Yn Ôl Ioan 1:1-51

  • Daeth y Gair yn gnawd (1-18)

  • Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr (19-28)

  • Iesu, Oen Duw (29-34)

  • Disgyblion cyntaf Iesu (35-42)

  • Philip a Nathanael (43-51)

1  Yn y dechreuad roedd y Gair yn bodoli, ac roedd y Gair gyda Duw, ac roedd y Gair yn dduw.*  Roedd hwn gyda Duw yn y dechreuad.  Daeth pob peth i fodolaeth drwyddo ef, a hebddo ef ni ddaeth hyd yn oed un peth i fodolaeth. Yr hyn a ddaeth i fodolaeth  drwyddo ef oedd bywyd, a’r bywyd oedd goleuni dynion.  Ac mae’r goleuni yn disgleirio yn y tywyllwch, ond dydy’r tywyllwch ddim wedi ei ddiffodd.  Daeth dyn a gafodd ei anfon i gynrychioli Duw; Ioan oedd ei enw.  Daeth y dyn hwn fel tyst, er mwyn tystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bobl o bob math gredu drwyddo ef.  Nid ef oedd y goleuni hwnnw, ond fe ddaeth i dystiolaethu am y goleuni hwnnw.  Roedd y gwir oleuni sy’n goleuo pob math o ddynion ar fin dod i’r byd. 10  Roedd ef yn y byd, a daeth y byd i fodolaeth drwyddo ef, ond doedd y byd ddim yn ei adnabod. 11  Fe ddaeth i’w wlad ei hun, ond ni wnaeth ei bobl ei hun ei dderbyn. 12  Ond, fe roddodd awdurdod i bawb a wnaeth ei dderbyn, er mwyn iddyn nhw ddod yn blant i Dduw, oherwydd eu bod nhw’n ymarfer ffydd yn ei enw. 13  Ac fe gawson nhw eu geni, nid o waed nac o ewyllys cnawdol nac o ewyllys dyn, ond o Dduw. 14  Felly daeth y Gair yn gnawd a byw yn ein plith ni, ac fe welson ni ei ogoniant, gogoniant mae mab unig-anedig yn ei dderbyn oddi wrth dad; ac roedd yn llawn ffafr Duw* a gwirionedd. 15  (Tystiolaethodd Ioan amdano, yn wir, fe waeddodd: “Dyma’r un y gwnes i ddweud amdano, ‘Mae’r un sy’n dod ar fy ôl i wedi camu o fy mlaen i, oherwydd ei fod wedi bodoli cyn i mi fodoli.’”) 16  Oherwydd ei fod yn llawn caredigrwydd rhyfeddol, rydyn ni i gyd wedi derbyn caredigrwydd rhyfeddol ar ben caredigrwydd rhyfeddol. 17  Oherwydd bod y Gyfraith wedi cael ei rhoi drwy Moses, daeth y caredigrwydd rhyfeddol a’r gwir drwy Iesu Grist. 18  Does yr un dyn wedi gweld Duw ar unrhyw adeg; y duw unig-anedig sydd wrth ochr y Tad ydy’r un sy’n esbonio pwy ydy Ef. 19  Dyma’r dystiolaeth a roddodd Ioan pan wnaeth yr Iddewon anfon offeiriaid a Lefiaid o Jerwsalem i ofyn iddo: “Pwy wyt ti?” 20  Ac fe wnaeth ef gyfaddef y peth ac ni wnaeth ei wadu, gan ddweud: “Nid fi ydy’r Crist.” 21  A dyma nhw’n gofyn iddo: “Beth, felly? Ai Elias wyt ti?” Atebodd ef: “Nage.” “Ai’r Proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage!” 22  Felly dywedon nhw wrtho: “Pwy wyt ti? Dyweda wrthon ni er mwyn inni allu ateb y rhai a wnaeth ein hanfon ni. Beth rwyt ti’n ei ddweud amdanat ti dy hun?” 23  Dywedodd yntau: “Llais rhywun yn gweiddi yn yr anialwch ydw i, ‘Gwnewch ffordd Jehofa* yn syth,’ yn union fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” 24  Nawr, roedd y rhai a oedd yn holi wedi cael eu hanfon gan y Phariseaid. 25  Felly dyma nhw’n ei holi a dweud wrtho: “Pam, felly, rwyt ti’n bedyddio os nad y Crist nac Elias na’r Proffwyd wyt ti?” 26  Atebodd Ioan: “Rydw i’n bedyddio mewn dŵr. Mae ’na un yn sefyll yn eich plith chi dydych chi ddim yn ei adnabod, 27  yr un sy’n dod ar fy ôl i, a dydw i ddim yn deilwng i ddatod carrai* ei sandal.” 28  Digwyddodd y pethau hyn ym Methania, yr ochr draw i’r Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio. 29  Y diwrnod wedyn gwelodd ef Iesu yn dod tuag ato, a dywedodd ef: “Dyma Oen Duw sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd! 30  Dyma’r un y gwnes i ddweud amdano: ‘Y tu ôl imi mae dyn yn dod sydd wedi camu o fy mlaen i, oherwydd ei fod wedi bodoli cyn i mi fodoli.’ 31  Doeddwn i hyd yn oed ddim yn ei adnabod, ond y rheswm rydw i’n bedyddio mewn dŵr ydy er mwyn iddo ef gael ei amlygu i Israel.” 32  Hefyd, tystiolaethodd Ioan drwy ddweud: “Gwyliais yr ysbryd yn dod i lawr fel colomen o’r nef, ac fe arhosodd arno. 33  Doeddwn i hyd yn oed ddim yn ei adnabod, ond dyma’r union Un a wnaeth fy anfon i i fedyddio mewn dŵr yn dweud wrtho i: ‘Pwy bynnag rwyt ti’n ei weld a’r ysbryd yn dod i lawr arno ac yn aros arno, hwn ydy’r un sy’n bedyddio â’r ysbryd glân.’ 34  Ac rydw i wedi gweld hynny, ac rydw i wedi rhoi tystiolaeth mai hwn ydy Mab Duw.” 35  Y diwrnod wedyn, roedd Ioan yn sefyll yno unwaith eto gyda dau o’i ddisgyblion, 36  a thra oedd yn edrych ar Iesu yn cerdded, dywedodd: “Dyma Oen Duw!” 37  Ar ôl i’r ddau ddisgybl ei glywed yn dweud hyn, dyma nhw’n dilyn Iesu. 38  Yna trodd Iesu, a’u gweld nhw’n dilyn, a dywedodd wrthyn nhw: “Am beth rydych chi’n chwilio?” Dywedon nhw wrtho: “Rabbi (sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Athro”), lle rwyt ti’n aros?” 39  Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Dewch i weld.” Felly aethon nhw i weld lle roedd yn aros, ac arhoson nhw gydag ef y diwrnod hwnnw; roedd hi tua’r ddegfed awr.* 40  Roedd Andreas, brawd Simon Pedr, yn un o’r ddau a wnaeth glywed yr hyn a ddywedodd Ioan a dilyn Iesu. 41  Yn gyntaf fe ddaeth o hyd i’w frawd Simon a dywedodd wrtho: “Rydyn ni wedi dod o hyd i’r Meseia” (sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Crist”), 42  a dyma’n ei arwain at Iesu. Pan edrychodd Iesu arno, dywedodd: “Simon wyt ti, mab Ioan; byddi di’n cael dy alw’n Ceffas” (sy’n cael ei gyfieithu “Pedr”). 43  Y diwrnod wedyn, roedd Iesu eisiau gadael am Galilea. Yna daeth Iesu o hyd i Philip a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” 44  Nawr roedd Philip yn dod o Bethsaida, o ddinas Andreas a Pedr. 45  Daeth Philip o hyd i Nathanael a dywedodd wrtho: “Rydyn ni wedi dod o hyd i’r un y gwnaeth Moses, yn y Gyfraith, a’r Proffwydi ysgrifennu amdano: Iesu, fab Joseff, o Nasareth.” 46  Ond dywedodd Nathanael wrtho: “A all unrhyw beth da ddod allan o Nasareth?” Dywedodd Philip wrtho: “Tyrd i weld.” 47  Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato a meddai amdano: “Dyma Israeliad sydd yn wir heb unrhyw dwyll ynddo.” 48  Dywedodd Nathanael wrtho: “Sut rwyt ti’n fy adnabod i?” Atebodd Iesu: “Cyn i Philip dy alw di, tra oeddet ti o dan y goeden ffigys, gwnes i dy weld di.” 49  Atebodd Nathanael: “Rabbi, ti ydy Mab Duw, ti ydy Brenin Israel.” 50  Dyma Iesu’n ateb: “Wyt ti’n credu oherwydd imi ddweud fy mod i wedi dy weld di o dan y goeden ffigys? Byddi di’n gweld pethau sy’n llawer mwy na’r rhain.” 51  Yna dywedodd wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi ddynion, byddwch chi’n gweld y nef yn agor ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr at Fab y dyn.”

Troednodiadau

Neu “yn ddwyfol.”
Neu “caredigrwydd rhyfeddol.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Neu “lasyn.”
Hynny yw, tua 4:00 p.m.