Yn Ôl Luc 11:1-54

  • Sut i weddïo (1-13)

    • Gweddi enghreifftiol (2-4)

  • Cythreuliaid yn cael eu bwrw allan drwy fys Duw (14-23)

  • Ysbryd aflan yn mynd yn ôl (24-26)

  • Gwir hapusrwydd (27, 28)

  • Arwydd Jona (29-32)

  • Lamp y corff (33-36)

  • Gwae i ragrithwyr crefyddol (37-54)

11  Nawr, roedd Iesu mewn rhyw le penodol yn gweddïo, ac ar ôl iddo stopio, dyma un o’i ddisgyblion yn dweud wrtho: “Arglwydd, dysga inni sut i weddïo, yn union fel dysgodd Ioan hefyd i’w ddisgyblion.”  Felly, dywedodd wrthyn nhw: “Bryd bynnag rydych chi’n gweddïo, dywedwch: ‘Dad, gad i dy enw gael ei sancteiddio.* Gad i dy Deyrnas ddod.  Rho inni bob dydd y bara sydd ei angen arnon ni.  A maddau inni ein pechodau, oherwydd rydyn ninnau hefyd yn maddau i bob un sydd mewn dyled inni; a phaid â gadael inni ildio i demtasiwn.’”  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Dychmygwch fod gan un ohonoch chi ffrind ac rydych chi’n mynd ato hanner nos a dweud wrtho, ‘Ffrind, ga i fenthyg tair torth gen ti?  Oherwydd mae un o fy ffrindiau newydd ddod ata i o bell i ffwrdd a does gen i ddim byd i’w gynnig iddo.’  Ond mae’r un hwnnw yn ateb o’r tu mewn: ‘Gad lonydd imi. Mae’r drws wedi ei gloi yn barod, ac mae fy mhlant bach yma yn y gwely gyda mi. Dydw i ddim yn gallu codi i roi dim byd iti.’  Rydw i’n dweud wrthoch chi, hyd yn oed os yw’n gwrthod codi i roi unrhyw beth i’w ffrind, fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo beth bynnag mae’n ei angen am iddo ofyn heb stopio.  Felly rydw i’n dweud wrthoch chi, daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch chi’n darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi. 10  Oherwydd mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a phawb sy’n ceisio yn darganfod, ac i bawb sy’n cnocio, bydd y drws yn cael ei agor. 11  Yn wir, pa dad yn eich plith chi, petai ei fab yn gofyn am bysgodyn, fyddai’n rhoi neidr* iddo yn hytrach na physgodyn? 12  Neu, petai’n gofyn am wy, fyddai’n rhoi sgorpion iddo? 13  Felly, os ydych chithau, er eich bod chi’n ddrwg, yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, gymaint yn fwy y bydd y Tad sydd yn y nef yn rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!” 14  Yn nes ymlaen, dyma’n bwrw allan gythraul a oedd yn fud. Ar ôl i’r cythraul ddod allan, dechreuodd y dyn mud siarad, ac roedd y tyrfaoedd wedi synnu. 15  Ond dywedodd rhai ohonyn nhw: “Mae’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl,* rheolwr y cythreuliaid.” 16  Ac roedd eraill yn ceisio ei brofi, ac yn mynnu cael arwydd o’r nef ganddo. 17  Roedd ef yn gwybod beth oedd yn eu meddyliau. Felly, dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae pob teyrnas sydd wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun yn dod i ddinistr, a phob tŷ sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun yn syrthio. 18  Yn yr un modd, os ydy Satan hefyd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut bydd ei deyrnas yn sefyll? Oherwydd rydych chi’n dweud fy mod i’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl. 19  Os ydw i’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl, drwy gyfrwng pwy mae eich meibion chi yn eu bwrw nhw allan? Dyna pam mai nhw fydd yn eich barnu chi. 20  Ond os mai drwy fys Duw rydw i’n bwrw cythreuliaid allan, mae Teyrnas Dduw yn wir wedi mynd heibio ichi. 21  Pan fydd dyn cryf, sydd wedi ei arfogi’n dda, yn gwarchod ei balas, mae ei eiddo yn aros yn ddiogel. 22  Ond pan fydd rhywun sy’n gryfach nag ef yn dod yn ei erbyn ac yn ei orchfygu, bydd y dyn hwnnw yn cymryd yr arfau mae’n ymddiried ynddyn nhw oddi arno, ac mae’n rhannu’r pethau a gymerodd oddi arno. 23  Mae pwy bynnag sydd ddim ar fy ochr i yn fy erbyn i, ac mae pwy bynnag sydd ddim yn casglu gyda mi yn gwasgaru. 24  “Pan fydd ysbryd aflan yn dod allan o ddyn, mae’n pasio drwy lefydd sydd heb ddŵr yn chwilio am rywle i orffwys, ond ar ôl methu dod o hyd i rywle, mae’n dweud, ‘Bydda i’n mynd yn ôl i fy nhŷ o le symudais i.’ 25  Ac ar ôl cyrraedd, mae’n gweld bod y tŷ wedi ei ysgubo’n lân a’i addurno. 26  Yna mae’n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall sy’n fwy drwg nag ef, ac ar ôl mynd i mewn, maen nhw’n ymgartrefu yno. Ac mae cyflwr y dyn hwnnw’n waeth ar y diwedd nag yr oedd ar y cychwyn.” 27  Nawr, tra oedd yn dweud y pethau hyn, dyma ddynes* o’r dyrfa yn gweiddi arno: “Hapus ydy’r groth a wnaeth dy gario di a’r bronnau a roddodd laeth iti!” 28  “Nage,” meddai yntau. “Yn hytrach, hapus ydy’r rhai sy’n clywed gair Duw ac yn ei gadw!” 29  Pan oedd y tyrfaoedd yn cynyddu, dechreuodd Iesu ddweud: “Mae’r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrwg; mae hi’n chwilio am arwydd, ond ni fydd arwydd yn cael ei rhoi iddi heblaw am arwydd Jona. 30  Oherwydd yn union fel roedd Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly bydd Mab y dyn i’r genhedlaeth hon. 31  Bydd brenhines y de yn cael ei hatgyfodi yn ystod y farn gyda dynion y genhedlaeth hon ac yn eu condemnio nhw, oherwydd fe ddaeth hi o ben draw’r byd i glywed doethineb Solomon. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Solomon yma. 32  Bydd dynion Ninefe yn cael eu hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi, oherwydd eu bod nhw wedi edifarhau ar ôl clywed neges Jona. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Jona yma. 33  Ar ôl goleuo lamp, mae person yn ei rhoi hi, nid mewn lle cuddiedig nac o dan fasged, ond ar ei stand, fel y gall y rhai sy’n dod i mewn weld y goleuni. 34  Lamp y corff ydy dy lygad. Pan fydd dy lygad wedi ei ffocysu,* bydd dy gorff cyfan hefyd yn ddisglair;* ond pan fydd yn genfigennus,* bydd dy gorff hefyd yn dywyll. 35  Gwylia, felly, nad ydy’r goleuni sydd ynot ti yn dywyllwch. 36  Felly, os ydy dy gorff cyfan yn ddisglair heb unrhyw ran ohono’n dywyll, fe fydd mor ddisglair â lamp sy’n rhoi goleuni iti.” 37  Ar ôl iddo ddweud hyn, gofynnodd Pharisead iddo gael pryd o fwyd gydag ef. Felly aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd. 38  Fodd bynnag, roedd y Pharisead wedi synnu pan welodd nad oedd Iesu wedi ymolchi* cyn bwyta. 39  Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho: “Nawr chi Phariseaid, rydych chi’n glanhau y tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ond y tu mewn rydych chi’n hollol farus ac yn ddrwg. 40  Chi bobl afresymol! Mae’r un sydd wedi gwneud y tu allan wedi gwneud hefyd y tu mewn, ydych chi’n cytuno? 41  Ond pan fyddwch chi’n rhoi i’r tlawd* fe ddylai ddod o’r tu mewn, ac edrychwch! fe fydd popeth amdanoch chi yn lân. 42  Ond gwae chi Phariseaid, oherwydd rydych chi’n rhoi un rhan o ddeg o’r mintys a’r rhuw a phob un o berlysiau eraill yr ardd, ond rydych chi’n diystyru cyfiawnder a chariad Duw! Roeddech chi o dan reidrwydd i wneud y pethau hyn, ond nid i ddiystyru’r pethau eraill. 43  Gwae chi Phariseaid, oherwydd rydych chi’n caru’r seddi blaen* yn y synagogau a’r cyfarchion yn y marchnadoedd! 44  Gwae chi, oherwydd rydych chi’n debyg i’r beddau hynny sy’n anodd eu gweld,* beddau y mae dynion yn cerdded arnyn nhw heb wybod!” 45  Atebodd un o arbenigwyr y Gyfraith: “Athro, wrth ddweud y pethau hyn, rwyt ti’n ein sarhau ninnau hefyd.” 46  Yna dywedodd ef: “Gwae chi hefyd sy’n arbenigwyr yn y Gyfraith, oherwydd rydych chi’n gorlwytho dynion â llwythi sy’n anodd eu cario, ond dydych chi’ch hunain ddim yn cyffwrdd â’r llwythi ag un o’ch bysedd chi! 47  “Gwae chi, oherwydd rydych chi’n adeiladu beddrodau* i’r proffwydi, ond fe wnaeth eich cyndadau eu lladd nhw! 48  Yn wir rydych chi’n dystion i weithredoedd eich cyndadau, ond eto rydych chi’n eu cymeradwyo nhw, oherwydd fe wnaethon nhw ladd y proffwydi ond rydych chithau’n adeiladu eu beddrodau. 49  Dyna pam mae doethineb Duw hefyd yn dweud: ‘Fe wna i anfon proffwydi ac apostolion atyn nhw, a byddan nhw’n lladd ac yn erlid rhai ohonyn nhw, 50  fel y bydd gwaed yr holl broffwydi a gafodd ei dywallt* ers sefydlu’r byd yn gallu cael ei gyfri yn erbyn y genhedlaeth hon, 51  o waed Abel hyd at waed Sechareia, a gafodd ei ladd rhwng yr allor a’r tŷ.’* Ie, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hyn yn cael ei gyfri yn erbyn y genhedlaeth hon. 52  “Gwae chi sy’n arbenigwyr yn y Gyfraith, oherwydd fe wnaethoch chi gymryd i ffwrdd allwedd gwybodaeth. Ni wnaethoch chi’ch hunain fynd i mewn, ac rydych chi’n rhwystro’r rhai sy’n mynd i mewn!” 53  Felly ar ôl iddo fynd allan oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ei roi o dan bwysau enfawr a’i holi drwy daflu llawer iawn mwy o gwestiynau ato, 54  gan aros iddo ddweud rhywbeth y bydden nhw’n gallu ei ddefnyddio yn ei erbyn.

Troednodiadau

Neu “ei ystyried yn gysegredig; ei drin yn sanctaidd.”
Neu “sarff.”
Neu “Beelsebub.” Enw a roddwyd ar Satan.
Neu “dyma fenyw.”
Neu “yn gweld yn glir.” Llyth., “yn syml.”
Neu “yn llawn goleuni.”
Llyth., “yn ddrwg.”
Hynny yw, ei lanhau ei hun yn seremonïol.
Neu “rhoi rhoddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.
Neu “gorau.”
Neu “y beddau dienw hynny.”
Neu “beddrodau coffa.”
Neu “arllwys.”
Neu “a’r deml.”