Llythyr Jwdas 1:1-25

  • Cyfarchion (1, 2)

  • Barnu gau athrawon yn sicr o ddod (3-16)

    • Dadl Michael â’r Diafol (9)

    • Proffwydoliaeth Enoch (14, 15)

  • Cadw eich hunain yng nghariad Duw (17-23)

  • Rhoi gogoniant i Dduw (24, 25)

 Jwdas, gwas i Iesu Grist, ond yn frawd i Iago, at y rhai sydd wedi cael eu galw, sef y rhai y mae Duw y Tad yn eu caru ac sydd wedi cael eu cadw i Iesu Grist.  Rydw i’n gweddïo y bydd Duw yn rhoi mwy a mwy o drugaredd a heddwch a chariad ichi.  Ffrindiau annwyl, er fy mod i’n gwneud pob ymdrech i ysgrifennu atoch chi am yr achubiaeth sy’n gyffredin rhyngon ni, roedd yn rhaid imi ysgrifennu atoch chi i’ch cymell chi i frwydro’n galed dros y ffydd a gafodd ei rhoi unwaith ac am byth i’r rhai sanctaidd.  Y rheswm yw bod rhai dynion wedi sleifio i mewn i’ch plith, rhai a benodwyd ers talwm i’r farnedigaeth hon gan yr Ysgrythurau; dynion annuwiol ydyn nhw sydd wedi troi caredigrwydd rhyfeddol ein Duw yn esgus dros ymddwyn heb gywilydd* ac sy’n anffyddlon i’n hunig Arglwydd sy’n berchen* arnon ni, Iesu Grist.  Er eich bod chi’n gwybod yn iawn am hyn i gyd, hoffwn eich atgoffa chi fod Jehofa,* ar ôl iddo achub pobl o wlad yr Aifft, wedi dinistrio’r rhai heb ffydd.  A’r angylion wnaeth ddim aros yn eu lle gwreiddiol ond a gefnodd ar eu cartref priodol, mae ef wedi eu rhwymo nhw am byth mewn tywyllwch trwchus ar gyfer barn y dydd mawr.  Yn yr un modd, gwnaeth Sodom a Gomorra a’r dinasoedd o’u cwmpas hefyd ymroi i anfoesoldeb rhywiol* difrifol a mynd ar ôl chwantau cnawdol annaturiol; maen nhw’n cael eu cosbi â thân tragwyddol ac felly mae eu hesiampl yn rhybudd i ni.  Er gwaethaf hyn, mae’r dynion hyn hefyd yn ffantasïo am bethau drwg, yn llygru’r cnawd, yn dirmygu awdurdod, ac yn siarad yn gas am rai gogoneddus.  Ond pan oedd Michael yr archangel yn cael ffrae â’r Diafol ac yn dadlau am gorff Moses, ni wnaeth feiddio ei farnu trwy ddefnyddio geiriau cas, ond dywedodd: “Bydd Jehofa yn dy geryddu.” 10  Ond mae’r dynion hyn yn siarad yn gas am yr holl bethau nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn eu deall. Ac fel anifeiliaid direswm, maen nhw’n parhau i’w llygru eu hunain yn yr holl bethau y maen nhw’n eu deall wrth reddf. 11  Gwae nhw, oherwydd eu bod nhw wedi dilyn llwybr Cain ac wedi rhuthro i ddilyn cwrs anghywir Balaam er mwyn cael gwobr, ac maen nhw wedi cael eu dinistrio drwy siarad yn wrthryfelgar fel y gwnaeth Cora! 12  Mae’r dynion hyn yn bresennol gyda chi yn eich gwleddoedd sy’n cael eu cynnal i fynegi cariad tuag at y brodyr.* Fodd bynnag, creigiau sy’n cuddio o dan y dŵr ydyn nhw; bugeiliaid sy’n eu bwydo eu hunain heb ofn; cymylau heb ddŵr sy’n cael eu chwythu yma ac acw gan y gwynt; coed heb ffrwyth yn hwyr yn yr hydref, sydd wedi marw ddwywaith* ac sydd wedi cael eu dadwreiddio; 13  tonnau gwyllt y môr sy’n poeri allan ewyn eu gwarth eu hunain; sêr heb lwybrau sefydlog, ac yn y tywyllwch mwyaf du y byddan nhw’n cael eu cadw am byth. 14  Yn wir, gwnaeth Enoch, y seithfed un yn llinach Adda, hefyd broffwydo amdanyn nhw pan ddywedodd: “Edrychwch! Daeth Jehofa gyda’i fyrddiynau* sanctaidd 15  i weithredu barn ar bawb, ac i gondemnio’r holl rai annuwiol am eu holl weithredoedd annuwiol a gyflawnon nhw mewn ffordd annuwiol, ac am yr holl bethau cas a ddywedodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn.” 16  Dynion sy’n grwgnach ydy’r rhain, sy’n cwyno am y math o fywyd sydd ganddyn nhw, sy’n dilyn eu chwantau eu hunain, a’u cegau yn llawn brolio mawr, wrth iddyn nhw seboni eraill er eu lles eu hunain. 17  O’ch rhan chi, ffrindiau annwyl, dylech chi ddwyn i gof y pethau sydd wedi cael eu dweud ynghynt* gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist, 18  sut roedden nhw’n arfer dweud wrthoch chi: “Yn yr amser diwethaf fe fydd rhai sy’n gwawdio, yn dilyn eu chwantau eu hunain am bethau annuwiol.” 19  Dyma’r rhai sy’n achosi rhaniadau, dynion anifeilaidd,* heb fod ganddyn nhw ysbryd Duw.* 20  Ond y chi, ffrindiau annwyl, adeiladwch eich hunain ar eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïwch â help yr ysbryd glân, 21  er mwyn ichi eich cadw eich hunain yng nghariad Duw, wrth ichi ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist sy’n arwain i fywyd tragwyddol. 22  Hefyd, daliwch ati i fod yn drugarog wrth rai sydd ag amheuon, 23  achubwch nhw drwy eu cipio nhw allan o’r tân. Ond daliwch ati i fod yn drugarog wrth eraill, gan wneud hynny gydag ofn, tra byddwch chi’n casáu hyd yn oed y dilledyn sydd wedi ei staenio gan y cnawd. 24  Nawr i’r un sy’n gallu eich gwarchod chi rhag baglu ac sy’n gwneud ichi sefyll yn ddi-fai o flaen ei ogoniant* gyda llawenydd mawr, 25  i’r unig Dduw ein Hachubwr trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y mae gogoniant, mawredd, nerth, ac awdurdod yn perthyn iddo ers holl dragwyddoldeb y gorffennol, nawr, ac am byth. Amen.

Troednodiadau

Neu “ymddwyn yn haerllug.” Groeg, aselgeia. Gweler Geirfa.
Neu “sy’n feistr.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Gweler Geirfa.
Llyth., “cariad-wleddoedd.”
Neu “sy’n hollol farw.”
Neu “degau o filoedd.”
Neu “sydd wedi cael eu rhagddweud.”
Neu “dynion corfforol.”
Llyth., “yr ysbryd.”
Neu “yn ei bresenoldeb gogoneddus.”