw, ac maen nhw’n cael eu hystyried yn oruwchnaturiol. Mae ymadroddion fel “arwyddion” a “phethau rhyfeddol” weithiau’n cael eu defnyddio’n gyfystyron yn y Beibl.—Mth 11:20; Act 4:22; Heb 2:4.

H

  • Hades.

    Gair Groeg sy’n cyfateb i’r gair Hebraeg “Sheol.” Mae’n cael ei gyfieithu “Bedd” (gyda phriflythyren), i amlygu mai hwn ydy bedd cyffredin dynolryw.—Gweler BEDD.

  • Haint.

    Unrhyw glefyd heintus sy’n lledaenu’n gyflym ac sy’n gallu troi’n epidemig ac achosi marwolaeth.—Lc 21:11.

  • Hebraeg; Hebread.

    Teitl a gafodd ei ddefnyddio’n gyntaf ar gyfer Abram (Abraham), i’w wahaniaethu oddi wrth ei gymdogion, yr Amoriaid. Cafodd ei ddefnyddio ar ôl hynny i gyfeirio at ddisgynyddion Abraham drwy ei ŵyr Jacob. Hebraeg ydy’r term am eu hiaith. Erbyn amser Iesu, roedd yr iaith Hebraeg yn cynnwys llawer o ymadroddion Aramaeg ac yn cael ei siarad gan Grist a’i ddisgyblion.—Ge 14:13; Ex 5:3; Act 26:14.

  • Henuriad; Dyn hŷn.

    Dyn aeddfed o ran ei oed, ond yn yr Ysgrythurau, mae’n cyfeirio’n bennaf at ddyn sydd mewn safle o awdurdod a chyfrifoldeb mewn cymuned neu genedl. Mae’r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer creaduriaid nefol yn llyfr Datguddiad. Mae’r gair Groeg presbyteros yn cael ei gyfieithu “henuriad” pan fydd yn cyfeirio at y rhai sy’n gyfrifol am arwain yn y gynulleidfa.—Ex 4:29; Dia 31:23; 1Ti 5:17; Dat 4:4.

  • Hermes.

    Duw Groegaidd, mab Zeus. Yn Lystra, cafodd Paul ei alw’n Hermes ar gam mewn cyfeiriad at rôl honedig y duw hwnnw fel negesydd y duwiau ac at dduw geiriau medrus.—Act 14:12.

  • Herod.

    Enw teuluol ar linach a oedd wedi cael ei phenodi gan Rufain i reoli dros yr Iddewon. Roedd Herod Fawr yn enwog am ailadeiladu’r deml yn Jerwsalem ac am orchymyn i blant gael eu lladd mewn ymdrech i ddinistrio Iesu. (Mth 2:16; Lc 1:5) Cafodd Herod Archelaus a Herod Antipas, sef meibion Herod Fawr, eu penodi dros rannau o deyrnas eu tad. (Mth 2:22) Tetrarch oedd Antipas, a oedd yn cael ei alw’n “frenin” gan lawer, ac roedd yn rheoli yn ystod gweinidogaeth dair blynedd a hanner Iesu a thrwy’r cyfnod hyd at Actau pennod 12. (Mc 6:14-17; Lc 3:1, 19, 20; 13:31, 32; 23:6-15; Act 4:27; 13:1) Ar ôl hynny, cafodd Herod Agripa I, sef ŵyr i Herod Fawr, ei ddienyddio gan angel Duw ar ôl rheoli am gyfnod byr. (Act 12:1-6, 18-23) Daeth ei fab, Herod Agripa II, yn rheolwr hyd at amser y gwrthryfel Iddewig yn erbyn Rhufain.—Act 23:35; 25:13, 22-27; 26:1, 2, 19-32.

I

  • Iau.

    Ffrâm a oedd yn cael ei gosod ar ysgwyddau rhywun i gario llwyth o’r ddwy ochr, neu ddarn o bren a oedd yn cael ei roi ar war dau anifail (gwartheg fel arfer) er mwyn tynnu wagen neu offer fferm. Oherwydd roedd caethweision yn aml yn defnyddio ieuau i gario beichiau trymion, roedd yr iau yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol i gynrychioli caethiwed neu ddarostyngiad i unigolyn arall, ynghyd â gorthrwm a dioddefaint. Roedd tynnu neu dorri’r iau yn cynrychioli rhyddhad o gaethiwed, gorthrwm, ac ecsbloetiaeth.—Le 26:13; Mth 11:29, 30.

  • Iddew.

    Term sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywun o lwyth Jwda ar ôl cwymp teyrnas ddeg-llwyth Israel. (2Br 16:6) Ar ôl y gaethglud Fabilonaidd, roedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Israeliaid o wahanol lwythau a ddaeth yn ôl i Israel. (Esr 4:12) Yn ddiweddarach, fe gafodd ei ddefnyddio ar hyd a lled y byd i wahaniaethu rhwng yr Israeliaid a phobl o’r Cenhedloedd. (Est 3:6) Roedd y term hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ffigurol gan yr apostol Paul pan oedd yn rhesymu nad oedd cenedligrwydd yn bwysig yn y gynulleidfa Gristnogol.—Rhu 2:28, 29; Ga 3:28.

  • Ilyricum.

    Talaith Rufeinig i’r gogledd orllewin o Wlad Groeg. Teithiodd Paul mor bell â hyn yn ei weinidogaeth, ond nid yw’r Beibl yn dweud a oedd ef wedi pregethu yn Ilyricum neu hyd at y lle hwnnw yn unig.—Rhu 15:19.

  • Isop.

    Planhigyn â changhennau a dail main, a oedd yn cael ei ddefnyddio i daenu gwaed neu ddŵr mewn seremonïau glanhau. Mae’n bosib mai marjoram (Origanum maru; Origanum syriacum) oedd y planhigyn hwn. Mae’n bosib fod Ioan 19:29 yn cyfeirio at marjoram a oedd ynghlwm wrth gangen, neu wrth fath cyffredin o sorgwm (Sorghum vulgare) o’r enw dwra, oherwydd bod gan y planhigyn hwn goesyn digon hir i gario’r sbwng o win sur at geg Iesu.—Heb 9:19.

  • Israel.

    Yr enw a roddodd Duw ar Jacob. Fe ddaeth i gyfeirio at ei holl ddisgynyddion fel grŵp, ar unrhyw adeg benodol. Roedd disgynyddion 12 mab Jacob yn aml yn cael eu galw’n feibion Israel, tŷ Israel, pobl (dynion) Israel, neu’r Israeliaid. Roedd Israel hefyd yn cael ei ddefnyddio fel enw ar deyrnas ddeg-llwyth y gogledd a wnaeth wahanu oddi wrth deyrnas y de, ac yn nes ymlaen fel term ar gyfer Cristnogion eneiniog, “Israel Duw.”—Ga 6:16; Ge 32:28; Act 4:10; Rhu 9:6.

J

  • Jacob.

    Mab i Isaac a Rebeca. Yn hwyrach ymlaen, rhoddodd Duw yr enw Israel arno, ac fe ddaeth yn batriarch pobl Israel (a oedd yn cael eu galw hefyd yn Israeliaid ac yn hwyrach ymlaen yn Iddewon). Roedd yn dad i’r 12 mab a oedd, ynghyd â’u disgynyddion, yn rhan o 12 llwyth cenedl Israel. Parhaodd yr enw Jacob i gael ei ddefnyddio ar gyfer y genedl neu bobl Israel.—Ge 32:28; Mth 22:32.

  • Jehofa.

    Mae’r Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd yn defnyddio’r enw “Jehofa” 237 o weithiau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Mae’r penderfyniad i gynnwys enw Duw yn seiliedig ar y dystiolaeth ganlynol:

    1. 1. Roedd copïau o’r Ysgrythurau Hebraeg a ddefnyddiwyd yn nyddiau Iesu a’i apostolion yn cynnwys y Tetragramaton (hynny yw, yr enw dwyfol, a gynrychiolir gan y pedair cytsain יהוה) drwy gydol y testun.

    2. 2. Yn nyddiau Iesu a’i apostolion, ymddangosodd y Tetragramaton hefyd yng nghyfieithiadau Groeg o’r Ysgrythurau Hebraeg.

    3. 3. Mae’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn cofnodi bod Iesu yn aml wedi cyfeirio at enw Duw ac wedi rhoi gwybod i eraill amdano.—Ioan 17:6, 11, 12, 26.

    4. 4. Gan fod yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol wedi cael eu hychwanegu o dan ysbrydoliaeth at yr Ysgrythurau Hebraeg cysegredig, byddai gweld enw Jehofa yn diflannu o’r testun yn fwyaf sydyn yn ymddangos yn anghyson.

    5. 5. Mae’r enw dwyfol yn ymddangos yn ei ffurf dalfyredig yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.—Datguddiad 19:1, 3, 4, 6.

    6. 6. Mae ysgrifau Iddewig cynnar yn dangos bod y Cristnogion Iddewig wedi defnyddio’r enw dwyfol yn eu hysgrifau.

    7. 7. Mae rhai ysgolheigion Beiblaidd yn cydnabod ei bod hi’n eithaf tebygol fod yr enw dwyfol wedi ymddangos yn nyfyniadau’r Ysgrythurau Hebraeg a geir yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.

    8. 8. Mae cyfieithiadau o’r Beibl mewn dros gant o wahanol ieithoedd yn cynnwys yr enw dwyfol yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.

    Heb unrhyw amheuaeth, mae sail gadarn dros adfer yr enw dwyfol, Jehofa, yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Dyna’n union beth mae cyfieithwyr Cyfieithiad y Byd Newydd wedi ei wneud. Maen nhw’n parchu’n fawr yr enw dwyfol ac yn ofni dileu unrhyw beth a oedd yn ymddangos yn y testun gwreiddiol.—Datguddiad 22:18, 19.

  • Jwda.

    Pedwerydd mab Jacob gan ei wraig Lea. Yn ei broffwydoliaeth wely angau, rhagfynegodd Jacob y byddai rheolwr mawr a pharhaus yn dod o linach deuluol Jwda. Roedd Iesu, yn ei fodolaeth ddynol, yn ddisgynnydd i Jwda. Mae’r enw Jwda hefyd yn cyfeirio at y llwyth ac yn nes ymlaen at y deyrnas a oedd yn dwyn enw Jwda.—Ge 29:35; 49:10; Heb 7:14.

L

  • Lefain.

    Sylwedd sy’n cael ei ychwanegu at does neu at hylifau er mwyn achosi eplesiad; yn enwedig rhan o does sydd wedi ei eplesu ac sydd wedi ei chadw o does blaenorol. Yn aml, mae’n cael ei ddefnyddio yn y Beibl fel symbol o bechod a llygredigaeth, ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at dyfiant cudd sy’n treiddio i bobman.—Ex 12:20; Mth 13:33; Ga 5:9.

  • Lefi; Lefiad.

    Trydydd mab Jacob gan ei wraig Lea; hefyd y llwyth sy’n dwyn ei enw. Daeth ei dri mab yn sylfaenwyr tri phrif grŵp y Lefiaid. Ar adegau, mae’r term “Lefiaid” yn cyfeirio at y llwyth cyfan, ond yn arferol nid yw’n cynnwys teulu offeiriadol Aaron. Ni chafodd llwyth Lefi ddarn o dir yng Ngwlad yr Addewid ond fe gafodd 48 dinas eu rhoi i’r llwyth, dinasoedd a oedd o fewn terfynau’r tir a rannwyd ymhlith y llwythau eraill.—De 10:8; 1Cr 6:1; Heb 7:11.

  • Lepton.

    Yng nghyfnod yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, hon oedd y geiniog gopr neu efydd Iddewig lleiaf. Mae’n cael ei gyfieithu fel “ffyrling” neu “ddwy hatling” mewn rhai cyfieithiadau o’r Beibl.—Mc 12:42; Lc 21:2; troednodiadau.

  • Locustiaid.

    Math o geiliog rhedyn sy’n ymfudo mewn heidiau anferth. Yn ôl Cyfraith Moses, roedden nhw’n lân ar gyfer bwyta. Roedd heidiau enfawr a oedd yn bwyta popeth wrth iddyn nhw fynd ar eu ffordd, gan achosi difrod mawr, yn cael eu hystyried yn bla.—Ex 10:14; Mth 3:4.

Ll

  • Llen.

    Defnydd hardd wedi ei wehyddu a lluniau o gerwbiaid wedi eu brodio arno. Roedd y llen yn gwahanu’r Sanctaidd oddi wrth y Mwyaf Sanctaidd yn y tabernacl ac yn y deml.—Ex 26:31; 2Cr 3:14; Mth 27:51; Heb 9:3.

  • Lleuad newydd.

    Diwrnod cyntaf bob mis yn y calendr Iddewig, a oedd yn cael ei ddathlu fel diwrnod ar gyfer dod ynghyd, gwledda, ac offrymu aberthau arbennig. Yn hwyrach ymlaen, daeth y diwrnod yn ŵyl genedlaethol bwysig, a doedd pobl ddim yn gweithio.—Nu 10:10; 2Cr 8:13; Col 2:16.

  • Llw.

    Datganiad i gadarnhau bod rhywbeth yn wir, neu addewid difrifol sy’n dweud y bydd rhywun yn gwneud rhywbeth penodol neu’n peidio â’i wneud. Gan amlaf, mae’n adduned sy’n cael ei gwneud i rywun uwchraddol, yn enwedig i Dduw. Gwnaeth Jehofa gadarnhau ei gyfamod ag Abraham drwy fynd ar ei lw.—Ge 14:22; Heb 6:16, 17.

  • Llyn o dân.

    Lle symbolaidd “sy’n llosgi â thân a sylffwr,” sydd hefyd yn cael ei ddisgrifio fel yr “ail farwolaeth.” Mae pechaduriaid diedifar, y Diafol, a hyd yn oed marwolaeth a’r Bedd (neu, Hades) yn cael eu taflu i mewn iddo. Gan fod y llyn o dân yn cynnwys ysbryd greadur yn ogystal â marwolaeth a Hades, pethau nad ydy tân yn gallu effeithio arnyn nhw, mae’n rhaid fod y llyn hwn yn symbol, nid o boenydio tragwyddol, ond o ddinistr tragwyddol.—Dat 19:20; 20:14, 15; 21:8.

M

  • Mab Dafydd.

    Ymadrodd sy’n aml yn cyfeirio at Iesu, gan bwysleisio mai ef ydy Etifedd cyfamod y Deyrnas a fyddai’n cael ei gyflawni gan rywun yn llinach Dafydd.—Mth 12:23; 21:9.

  • Mab y dyn.

    Ymadrodd sy’n codi tua 80 o weithiau yn yr Efengylau. Mae’n cyfeirio at Iesu Grist ac mae’n dangos ei fod, trwy ei enedigaeth gnawdol, wedi dod yn ddyn yn hytrach na bod yn ysbryd greadur â chorff materol yn unig. Mae’r ymadrodd hefyd yn dangos y byddai Iesu’n cyflawni’r broffwydoliaeth sydd wedi cael ei chofnodi yn Daniel 7:13, 14. Yn yr Ysgrythurau Hebraeg, roedd yr ymadrodd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Eseciel a Daniel, gan danlinellu’r gwahaniaeth rhwng y llefarwyr meidrol hyn a Ffynhonnell ddwyfol eu neges.—Esec 3:17; Da 8:17; Mth 19:28; 20:28.

  • Macedonia.

    Ardal i’r gogledd o Wlad Groeg a ddaeth yn bwysig o dan Alecsander Fawr ac a arhosodd yn annibynnol nes iddi gael ei choncro gan y Rhufeiniaid. Roedd Macedonia yn dalaith Rufeinig pan aeth Paul i Ewrop am y tro cyntaf. Aeth Paul i’r ardal dair gwaith.—Act 16:9.

  • Maen melin.

    Carreg gron a osodwyd ar ben carreg debyg ar gyfer malu gwenith i wneud blawd. Roedd peg a gafodd ei osod i mewn i ganol y garreg isaf yn gweithio fel pifot ar gyfer y garreg uchaf. Yn adeg y Beibl, roedd melinau llaw yn cael eu defnyddio gan ferched yn y rhan fwyaf o gartrefi. Gan fod bara dyddiol y teulu yn dibynnu ar y felin law, roedd Cyfraith Moses yn gwahardd ei chymryd hi neu ei charreg uchaf fel gwarant. Roedd melinau mwy a oedd yn gweithio mewn ffordd debyg yn cael eu troi gan anifeiliaid.—De 24:6; Mc 9:42.

  • Manna.

    Prif fwyd yr Israeliaid yn ystod eu 40 mlynedd yn yr anialwch. Fe gafodd ei roi gan Jehofa. Yn wyrthiol, roedd yn ymddangos ar y llawr o dan haen o wlith bob bore heblaw’r Saboth. Ar ôl i’r Israeliaid ei weld am y tro cyntaf, dywedon nhw, “Beth yw hwn?” neu, yn Hebraeg, “man hu?” (Ex 16:13-15, 35) Cyfeiriodd Iesu at y manna mewn ffordd ffigurol hefyd.—In 6:49, 50.

  • Mediaid.

    Disgynyddion Madai, mab Jaffeth; gwnaethon nhw setlo yn llwyfandir mynyddig Iran a ddaeth yn wlad o’r enw Media. Roedd Mediaid yn bresennol yn Jerwsalem ym Mhentecost 33 OG.—Act 2:9.

  • Melltith.

    Dymuno drwg ar rywun neu rywbeth. Ni ddylid drysu rhwng melltithio a rhegi neu ddicter treisgar. Mae melltithio yn aml yn golygu cyhoeddi neu ragfynegi drwg yn ffurfiol ar rywun, a phan fydd yn cael ei wneud gan Dduw neu gan rywun wedi ei awdurdodi i wneud hynny, mae ganddo arwyddocâd a grym proffwydol.—Ge 12:3; Nu 22:12; Mc 11:21; Act 23:12; Rhu 12:14; Ga 3:10.

  • Memrwn.

    Croen dafad, gafr, neu lo wedi ei baratoi ar gyfer ysgrifennu arno. Roedd yn gryfach na phapyrws ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sgroliau’r Beibl. Mae’n bosib fod y memrynau y gofynnodd Paul i Timotheus ddod â nhw gydag ef yn cynnwys rhannau o’r Ysgrythurau Hebraeg. Cafodd rhai o Sgroliau’r Môr Marw eu hysgrifennu ar femrwn.—2Ti 4:13.

  • Meseia.

    Gair sy’n dod o’r gair Hebraeg am “eneiniog” neu “un eneiniog.” “Crist” ydy’r gair cyfatebol sy’n dod o’r Roeg.—Da 9:25; In 1:41.

  • Milltir.

    Mesur o bellter sy’n codi dim ond unwaith yn nhestun gwreiddiol yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Mathew 5:41, yn cyfeirio mae’n debyg at y filltir Rufeinig sy’n gyfartal â 1,479.5 m (4,854 tr). Mae’r tri chyfeiriad arall at “milltir” yn Luc 24:13, Ioan 6:19, ac Ioan 11:18 yn cyfeirio at filltiroedd statudol sydd wedi eu cyfnewid o’r stadia hynafol yn y testun gwreiddiol.

  • Mina.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, roedd mina yn gyfartal â 100 drachma. Roedd yn pwyso 340 g (10.9 oz t).—Lc 19:13.

  • Moloch.

    Un o dduwiau’r Ammoniaid; efallai’r un fath â Malcam, Milcom, a Molech.—Act 7:43.

  • Mwyaf Sanctaidd, y.

    Yr ystafell fwyaf mewnol yn y tabernacl ac yn y deml, lle roedd arch y cyfamod yn cael ei chadw; mae hefyd yn cael ei alw’r Lle Sancteiddiolaf. Yn ôl Cyfraith Moses, yr unig berson a oedd yn cael mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd oedd yr archoffeiriad, a hynny dim ond ar Ddydd y Cymod unwaith y flwyddyn.—Ex 26:33; Le 16:2, 17; 1Br 6:16; Heb 9:3.

  • Myrr.

    Gwm resin persawrus sy’n dod o lwyni dreiniog neu o goed bach o’r genws Commiphora. Myrr oedd un o gynhwysion yr olew sanctaidd ar gyfer eneinio. Roedd yn cael ei ddefnyddio i bersawru pethau fel dillad neu welyau, ac roedd yn cael ei ychwanegu at olew ar gyfer tylino ac at hufennau corff. Roedd yn cael ei gymysgu â gwin i wneud diod a fyddai’n peri cwsg neu’n marweiddio teimlad. Roedd Myrr hefyd yn cael ei ddefnyddio i baratoi cyrff ar gyfer eu claddu.—Ex 30:23; Dia 7:17; Mc 15:23; In 19:39.

N

  • Nard.

    Olew persawrus drud a lliw coch golau iddo, sy’n dod o’r planhigyn sbignardd (Nardostachys jatamansi). Oherwydd ei fod yn ddrud, roedd nard yn aml yn cael ei gymysgu ag olewau israddol, ac roedd pobl weithiau’n creu fersiynau ffug ohono. Yn nodedig, gwnaeth Marc ac Ioan ddweud bod “nard go iawn” wedi cael ei ddefnyddio ar Iesu.—Mc 14:3; In 12:3.

  • Nasaread.

    Enw ar Iesu, fel un a oedd yn dod o dref Nasareth. Mae’n debyg ei fod yn perthyn i’r gair Hebraeg a ddefnyddiwyd yn Eseia 11:1 ar gyfer “blaguryn.” Yn nes ymlaen fe gafodd ei ddefnyddio ar gyfer dilynwyr Iesu hefyd.—Mth 2:23; Act 24:5.

  • Newyddion da, y.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, newyddion da am Deyrnas Dduw ac am achubiaeth drwy ffydd yn Iesu Grist.—Lc 4:18, 43; Act 5:42; Dat 14:6.

  • Nisan.

    Ar ôl y gaethglud Fabilonaidd, hwn oedd yr enw newydd ar gyfer Abib, mis cyntaf y calendr Iddewig sanctaidd a seithfed mis y calendr seciwlar. Roedd yn para o ganol mis Mawrth hyd at ganol mis Ebrill. (Ne 2:1) Roedd y Pasg Iddewig yn cael ei ddathlu ar Nisan 14, a sefydlodd Iesu Grist swper yr Arglwydd ar y diwrnod hwnnw. (Lc 22:15, 19, 20) Fe gafodd ei roi i farwolaeth ar y stanc dienyddio ar yr un diwrnod.—Lc 23:44-46.

O

  • Offeiriad.

    Dyn a oedd yn cynrychioli Duw yn swyddogol ar gyfer y bobl roedd ef yn eu gwasanaethu, gan eu dysgu nhw am Dduw a’i ddeddfau. Roedd offeiriaid hefyd yn cynrychioli’r bobl o flaen Duw, gan offrymu aberthau ynghyd â chanoli ac ymbil ar ran y bobl. Cyn i Gyfraith Moses gael ei sefydlu, roedd pen y teulu yn gwasanaethu fel offeiriad ar gyfer ei deulu. O dan Gyfraith Moses, aelodau gwryw o deulu Aaron o lwyth Lefi oedd yn yr offeiriadaeth. Roedd gweddill y Lefiaid gwryw yn gynorthwywyr iddyn nhw. Pan gafodd y cyfamod newydd ei sefydlu, daeth Israel ysbrydol yn genedl o offeiriaid, gyda Iesu Grist yn Archoffeiriad.—Ex 28:41; Heb 9:24; Dat 5:10.

  • Offrwm diod.

    Offrwm o win a oedd yn cael ei dywallt ar yr allor a’i gyflwyno ynghyd â’r rhan fwyaf o offrymau eraill. Defnyddiwyd yn ffigurol gan Paul i fynegi ei barodrwydd i ymegnïo er mwyn ei gyd-Gristnogion.—Nu 15:5, 7; Php 2:17.

  • Offrwm dros bechod.

    Aberth a oedd yn cael ei offrymu ar gyfer pechod anfwriadol a gafodd ei gyflawni oherwydd gwendid y cnawd amherffaith. Roedd gwahanol fathau o aberthau anifeiliaid, o deirw i golomennod, yn cael eu defnyddio, yn ôl safle ac amgylchiadau’r un a oedd yn gwneud yr offrwm.—Le 4:27, 29; Heb 10:8.

  • Offrwm llosg.

    Roedd anifail yn cael ei losgi ar yr allor fel aberth cyflawn i Dduw; doedd dim un rhan o’r anifail (tarw, hwrdd, bwch gafr, turtur, neu golomen ifanc) yn cael ei chadw gan yr addolwr.—Ex 29:18; Le 6:9; Mc 12:33; Heb 10:6.

P

  • Paradwys.

    Parc hyfryd, neu ardd sy’n debyg i barc. Y lle cyntaf o’r fath oedd Eden, a gafodd ei wneud gan Jehofa ar gyfer y cwpl dynol cyntaf. Wrth iddo siarad ag un o’r troseddwyr wrth ei ymyl ar y stanc dienyddio, awgrymodd Iesu y byddai’r ddaear yn cael ei throi’n baradwys. Yn 2 Corinthiaid 12:4, mae’r gair yn amlwg yn cyfeirio at baradwys yn y dyfodol, ac yn Datguddiad 2:7, at baradwys nefol.—Can 4:13; Lc 23:43.

  • Paratoad.

    Enw ar y diwrnod cyn y Saboth, pan oedd yr Iddewon yn gwneud y paratoadau angenrheidiol. Daeth y diwrnod i ben gyda machlud yr haul, ar y diwrnod sydd heddiw yn cael ei alw’n ddydd Gwener, ac yna byddai’r Saboth yn cychwyn. Roedd y diwrnod Iddewig yn para o noswaith i noswaith.—Mc 15:42; Lc 23:54.

  • Pasg.

    Gŵyl flynyddol a gafodd ei dathlu ar y 14eg o Abib (a gafodd ei alw’n Nisan yn hwyrach ymlaen) i goffáu rhyddhad yr Israeliaid o’r Aifft. Fe gafodd ei ddathlu drwy ladd a rhostio oen (neu afr), a oedd wedyn yn cael ei fwyta gyda llysiau gwyrdd a bara croyw.—Ex 12:27; In 6:4; 1Co 5:7.

  • Pentecost.

    Yr ail o’r tair prif ŵyl roedd yn rhaid i bob gwryw Iddewig eu dathlu yn Jerwsalem. Pentecost, sy’n golygu “Pum Degfed (Diwrnod),” ydy’r enw a ddefnyddiwyd yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol ar gyfer yr hyn a elwir Gŵyl y Cynhaeaf neu Ŵyl yr Wythnosau yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Roedd yn cael ei ddathlu ar y 50fed diwrnod yn cyfri o Nisan 16.—Ex 23:16; 34:22; Act 2:1.

  • Porneia.​—

  • Presenoldeb.

    Mewn rhai cyd-destunau yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’r gair hwn yn disgrifio presenoldeb brenhinol Iesu Grist o’r amser pan gafodd ei orseddu’n Frenin Meseianaidd yn y nef, yn ystod dyddiau olaf y system hon. Dydy presenoldeb Crist ddim yn golygu dyfodiad ac yna ymadawiad cyflym; yn hytrach, mae’n dynodi cyfnod penodol o amser.—Mth 24:3.

  • Prif Arweinydd.

    Term Groeg ydy hwn sy’n cyfeirio at rôl hanfodol Iesu Grist wrth iddo ryddhau bodau dynol ffyddlon o effeithiau marwol pechod, ac wrth iddo eu harwain i fywyd tragwyddol.—Act 3:15; 5:31; Heb 2:10; 12:2.

  • Prif offeiriad.

    Term arall ar gyfer “archoffeiriad” yn yr Ysgrythurau Hebraeg. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’r ymadrodd “prif offeiriaid” yn fwy na thebyg yn dynodi prif ddynion yr offeiriadaeth, gan gynnwys, o bosib, unrhyw archoffeiriaid a oedd wedi cael eu disodli a phenaethiaid y 24 grŵp o offeiriaid.—2Cr 26:20; Esr 7:5; Mth 2:4; Mc 8:31.

  • Pris; Pridwerth.

    Pris sy’n cael ei dalu i ryddhau rhywun o gaethiwed, cosb, dioddefaint, pechod, neu ddyletswydd hyd yn oed. Doedd y pris ddim yn ariannol bob tro. (Esei 43:3) Roedd pridwerth yn angenrheidiol mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, roedd pob bachgen neu anifail gwryw cyntaf-anedig yn Israel yn perthyn i Jehofa, ac roedd angen talu pridwerth, neu bris, er mwyn eu rhyddhau nhw rhag cael eu defnyddio yng ngwasanaeth Jehofa yn unig. (Nu 3:45, 46; 18:15, 16) Petai tarw peryglus nad oedd wedi cael ei warchod yn lladd rhywun, byddai pridwerth yn cael ei orfodi ar y perchennog er mwyn ei ryddhau o ddedfryd marwolaeth. (Ex 21:29, 30) Ond, doedd dim pris yn gallu cael ei dderbyn i ryddhau llofrudd bwriadol. (Nu 35:31) Yn bwysicaf, mae’r Beibl yn amlygu’r pris a dalodd Crist drwy ei farwolaeth aberthol er mwyn rhyddhau dynolryw ufudd o bechod a marwolaeth.—Sal 49:7, 8; Mth 20:28; Eff 1:7.

  • Proconswl.

    Prif lywodraethwr ar dalaith a oedd yn cael ei gweinyddu gan Senedd Rhufain. Roedd ganddo rym barnwrol a milwrol, ac er bod ei weithredoedd yn cael eu hadolygu gan y Senedd, roedd ganddo’r awdurdod pennaf yn y dalaith.—Act 13:7; 18:12.

  • Proffwydoliaeth.

    Neges ysbrydoledig, naill ai’n ddatguddiad o’r ewyllys dwyfol neu’n ddatganiad ohono. Gall proffwydoliaeth fod yn ddysgeidiaeth foesol ysbrydoledig, yn fynegiant o orchymyn neu farn ddwyfol, neu’n ddatganiad o rywbeth sydd i ddod.—Mth 13:14; 2Pe 1:20, 21.

  • Proselyt.

    Rhywun sydd wedi cael tröedigaeth. Yn yr Ysgrythurau, mae hyn yn cyfeirio at rywun sydd wedi mabwysiadu Iddewiaeth, a oedd yn cynnwys enwaediad yn achos gwrywod.—Mth 23:15; Act 13:43.

  • Putain.

    Person sy’n cael cyfathrach rywiol y tu allan i briodas, yn enwedig am arian. (Mae’r gair Groeg porne, sef “putain,” yn dod o air sy’n golygu “gwerthu.”) Mae’r term fel arfer yn cyfeirio at ddynes, er bod puteiniaid gwryw hefyd yn cael eu crybwyll yn y Beibl. Roedd puteindra wedi cael ei gondemnio yng Nghyfraith Moses, ac roedd cyflog putain yn annerbyniol fel cyfraniad i gysegr Jehofa, sy’n wahanol i’r arfer paganaidd o ddefnyddio puteiniaid y deml fel ffynhonnell o elw. (De 23:17, 18; 1Br 14:24) Mae’r Beibl hefyd yn defnyddio’r term yn ffigurol, gan gyfeirio at bobl, cenhedloedd, neu gyfundrefnau sy’n ymwneud â rhyw fath o addoli eilunod tra eu bod nhw’n honni addoli Duw. Er enghraifft, mae’r gyfundrefn grefyddol sy’n cael ei galw “Babilon Fawr” yn cael ei disgrifio yn Datguddiad fel putain oherwydd ei bod hi wedi cydweithio â rheolwyr y byd hwn er mwyn cael grym ac elw materol.—Dat 17:1-5; 18:3; 1Cr 5:25.

  • Puteindra.​—

Ph

  • Phariseaid.

    Sect grefyddol flaengar o Iddewiaeth yn y ganrif gyntaf OG. Doedden nhw ddim yn dod o’r llinach offeiriadol, ond roedden nhw’n cadw’r Gyfraith i’r manylyn lleiaf, ac roedden nhw’n dyrchafu traddodiadau llafar i’r un lefel. (Mth 23:23) Roedden nhw’n gwrthwynebu unrhyw ddylanwad diwylliannol Groegaidd, ac fel ysgolheigion y Gyfraith a’r traddodiadau, roedd ganddyn nhw awdurdod mawr dros y bobl. (Mth 23:2-6) Roedd rhai ohonyn nhw hefyd yn aelodau o’r Sanhedrin. Roedden nhw’n aml yn gwrthwynebu Iesu ynglŷn â chadw’r Saboth, traddodiadau, a chymdeithasu â phechaduriaid a chasglwyr trethi. Daeth rhai yn Gristnogion, gan gynnwys Saul o Tarsus.—Mth 9:11; 12:14; Mc 7:5; Lc 6:2; Act 26:5.

  • Pharo.

    Teitl a roddwyd ar frenhinoedd yr Aifft. Mae pum pharo yn cael eu henwi yn y Beibl (Sisac, So, Tirhaca, Necho, a Hoffra), ond mae eraill yn cael eu gadael yn ddienw, gan gynnwys y rhai a oedd yn ymwneud ag Abraham, Moses, a Joseff.—Ex 15:4; Rhu 9:17.

Rh

  • Rhoddion o drugaredd; Rhoddion i’r tlawd.

    Rhoddion i helpu rhywun mewn angen. Does dim sôn yn uniongyrchol amdanyn nhw yn yr Ysgrythurau Hebraeg, ond rhoddodd y Gyfraith gyfarwyddiadau penodol i’r Israeliaid ynglŷn â’u cyfrifoldebau tuag at y rhai tlawd.—Mth 6:2.

  • Rhoi dwylo ar.

    Roedd dwylo yn cael eu rhoi ar berson er mwyn ei benodi i waith arbennig neu i gael bendith, iachâd, neu rodd yr ysbryd glân.—Nu 27:18; Act 19:6; 1Ti 5:22.

  • Rhychwant.

    Mesur llinol sy’n gyfartal yn fras â’r pellter rhwng diwedd y bawd a diwedd y bys bach pan fydd y llaw wedi ei dal ar led. Wedi ei seilio ar gufydd o 44.5 cm (17.5 mod), byddai rhychwant yn 22.2 cm (8.75 mod) o hyd.—Ex 28:16; 1Sa 17:4.

S

  • Saboth.

    O air Hebraeg sy’n golygu “gorffwys; stopio.” Hwn ydy’r seithfed dydd yn yr wythnos Iddewig (machlud yr haul ar ddydd Gwener hyd at fachlud yr haul ar ddydd Sadwrn). Roedd rhai dyddiau gŵyl eraill yn ystod y flwyddyn, ynghyd â’r 7fed a’r 50fed blwyddyn, hefyd yn cael eu galw’n sabothau. Ar ddydd y Saboth, doedd dim gwaith i gael ei wneud heblaw am wasanaeth offeiriadol yn y cysegr. Yn ystod blynyddoedd Saboth, roedd y tir i aros heb ei drin a doedd cyd-Hebreaid ddim yn cael eu rhoi o dan bwysau i dalu dyledion. Yng Nghyfraith Moses, roedd cyfyngiadau’r Saboth yn rhesymol, ond fe wnaeth arweinwyr crefyddol ychwanegu atyn nhw’n raddol, ac erbyn dyddiau Iesu, roedd yn anodd i’r bobl gadw atyn nhw.—Ex 20:8; Le 25:4; Lc 13:14-16; Col 2:16.

  • Sachliain.

    Brethyn bras a ddefnyddiwyd i wneud sachau, neu fagiau, fel y rhai ar gyfer dal grawn. Roedd fel arfer yn cael ei weu o flew tywyll geifr ac yn cael ei wisgo’n draddodiadol ar gyfer galaru.—Ge 37:34; Lc 10:13.

  • Sadwceaid.

    Sect grefyddol flaenllaw o Iddewiaeth a oedd yn cynnwys aristocratiaid ac offeiriaid cyfoethog a oedd ag awdurdod mawr dros y gweithgareddau yn y deml. Roedden nhw’n gwrthod llawer o’r traddodiadau llafar a ddilynwyd gan y Phariseaid ynghyd â daliadau Phariseaidd eraill. Doedden nhw ddim yn credu yn yr atgyfodiad nac ym modolaeth angylion. Roedden nhw’n gwrthwynebu Iesu.—Mth 16:1; Act 23:8.

  • Salm.

    Cân o glod i Dduw. Roedd geiriau’r salmau yn cael eu gosod ar gân ac yna’n cael eu canu gan addolwyr, gan gynnwys mewn addoliad cyhoeddus i Jehofa Dduw yn ei deml yn Jerwsalem.—Lc 20:42; Act 13:33; Iag 5:13.

  • Samaria.

    Prifddinas teyrnas ddeg-llwyth ogleddol Israel am tua 200 mlynedd, a’r enw hefyd ar ei holl diriogaeth. Cafodd y ddinas ei hadeiladu ar fynydd o’r un enw. Yn adeg Iesu, Samaria oedd enw ar dalaith rhwng Galilea yn y gogledd a Jwdea yn y de. Fel arfer, ni wnaeth Iesu bregethu yn yr ardal honno tra oedd yn teithio, ond ar adegau fe aeth drwyddi a siaradodd â’r trigolion. Defnyddiodd Pedr ail allwedd ffigurol y Deyrnas pan dderbyniodd y Samariaid yr ysbryd glân.—1Br 16:24; In 4:7; Act 8:14.

  • Samariaid.

    Yn wreiddiol, roedd y term hwn yn cyfeirio at yr Israeliaid yn y deyrnas ddeg-llwyth ogleddol, ond ar ôl i Samaria gael ei choncro gan yr Asyriaid yn 740 COG, fe ddaeth i gynnwys yr estroniaid roedd yr Asyriaid wedi dod â nhw yno. Yn nyddiau Iesu, yn hytrach na chyfleu ystyr hiliol neu wleidyddol, roedd yr enw fel arfer yn cyfeirio at y rhai a oedd yn perthyn i’r sect grefyddol a oedd wedi ei lleoli yn ardal yr hen Sichem a Samaria. Roedd gan aelodau’r sect ddaliadau a oedd yn wahanol i Iddewiaeth.—In 8:48.

  • Sanctaidd; Sancteiddrwydd.

    Un o rinweddau cynhenid Jehofa; y cyflwr o fod yn hollol foesol bur a chysegredig. (Ex 28:36; 1Sa 2:2; In 17:11) Wrth gyfeirio at fodau dynol (Mc 6:20; Act 3:21), pethau (Rhu 7:12; 11:16; 2Ti 3:15), llefydd (Mth 4:5; Act 7:33; Heb 9:1), a gweithgareddau (Ex 36:4), mae’r geiriau gwreiddiol Hebraeg a Groeg yn cyfleu’r syniad fod y peth hwnnw ar wahân neu wedi ei sancteiddio i’r Duw sanctaidd; y cyflwr o gael ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth Jehofa. Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’r geiriau sydd wedi cael eu cyfieithu’n “sanctaidd” a “sancteiddrwydd” hefyd yn cael eu defnyddio i gyfeirio at burdeb ymddygiad personol rhywun.—2Co 7:1; 1Pe 1:15, 16.

  • Sanctaidd, y.

    Yr adran gyntaf a’r fwyaf yn y tabernacl neu yn y deml, sy’n wahanol i’r adran fwyaf mewnol, y Mwyaf Sanctaidd. Yn y tabernacl, roedd y Sanctaidd yn cynnwys y canhwyllbren aur, allor aur yr arogldarth, y bwrdd ar gyfer y bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw, a’r llestri aur; yn y deml, roedd yn cynnwys yr allor aur, deg canhwyllbren aur, a deg bwrdd ar gyfer y bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw.—Ex 26:33; Heb 9:2.

  • Sanhedrin.

    Yr uchel lys Iddewig yn Jerwsalem. Yn nyddiau Iesu, roedd ganddo 71 aelod, gan gynnwys yr archoffeiriad ac eraill a oedd wedi bod yn archoffeiriaid, aelodau o’r teuluoedd archoffeiriadol, henuriaid, pennau llwythau a theuluoedd, ac ysgrifenyddion.—Mc 15:1; Act 5:34; 23:1, 6.

  • Satan.

    Gair Hebraeg sy’n golygu “Gwrthwynebwr.” Pan fydd yn cael ei ddefnyddio â’r fannod yn yr ieithoedd gwreiddiol, mae’n cyfeirio at Satan y Diafol, prif Elyn Duw.—Job 1:6; Mth 4:10; Dat 12:9.

  • Sect.

    Grŵp o bobl sy’n glynu wrth athrawiaeth neu wrth arweinydd ac sy’n dilyn eu daliadau eu hunain. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio dwy gangen flaengar o Iddewiaeth, sef y Phariseaid a’r Sadwceaid. Roedd rhai nad oedden nhw’n Gristnogion hefyd yn galw Cristnogaeth yn “sect” neu’n “sect y Nasareaid,” gan ystyried efallai fod Cristnogaeth wedi torri’n rhydd oddi wrth Iddewiaeth. Yn y pen draw, dechreuodd sectau ddatblygu yn y gynulleidfa Gristnogol; mae sôn penodol am “sect Nicolaus” yn Datguddiad.—Act 5:17; 15:5; 24:5; 28:22; Dat 2:6; 2Pe 2:1.

  • Sedd farnu.

    Yn aml, llwyfan awyr agored, a grisiau yn arwain ati, lle byddai swyddogion yn gallu eistedd ac annerch tyrfaoedd a chyhoeddi eu penderfyniadau. Mae’r ymadroddion “sedd farnu Duw” a “sedd farnu Crist” yn symboleiddio trefniant Jehofa ar gyfer barnu dynolryw.—Rhu 14:10, tdn; 2Co 5:10, tdn; In 19:13.

  • Seion; Mynydd Seion.

    Yr enw ar y ddinas gaerog Jebus a oedd ar fryn de-ddwyreiniol Jerwsalem. Ar ôl i Dafydd ei chipio hi, adeiladodd ei gartref brenhinol yno, ac fe ddaeth yn adnabyddus fel “Dinas Dafydd.” (2Sa 5:7, 9) Daeth Seion yn fynydd arbennig o sanctaidd i Jehofa pan symudodd Dafydd yr Arch yno. Yn ddiweddarach, roedd yr enw’n cynnwys ardal y deml ar Fynydd Moreia ac, ar adegau, holl ddinas Jerwsalem. Mae’n aml yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd symbolaidd yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol.—Sal 2:6; 1Pe 2:6; Dat 14:1.

  • Sêl.

    Dyfais a ddefnyddiwyd i wneud argraffiad (fel arfer ar glai neu gŵyr) a oedd yn dangos meddiant, dilysrwydd, neu gytundeb ac a oedd yn gallu diogelu dogfennau rhag ymyrraeth, neu bethau eraill a oedd wedi cael eu selio, gan gynnwys drysau a beddrodau. Roedd hen seliau yn cynnwys darn o ddefnydd caled (carreg, ifori, neu bren) ac arno roedd llythrennau neu ddyluniadau wedi eu harysgrifio o chwith. Mae sêl yn cael ei defnyddio’n ffigurol ar gyfer rhywbeth sydd wedi cael ei stampio’n ddilys, neu fel marc o feddiant, neu i ddynodi bod rhywbeth yn guddiedig neu’n gyfrinach.—Mth 27:66; In 6:27; Eff 1:13; Dat 5:1; 9:4.

  • Seren y bore.

    Y seren olaf i godi ar y gorwel dwyreiniol cyn i’r haul ymddangos, a chyn i ddiwrnod newydd wawrio.—2Pe 1:19; Dat 22:16.

  • Sgrôl.

    Darn hir o femrwn neu bapyrws, ag ysgrifen ar un ochr, a oedd fel arfer yn cael ei rolio o amgylch ffon. Cafodd yr Ysgrythurau eu hysgrifennu a’u copïo ar sgroliau, y ffurf fwyaf gyffredin ar y llyfr yng nghyfnod ysgrifennu’r Beibl.—Lc 4:17-20; 2Ti 4:13.

  • Stanc.

    Polyn unionsyth y byddai dioddefwr yn cael ei roi yn sownd wrtho. Roedd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai cenhedloedd ar gyfer dienyddio neu ar gyfer arddangos corff marw fel rhybudd i eraill neu ar gyfer cywilyddio’n gyhoeddus. Roedd yr Asyriaid, a oedd yn enwog am eu rhyfela ffyrnig, yn trywanu eu caethion drwy osod eu cyrff ar ben stanciau a blaenau miniog iddyn nhw a oedd wedi cael eu rhedeg drwy’r abdomen i mewn i geudod y frest. Ond yn y gyfraith Iddewig, roedd y rhai a oedd yn euog o droseddau ffiaidd fel cabledd neu addoli eilunod yn cael eu lladd yn gyntaf drwy eu llabyddio nhw neu drwy ryw ddull arall, ac yna roedd eu cyrff marw yn cael eu rhoi ar stanciau, neu goed, fel esiamplau i rybuddio eraill. (De 21:22, 23; 2Sa 21:6, 9) Weithiau, roedd y Rhufeiniaid yn clymu dioddefwr i’r stanc, a gallai fyw am sawl diwrnod cyn iddo farw o’r boen, syched, diffyg bwyd, a gwres yr haul. Mewn achosion eraill, fel yn achos dienyddio Iesu, roedden nhw’n hoelio dwylo a thraed y cyhuddedig ar stanc. (Lc 24:20; In 19:14-16; 20:25; Act 2:23, 36)—Gweler STANC DIENYDDIO.

  • Stanc dienyddio.

    Cyfieithiad o’r gair Groeg stauros, sy’n golygu polyn neu stanc unionsyth, fel yr un y cafodd Iesu ei ddienyddio arno. Does dim tystiolaeth fod y gair Groeg yn golygu croes, fel roedd y paganiaid yn ei defnyddio fel symbol grefyddol am ganrifoedd lawer cyn Crist. Mae “stanc dienyddio” yn mynegi bwriad llawn y gair gwreiddiol, gan fod y gair stauros hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddynodi’r artaith, y dioddefaint, a’r cywilydd y byddai dilynwyr Iesu yn eu hwynebu. (Mth 16:24; Heb 12:2)—Gweler STANC.

  • Swper yr Arglwydd.

    Pryd o fwyd yn cynnwys bara croyw a gwin fel symbolau o gorff a gwaed Crist; coffáu marwolaeth Iesu. Gan fod hon yn seremoni y mae’n rhaid i Gristnogion ei chadw yn ôl yr Ysgrythurau, mae’r term “y Goffadwriaeth” hefyd yn briodol.—1Co 11:20, 23-26.

  • Swynwr.

    Rhywun sy’n defnyddio grym sy’n dod o ysbrydion drwg.—Act 13:6.

  • Symbylau.

    Ffonau hir â phennau miniog o fetel, a oedd yn cael eu defnyddio gan ffermwyr i brocio anifeiliaid. Mae’r swmbwl yn cael ei gymharu â geiriau person doeth sy’n ysgogi’r gwrandawr i ddilyn cyngor doeth. Mae’r ymadrodd ‘cicio yn erbyn y symbylau’ yn dod o’r syniad o darw ystyfnig yn gwrthsefyll y swmbwl sy’n ei brocio drwy gicio yn ei erbyn, gan achosi niwed iddo’i hun.—Act 26:14, tdn; Bar 3:31.

  • Synagog.

    Gair sy’n golygu “dod ynghyd; cynulliad,” ond yn y rhan fwyaf o adnodau, mae’n golygu adeilad neu leoliad lle roedd Iddewon yn ymgynnull er mwyn darllen yr Ysgrythurau, i dderbyn cyfarwyddiadau, i bregethu, ac i weddïo. Yn nyddiau Iesu, roedd gan bob tref weddol fawr yn Israel synagog ynddi, ac roedd gan y dinasoedd mawr fwy nag un.—Lc 4:16; Act 13:14, 15.

  • Syria; Syriaid.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, talaith Rufeinig oedd Syria ac Antiochia oedd y brifddinas. Roedd yn cynnwys llawer o’r un diriogaeth â Syria (a elwir hefyd Aram) yr Ysgrythurau Hebraeg. Roedd llywodraethwr Syria hefyd yn arolygwr ar Balesteina gyfan.—Lc 2:2; Act 18:18; Ga 1:21.

  • Syrtis.

    Gylffiau mawr a bas, dau ohonyn nhw, ar arfordir Libia, Gogledd Affrica, a oedd yn codi ofn mawr ar forwyr gynt oherwydd banciau tywod peryglus a oedd yn symud ar hyd yr amser o ganlyniad i’r llanw.—Act 27:17.

  • System hon, y.

    Trosiad o’r gair Groeg aion pan fydd yn cyfeirio at y sefyllfa sydd ohoni neu unrhyw beth sy’n nodweddu cyfnod o amser, neu oes benodol. Mae’r Beibl yn sôn am y “system bresennol,” gan gyfeirio at sefyllfa’r byd yn gyffredinol ac at y ffordd fydol o fyw. (2Ti 4:10) Drwy gyfrwng cyfamod y Gyfraith, cyflwynodd Duw system benodol y byddai rhai yn ei galw’n oes Israelaidd neu Iddewig. Drwy gyfrwng ei aberth pridwerthol, cafodd Iesu Grist ei ddefnyddio gan Dduw i gyflwyno system wahanol a newydd, un a fyddai’n bennaf yn ymwneud â’r gynulleidfa o Gristnogion eneiniog. Roedd hyn yn cofnodi dechreuad oes newydd, a fyddai’n cael ei nodweddu gan y realiti a oedd yn cael ei ragfynegi gan gyfamod y Gyfraith. Pan fydd yr ymadrodd hwn yn y lluosog, mae’n cyfeirio at y gwahanol fathau o systemau, neu o sefyllfaoedd, sydd wedi bodoli neu a fydd yn bodoli.—Mth 24:3; Mc 4:19; Rhu 12:2; 1Co 10:11.

T

  • Talent.

    Yr uned fesur a’r uned ariannol Hebreig fwyaf. Yn pwyso 34.2 kg (75.5 lb; 91.75 lb t; 1,101 oz t). Roedd talent Roegaidd yn llai, yn pwyso tua 20.4 kg (44.8 lb; 54.5 lb t; 654 oz t).—1Cr 22:14; Mth 18:24.

  • Tartarus.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, cyflwr isel sy’n debyg i garchar lle cafodd angylion anufudd yn nyddiau Noa eu hyrddio. Yn 2 Pedr 2:4, dydy’r defnydd o’r ferf tartaroo (“taflu i mewn i Tartarus”) ddim yn golygu bod yr “angylion a bechodd” wedi cael eu taflu i mewn i’r Tartarus mytholegol paganaidd (hynny yw, carchar tanddaearol a lle o dywyllwch ar gyfer y duwiau llai pwysig). Yn hytrach, mae’n dynodi eu bod nhw wedi cael eu darostwng gan Dduw o’u safle a’u breintiau yn y nefoedd a’u trosglwyddo i’r cyflwr o dywyllwch meddyliol dyfnaf mewn cysylltiad â bwriadau disglair Duw. Mae tywyllwch hefyd yn nodi’r hyn a fydd yn digwydd iddyn nhw yn y pen draw, ac mae’r Ysgrythurau’n dangos mai dinistr tragwyddol ydy hyn, iddyn nhw a’u rheolwr, Satan y Diafol. Felly, mae Tartarus yn dynodi’r cyflwr isaf o ddarostyngiad ar gyfer yr angylion gwrthryfelgar hynny. Dydy’r term hwn ddim yn golygu’r un peth â’r “dyfnder” yn Datguddiad 20:1-3.

  • Teml.

    Yr adeilad parhaol yn Jerwsalem a wnaeth ddisodli’r tabernacl cludadwy fel canolfan addoliad yr Israeliaid. Cafodd y deml gyntaf ei hadeiladu gan Solomon a’i dinistrio gan y Babiloniaid. Cafodd yr ail un ei hadeiladu gan Serwbabel ar ôl i’r Israeliaid ddod yn ôl o’u caethiwed ym Mabilon ac fe gafodd y deml honno ei hailadeiladu gan Herod Fawr. Ar adegau, mae’r ymadrodd “tŷ” yn cael ei ddefnyddio.—Mth 21:13; Lc 11:51; 1Cr 29:1; 2Cr 2:4; Mth 24:1.

  • Teyrnas Dduw.

    Yr ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer sofraniaeth Duw sy’n cael ei chynrychioli gan lywodraeth frenhinol ei Fab, Crist Iesu.—Mth 12:28; Lc 4:43; 1Co 15:50.

  • Tollau.

    Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, mae’n cyfeirio at dreth bersonol ar unigolion.—Ne 5:4; Rhu 13:7.

  • Troseddu; Trosedd.

    Camu y tu hwnt i ddeddf benodedig; y weithred o dorri cyfraith. Yn gyfystyr â’r gair “pechu” yn y Beibl.—Sal 51:3; Rhu 5:14.

  • Trwmped.

    Offeryn chwyth wedi ei wneud o fetel, a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhoi arwydd ac ar gyfer cerddoriaeth. Mae sŵn trwmpedi yn aml yn gysylltiedig mewn ffordd symbolaidd â chyhoeddi barnedigaethau Jehofa neu ddigwyddiadau arwyddocaol eraill o darddiad dwyfol.—1Co 15:52; Dat 8:7–11:15.

  • Trychineb mawr.

    Mae’r gair Groeg ar gyfer “trychineb” yn cyfleu’r syniad o ofid neu ddioddefaint sy’n dod o ganlyniad i bwysau amgylchiadau. Siaradodd Iesu am “drychineb mawr” a fyddai’n dod ar Jerwsalem ac yn enwedig am un a fyddai’n dod ar ddynolryw yn hwyrach ymlaen sy’n gysylltiedig ag ef yn ‘dod gyda gogoniant’ yn y dyfodol. (Mth 24:21, 29-31) Disgrifiodd Paul y trychineb hwn fel gweithred gyfiawn Duw yn erbyn “y rhai sydd ddim yn adnabod Duw a’r rhai sydd ddim yn ufuddhau i’r newyddion da” am Iesu Grist. Mae Datguddiad pennod 19 yn dangos mai Iesu yw’r un sy’n arwain byddinoedd nefol yn erbyn “y bwystfil gwyllt a brenhinoedd y ddaear a’u byddinoedd.” (2The 1:6-8; Dat 19:11-21) Mae’r “dyrfa fawr” yn cael ei disgrifio yn goroesi’r trychineb hwnnw. (Dat 7:9, 14)—Gweler ARMAGEDON.

Th

  • Thus.

    Sudd neu nodd wedi ei sychu (resin gwm) o goed ac o berthi sy’n perthyn i rywogaethau penodol o’r genws Boswellia. Pan oedd yn cael ei losgi, roedd yn creu arogl melys. Roedd yn un o gynhwysion yr arogldarth sanctaidd a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y tabernacl ac yn y deml. Roedd hefyd yn cael ei offrymu yr un pryd ag offrymau grawn ac yn cael ei osod ar bob un rhes o’r bara gosod y tu mewn i’r Sanctaidd.—Ex 30:34-36; Le 2:1; 24:7; Mth 2:11.

  • Thuserau.

    Llestri wedi eu gwneud o aur, arian, neu gopr, a oedd yn cael eu defnyddio yn y tabernacl ac yn y deml ar gyfer llosgi arogldarth ac ar gyfer tynnu glo o’r allor aberthol a thynnu wiciau’r lampau o’r canhwyllbren aur. Roedden nhw hefyd yn cael eu galw’n badellau neu’n gafnau.—Ex 37:23; 2Cr 26:19; Heb 9:4.

U

  • Un drwg, yr.

    Teitl ar gyfer Satan y Diafol, sy’n sefyll yn erbyn Duw a’i safonau cyfiawn.—Mth 6:13; 1In 5:19.

  • Un rhan o ddeg (degwm).

    Y ddegfed ran, neu 10 y cant, sy’n cael ei rhoi neu ei thalu fel treth, yn enwedig ar gyfer materion crefyddol. Gair arall ydy “degwm,” a’r ferf ydy “degymu.” (Mal 3:10; De 26:12; Mth 23:23; Heb 7:5) O dan Gyfraith Moses, roedd y ddegfed ran o gynnyrch y tir a’r ddegfed ran o unrhyw gynnydd yn y gyrroedd a’r preiddiau yn cael eu rhoi i’r Lefiaid yn flynyddol i’w cynnal nhw. Rhoddodd y Lefiaid ddegfed ran o’r ddegfed ran hon i’r offeiriadaeth Aaronaidd i’w cynnal nhw. Roedd ’na rai degymau ychwanegol hefyd. Dydy degymu ddim yn ofynnol i Gristnogion.

  • Us.

    Plisg sy’n cael eu gwahanu oddi wrth y rhan roedd rhywun yn gallu ei bwyta o’r grawn, a hynny drwy ddyrnu a nithio. Mae us yn cael ei ddefnyddio mewn ymadroddion fel symbol o rywbeth diwerth ac annymunol.—Sal 1:4; Mth 3:12.

W

  • Wermod.

    Mathau o blanhigion pren sydd â blas chwerw iawn ac arogl cryf. Yn Datguddiad 8:11, mae “wermod” yn dynodi sylwedd chwerw a gwenwynig sy’n cael ei alw hefyd yn absinth.

Y

  • Ymddwyn heb gywilydd.

    Yn dod o’r gair Groeg aselgeia, ac mae’n ymadrodd sy’n ymwneud â gweithredoedd sy’n troseddu’n ddifrifol yn erbyn cyfreithiau Duw ac sy’n adlewyrchu agwedd ddigywilydd neu ddirmygus; ysbryd sy’n dangos amarch neu ddirmyg hyd yn oed tuag at awdurdod, cyfreithiau, a safonau. Dydy’r ymadrodd ddim yn cyfeirio at ymddygiad drwg o natur ddibwys.—Ga 5:19; 2Pe 2:7.

  • Ymprydio.

    Ymwrthod rhag unrhyw fwyd am gyfnod cyfyngedig. Roedd yr Israeliaid yn ymprydio ar Ddydd y Cymod, mewn amseroedd gofidus, a phan oedd angen arweiniad dwyfol arnyn nhw. Sefydlodd yr Iddewon bedwar ympryd blynyddol i gofio digwyddiadau trychinebus yn eu hanes. Dydy ymprydio ddim yn ofynnol i Gristnogion.—Esr 8:21; Esei 58:6; Mth 4:2; 9:14; Lc 18:12; Act 13:2, 3; 27:9.

  • Ynadon.

    Yn nhrefedigaethau Rhufain, roedd yr ynadon sifil yn weinyddwyr ar gyfer y llywodraeth. Roedd eu cyfrifoldebau yn cynnwys cadw trefn, rheoli arian, barnu troseddwyr y gyfraith, a gorchymyn i gosb gael ei chyflawni.—Act 16:20.

  • Ysbryd.

    Mae sawl ystyr i’r gair Hebraeg ruach a’r gair Groeg pneuma, sy’n cael eu cyfieithu’n aml “ysbryd.” Maen nhw i gyd yn cyfeirio at yr hyn sy’n anweledig i bobl ac at yr hyn sy’n rhoi tystiolaeth o rym yn symud. Mae’r geiriau Hebraeg a Groeg yn cael eu defnyddio i gyfeirio at (1) gwynt, (2) y grym bywyd gweithredol mewn creaduriaid daearol, (3) y grym ysgogol sy’n tarddu o galon ffigurol rhywun ac sy’n achosi iddo ddweud neu wneud pethau mewn ffordd benodol, (4) datganiadau ysbrydoledig sy’n deillio o ffynhonnell anweledig, (5) ysbryd greaduriaid, a (6) grym gweithredol Duw, sef yr ysbryd glân.—Ex 35:21; Sal 104:29; Mth 12:43; Lc 11:13.

  • Ysbrydegaeth.

    Y gred fod ysbrydion pobl sydd wedi marw yn goroesi marwolaeth y corff cnawdol a’u bod nhw’n gallu cyfathrebu â’r byw, yn enwedig drwy gyfrwng unigolyn (cyfryngwr) sy’n agored i’w dylanwad. Y gair Groeg ar gyfer “arfer ysbrydegaeth” ydy pharmacia, sydd yn llythrennol yn golygu “cyffuriau.” Daeth y term hwn yn gysylltiedig ag ysbrydegaeth oherwydd bod cyffuriau yn yr amseroedd a fu yn cael eu defnyddio i alw am rym y cythreuliaid er mwyn arfer dewiniaeth.—Ga 5:20; Dat 21:8.

  • Ysbryd glân.

    Y grym egnïol anweledig mae Duw yn ei ddefnyddio i gyflawni ei ewyllys. Mae’n lân, neu’n sanctaidd, oherwydd ei fod yn dod oddi wrth Jehofa, sy’n lân ac yn gyfiawn i’r raddfa fwyaf, ac oherwydd bod Duw yn ei ddefnyddio i gyflawni’r hyn sy’n sanctaidd.—Lc 1:35; Act 1:8.

  • Ysgrifennydd.

    Rhywun a oedd yn copïo’r Ysgrythurau Hebraeg. Erbyn i Iesu ddod i’r ddaear, roedd yn cyfeirio at ddosbarth o ddynion dysgedig yn y Gyfraith. Roedden nhw’n gwrthwynebu Iesu.—Esr 7:6; Mc 12:38, 39; 14:1.

  • Ysgrythur(au).

    Ysgrifau sanctaidd Gair Duw. Dim ond yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol mae’r ymadrodd hwn yn ymddangos.—Lc 24:27; 2Ti 3:16.

Z

  • Zeus.

    Prif dduw’r Groegiaid amldduwiol. Yn Lystra, cafodd Barnabas ei alw’n Zeus ar gam. Mae arysgrifau hynafol a gafodd eu darganfod wrth ymyl Lystra yn cyfeirio at “offeiriaid Zeus” ac at “Zeus y duw haul.” Roedd gan y llong y teithiodd Paul arni o ynys Malta gerflun o “Feibion Zeus” ar ei blaen, hynny yw, yr efeilliaid Castor a Pollux.—Act 14:12; 28:11.