Actau’r Apostolion 10:1-48

  • Gweledigaeth Cornelius (1-8)

  • Gweledigaeth Pedr o anifeiliaid glân (9-16)

  • Pedr yn ymweld â Cornelius (17-33)

  • Pedr yn cyhoeddi newyddion da ar gyfer cenedl-ddynion (34-43)

    • “Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth” (34, 35)

  • Cenedl-ddynion yn derbyn yr ysbryd glân ac yn cael eu bedyddio (44-48)

10  Nawr, yn Cesarea roedd ’na swyddog o’r fyddin* o’r enw Cornelius, yn y gatrawd* Eidalaidd.  Roedd yn ddyn duwiol ac roedd ef a phawb yn ei dŷ yn ofni Duw, ac roedd yn rhoi i’r bobl dlawd lawer gwaith ac yn erfyn ar Dduw drwy’r amser.  Tua nawfed awr y diwrnod,* gwelodd yn glir angel Duw yn dod i mewn ato mewn gweledigaeth ac yn dweud: “Cornelius!”  Syllodd Cornelius arno, yn llawn ofn, a gofynnodd: “Beth sydd, Arglwydd?” Dywedodd wrtho: “Mae Duw yn cymryd sylw o dy weddïau a dy roddion i’r tlawd ac mae ef yn eu cadw nhw mewn cof.  Felly anfona ddynion i Jopa i nôl dyn o’r enw Simon sy’n cael ei alw’n Pedr.  Mae’r dyn yma’n aros gyda Simon, gweithiwr lledr* sydd â thŷ wrth y môr.”  Unwaith i’r angel a siaradodd ag ef adael, dyma’n galw dau o’i weision a milwr duwiol o blith y rhai oedd yn gweini arno,  ac adroddodd y cwbl wrthyn nhw a’u hanfon nhw i Jopa.  Y diwrnod wedyn, tra oedden nhw ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny i do’r tŷ i weddïo tua’r chweched awr.* 10  Ond daeth yn llwglyd iawn ac roedd eisiau bwyta. Tra oedden nhw’n paratoi’r pryd o fwyd, cafodd ef weledigaeth* 11  o’r nef yn agored a rhywbeth* yn dod i lawr fel lliain mawr yn cael ei ostwng i’r ddaear wrth ei bedair cornel; 12  ac ynddo roedd pob math o anifeiliaid â phedair troed ac ymlusgiaid y ddaear ac adar y nef. 13  Yna dyma lais yn dweud wrtho: “Cod, Pedr, lladd a bwyta!” 14  Ond dywedodd Pedr: “Ddim o gwbl, Arglwydd, oherwydd dydw i erioed wedi bwyta unrhyw beth sydd wedi ei lygru ac sy’n aflan.” 15  A siaradodd y llais ag ef eto, am yr eildro: “Stopia alw’n llwgr y pethau mae Duw wedi eu glanhau.” 16  Digwyddodd hyn am y trydydd tro, ac ar unwaith cafodd y llestr ei gymryd i fyny i’r nef. 17  Tra oedd Pedr yn dal yn pendroni am beth gallai’r weledigaeth roedd wedi ei gweld ei olygu, dyma’r dynion a gafodd eu hanfon gan Cornelius, ac a oedd wedi gofyn ble roedd tŷ Simon, yn sefyll yno wrth y giât. 18  Gwnaethon nhw alw a gofyn a oedd Simon, sy’n cael ei alw’n Pedr, yn aros yno. 19  Tra oedd Pedr yn dal i fyfyrio ar y weledigaeth, dywedodd yr ysbryd: “Edrycha! Mae tri dyn yn gofyn amdanat ti. 20  Felly cod, dos i lawr grisiau a mynd gyda nhw, heb amau o gwbl, oherwydd fi sydd wedi eu hanfon nhw.” 21  Yna aeth Pedr i lawr y grisiau atyn nhw a dweud: “Dyma fi, yr un rydych chi’n chwilio amdano. Pam rydych chi yma?” 22  Dywedon nhw: “Mae Cornelius, swyddog o’r fyddin, dyn cyfiawn sy’n ofni Duw ac sydd ag enw da drwy holl genedl yr Iddewon, wedi cael cyfarwyddyd dwyfol gan angel sanctaidd i dy alw i’w dŷ er mwyn iddo glywed beth sydd gen ti i’w ddweud.” 23  Felly gwahoddodd nhw i mewn a rhoi llety iddyn nhw. Y diwrnod wedyn, cododd ef a mynd gyda nhw, ac aeth rhai o’r brodyr o Jopa gydag ef. 24  Y diwrnod ar ôl hynny aeth i mewn i Cesarea. Wrth gwrs, roedd Cornelius yn eu disgwyl nhw ac wedi galw ei berthnasau a’i ffrindiau agos at ei gilydd. 25  Wrth i Pedr fynd i mewn i’r tŷ, dyma Cornelius yn cwrdd ag ef, yn syrthio wrth ei draed, ac yn ymgrymu* o’i flaen. 26  Ond gwnaeth Pedr ei godi i fyny, gan ddweud: “Cod; dim ond dyn ydw innau hefyd.” 27  Wrth i Pedr sgwrsio ag ef, aeth i mewn a gweld llawer o bobl wedi ymgynnull. 28  Dywedodd wrthyn nhw: “Rydych chi’n gwybod yn iawn pa mor anghyfreithlon yw hi i Iddew gymdeithasu â dyn o hil arall neu ymweld ag ef, ond eto mae Duw wedi dangos i mi na ddylwn i alw unrhyw ddyn yn llwgr nac yn aflan. 29  Oherwydd hynny, pan wnaethoch chi alw amdana i, des i heb unrhyw wrthwynebiad. Felly, rydw i’n gofyn pam gwnaethoch chi anfon amdana i.” 30  Yna dywedodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl yn cyfri o’r awr hon, roeddwn i’n gweddïo yn fy nhŷ tua’r nawfed awr;* pan safodd dyn mewn dillad llachar o fy mlaen i 31  a dywedodd: ‘Cornelius, mae Duw wedi clywed dy weddi, ac mae wedi cofio dy roddion i’r tlawd. 32  Felly, anfona ddynion i Jopa i alw am Simon sy’n cael ei alw’n Pedr. Mae’r dyn yma’n aros gyda Simon, gweithiwr lledr,* sydd wrth y môr.’ 33  Yna anfonais amdanat ti ar unwaith, ac roeddet ti’n ddigon caredig i ddod yma. Felly nawr rydyn ni i gyd yn bresennol o flaen Duw i glywed popeth rwyt ti wedi cael dy orchymyn gan Jehofa i’w ddweud.” 34  Ar hynny dechreuodd Pedr siarad, a dywedodd: “Nawr rydw i’n wir yn deall; dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, 35  ond ym mhob cenedl, mae’r dyn sy’n ei ofni ac sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dderbyniol iddo. 36  Anfonodd allan y neges at feibion Israel i gyhoeddi iddyn nhw y newyddion da am heddwch drwy Iesu Grist—ef sy’n Arglwydd ar bawb. 37  Rydych chi’n gwybod y pwnc a gafodd ei drafod drwy Jwdea i gyd, yn cychwyn o Galilea ar ôl y bedydd roedd Ioan yn ei bregethu: 38  hynny yw am Iesu o Nasareth, ac am sut gwnaeth Duw ei eneinio â’r ysbryd glân ac â nerth, ac aeth ef drwy’r wlad yn gwneud daioni ac yn iacháu’r holl rai oedd yn cael eu herlid gan y Diafol, oherwydd roedd Duw gydag ef. 39  Ac rydyn ni’n dystion i’r holl bethau a wnaeth ef yng ngwlad yr Iddewon yn ogystal â Jerwsalem; ond dyma nhw’n ei ladd drwy ei hoelio* ar stanc.* 40  Gwnaeth Duw godi’r un yma ar y trydydd dydd a gadael iddo ymddangos i bobl, 41  nid i bawb, ond i dystion roedd Duw wedi eu penodi ymlaen llaw, i ni, a wnaeth fwyta ac yfed gydag ef ar ôl iddo godi o’r meirw. 42  Hefyd, gorchmynnodd inni bregethu i’r bobl a rhoi tystiolaeth drylwyr mai hwn ydy’r un sydd wedi ei benodi gan Dduw i fod yn farnwr ar y rhai byw a’r rhai marw. 43  Iddo ef mae’r holl broffwydi yn tystiolaethu, fod pawb sy’n rhoi ffydd ynddo yn cael maddeuant am eu pechodau drwy ei enw.” 44  Tra oedd Pedr yn dal i siarad am y pethau hyn, daeth yr ysbryd glân ar yr holl rai oedd yn clywed y gair. 45  Ac roedd yr holl gredinwyr Iddewig* a oedd wedi dod gyda Pedr yn rhyfeddu, oherwydd bod rhodd yr ysbryd glân yn cael ei thywallt* am ddim ar bobl y cenhedloedd hefyd. 46  Oherwydd roedden nhw’n eu clywed nhw’n siarad ieithoedd tramor* ac yn moli Duw. Yna dywedodd Pedr: 47  “Oes unrhyw un yn gallu dweud na all y rhain gael eu bedyddio â dŵr, a nhwthau wedi derbyn yr ysbryd glân yn union fel rydyn ninnau?” 48  Gyda hynny, gorchmynnodd iddyn nhw gael eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna gofynnon nhw iddo aros am rai dyddiau.

Troednodiadau

Neu “canwriad,” yn ben ar 100 o filwyr.
Neu “cohort,” mintai Rufeinig o 600 o filwyr.
Hynny yw, tua 3:00 p.m.
Neu “barcer.”
Hynny yw, tua hanner dydd.
Neu “aeth ef i lesmair.”
Llyth., “rhyw fath o lestr.”
Neu “ac yn plygu.”
Hynny yw, tua 3:00 p.m.
Neu “barcer.”
Llyth., “ei grogi.”
Neu “ar goeden.”
Neu “gredinwyr a oedd wedi eu henwaedu.”
Neu “ei harllwys.”
Llyth., “siarad mewn tafodau.”