Actau’r Apostolion 11:1-30

  • Pedr yn rhoi adroddiad i’r apostolion (1-18)

  • Barnabas a Saul yn Antiochia yn Syria (19-26)

    • Disgyblion yn cael eu galw’n Gristnogion am y tro cyntaf (26)

  • Agabus yn rhagddweud newyn (27-30)

11  Nawr dyma’r apostolion a’r brodyr a oedd yn Jwdea yn clywed bod pobl y cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw.  Felly pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd y rhai oedd o blaid enwaedu ei feirniadu,  gan ddweud: “Fe est ti i mewn i dŷ dynion oedd heb eu henwaedu a bwyta gyda nhw.”  Dyma Pedr yn mynd ymlaen i esbonio’r mater yn fanwl iddyn nhw, gan ddweud:  “Roeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo, a ches i weledigaeth o rywbeth* yn dod i lawr fel lliain mawr yn cael ei ostwng o’r nef wrth ei bedair cornel, ac fe ddaeth yr holl ffordd i lawr ata i.  Wrth edrych yn fanwl i mewn iddo, gwelais anifeiliaid y ddaear, rhai â phedair troed, bwystfilod gwyllt, ymlusgiaid, ac adar y nef.  Hefyd clywais lais yn dweud wrtho i: ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta!’  Ond dywedais innau: ‘Ddim o gwbl, Arglwydd, oherwydd dydy rhywbeth sydd wedi ei lygru neu sy’n aflan erioed wedi mynd i mewn i fy ngheg i.’  Yr eildro, atebodd y llais o’r nef: ‘Stopia di alw’n llwgr y pethau mae Duw wedi eu glanhau.’ 10  Digwyddodd hyn dair gwaith, a chafodd popeth ei godi yn ôl i’r nef. 11  Hefyd, ar y foment honno, roedd tri dyn yn sefyll wrth y tŷ lle roedden ni’n aros, a oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea. 12  Yna dywedodd yr ysbryd wrtho i am fynd gyda nhw, heb amau o gwbl. Ond aeth y chwe brawd hyn gyda mi hefyd, ac aethon ni i mewn i dŷ’r dyn. 13  “Dywedodd wrthon ni am sut roedd ef wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ yn dweud: ‘Anfona ddynion i Jopa i nôl Simon sy’n cael ei alw’n Pedr, 14  ac fe fydd ef yn dweud wrthot ti sut gelli di a phawb yn dy dŷ gael eich achub.’ 15  Ond pan wnes i ddechrau siarad, daeth yr ysbryd glân i lawr arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ninnau yn y dechrau. 16  Ar hynny dyma fi’n cofio rhywbeth roedd yr Arglwydd yn ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond byddwch chithau’n cael eich bedyddio â’r ysbryd glân.’ 17  Felly, os rhoddodd Duw yr un rhodd am ddim iddyn nhw ag i ninnau sydd wedi credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?”* 18  Pan glywson nhw’r pethau hyn, dyma nhw’n stopio gwrthwynebu,* a dechreuon nhw ogoneddu Duw, gan ddweud: “Felly, mae Duw wedi caniatáu maddeuant sy’n arwain i fywyd ar gyfer pobl y cenhedloedd hefyd.” 19  Nawr roedd y rhai a gafodd eu gwasgaru oherwydd yr erledigaeth a gododd ar ôl marwolaeth Steffan wedi mynd mor bell â Phoenicia, Cyprus, ac Antiochia, ond roedden nhw’n rhannu’r neges â’r Iddewon yn unig. 20  Ond, roedd rhai o’r dynion hynny yn dod o Gyprus a Cyrene, a phan ddaethon nhw i Antiochia, dechreuon nhw sgwrsio â’r bobl oedd yn siarad Groeg, yn cyhoeddi’r newyddion da am yr Arglwydd Iesu. 21  Ar ben hynny, roedd llaw Jehofa gyda nhw, a daeth nifer mawr yn gredinwyr a throi at yr Arglwydd. 22  Gwnaeth yr adroddiad amdanyn nhw gyrraedd clustiau’r gynulleidfa yn Jerwsalem, a dyma nhw’n anfon Barnabas mor bell ag Antiochia. 23  Pan gyrhaeddodd a gweld caredigrwydd rhyfeddol Duw, dechreuodd lawenhau a’u hannog nhw i gyd i ddal ati i ufuddhau i’r Arglwydd â’u holl galonnau; 24  oherwydd roedd ef yn ddyn da ac yn llawn yr ysbryd glân a ffydd. A chafodd tyrfa sylweddol ei hychwanegu at yr Arglwydd. 25  Felly aeth i Tarsus i chwilio’n drylwyr am Saul. 26  Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag ef i Antiochia. Felly am flwyddyn gyfan roedden nhw’n cyfarfod gyda nhw yn y gynulleidfa ac yn dysgu tyrfa fawr, ac yn Antiochia cafodd y disgyblion eu galw’n Gristnogion am y tro cyntaf, drwy arweiniad dwyfol. 27  Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia. 28  Dyma un ohonyn nhw, o’r enw Agabus, yn sefyll i fyny ac yn rhagddweud bod newyn mawr ar fin dod ar yr holl fyd, ac yn wir, fe ddigwyddodd hynny yn adeg Clawdius. 29  Felly penderfynodd y disgyblion, bob un yn ôl faint roedd yn gallu ei fforddio, anfon cymorth at y brodyr oedd yn byw yn Jwdea; 30  a dyna wnaethon nhw, a’i anfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.

Troednodiadau

Llyth., “o ryw fath o lestr.”
Neu “i allu sefyll yn ffordd Duw?”
Llyth., “dyma nhw’n distewi.”