Datguddiad i Ioan 11:1-19

  • Y ddau dyst (1-13)

    • Proffwydo am 1,260 diwrnod mewn sachliain (3)

    • Wedi eu lladd a heb eu claddu (7-10)

    • Dod yn ôl yn fyw ar ôl tri diwrnod a hanner (11, 12)

  • Ail wae wedi pasio, y trydydd yn dod (14)

  • Y seithfed trwmped (15-19)

    • Teyrnas ein Harglwydd a’i Grist (15)

    • Y rhai sy’n dinistrio’r ddaear yn cael eu dinistrio (18)

11  Ac fe gafodd corsen fel ffon* ei rhoi imi wrth iddo ddweud: “Cod a mesura gysegr teml Duw a’r allor a’r rhai sy’n addoli ynddi.  Ond ynglŷn â’r cwrt sydd y tu allan i gysegr y deml, paid â’i gynnwys a phaid â’i fesur, oherwydd mae wedi cael ei roi i’r cenhedloedd, a byddan nhw’n sathru’r ddinas sanctaidd dan draed am 42 o fisoedd.  Bydda i’n achosi i fy nau dyst broffwydo am 1,260 o ddyddiau wedi eu gwisgo mewn sachliain.”  Mae’r rhain yn cael eu symboleiddio gan y ddwy olewydden a’r ddau ganhwyllbren ac maen nhw’n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.  Os oes rhywun eisiau eu niweidio nhw, mae tân yn dod allan o’u cegau ac yn dinistrio eu gelynion. Os oes rhywun eisiau eu niweidio nhw, dyma sut y dylai hwnnw gael ei ladd.  Mae gan y rhain yr awdurdod i gau’r awyr* fel na fydd unrhyw law yn disgyn yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac mae ganddyn nhw awdurdod dros y dyfroedd i’w troi nhw’n waed ac i daro’r ddaear â phob math o bla mor aml ag y maen nhw eisiau.  Pan fyddan nhw wedi gorffen eu tystiolaethu, bydd y bwystfil gwyllt sy’n codi o’r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn nhw ac yn eu concro nhw ac yn eu lladd nhw.  A bydd eu cyrff ar brif stryd y ddinas fawr sydd, mewn ystyr ysbrydol, yn cael ei galw’n Sodom a’r Aifft, lle cafodd eu Harglwydd hefyd ei ddienyddio ar y stanc.  A bydd rhai o’r bobloedd a’r llwythau a’r ieithoedd a’r cenhedloedd yn edrych ar eu cyrff am dri diwrnod a hanner, a fyddan nhw ddim yn caniatáu i’w cyrff gael eu gosod mewn beddrod. 10  Ac mae’r rhai sy’n byw ar y ddaear yn llawenhau drostyn nhw ac yn dathlu, a byddan nhw’n anfon anrhegion at ei gilydd, oherwydd bod y ddau broffwyd hyn wedi poenydio’r rhai sy’n byw ar y ddaear. 11  Ar ôl y tri diwrnod a hanner, aeth ysbryd bywyd oddi wrth Dduw i mewn iddyn nhw, a dyma nhw’n sefyll ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai a welson nhw. 12  A chlywson nhw lais uchel o’r nef yn dweud wrthyn nhw: “Dewch i fyny yma.” Ac fe aethon nhw i fyny i mewn i’r nef yn y cwmwl, ac fe wnaeth eu gelynion eu gweld nhw.* 13  Yn yr awr honno, roedd ’na ddaeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o’r ddinas; a chafodd 7,000 o bobl eu lladd gan y daeargryn, a daeth ofn ar y gweddill a dyma nhw’n rhoi clod i Dduw y nefoedd. 14  Mae’r ail wae wedi mynd heibio. Edrychwch! Mae’r trydydd gwae yn dod yn gyflym. 15  Canodd y seithfed angel ei drwmped. Ac roedd ’na leisiau uchel yn y nef yn dweud: “Mae teyrnas y byd wedi troi’n Deyrnas ein Harglwydd a’i Grist, a bydd ef yn rheoli’n frenin am byth bythoedd.” 16  A dyma’r 24 henuriad a oedd yn eistedd o flaen Duw ar eu gorseddau yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, 17  gan ddweud: “Rydyn ni’n diolch i ti, Jehofa Dduw, yr Hollalluog, yr un sy’n bodoli nawr ac a oedd yn bodoli gynt, oherwydd dy fod ti wedi cymryd dy rym mawr a dechrau rheoli’n frenin. 18  Ond trodd y cenhedloedd yn ddig, a daeth dy ddicter dy hun, a daeth yr amser penodedig i farnu’r meirw ac i wobrwyo dy gaethweision y proffwydi a’r rhai sanctaidd a’r rhai sy’n ofni dy enw, y rhai bach a’r rhai mawr, ac i ddinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.” 19  A chafodd cysegr teml Duw yn y nef ei agor, a chafodd arch ei gyfamod ei gweld yng nghysegr ei deml. Ac roedd ’na fflachiadau o fellt a lleisiau a tharanau a daeargryn a chenllysg* mawr.

Troednodiadau

Neu “ffon fesur.”
Neu “nef.”
Neu “roedd eu gelynion yn edrych.”
Neu “a chesair.”