At y Rhufeiniaid 1:1-32

  • Cyfarchion (1-7)

  • Dymuniad Paul i ymweld â Rhufain (8-15)

  • Bydd yr un cyfiawn yn byw trwy ffydd (16, 17)

  • Does gan bobl annuwiol ddim esgus (18-32)

    • Gweld rhinweddau Duw yn y greadigaeth (20)

1  Oddi wrth Paul mae’r llythyr hwn, caethwas i Grist Iesu. Ges i fy ngalw i fod yn apostol a fy mhenodi* i gyhoeddi newyddion da Duw.  Fe wnaeth Duw addo’r newyddion da hyn amser maith yn ôl yn yr Ysgrythurau sanctaidd drwy ei broffwydi.  Mae’r neges yn sôn am ei Fab, a oedd yn ddisgynnydd i Dafydd.*  Mae’n amlwg mai Mab Duw ydy hwn oherwydd bod Duw wedi defnyddio grym ei ysbryd glân i’w atgyfodi o’r meirw—ie, Iesu Grist ein Harglwydd.  Trwyddo ef, dangosodd Duw ei garedigrwydd rhyfeddol inni. Gwnaeth Iesu fy newis i i fod yn apostol er mwyn helpu pobl o bob cenedl i ddangos ffydd ac ufudd-dod ac i anrhydeddu ei enw.  Rydych chithau hefyd ymhlith y rhai o’r cenhedloedd sydd wedi cael gwahoddiad* i ddilyn Iesu Grist.  Mae’r llythyr hwn at yr holl rai yn Rhufain y mae Duw yn eu caru, y rhai sydd wedi cael eu galw i fod yn rhai sanctaidd: Rydw i’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.  Yn gyntaf oll, rydw i’n diolch i fy Nuw trwy Iesu Grist amdanoch chi i gyd, oherwydd mae llawer o bobl drwy gydol y byd yn siarad am eich ffydd.  Rydw i’n gwasanaethu Duw â fy holl galon* drwy ledaenu’r newyddion da am ei Fab, ac mae Duw yn gwybod dydw i byth yn stopio sôn amdanoch chi yn fy ngweddïau. 10  Rydw i’n gweddïo y bydda i, o’r diwedd, yn gallu dod atoch chi, os ydy hynny’n bosib ac os dyna ydy ewyllys Duw. 11  Oherwydd rydw i’n wir eisiau eich gweld chi er mwyn imi rannu rhodd ysbrydol â chi i gryfhau eich ffydd; 12  neu, yn hytrach, inni i gyd gael ein calonogi gan ffydd ein gilydd. 13  Rydw i eisiau ichi wybod, frodyr, fy mod i wedi bwriadu dod atoch chi lawer gwaith—ond dydy hyn ddim wedi bod yn bosib. Roeddwn i eisiau gweld y canlyniadau da o’n gwaith pregethu yno, fel sy’n digwydd yng ngweddill y cenhedloedd. 14  Mae gen i ddyletswydd tuag at bawb: at y Groegiaid ac at yr estroniaid, at y rhai doeth ac at y rhai ffôl. 15  Felly rydw i’n awyddus i gyhoeddi’r newyddion da i chithau hefyd yn Rhufain. 16  Does gen i ddim cywilydd o’r newyddion da. Yn wir, dyna ydy ffordd nerthol Duw o achub pawb sy’n dangos ffydd, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid. 17  Mae cyfiawnder Duw yn cael ei ddatgelu i’r rhai sy’n dangos ffydd, ac mae hyn yn cryfhau eu ffydd, yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Ond bydd yr un cyfiawn yn byw oherwydd ei ffydd.” 18  Mae Duw yn datgelu ei ddicter o’r nef yn erbyn yr holl bethau drwg ac anghyfiawn mae dynion yn eu gwneud. Maen nhw’n rhwystro’r gwir rhag cael ei ledaenu. 19  Mae’r hyn sy’n gallu cael ei wybod am Dduw wedi cael ei ddangos iddyn nhw’n eglur; Duw ydy’r un sydd wedi gwneud hynny’n eglur iddyn nhw. 20  Rydyn ni’n gallu deall ei rinweddau anweledig os ydyn ni’n astudio’r ffordd mae’r byd wedi cael ei greu. Rydyn ni’n gallu dysgu amdano drwy edrych yn fanwl ar y pethau mae ef wedi eu creu. Mae’r pethau hynny yn dangos ei nerth tragwyddol ac yn profi mai ef ydy Duw. Does gan y rhai sy’n anwybyddu’r dystiolaeth ddim esgus. 21  Er bod y bobl hynny wedi adnabod Duw, ni wnaethon nhw ei anrhydeddu fel eu Duw, ac ni wnaethon nhw ddiolch iddo. Yn hytrach, gwnaethon nhw droi’n ffôl yn eu meddyliau a dydy eu calonnau disynnwyr ddim wedi dangos unrhyw ddealltwriaeth.* 22  Er bod pobl o’r fath yn honni eu bod nhw’n ddoeth, ffyliaid ydyn nhw. 23  Yn hytrach nag anrhydeddu’r Duw sydd ddim yn gallu marw, maen nhw’n anrhydeddu delwau o ddynion sydd yn marw a delwau o adar ac o anifeiliaid pedair troed ac o ymlusgiaid. 24  Felly mae Duw yn caniatáu iddyn nhw gyflawni chwantau aflan eu calonnau, ac oherwydd hynny maen nhw’n gwneud pethau cywilyddus â’u cyrff. 25  Fe ddewison nhw gredu’r celwydd yn hytrach na’r gwir am Dduw, ac maen nhw’n addoli ac yn gwasanaethu’r hyn y gwnaeth Duw ei greu yn hytrach na’r Creawdwr, yr un a ddylai gael ei foli am byth. Amen. 26  Dyna pam mae Duw wedi caniatáu i’w chwant rhywiol cywilyddus gymryd drosodd. Mae’r merched* wedi cyfnewid eu perthynas naturiol â dynion am berthynas sy’n mynd yn groes i natur. 27  Hefyd, mae dynion wedi cefnu ar eu perthynas naturiol â merched* ac maen nhw wedi ymroi i’w chwant rhywiol cryf am ddynion eraill, gan wneud pethau anweddus gyda’i gilydd. Ond fe fyddan nhw’n derbyn y gosb lawn y maen nhw’n ei haeddu am eu drwgweithredu. 28  Gan nad oedden nhw’n meddwl ei bod hi’n bwysig i gydnabod Duw, gwnaeth ef adael iddyn nhw barhau i feddwl am bethau diwerth ac felly maen nhw’n gwneud pethau na ddylen nhw. 29  Roedd pobl o’r fath wedi eu llenwi â phob math o anghyfiawnder, drygioni, trachwant, a drwgweithredu.* Maen nhw’n llawn cenfigen, llofruddiaeth, cwerylau,* celwyddau, a malais.* Maen nhw’n hel clecs,* 30  yn siarad yn faleisus y tu ôl i gefnau pobl, yn casáu Duw, yn sarhaus,* yn ffroenuchel, yn llawn brolio, ac yn gwneud cynlluniau drwg. Maen nhw’n anufudd i’w rhieni, 31  yn ddisynnwyr, yn anfodlon cadw eu haddewidion,* heb gariad diffuant,* a heb drugaredd. 32  Maen nhw’n gwybod yn iawn fod Duw yn dweud bod pobl sy’n gwneud pethau o’r fath yn haeddu marw; nid yn unig maen nhw’n parhau i wneud y pethau hyn, ond maen nhw hefyd yn cymeradwyo pobl eraill sy’n parhau i’w gwneud nhw.

Troednodiadau

Llyth., “wedi fy neilltuo.”
Neu “yn dod o had Dafydd.”
Neu “eich galw.”
Llyth., “â fy ysbryd.”
Llyth., “ac mae eu calonnau disynnwyr wedi dod yn dywyll.”
Neu “menywod.”
Neu “menywod.”
Neu “drygioni.”
Neu “cynnen.”
Neu “a chasineb.”
Neu “yn sibrwd.”
Neu “haerllug.”
Neu “yn torri amodau.”
Neu “yn angharedig.”