Datguddiad i Ioan 16:1-21

  • Saith powlen dicter Duw (1-21)

    • Yn cael eu tywallt ar y ddaear (2), y môr (3), yr afonydd a’r ffynhonnau (4-7), yr haul (8, 9), gorsedd y bwystfil gwyllt (10, 11), afon Ewffrates (12-16), a’r awyr (17-21)

    • Rhyfel Duw yn Armagedon (14, 16)

16  Ac fe glywais lais uchel yn dod allan o’r cysegr yn dweud wrth y saith angel: “Ewch a thywalltwch* saith powlen dicter Duw ar y ddaear.”  Aeth yr un cyntaf i ffwrdd a thywallt* ei bowlen ar y ddaear. A dyma wlser niweidiol a ffyrnig yn poenydio’r bobl a oedd â marc y bwystfil gwyllt ac a oedd yn addoli ei ddelw.  Gwnaeth yr ail un dywallt* ei bowlen i mewn i’r môr. Ac fe ddaeth yn waed fel gwaed dyn sydd wedi marw, a dyma bob creadur* byw yn marw, hynny yw, y pethau yn y môr.  Gwnaeth y trydydd un dywallt* ei bowlen i mewn i’r afonydd a’r ffynhonnau o ddŵr. A gwnaethon nhw droi’n waed.  Clywais angel y dyfroedd yn dweud: “Rwyt ti, yr Un sy’n bodoli nawr ac a oedd yn bodoli gynt, yr Un ffyddlon, yn gyfiawn, oherwydd dy fod ti wedi cyhoeddi’r barnedigaethau hyn,  gan eu bod nhw wedi tywallt* gwaed y rhai sanctaidd a’r proffwydi, ac rwyt ti wedi rhoi iddyn nhw waed i’w yfed; maen nhw’n haeddu hynny.”  Ac fe glywais yr allor yn dweud: “Ie, Jehofa Dduw, yr Hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau.”  Gwnaeth y pedwerydd un dywallt* ei bowlen ar yr haul, ac fe gafodd yr haul ganiatâd i losgi’r bobl â thân.  A chafodd y bobl eu llosgi gan y gwres mawr, ond fe wnaethon nhw gablu enw Duw, sydd â’r awdurdod dros y plâu hyn, ac ni wnaethon nhw edifarhau na rhoi gogoniant iddo. 10  Gwnaeth y pumed un dywallt* ei bowlen ar orsedd y bwystfil gwyllt. A daeth ei deyrnas yn dywyll, a dechreuon nhw gnoi eu tafodau oherwydd eu poen, 11  ond fe wnaethon nhw gablu Duw’r nef oherwydd eu poenau a’u hwlserau, ac ni wnaethon nhw edifarhau am eu gweithredoedd. 12  Gwnaeth y chweched un dywallt* ei bowlen ar afon fawr Ewffrates, a chafodd ei dŵr ei sychu i baratoi’r ffordd ar gyfer y brenhinoedd o’r dwyrain.* 13  Ac fe welais dri datganiad ysbrydoledig aflan* a oedd yn edrych fel llyffantod* yn dod allan o geg y ddraig ac allan o geg y bwystfil gwyllt ac allan o geg y gau broffwyd. 14  Yn wir, maen nhw’n ddatganiadau sydd wedi eu hysbrydoli gan gythreuliaid ac maen nhw’n gwneud arwyddion, ac maen nhw’n mynd allan at frenhinoedd y ddaear gyfan, i’w casglu nhw at ei gilydd ar gyfer rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog. 15  “Edrycha! Rydw i’n dod fel lleidr. Hapus yw’r un sy’n aros yn effro ac sy’n cadw ei ddillad, fel na fyddai’n cerdded yn noeth a phobl yn gweld ei gywilydd.” 16  A gwnaethon nhw gasglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw’n Hebraeg yn Armagedon.* 17  Gwnaeth y seithfed un dywallt* ei bowlen ar yr awyr. Ar hynny daeth llais uchel allan o’r cysegr, o’r orsedd, yn dweud: “Mae wedi dod i ben!” 18  Ac roedd ’na fflachiadau o fellt a lleisiau a tharanau, ac roedd ’na ddaeargryn mawr na ddigwyddodd ei debyg o’r blaen ers i ddynion ddod ar y ddaear, roedd y daeargryn mor fawr ac eang. 19  Cafodd y ddinas fawr ei hollti’n dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd; a chofiodd Duw am Fabilon Fawr, i roi iddi’r cwpan sy’n llawn o win ei ddicter mawr. 20  Hefyd, gwnaeth pob ynys ffoi, a diflannodd y mynyddoedd o’r golwg. 21  Yna dyma genllysg* mawr, pob un yn pwyso tua un dalent,* yn syrthio o’r nef ar y bobl, a gwnaeth y bobl gablu Duw oherwydd y pla o genllysg,* gan fod y pla yn anarferol o fawr.

Troednodiadau

Neu “ac arllwyswch.”
Neu “ac arllwys.”
Neu “arllwys.”
Neu “enaid.”
Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
Neu “o godiad yr haul.”
Llyth., “ysbrydion aflan.”
Neu “brogaod.”
Groeg, Har Magedon, o’r ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “Mynydd Megido.”
Neu “arllwys.”
Neu “dyma gesair.”
Roedd talent Roegaidd yn gyfartal â 20.4 kg (654 oz t).
Neu “o gesair.”