Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rhagair

Y Beibl Sanctaidd yw’r ffordd mae Duw’n cyfathrebu â phob un ohonon ni yn ysgrifenedig. Mae’n rhaid inni ei astudio er mwyn dod i adnabod ei Awdur. (Ioan 17:3; 2 Timotheus 3:​16) O fewn ei dudalennau, mae Jehofa Dduw yn datgelu ei bwrpas ar gyfer bodau dynol a’u cartref ar y ddaear.​—Genesis 3:​15; Datguddiad 21:​3, 4.

Does dim un llyfr arall yn cael cymaint o effaith ar fywydau pobl. Mae’r Beibl yn ein hysbrydoli i adlewyrchu rhinweddau Jehofa fel ei gariad, ei drugaredd, a’i dosturi. Mae’n rhoi gobaith i bobl, gan eu helpu nhw i ddyfalbarhau yn wyneb hyd yn oed y dioddefaint mwyaf heriol. Ac mae’n parhau i ddangos pa bethau yn y byd hwn nad ydyn nhw’n unol ag ewyllys perffaith Duw.​—Salm 119:105; Hebreaid 4:​12; 1 Ioan 2:​15-​17.

Cafodd y Beibl ei ysgrifennu yn wreiddiol yn yr Hebraeg, yr Aramaeg, a’r Roeg, ac mae wedi cael ei gyfieithu, yn llawn neu’n rhannol, i dros 3,000 o ieithoedd. Mae’r Beibl wedi cael ei gyfieithu a’i ddosbarthu yn fwy nag unrhyw lyfr arall mewn hanes. Ni ddylai hynny ein synnu ni. Mae proffwydoliaeth y Beibl yn dweud: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas [prif neges y Beibl] yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna bydd y diwedd yn dod.”​—Mathew 24:14.

Gan gydnabod pwysigrwydd neges y Beibl, ein nod oedd cynhyrchu cyfieithiad sydd nid yn unig yn ffyddlon i’r testunau gwreiddiol, ond sydd hefyd yn glir ac yn hawdd ei ddarllen. Mae’r erthyglau yn yr Atodiad “Egwyddorion ar Gyfer Cyfieithu’r Beibl,” “Nodweddion yr Argraffiad Hwn,” a “Sut Cawson Ni’r Beibl” yn trafod rhai o’r egwyddorion cyfieithu a gafodd eu dilyn, ynghyd ag esboniadau ar nodweddion yr argraffiad hwn.

Mae’r rhai sy’n caru Jehofa Dduw ac yn ei addoli yn dymuno cael cyfieithiad o Air Duw sy’n gywir ac yn hawdd ei ddeall. (1 Timotheus 2:4) O ystyried hynny, rydyn ni wedi gwneud yr argraffiad hwn ar gael yn y Gymraeg, yn unol â’n bwriad o gyfieithu Cyfieithiad y Byd Newydd i gymaint o ieithoedd ag sy’n bosib. Rydyn ni’n gobeithio ac yn gweddïo y byddi di, ddarllenwr annwyl, yn elwa ar yr argraffiad hwn o’r Ysgrythurau Sanctaidd wrth iti ymdrechu i ‘geisio Duw . . . a dod o hyd iddo go iawn.’​—Actau 17:27.

Pwyllgor Cyfieithu Beiblaidd y Byd Newydd