At yr Effesiaid 5:1-33

  • Siarad ac ymddwyn yn bur (1-5)

  • Cerdded fel plant goleuni (6-14)

  • “Parhewch i gael eich llenwi â’r ysbryd” (15-20)

    • Defnyddio eich amser yn y ffordd orau (16)

  • Cyngor i wŷr a gwragedd (21-33)

5  Felly, byddwch yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl,  a pharhewch i gerdded mewn cariad, yn union fel y gwnaeth y Crist ein caru ninnau* hefyd a’i roi ei hun droston ni* yn offrwm ac yn aberth, yn arogl hyfryd i Dduw.  Ni ddylai neb yn eich plith hyd yn oed sôn am anfoesoldeb rhywiol* na phob math o aflendid na thrachwant, yn union fel sy’n briodol i bobl sanctaidd;  nac ymddygiad cywilyddus na siarad yn wirion na dweud jôcs anweddus—pethau amhriodol—ond yn hytrach rhoi diolch i Dduw.  Oherwydd rydych chi’n gwybod hyn, ac yn cydnabod hyn drostoch chi’ch hunain, nad oes unrhyw etifeddiaeth yn Nheyrnas Crist a Duw i unrhyw berson sy’n anfoesol yn rhywiol* nac i berson aflan nac i berson barus, sy’n golygu bod yn addolwr eilunod.  Peidiwch â gadael i neb eich twyllo chi â geiriau gwag, oherwydd o achos pethau o’r fath mae dicter Duw yn dod ar feibion anufudd-dod.  Felly, peidiwch â gwneud fel y maen nhw’n gwneud;*  oherwydd tywyllwch oeddech chi gynt, ond nawr goleuni ydych chi mewn undod â’r Arglwydd. Parhewch i gerdded fel plant goleuni,  oherwydd bod ffrwyth y goleuni yn cynnwys pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd. 10  Parhewch i wneud yn siŵr o’r hyn sy’n dderbyniol i’r Arglwydd; 11  a stopiwch gymryd rhan yn y gweithredoedd anffrwythlon sy’n perthyn i’r tywyllwch; yn hytrach, datgelwch y gwir amdanyn nhw. 12  Oherwydd cywilyddus ydy hyd yn oed sôn am y pethau maen nhw’n eu gwneud yn y dirgel. 13  Nawr, mae pob peth sy’n cael ei ddatgelu yn cael ei wneud yn amlwg gan y goleuni, oherwydd goleuni ydy pob peth sy’n cael ei wneud yn amlwg. 14  Felly, mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Deffra, ti sy’n cysgu, a choda o’r meirw, a bydd y Crist yn disgleirio arnat ti.” 15  Felly gwyliwch yn ofalus iawn eich bod chi’n cerdded, nid fel pobl annoeth, ond fel pobl ddoeth, 16  gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau,* oherwydd bod y dyddiau’n ddrwg. 17  Oherwydd hyn, stopiwch fod yn afresymol, ond parhewch i ddeall beth ydy ewyllys Jehofa. 18  Hefyd, peidiwch â meddwi ar win, sy’n arwain at ymddygiad gwyllt,* ond parhewch i gael eich llenwi â’r ysbryd. 19  Siaradwch â’ch gilydd* mewn salmau, moliannau i Dduw, a chaneuon ysbrydol, gan ganu a chwarae cerddoriaeth yn eich calonnau i Jehofa, 20  a phob amser yn diolch i’n Duw a’n Tad am bob peth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist. 21  Dylech chi ymostwng i’ch gilydd yn ofn Crist. 22  Gadewch i wragedd ymostwng i’w gwŷr fel i’r Arglwydd, 23  oherwydd mae’r gŵr yn ben ar ei wraig yn union fel mae’r Crist yn ben ar y gynulleidfa, ac ef yw achubwr y corff hwn. 24  Yn wir, fel mae’r gynulleidfa yn ymostwng i’r Crist, dylai gwragedd hefyd ymostwng i’w gwŷr ym mhob peth. 25  Chi wŷr, parhewch i garu eich gwragedd, yn union fel mae’r Crist hefyd wedi caru’r gynulleidfa a marw drosti, 26  er mwyn iddo sancteiddio’r gynulleidfa, a’i glanhau â gair Duw, fel petai mewn bath o ddŵr, 27  er mwyn iddo gyflwyno’r gynulleidfa iddo ef ei hun yn ei hysblander, heb smotyn nag unrhyw grych nac unrhyw beth o’r fath, ond yn sanctaidd a heb nam. 28  Yn yr un modd, dylai gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Mae dyn sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun, 29  oherwydd does yr un dyn erioed wedi casáu ei gorff* ei hun, ond mae’n ei fwydo ac yn ei drysori, yn union fel mae’r Crist yn gwneud â’r gynulleidfa, 30  oherwydd aelodau ei gorff ydyn ni. 31  “Am y rheswm hwn, bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam a bydd ef yn glynu wrth* ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.” 32  Mae’r gyfrinach gysegredig hon yn fawr. Nawr rydw i’n siarad am Grist a’r gynulleidfa. 33  Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob un ohonoch chi garu ei wraig fel y mae’n ei garu ei hun; ar y llaw arall, dylai’r wraig ddangos parch dwfn tuag at ei gŵr.

Troednodiadau

Neu efallai, “eich caru chithau.”
Neu efallai, “drostoch chi.”
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”
Neu “peidiwch â chymysgu â nhw.”
Llyth., “gan brynu’r amser penodedig.”
Neu “afreolus.”
Neu efallai, “â’ch hunain.”
Llyth., “ei gnawd.”
Neu “yn aros gyda.”