Yn Ôl Ioan 5:1-47

  • Dyn sâl yn cael ei iacháu yn Bethsatha (1-18)

  • Iesu yn cael awdurdod oddi wrth ei Dad (19-24)

  • Bydd y meirw yn clywed llais Iesu (25-30)

  • Tystiolaeth am Iesu (31-47)

5  Ar ôl hyn, roedd un o wyliau’r Iddewon yn mynd ymlaen, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem.  Nawr yn Jerwsalem, yn agos i Borth y Defaid, mae ’na bwll sy’n cael ei alw Bethsatha yn Hebraeg, gyda phum colofnres.*  Ymhlith y pum colofnres roedd ’na nifer mawr o rai a oedd yn sâl, yn ddall, yn gloff, a’r rhai gyda’u dwylo neu eu traed wedi gwywo,* yn gorwedd yno.  ——  Ond roedd ’na un dyn yno a oedd wedi bod yn sâl am 38 o flynyddoedd.  Gan weld y dyn hwn yn gorwedd yno ac yn sylweddoli ei fod wedi bod yn sâl am amser hir yn barod, dywedodd Iesu wrtho: “Wyt ti eisiau gwella?”  Atebodd y dyn sâl: “Syr, does gen i neb i fy rhoi i mewn i’r pwll pan fydd y dŵr yn cyffroi, ond tra ydw i ar fy ffordd, mae un arall yn camu i lawr o fy mlaen i.”  Dywedodd Iesu wrtho: “Saf ar dy draed! Cod dy fatres* a cherdda.”  A gwnaeth y dyn wella ar unwaith, ac fe gododd ei fatres* a dechrau cerdded. Y diwrnod hwnnw oedd y Saboth. 10  Felly dechreuodd yr Iddewon ddweud wrth y dyn a oedd wedi cael ei iacháu: “Y Saboth ydy hi, a dydy hi ddim yn gyfreithlon iti gario’r matres.”* 11  Ond dyma’n eu hateb nhw: “Dywedodd y dyn a wnaeth fy iacháu i wrtho i, ‘Cod dy fatres* a cherdda.’” 12  Gofynnon nhw iddo: “Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthot ti, ‘Cod dy fatres* a cherdda’?” 13  Ond doedd y dyn a gafodd ei iacháu ddim yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd roedd Iesu wedi llithro i mewn i’r dyrfa a oedd yno. 14  Ar ôl hyn daeth Iesu o hyd iddo yn y deml a dywedodd wrtho: “Edrycha, rwyt ti wedi gwella. Paid â phechu bellach, fel na fydd rhywbeth gwaeth yn digwydd iti.” 15  Aeth y dyn i ffwrdd a dweud wrth yr Iddewon mai Iesu a oedd wedi ei iacháu. 16  Am y rheswm hwn roedd yr Iddewon yn erlid Iesu, oherwydd ei fod yn gwneud y pethau hyn yn ystod y Saboth. 17  Ond dyma’n eu hateb nhw: “Mae fy Nhad wedi dal ati i weithio hyd yma, ac rydw innau’n dal ati i weithio.” 18  Dyma pam dechreuodd yr Iddewon geisio ei ladd yn fwy byth, oherwydd nid yn unig roedd ef yn torri’r Saboth, ond roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo ef ei hun, gan ei wneud ei hun yn gyfartal â Duw. 19  Felly, atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ni all y Mab wneud unrhyw beth ar ei liwt ei hun, dim ond beth mae’n gweld y Tad yn ei wneud. Oherwydd pa bynnag bethau y mae’r Tad yn eu gwneud, mae’r Mab hefyd yn gwneud y pethau hyn yn yr un modd. 20  Oherwydd mae’r Tad yn caru’r Mab ac yn dangos iddo bob peth mae ef ei hun yn ei wneud, ac fe fydd yn dangos iddo weithredoedd sy’n fwy na’r rhain, er mwyn i chi ryfeddu. 21  Oherwydd yn union fel mae’r Tad yn codi’r meirw ac yn eu gwneud nhw’n fyw, felly hefyd mae’r Mab yn gwneud pwy bynnag mae’n dymuno yn fyw. 22  Oherwydd dydy’r Tad ddim yn barnu neb o gwbl, ond mae wedi rhoi’r holl waith o farnu yng ngofal ei Fab, 23  er mwyn i bawb anrhydeddu’r Mab yn union fel maen nhw’n anrhydeddu’r Tad. Dydy pwy bynnag sydd ddim yn anrhydeddu’r Mab ddim yn anrhydeddu’r Tad a wnaeth ei anfon. 24  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sy’n clywed fy ngair ac yn credu’r Un a wnaeth fy anfon i, mae gan yr un hwnnw fywyd tragwyddol, ac nid yw’n cael ei farnu ond mae’n debyg i ddyn a oedd yn farw ond sydd nawr yn fyw. 25  “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’r awr yn dod, yn wir mae eisoes wedi dod, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a bydd y rhai sydd wedi talu sylw yn byw. 26  Oherwydd mae gan y Tad y grym i roi bywyd,* ac mae wedi rhoi i’r Mab y grym i roi bywyd hefyd. 27  Ac mae wedi rhoi iddo awdurdod i farnu, oherwydd ef ydy Mab y dyn. 28  Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd mae’r awr yn dod pan fydd pawb sydd yn y beddau* yn clywed ei lais 29  ac yn dod allan. Bydd y rhai a wnaeth bethau da yn cael eu hatgyfodi i fywyd, a bydd y rhai a wnaeth bethau ffiaidd yn cael eu hatgyfodi i gael eu barnu. 30  Dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ar fy liwt fy hun. Rydw i’n barnu pobl yn ôl beth mae’r Tad yn ei ddweud wrtho i, ac mae fy marnedigaeth yn gyfiawn oherwydd fy mod i’n ceisio, nid fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr un a wnaeth fy anfon i. 31  “Os ydw i’n unig yn tystiolaethu amdana i fy hun, dydy fy nhystiolaeth ddim yn ddilys. 32  Mae ’na un arall sy’n tystiolaethu amdana i, ac rydw i’n gwybod bod ei dystiolaeth amdana i yn ddilys. 33  Rydych chi wedi anfon dynion at Ioan, ac mae ef wedi tystiolaethu am y gwir. 34  Fodd bynnag, dydw i ddim yn derbyn tystiolaeth gan ddyn, ond rydw i’n dweud y pethau hyn er mwyn ichi allu cael eich achub. 35  Roedd y dyn hwnnw yn lamp a oedd yn llosgi ac yn disgleirio, ac am gyfnod byr roeddech chi’n fodlon llawenhau’n fawr yn ei oleuni. 36  Dywedodd Ioan wrth y bobl fy mod i’n dod o’r Tad. Ond mae gen i fwy o dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i, hynny yw, fy mod i’n gwneud y gweithredoedd y gwnaeth ef fy mhenodi i i’w cyflawni. 37  Ac mae’r Tad ei hun a wnaeth fy anfon i wedi tystiolaethu amdana i. Dydych chi ddim wedi clywed ei lais ar unrhyw adeg na gweld ei wyneb, 38  a dydy ei air ddim yn eich calonnau, oherwydd dydych chi ddim yn credu’r union un y gwnaeth ef ei anfon. 39  “Rydych chi’n chwilio’r Ysgrythurau oherwydd rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n cael bywyd tragwyddol trwyddyn nhw; a dyma’r union rai* sy’n tystiolaethu amdana i. 40  Ac eto dydych chi ddim eisiau dod ata i er mwyn ichi gael bywyd. 41  Dydw i ddim yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion, 42  ond rydw i’n gwybod yn iawn nad ydych chi’n caru Duw. 43  Rydw i wedi dod yn enw fy Nhad, ond dydych chi ddim yn fy nerbyn i. Petai rhywun arall yn dod yn ei enw ei hun, fe fyddech chi’n derbyn yr un hwnnw. 44  Sut gallwch chi gredu, pan ydych chi’n derbyn gogoniant oddi wrth eich gilydd ond dydych chi ddim yn ceisio’r gogoniant sy’n dod oddi wrth yr unig Dduw? 45  Peidiwch â meddwl y bydda i’n eich cyhuddo chi o flaen y Tad; mae ’na un sy’n eich cyhuddo chi, Moses, yr un rydych chi wedi rhoi eich gobaith ynddo. 46  Yn wir, petasech chi wedi credu Moses, fe fyddech chi wedi fy nghredu i, oherwydd fe wnaeth ysgrifennu amdana i. 47  Ond os nad ydych chi’n credu’r hyn a ysgrifennodd ef, sut byddwch chi’n credu beth rydw i’n ei ddweud?”

Troednodiadau

Rhes o golofnau a tho arnyn nhw.
Neu “wedi eu parlysu.”
Neu “dy wely.”
Neu “ei wely.”
Neu “y gwely.”
Neu “dy wely.”
Neu “dy wely.”
Neu “mae gan y Tad ynddo ef ei hun y rhodd o fywyd.”
Neu “y beddrodau coffa.”
Hynny yw, yr Ysgrythurau.