Yn Ôl Mathew 16:1-28

  • Gofyn am arwydd (1-4)

  • Lefain y Phariseaid a’r Sadwceaid (5-12)

  • Allweddi’r Deyrnas (13-20)

    • Adeiladu’r gynulleidfa ar graig (18)

  • Rhagddweud marwolaeth Iesu (21-23)

  • Gwir ddisgyblion (24-28)

16  Dyma’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod ato, ac i roi prawf arno, gwnaethon nhw ofyn iddo ddangos iddyn nhw arwydd o’r nef.  Atebodd yntau: “Pan fydd hi’n dechrau nosi, rydych chi’n dweud, ‘Bydd y tywydd yn braf, oherwydd bod yr awyr yn fflamgoch,’  ac yn y bore, ‘Bydd y tywydd yn aeafol ac yn lawog heddiw, oherwydd bod yr awyr yn fflamgoch ond yn gymylog.’ Rydych chi’n gwybod sut i esbonio golwg yr awyr, ond dydych chi ddim yn gallu esbonio arwyddion yr amseroedd.  Mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus* yn parhau i geisio arwydd, ond ni fydd unrhyw arwydd yn cael ei roi iddi heblaw am arwydd Jona.” Ar hynny aeth i ffwrdd, a’u gadael nhw.  Gwnaeth y disgyblion groesi i’r ochr arall ac anghofio dod â bara.  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Cadwch eich llygaid yn agored a gwyliwch rhag lefain y Phariseaid a’r Sadwceaid.”  Felly dechreuon nhw resymu â’i gilydd, gan ddweud: “Dydyn ni ddim wedi dod ag unrhyw dorthau o fara.”  Roedd Iesu’n gwybod hyn, a dywedodd: “Pam rydych chi’n trafod ymhlith eich gilydd y ffaith nad oes gynnoch chi dorthau, chi o ychydig ffydd?  Onid ydych chi wedi gweld y pwynt eto, neu onid ydych chi’n cofio’r pum torth yn achos y 5,000 a’r nifer o fasgedi gwnaethoch chi eu codi? 10  Neu’r saith torth yn achos y 4,000 a’r nifer o fasgedi mawr gwnaethoch chi eu codi? 11  Sut rydych chi’n methu deall nad oeddwn i’n siarad â chi am fara? Ond gwyliwch rhag lefain y Phariseaid a’r Sadwceaid.” 12  Yna dyma nhw’n deall ei fod yn dweud wrthyn nhw am wylio, nid rhag lefain bara, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid. 13  Ar ôl iddo ddod i mewn i ardal Cesarea Philipi, gofynnodd Iesu i’w ddisgyblion: “Pwy mae dynion yn dweud yw Mab y dyn?” 14  Dywedon nhw: “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr, eraill Elias, a rhai eraill Jeremeia neu un o’r proffwydi.” 15  Dywedodd ef wrthyn nhw: “Ond chithau, pwy ydych chi’n dweud ydw i?” 16  Atebodd Simon Pedr: “Ti ydy’r Crist, Mab y Duw byw.” 17  Atebodd Iesu drwy ddweud wrtho: “Hapus wyt ti, Simon fab Jona, oherwydd nid dynion* a wnaeth ddatgelu hyn iti, ond fy Nhad yn y nefoedd. 18  Hefyd, rydw i’n dweud wrthot ti: Pedr wyt ti, ac ar y graig hon y bydda i’n adeiladu fy nghynulleidfa, ac ni fydd giatiau’r Bedd* yn ei gorchfygu. 19  Bydda i’n rhoi iti allweddi* Teyrnas y nefoedd, a bydd beth bynnag y byddi di’n ei rwymo ar y ddaear eisoes wedi ei rwymo yn y nefoedd, a bydd beth bynnag y byddi di’n ei ryddhau ar y ddaear eisoes wedi ei ryddhau yn y nefoedd.” 20  Yna gorchmynnodd yn llym i’r disgyblion beidio â dweud mai ef oedd y Crist. 21  O’r amser hwnnw ymlaen, dechreuodd Iesu esbonio i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem a dioddef llawer o bethau dan law’r henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a chael ei ladd, ac ar y trydydd dydd gael ei atgyfodi. 22  Ar hynny dyma Pedr yn mynd ag ef i un ochr a dechrau ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n garedig wrthot ti dy hun, Arglwydd; ni fydd hyn yn digwydd iti o gwbl.” 23  Ond yn troi ei gefn arno, dywedodd ef wrth Pedr: “Dos y tu ôl imi, Satan! Rwyt ti’n garreg rwystr imi, oherwydd dy fod ti’n meddwl, nid meddyliau Duw, ond meddyliau dynion.” 24  Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio* a dal ati i fy nilyn i. 25  Oherwydd bydd pwy bynnag sydd eisiau achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i yn ei achub. 26  Mewn gwirionedd, os ydy dyn yn ennill yr holl fyd ond yn colli ei fywyd, sut mae hynny’n fuddiol iddo? Neu beth fydd dyn yn ei roi er mwyn achub ei fywyd?* 27  Oherwydd bydd Mab y dyn yn dod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y bydd yn barnu pob un yn ôl ei ymddygiad. 28  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod ’na rai ohonoch chi sy’n sefyll yma na fydd yn profi blas marwolaeth o gwbl hyd nes iddyn nhw yn gyntaf weld Mab y dyn yn dod yn ei Deyrnas.”

Troednodiadau

Neu “anffyddlon.”
Llyth., “cig a gwaed.”
Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Neu “goriadau.”
Roedd stanc yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dienyddio, ond yma mae’n amlwg yn cyfeirio at galedi a dioddefaint sy’n gysylltiedig â bod yn ddisgybl i Grist. Gweler Geirfa.
Neu “yn gyfnewid am ei fywyd?”