Cyntaf Samuel 16:1-23
16 Yn y pen draw dywedodd Jehofa wrth Samuel: “Am faint mwy rwyt ti am alaru dros Saul nawr fy mod i wedi ei wrthod rhag rheoli fel brenin dros Israel? Llenwa dy gorn ag olew a dos. Rydw i am dy anfon di at Jesse o Fethlehem, oherwydd rydw i wedi dewis brenin i fi fy hun o blith ei feibion.”
2 Ond dywedodd Samuel: “Sut galla i fynd? Pan fydd Saul yn clywed am y peth, bydd ef yn fy lladd i.” Atebodd Jehofa: “Cymera fuwch ifanc gyda ti a dweud, ‘Rydw i wedi dod i aberthu i Jehofa.’
3 Gwahodda Jesse i’r aberth; yna bydda i’n rhoi gwybod iti beth i’w wneud. Bydda i’n ei gwneud hi’n amlwg iti pwy dylet ti ei eneinio ar fy rhan.”
4 Gwnaeth Samuel beth ddywedodd Jehofa. Pan ddaeth i Fethlehem, roedd henuriaid y ddinas wedi cynhyrfu o’i weld, ac wrth ei gyfarfod, dywedon nhw: “A wyt ti’n dod mewn heddwch?”
5 I hynny dywedodd: “Ydw, rydw i’n dod mewn heddwch. Rydw i wedi dod i aberthu i Jehofa. Sancteiddiwch eich hunain, a dewch gyda mi i’r aberth.” Yna gwnaeth ef sancteiddio Jesse a’i feibion a’u gwahodd nhw i’r aberth.
6 Wrth iddyn nhw gyrraedd, dyma Samuel yn gweld Eliab, a dywedodd: “Mae’n rhaid mai dyma’r un mae Jehofa wedi ei ddewis fel brenin.”
7 Ond dywedodd Jehofa wrth Samuel: “Paid â thalu sylw i sut mae’n edrych na pha mor dal yw ef, gan fy mod i wedi ei wrthod. Oherwydd dydy dyn ddim yn gweld yr un fath â Duw, mae dyn yn gweld beth sydd o flaen ei lygaid, ond rydw i, Jehofa, yn gweld beth sydd yn y galon.”
8 Yna dyma Jesse yn galw Abinadab ac yn gwneud iddo basio o flaen Samuel, ond dywedodd Samuel: “Dydy Jehofa ddim wedi dewis hwn chwaith.”
9 Nesaf, dyma Jesse yn cyflwyno Samma, ond dywedodd: “Dydy Jehofa ddim wedi dewis hwn chwaith.”
10 Felly daeth Jesse â saith o’i feibion o flaen Samuel, ond dywedodd Samuel wrth Jesse: “Dydy Jehofa ddim wedi dewis unrhyw un o’r rhain.”
11 O’r diwedd dywedodd Samuel wrth Jesse: “Ai dyma dy feibion i gyd?” I hynny atebodd: “Mae gen i fab arall, yr ieuengaf, mae ef allan yn gofalu am y defaid.” Yna dywedodd Samuel wrth Jesse: “Anfona rywun i’w nôl, oherwydd wnawn ni ddim bwyta nes iddo ddod yma.”
12 Felly anfonodd rywun i ddod ag ef i mewn. Nawr roedd yn ddyn ifanc, gyda llygaid hardd, ac roedd yn olygus iawn. Yna dywedodd Jehofa: “Cod, ac eneinia ef, oherwydd dyma’r un!”
13 Felly cymerodd Samuel y corn o olew a’i eneinio o flaen ei frodyr. A dechreuodd ysbryd Jehofa roi nerth i Dafydd o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Yn nes ymlaen cododd Samuel a mynd ar ei ffordd i Rama.
14 Nawr roedd ysbryd Jehofa wedi gadael Saul, a dechreuodd ysbryd drwg oddi wrth Jehofa ei boenydio.
15 Dywedodd gweision Saul wrtho: “Mae’n amlwg bod ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dy boenydio di.
16 Arglwydd, plîs gorchmynna i ni, dy weision, edrych am ddyn sy’n gallu chwarae’r delyn yn fedrus. Bryd bynnag bydd ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod arnat ti, bydd ef yn ei chwarae, a byddi di’n teimlo’n well.”
17 Felly dywedodd Saul wrth ei weision: “Plîs chwiliwch am ddyn sy’n chwarae’n dda, a dewch ag ef ata i.”
18 Dywedodd un o’r gweision: “Edrycha! Rydw i wedi gweld bod un o feibion Jesse o Fethlehem yn gallu chwarae’n fedrus, ac mae’n filwr dewr a chryf. Mae’n siaradwr da, mae’n olygus, ac mae Jehofa gydag ef.”
19 Yna anfonodd Saul negeswyr at Jesse a dweud: “Anfona dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda’r praidd.”
20 Felly dyma Jesse yn llwytho asyn gyda bara, potel groen o win, a gafr ifanc ac yn eu hanfon nhw at Saul gyda’i fab Dafydd.
21 Felly daeth Dafydd at Saul a dechrau ei wasanaethu. Daeth Saul i’w garu yn fawr iawn, a daeth Dafydd yn was iddo a oedd yn cario ei arfau.
22 Anfonodd Saul neges at Jesse: “Plîs gad i Dafydd aros yn fy ngwasanaeth, oherwydd mae’n fy mhlesio i.”
23 Bryd bynnag byddai ysbryd drwg oddi wrth Dduw yn dod ar Saul, byddai Dafydd yn cymryd y delyn ac yn ei chwarae, a byddai Saul yn tawelu ac yn teimlo’n well, a byddai’r ysbryd drwg yn ei adael.