Datguddiad i Ioan 21:1-27

  • Nef newydd a daear newydd (1-8)

    • Dim marwolaeth mwyach (4)

    • Gwneud pob peth yn newydd (5)

  • Disgrifio Jerwsalem Newydd (9-27)

21  Ac fe welais nef newydd a daear newydd; oherwydd roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu, a dydy’r môr ddim yn bodoli mwyach.  Fe welais hefyd y ddinas sanctaidd, Jerwsalem Newydd, yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw ac wedi ei pharatoi fel priodferch a oedd wedi cael ei haddurno ar gyfer ei gŵr.  Gyda hynny, fe glywais lais uchel o’r orsedd yn dweud: “Edrychwch! Mae pabell Duw gyda dynolryw, a bydd ef yn byw gyda nhw, a byddan nhw’n bobl iddo ef. A bydd Duw ei hun gyda nhw.  A bydd ef yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw, ac ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach. Mae’r hen bethau wedi diflannu.”  A dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: “Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd: “Ysgrifenna, oherwydd mae’r geiriau hyn yn ffyddlon* ac yn wir.”  A dywedodd wrtho i: “Maen nhw eisoes wedi digwydd! Fi ydy’r Alffa a’r Omega,* y dechrau a’r diwedd. I bwy bynnag sy’n sychedig fe fydda i’n rhoi dŵr am ddim* o ffynnon dŵr y bywyd.  Bydd unrhyw un sy’n concro yn etifeddu’r pethau hyn, a bydda i’n Dduw iddo ef a bydd yntau’n fab i mi.  Ond o ran y rhai llwfr a’r rhai heb ffydd a’r rhai sy’n ffiaidd yn eu budreddi a llofruddion a’r rhai sy’n anfoesol yn rhywiol* a’r rhai sy’n arfer ysbrydegaeth ac addolwyr eilunod a’r holl rai celwyddog, mae’r llyn sy’n llosgi â thân a sylffwr yn disgwyl amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu’r ail farwolaeth.”  Daeth un o’r saith angel a oedd â’r saith powlen yn llawn o’r saith pla diwethaf a dweud wrtho i: “Tyrd, ac fe wna i ddangos iti’r briodferch, gwraig yr Oen.” 10  Felly fe wnaeth fy nghario i ffwrdd yng ngrym yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi’r ddinas sanctaidd Jerwsalem yn dod i lawr o’r nef oddi wrth Dduw 11  ac roedd gogoniant Duw ganddi. Roedd yn disgleirio fel gem hynod o werthfawr, fel gem iasbis yn disgleirio fel grisial clir. 12  Roedd ganddi wal fawr ac uchel a 12 giât a 12 angel wrth y giatiau, ac ar y giatiau roedd enwau 12 llwyth meibion Israel wedi cael eu hysgrifennu. 13  Roedd ’na dair giât i’r dwyrain, tair giât i’r gogledd, tair giât i’r de, a thair giât i’r gorllewin. 14  Hefyd, roedd gan wal y ddinas 12 carreg sylfaen, ac arnyn nhw roedd 12 enw 12 apostol yr Oen. 15  Nawr roedd yr un a oedd yn siarad â mi yn dal corsen aur er mwyn mesur y ddinas a’i giatiau a’i wal. 16  Ac mae’r ddinas wedi ei gosod yn sgwâr, a’i hyd yn gyfartal â’i lled. Ac fe mesurodd y ddinas â’r gorsen, 12,000 stadiwm;* mae ei hyd a’i lled a’i huchder yn gyfartal. 17  Mesurodd hefyd ei wal, 144 cufydd* yn ôl mesur dyn, sydd yr un fath â mesur angel. 18  Nawr roedd y wal wedi ei gwneud o iasbis, a’r ddinas yn aur pur fel gwydr clir. 19  Roedd sylfeini wal y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: y sylfaen gyntaf oedd iasbis, yr ail saffir, y drydedd calsedon, y bedwaredd emrallt, 20  y bumed sardonics, y chweched sardion, y seithfed eurfaen, yr wythfed beryl, y nawfed topas, y ddegfed crysopras, yr unfed a’r ddeg hiasinth, y ddeuddegfed amethyst. 21  Hefyd, 12 perl oedd y 12 giât; pob un o’r giatiau wedi ei wneud o un perl. Ac roedd prif stryd y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw. 22  Welais i ddim teml ynddi, oherwydd Jehofa Dduw yr Hollalluog ydy ei theml, hefyd yr Oen ydy ei theml. 23  A does dim rhaid i’r haul nac i’r lleuad dywynnu arni, oherwydd bod gogoniant Duw wedi ei goleuo hi, a’i lamp oedd yr Oen. 24  A bydd y cenhedloedd yn cerdded yn ei goleuni, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u gogoniant i mewn iddi. 25  Ni fydd ei giatiau yn cael eu cau o gwbl yn ystod y dydd, oherwydd ni fydd nos yn bodoli yno. 26  A byddan nhw’n dod â gogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd i mewn iddi. 27  Ond ni fydd dim byd amhur ac ni fydd neb sy’n gwneud yr hyn sy’n ffiaidd ac sy’n dwyllodrus yn cael mynd i mewn iddi; dim ond y rhai sydd â’u henwau wedi eu hysgrifennu yn sgrôl bywyd yr Oen sy’n cael mynd i mewn.

Troednodiadau

Neu “yn ddibynadwy.”
Alffa ac Omega ydy’r llythyren gyntaf a’r olaf o’r wyddor Roeg.
Neu “heb gost.”
Gweler Geirfa, “Anfoesoldeb rhywiol.”
Tua 2,220 km (1,379 mi). Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).
Tua 64 m (210 tr).