Yn Ôl Ioan 6:1-71

  • Iesu’n bwydo 5,000 (1-15)

  • Iesu’n cerdded ar ddŵr (16-21)

  • Iesu, “bara’r bywyd” (22-59)

  • Llawer yn baglu oherwydd geiriau Iesu (60-71)

6  Ar ôl hyn, aeth Iesu ar draws Môr Galilea, hynny yw, Môr Tiberias.  Ac roedd tyrfa fawr yn dal i’w ddilyn, oherwydd eu bod nhw’n gweld yr arwyddion gwyrthiol roedd ef yn eu gwneud yn iacháu’r rhai sâl.  Felly aeth Iesu i fyny mynydd ac eistedd yno gyda’i ddisgyblion.  Nawr, roedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn agos.  Pan gododd Iesu ei lygaid a gweld bod ’na dyrfa fawr yn dod tuag ato, dywedodd wrth Philip: “Lle gallwn ni brynu bara i’r bobl hyn fwyta?”  Fodd bynnag, roedd yn dweud hyn er mwyn ei brofi ef, oherwydd roedd yn gwybod beth roedd yn mynd i’w wneud.  Atebodd Philip ef: “Dydy gwerth 200 denariws o fara ddim yn ddigon i bob un ohonyn nhw gael hyd yn oed tamaid bach.”  Dyma un o’i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho:  “Mae ’na fachgen bach yma ac mae ganddo bum torth haidd a dau bysgodyn bach. Ond sut gall y rhain fwydo cymaint o bobl?” 10  Dywedodd Iesu: “Gofynnwch i’r bobl eistedd i lawr.” Ac oherwydd bod ’na lawer o laswellt* yn y lle hwnnw, eisteddodd y dynion i lawr yno, tua 5,000 ohonyn nhw. 11  Cymerodd Iesu’r bara, ac ar ôl rhoi gweddi o ddiolch, fe wnaeth rannu’r bara i’r rhai a oedd yn eistedd yno; fe wnaeth yr un peth â’r pysgod bach, ac roedd ganddyn nhw gymaint ag yr oedden nhw eisiau. 12  Ond pan oedden nhw wedi cael digon, dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Casglwch y tameidiau dros ben, fel nad oes dim gwastraff.” 13  Felly dyma nhw’n eu casglu nhw a llenwi 12 basged â’r tameidiau dros ben ar ôl iddyn nhw fwyta o’r pum torth haidd. 14  Pan welodd y bobl yr arwydd roedd wedi ei wneud, dechreuon nhw ddweud: “Hwn yn wir ydy’r Proffwyd oedd yn mynd i ddod i mewn i’r byd.” 15  Yna, gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n mynd i ddod a’i gipio a’i wneud yn frenin, aeth i ffwrdd unwaith eto i’r mynydd ar ei ben ei hun. 16  Pan oedd hi wedi dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, 17  mynd i mewn i gwch, a chroesi’r môr ar eu ffordd i Gapernaum. Erbyn hyn, roedd hi wedi tywyllu, a doedd Iesu ddim eto wedi dod atyn nhw. 18  Hefyd, roedd y môr yn stormus oherwydd bod ’na wynt cryf yn chwythu. 19  Fodd bynnag, pan oedden nhw wedi rhwyfo ryw dair neu bedair milltir, fe welson nhw Iesu’n cerdded ar y môr ac yn nesáu at y cwch, ac roedden nhw’n ofnus. 20  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Fi sydd yma; peidiwch ag ofni!” 21  Yna, roedden nhw’n fodlon ei gymryd i mewn i’r cwch, ac ar unwaith fe gyrhaeddodd y cwch y tir roedden nhw wedi bod yn hwylio tuag ato. 22  Y diwrnod wedyn, fe welodd y dyrfa a oedd wedi aros ar yr ochr arall i’r môr nad oedd ’na gwch yno. Roedd un cwch bach wedi bod yno, ond doedd Iesu ddim wedi mynd i mewn i’r cwch hwnnw gyda’i ddisgyblion, oherwydd roedd ei ddisgyblion wedi gadael ar eu pennau eu hunain. 23  Fodd bynnag, cyrhaeddodd cychod o Tiberias yn agos i’r fan lle roedden nhw wedi bwyta’r bara ar ôl i’r Arglwydd roi diolch. 24  Felly, pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu na’i ddisgyblion yno, aethon nhw i mewn i’w cychod a hwylio i Gapernaum i chwilio am Iesu. 25  Pan ddaethon nhw o hyd iddo yr ochr arall i’r môr, dywedon nhw wrtho: “Rabbi, pa bryd y dest ti yma?” 26  Atebodd Iesu nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, rydych chi’n chwilio amdana i, nid oherwydd eich bod chi wedi gweld arwyddion, ond oherwydd eich bod chi wedi bwyta’r bara a chael digon. 27  Gweithiwch, nid am y bwyd sy’n darfod, ond am y bwyd sy’n para ac sy’n arwain i fywyd tragwyddol, bwyd y bydd Mab y dyn yn ei roi ichi; oherwydd hwn ydy’r un y mae’r Tad, Duw ei hun, wedi ei gymeradwyo.” 28  Felly dywedon nhw wrtho: “Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gyflawni gweithredoedd Duw?” 29  Atebodd Iesu nhw: “Dyma ydy gwaith Duw, ichi ymarfer ffydd yn yr un y gwnaeth ef ei anfon.” 30  Yna, dywedon nhw wrtho: “Pa arwydd rwyt ti’n ei wneud, er mwyn inni fedru ei weld a chredu ynot ti? Pa waith rwyt ti’n ei wneud? 31  Gwnaeth ein cyndadau fwyta’r manna yn yr anialwch, yn union fel mae’n ysgrifenedig: ‘Rhoddodd ef fara o’r nef i’w fwyta.’” 32  Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, nid Moses wnaeth roi’r bara o’r nef ichi, ond fy Nhad sy’n rhoi’r gwir fara ichi o’r nef. 33  Oherwydd bara Duw ydy’r un sy’n dod i lawr o’r nef ac yn rhoi bywyd i’r byd.” 34  Felly dywedon nhw wrtho: “Arglwydd, rho’r bara hwn inni bob amser.” 35  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Fi ydy bara’r bywyd. Ni fydd y sawl sy’n dod ata i byth yn teimlo’n llwglyd, ac ni fydd y sawl sy’n ymarfer ffydd yno i byth yn sychedu. 36  Ond fel y dywedais i wrthoch chi, rydych chi hyd yn oed wedi fy ngweld i ond eto dydych chi ddim yn credu. 37  Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi imi yn dod ata i, ac ni wna i byth yrru i ffwrdd yr un sy’n dod ata i; 38  oherwydd rydw i wedi dod i lawr o’r nef i wneud, nid fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr un a wnaeth fy anfon i. 39  Dyma ewyllys yr un a wnaeth fy anfon i, na ddylwn i golli neb o’r holl rai mae ef wedi eu rhoi imi, ond dylwn i eu hatgyfodi nhw ar y dydd olaf. 40  Oherwydd dyma ydy ewyllys fy Nhad, fod pob un sy’n cydnabod y Mab ac sy’n ymarfer ffydd ynddo i gael bywyd tragwyddol, a bydda i’n ei atgyfodi ef ar y dydd olaf.” 41  Yna dechreuodd yr Iddewon rwgnach amdano oherwydd ei fod wedi dweud: “Fi ydy’r bara a ddaeth i lawr o’r nef.” 42  A dechreuon nhw ddweud: “Onid Iesu mab Joseff ydy hwn? Rydyn ni’n adnabod ei dad a’i fam. Sut mae’n gallu dweud nawr, ‘Rydw i wedi dod i lawr o’r nef’?” 43  Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Stopiwch rwgnach ymhlith eich gilydd. 44  Does yr un dyn yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad, a wnaeth fy anfon i, yn ei ddenu, a bydda i’n ei atgyfodi ar y dydd olaf. 45  Ysgrifennodd y Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Jehofa.’ Mae pawb sydd wedi gwrando ar y Tad ac wedi dysgu yn dod ata i. 46  Does yr un dyn wedi gweld y Tad, heblaw’r un sydd o Dduw; mae’r un yna wedi gweld y Tad. 47  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae gan bwy bynnag sy’n credu fywyd tragwyddol. 48  “Fi ydy bara’r bywyd. 49  Roedd eich cyndadau’n bwyta’r manna yn yr anialwch ond eto gwnaethon nhw farw. 50  Hwn ydy’r bara sy’n dod i lawr o’r nef, er mwyn i unrhyw un fwyta ohono a pheidio â marw. 51  Fi ydy’r bara bywiol a ddaeth i lawr o’r nef. Petai rhywun yn bwyta o’r bara yma fe fydd yn byw am byth; ac yn wir, y bara bydda i’n ei roi ydy fy nghnawd, er mwyn i’r byd gael byw.” 52  Yna dechreuodd yr Iddewon ffraeo â’i gilydd, gan ddweud: “Sut gall y dyn yma roi ei gnawd inni i’w fwyta?” 53  Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oni bai eich bod chi’n bwyta cnawd Mab y dyn ac yn yfed ei waed, does gynnoch chi ddim bywyd ynoch chi. 54  Mae gan bwy bynnag sy’n bwydo ar fy nghnawd ac yn yfed fy ngwaed fywyd tragwyddol, a bydda i’n ei atgyfodi ar y dydd olaf; 55  oherwydd mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn ac mae fy ngwaed i yn ddiod go iawn. 56  Mae pwy bynnag sy’n bwydo ar fy nghnawd ac yn yfed fy ngwaed yn aros mewn undod â mi, a minnau mewn undod ag ef. 57  Yn union fel y gwnaeth y Tad byw fy anfon i ac rydw i’n byw oherwydd y Tad, felly hefyd bydd yr un sy’n bwydo arna i yn byw oherwydd fi. 58  Hwn ydy’r bara a ddaeth i lawr o’r nef. Mae’n wahanol i’r adeg pan oedd eich cyndadau’n bwyta ac eto’n marw. Bydd pwy bynnag sy’n bwydo ar y bara yma yn byw am byth.” 59  Dywedodd y pethau hyn tra oedd yn dysgu mewn synagog yng Nghapernaum. 60  Pan glywson nhw hyn, dywedodd llawer o’i ddisgyblion: “Mae ei eiriau’n ddychrynllyd; pwy sy’n gallu gwrando ar hyn?” 61  Ond roedd Iesu’n gwybod ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, felly dywedodd wrthyn nhw: “Ydy hyn yn eich baglu chi? 62  Felly, beth petasech chi’n gweld Mab y dyn yn codi i le roedd ef o’r blaen? 63  Yr ysbryd sy’n rhoi bywyd; dydy’r cnawd ddim yn ddefnyddiol o gwbl. Mae’r pethau rydw i wedi eu dweud wrthoch chi yn dod o’r ysbryd glân ac yn rhoi bywyd. 64  Ond dydy rhai ohonoch chi ddim yn credu.” Oherwydd roedd Iesu’n gwybod o’r dechrau pa rai nad oedd yn credu a pha un a fyddai’n ei fradychu. 65  Aeth ymlaen i ddweud: “Dyma pam rydw i wedi dweud wrthoch chi, does neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad yn caniatáu iddo wneud.” 66  Oherwydd hyn, aeth llawer o’i ddisgyblion yn ôl at y pethau roedden nhw wedi eu gadael a doedden nhw ddim yn cerdded gydag ef bellach. 67  Felly dywedodd Iesu wrth y Deuddeg: “Ydych chi eisiau mynd hefyd?” 68  Dyma Simon Pedr yn ei ateb: “Arglwydd, at bwy dylen ni fynd i ffwrdd? Rwyt ti’n dysgu am fywyd tragwyddol. 69  Rydyn ni wedi credu ac wedi dod i wybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” 70  Atebodd Iesu: “Gwnes i ddewis y deuddeg ohonoch chi, ond eto mae un ohonoch chi’n enllibiwr.”* 71  Yn wir, roedd yn siarad am Jwdas fab Simon Iscariot, oherwydd bod hwnnw yn mynd i’w fradychu, er ei fod yn un o’r Deuddeg.

Troednodiadau

Neu “o borfa.”
Neu “yn ddiafol.”