At y Colosiaid 1:1-29

  • Cyfarchion (1, 2)

  • Diolch am ffydd y Colosiaid (3-8)

  • Gweddïo am gynnydd ysbrydol (9-12)

  • Rôl ganolog Crist (13-23)

  • Gwaith caled Paul ar gyfer y gynulleidfa (24-29)

1  Paul, apostol Crist Iesu drwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd,  at y rhai sanctaidd a brodyr ffyddlon mewn undod â Christ yn Colosae: Rydyn ni’n gweddïo y bydd Duw, ein Tad, yn rhoi caredigrwydd rhyfeddol a heddwch ichi.  Rydyn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan fyddwn ni’n gweddïo drostoch chi,  gan ein bod ni wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi tuag at yr holl rai sanctaidd  oherwydd y gobaith sy’n cael ei neilltuo ar eich cyfer yn y nefoedd. Fe glywsoch chi eisoes am y gobaith hwn drwy neges eirwir y newyddion da  sydd wedi dod atoch chi. Yn union fel y mae’r newyddion da yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu yn yr holl fyd, felly hefyd y mae yn eich plith chi o’r dydd y clywsoch chi, ac y daethoch chi i wybod beth yw caredigrwydd rhyfeddol Duw mewn gwirionedd.  Dyna beth a ddysgoch chi oddi wrth ein cyd-gaethwas annwyl Epaffras, sy’n weinidog ffyddlon i’r Crist ar ein rhan.  Soniodd ef wrthon ni hefyd am eich cariad dwyfol.*  Dyna pam, o’r dydd y clywson ni hynny, dydyn ni erioed wedi stopio gweddïo drostoch chi, a gofyn ichi gael eich llenwi â gwybodaeth gywir am ewyllys Duw ym mhob doethineb a dealltwriaeth ysbrydol, 10  fel y gallwch chi gerdded yn deilwng o Jehofa* er mwyn ichi ei blesio’n llawn wrth ichi barhau i ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yn y wybodaeth gywir am Dduw; 11  ac rydyn ni’n gweddïo y byddwch chi’n cael eich cryfhau â phob grym yn ôl ei nerth gogoneddus, fel y gallwch chi ddyfalbarhau yn llwyr gydag amynedd a llawenydd, 12  wrth ichi ddiolch i’r Tad, sydd wedi eich gwneud chi’n gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y rhai sanctaidd sydd yn y goleuni. 13  Fe wnaeth ef ein hachub ni o awdurdod y tywyllwch a’n trosglwyddo ni i deyrnas ei Fab annwyl, 14  yr un sydd wedi talu’r pris* i’n rhyddhau ni, er mwyn inni gael maddeuant am ein pechodau. 15  Ef yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth; 16  oherwydd drwy gyfrwng ef y cafodd pob peth arall ei greu yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r pethau anweledig, gorseddau neu arglwyddiaethau neu lywodraethau neu awdurdodau. Mae pob peth arall wedi cael ei greu trwyddo ef ac ar ei gyfer ef. 17  Hefyd, roedd ef yn bodoli cyn pob peth arall, a thrwy gyfrwng ef y daeth pob peth arall i fodolaeth, 18  ac ef yw pen y corff, y gynulleidfa. Ef yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig o’r meirw, felly ef yw’r un sy’n gyntaf ym mhob peth; 19  oherwydd dymuniad Duw oedd i’w holl rinweddau fod ynddo ef, 20  a thrwy Grist, hynny yw, trwy’r gwaed a dywalltodd* ef ar y stanc dienyddio,* mae Duw yn cymodi pob peth arall ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a’r pethau sydd yn y nefoedd. 21  Yn wir, y chi a oedd ar un adeg yn bell i ffwrdd oddi wrth Dduw, ac yn elynion iddo oherwydd roedd eich meddyliau ar weithredoedd drwg, 22  y mae ef nawr wedi cymodi â chi drwy gyfrwng corff dynol yr un hwnnw drwy ei farwolaeth, er mwyn eich cyflwyno chi yn sanctaidd ac yn ddi-fai fel na fyddwch chi’n agored i unrhyw gyhuddiad ger ei fron— 23  cyn belled â’ch bod chi, wrth gwrs, yn parhau yn y ffydd, wedi eich sefydlu’n gadarn ar y sylfaen, heb gael eich symud oddi wrth obaith y newyddion da a glywsoch chi ac a bregethwyd yn yr holl greadigaeth o dan y nef. Fe ddes i, Paul, yn weinidog i’r newyddion da hyn. 24  Rydw i nawr yn llawenhau, er fy mod i’n dioddef er eich mwyn chi, ac rydw i’n mynd drwy dreialon y Crist ond mae’n rhaid imi gwblhau’r treialon hynny er mwyn corff y Crist, hynny yw, y gynulleidfa. 25  Fe ddes i’n weinidog i’r gynulleidfa hon yn ôl y cyfrifoldeb a roddodd Duw imi er eich mwyn chi, i bregethu gair Duw yn llawn ac yn llwyr, 26  sef y gyfrinach gysegredig a oedd yn guddiedig ers systemau dynol y gorffennol* ac ers cenedlaethau’r gorffennol. Ond nawr mae wedi cael ei datgelu i’w rai sanctaidd, 27  y rhai roedd Duw eisiau rhoi gwybod iddyn nhw am gyfoeth gogoneddus y gyfrinach gysegredig hon ymhlith y cenhedloedd, sef Crist mewn undod â chi, gobaith ei ogoniant. 28  Ef ydy’r un rydyn ni’n ei gyhoeddi, gan rybuddio pawb a dysgu pawb ym mhob doethineb, fel y gallwn ni gyflwyno pob un yn ysbrydol aeddfed mewn undod â Christ. 29  I’r diben hwn rydw i’n wir yn gweithio’n galed, yn ymdrechu trwy ei nerth sy’n gweithredu’n rymus yno i.

Troednodiadau

Llyth., “eich cariad yn yr ysbryd.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Neu “pridwerth.”
Neu “arllwysodd.”
Gweler Geirfa.
Neu “ers yr oesoedd a fu.” Gweler Geirfa.