Yn Ôl Mathew 2:1-23

  • Ymweliad astrolegwyr (1-12)

  • Ffoi i’r Aifft (13-15)

  • Herod yn lladd bechgyn ifanc (16-18)

  • Dychwelyd i Nasareth (19-23)

2  Ar ôl i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn ystod dyddiau Herod* y brenin, edrycha! daeth astrolegwyr* o’r Dwyrain i Jerwsalem,  yn dweud: “Ble mae’r un sydd wedi cael ei eni’n frenin yr Iddewon? Oherwydd ein bod ni wedi gweld ei seren pan oedden ni yn y Dwyrain, ac rydyn ni wedi dod i ymgrymu* o’i flaen.”  Ar ôl clywed hyn, roedd y Brenin Herod wedi cynhyrfu, a Jerwsalem i gyd gydag ef.  Ac ar ôl iddo alw at ei gilydd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, gofynnodd iddyn nhw ble roedd y Crist* i gael ei eni.  Dywedon nhw wrtho: “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd dyma sut mae wedi cael ei ysgrifennu drwy’r proffwyd:  ‘A tithau, O Fethlehem yng ngwlad Jwda, nid ti yw’r ddinas leiaf pwysig ymhlith llywodraethwyr Jwda, oherwydd allan ohonot ti y bydd un sy’n llywodraethu yn dod, un a fydd yn bugeilio fy mhobl Israel.’”  Yna, yn ddistaw bach, dyma Herod yn galw’r astrolegwyr ato a’u holi’n fanwl pa bryd roedd y seren wedi ymddangos.  Pan oedd yn eu hanfon nhw i Fethlehem, dywedodd: “Ewch i chwilio’n ofalus am y plentyn bach, a phan ydych chi wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod imi er mwyn i mi fynd hefyd ac ymgrymu o’i flaen.”  Ar ôl iddyn nhw wrando ar y brenin, aethon nhw ar eu ffordd, ac edrycha! dyma’r seren a welson nhw tra oedden nhw yn y Dwyrain yn mynd o’u blaenau nes iddi stopio uwchben lle roedd y plentyn bach. 10  A phan welson nhw’r seren, roedden nhw’n llawen dros ben. 11  A phan aethon nhw i mewn i’r tŷ, fe welson nhw’r plentyn bach gyda Mair ei fam, a dyma nhw’n syrthio i lawr ac ymgrymu* o’i flaen. Dyma nhw hefyd yn agor eu trysorau a chyflwyno anrhegion iddo—aur a thus a myrr. 12  Fodd bynnag, oherwydd iddyn nhw gael eu rhybuddio gan Dduw mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod, aethon nhw yn ôl i’w gwlad ar hyd ffordd arall. 13  Ar ôl iddyn nhw ymadael, edrycha! gwnaeth angel Jehofa ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddweud: “Cod, cymera’r plentyn bach a’i fam a dylet ti ffoi i’r Aifft, ac aros yno hyd nes imi ddweud wrthot ti am adael, oherwydd mae Herod ar fin mynd i chwilio am y plentyn bach er mwyn ei ladd.” 14  Felly cododd Joseff liw nos a chymryd y plentyn bach a’i fam ac aethon nhw i mewn i’r Aifft. 15  Arhosodd yno hyd nes i Herod farw. Fe gyflawnodd hyn beth ddywedodd Jehofa drwy ei broffwyd, gan ddweud: “Gwnes i alw fy mab allan o’r Aifft.” 16  Yna, pan welodd Herod fod yr astrolegwyr wedi ei dwyllo, aeth yn gandryll ac anfon pobl allan a’u gorchymyn i ladd yr holl fechgyn ym Methlehem ac yn ei holl ranbarthau, a oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, yn ôl yr amser roedd ef wedi holi’r astrolegwyr yn fanwl amdano. 17  Yna y cyflawnwyd yr hyn a gafodd ei ddweud drwy Jeremeia y proffwyd, a ddywedodd: 18  “Ac fe gafodd llais ei glywed yn Rama, yn wylo ac yn llawn galar. Roedd Rachel yn wylo am ei phlant, ac roedd hi’n gwrthod cael ei chysuro, oherwydd eu bod nhw wedi marw.” 19  Pan fu farw Herod, edrycha! gwnaeth angel Jehofa ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft 20  a dweud: “Cod, cymera’r plentyn bach a’i fam a dos i wlad Israel, oherwydd bod y rhai a oedd yn ceisio lladd y plentyn bach wedi marw.” 21  Felly cododd a chymryd y plentyn bach a’i fam a mynd i wlad Israel. 22  Ond ar ôl clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, roedd arno ofn mynd yno. Ar ben hynny, oherwydd iddo gael ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, symudodd i ardal Galilea. 23  Ac ymsefydlodd mewn dinas o’r enw Nasareth, er mwyn cyflawni’r hyn a gafodd ei ddweud drwy’r proffwydi: “Bydd yn cael ei alw’n Nasaread.”*

Troednodiadau

Gweler Geirfa.
Neu “magi.”
Neu “i blygu.”
Neu “y Meseia; yr Un Eneiniog.”
Neu “a phlygu.”
Hynny yw, “dyn o Nasareth.” Yn ôl pob tebyg, o’r ymadrodd Hebraeg “blaguryn.”