Ail Pedr 1:1-21
1 Simon Pedr, caethwas ac apostol i Iesu Grist, at y rhai sydd â ffydd yr un mor werthfawr â’n ffydd ni drwy gyfiawnder ein Duw a’r Achubwr Iesu Grist:
2 Rydw i’n dymuno y byddwch chi’n derbyn mwy a mwy o garedigrwydd rhyfeddol a heddwch drwy wybodaeth gywir am Dduw ac am Iesu ein Harglwydd,
3 oherwydd mae ei rym dwyfol wedi rhoi inni’r holl bethau sy’n cyfrannu at fywyd a defosiwn duwiol drwy’r wybodaeth gywir am yr Un sydd wedi ein galw ni oherwydd ei fod yn Dduw gogoneddus a charedig.
4 Trwy’r pethau hyn mae wedi rhoi inni’r addewidion rhagorol a gwerthfawr, er mwyn ichi allu rhannu yng ngogoniant Duw, ar ôl dianc o lygredigaeth y byd sy’n deillio o chwantau drwg.
5 Am yr union reswm hwn, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu daioni at eich ffydd, gwybodaeth at eich daioni,
6 hunanreolaeth at eich gwybodaeth, dyfalbarhad at eich hunanreolaeth, defosiwn duwiol at eich dyfalbarhad,
7 cariad brawdol at eich defosiwn duwiol, a chariad tuag at bawb at eich cariad brawdol.
8 Oherwydd os ydy’r pethau hyn yn bodoli ynoch chi ac yn gorlifo, byddan nhw’n eich rhwystro chi rhag bod naill ai’n anweithredol neu’n ddiffrwyth* ynglŷn â’r wybodaeth gywir am ein Harglwydd Iesu Grist.
9 Oherwydd mae rhywun sy’n ddiffygiol yn y pethau hyn yn ddall, yn cau ei lygaid i’r goleuni,* ac mae’n anghofio ei fod wedi cael ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.
10 Felly, frodyr, gwnewch fwy o ymdrech byth i ddal eich gafael yn y fraint o gael eich galw a’ch dewis, oherwydd os byddwch chi’n parhau i wneud y pethau hyn, wnewch chi byth fethu ar unrhyw gyfri.
11 Yn wir, fel hyn y byddwch chi’n cael eich bendithio’n hael ac yn mynd i mewn i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.
12 Am y rheswm hwn rydw i’n wastad yn bwriadu eich atgoffa chi o’r pethau hyn, er eich bod chi’n eu gwybod nhw ac wedi cael eich sefydlu’n dda yn y gwir a ddysgoch chi.
13 Ond rydw i’n ei hystyried hi’n iawn, tra fy mod i yn y tabernacl hwn,* i’ch ysgwyd chi drwy eich atgoffa chi,
14 gan wybod fy mod i’n gorfod gadael y tabernacl hwn yn fuan, yn union fel mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi gwneud yn eglur imi.
15 Fe fydda i bob amser yn gwneud fy ngorau er mwyn ichi allu, ar ôl imi adael, ddwyn i gof* y pethau hyn drostoch chi’ch hunain.
16 Pan roddon ni wybod ichi am rym a phresenoldeb ein Harglwydd Iesu Grist, nid drwy ddilyn storïau ffug a chlyfar oedd hynny, ond yn hytrach, roedden ni’n llygad-dystion i’w fawredd.
17 Oherwydd fe dderbyniodd ef anrhydedd a gogoniant oddi wrth Dduw y Tad pan gafodd geiriau fel y rhain eu mynegi* iddo gan y gogoniant gwych: “Hwn ydy fy Mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i’n fawr iawn.”
18 Yn wir, fe glywson ni’r geiriau hyn yn dod o’r nef tra oedden ni gydag ef ar y mynydd sanctaidd.
19 Felly mae gynnon ni’r gair proffwydol wedi ei wneud yn fwy sicr, ac rydych chi’n gwneud yn dda i dalu sylw i’r proffwydoliaethau sydd fel lamp yn disgleirio yn y tywyllwch, hynny yw, yn eich calonnau (hyd nes i’r dydd wawrio ac i seren y bore godi).
20 Oherwydd rydych chi’n gwybod hyn gyntaf, does yr un broffwydoliaeth o’r Ysgrythur yn deillio o unrhyw ddehongliad personol.
21 Oherwydd ni ddaeth proffwydoliaeth erioed drwy ewyllys dyn, ond siaradodd dynion yr hyn a ddaeth oddi wrth Dduw wrth iddyn nhw gael eu symud* gan yr ysbryd glân.
Troednodiadau
^ Neu “yn ddigynnyrch.”
^ Neu efallai, “yn ddall, yn fyr ei olwg.”
^ Neu “y babell hon,” hynny yw, ei gorff daearol.
^ Neu “sôn am.”
^ Llyth., “llais fel hwn ei fynegi.”
^ Llyth., “eu cario yn eu blaenau.”