Yn Ôl Mathew 4:1-25

  • Y Diafol yn temtio Iesu (1-11)

  • Iesu yn dechrau pregethu yng Ngalilea (12-17)

  • Galw’r disgyblion cyntaf (18-22)

  • Iesu yn pregethu, yn dysgu, ac yn iacháu (23-25)

4  Yna cafodd Iesu ei arwain gan yr ysbryd* i fyny i’r anialwch i gael ei demtio gan y Diafol.  Ar ôl iddo beidio â bwyta* am 40 dydd a 40 nos, roedd wedi llwgu.  A daeth y Temtiwr ato a dweud wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, dyweda wrth y cerrig hyn am droi’n fara.”  Ond atebodd: “Mae’n ysgrifenedig: ‘Mae’n rhaid i ddyn fyw, nid ar fara yn unig, ond ar bob gair sy’n dod o geg Jehofa.’”  Yna aeth y Diafol ag ef i’r ddinas sanctaidd, a’i osod ar ben wal uchaf* y deml  a dywedodd wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, tafla dy hun i lawr, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Bydd yn rhoi gorchymyn i’w angylion amdanat ti,’ a, ‘Byddan nhw’n dy gario di yn eu dwylo, fel na fyddi di’n taro dy droed yn erbyn carreg.’”  Dywedodd Iesu wrtho: “Unwaith eto, mae’n ysgrifenedig: ‘Paid â gosod Jehofa dy Dduw ar brawf.’”  Unwaith eto, aeth y Diafol ag ef i fynydd eithriadol o uchel a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant.  A dywedodd wrtho: “Fe wna i roi’r holl bethau hyn i ti os gwnei di syrthio i lawr a fy addoli i un waith.” 10  Yna dywedodd Iesu wrtho: “Dos o ’ma, Satan! Oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.’” 11  Yna dyma’r Diafol yn ei adael, ac edrycha! daeth angylion a dechrau gofalu amdano. 12  Nawr ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi cael ei arestio, aeth i ffwrdd i Galilea. 13  Ar ben hynny, ar ôl gadael Nasareth, aeth i fyw yng Nghapernaum sydd ar lan y môr yn ardaloedd Sebulon a Nafftali, 14  er mwyn cyflawni’r hyn a gafodd ei ddweud drwy Eseia’r proffwyd, a ddywedodd: 15  “O, bobl tiroedd Sebulon a Nafftali, sydd ar hyd ffordd y môr, ar yr ochr arall i’r Iorddonen, Galilea’r cenhedloedd! 16  Fe welodd y bobl sy’n eistedd mewn tywyllwch oleuni mawr, a disgleiriodd goleuni ar y rhai sy’n eistedd mewn tir o dan gysgod marwolaeth.” 17  O hynny ymlaen, dechreuodd Iesu bregethu, gan ddweud: “Edifarhewch, oherwydd y mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.” 18  Wrth gerdded ar lan Môr Galilea, fe welodd ddau frawd, Simon, sy’n cael ei alw’n Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, oherwydd pysgotwyr oedden nhw. 19  Ac fe ddywedodd wrthyn nhw: “Dewch ar fy ôl i, a bydda i’n eich gwneud chi’n bysgotwyr dynion.” 20  A dyma nhw’n gadael eu rhwydi ar unwaith a’i ddilyn ef. 21  Wrth iddo fynd yn ei flaen oddi yno, fe welodd ddau arall a oedd yn frodyr, Iago fab Sebedeus a’i frawd Ioan. Roedden nhw yn y cwch gyda Sebedeus eu tad, yn trwsio eu rhwydi, a dyma Iesu’n eu galw nhw. 22  A dyma nhw’n gadael eu cwch a’u tad ar unwaith a’i ddilyn ef. 23  Yna, fe aeth Iesu drwy hyd a lled Galilea, yn dysgu yn eu synagogau ac yn pregethu’r newyddion da am y Deyrnas ac yn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch ymhlith y bobl. 24  Aeth yr hanes amdano ar led drwy Syria gyfan, a dyma nhw’n dod â’r holl rai ato a oedd yn dioddef o wahanol afiechydon a phoenau ofnadwy, y rhai a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid a’r rhai a oedd yn epileptig a’r rhai a oedd wedi eu parlysu, a dyma’n eu hiacháu nhw. 25  O ganlyniad, gwnaeth tyrfaoedd mawr ei ddilyn o Galilea a Decapolis* a Jerwsalem a Jwdea ac o’r ochr arall i’r Iorddonen.

Troednodiadau

Hynny yw, ysbryd Duw.
Neu “Ar ôl iddo ymprydio.”
Neu “bylchfur, parapet; pwynt uchaf.”
Neu “Rhanbarth y Deg Dinas.”