Yn Ôl Mathew 6:1-34

  • PREGETH AR Y MYNYDD (1-34)

    • Osgoi gwneud sioe o gyfiawnder (1-4)

    • Sut i weddïo (5-15)

      • Gweddi enghreifftiol (9-13)

    • Ymprydio (16-18)

    • Trysorau ar y ddaear ac yn y nef (19-24)

    • Stopio fod yn bryderus (25-34)

      • Dal ati i geisio’r Deyrnas gyntaf (33)

6  “Byddwch yn ofalus i beidio â gwneud yr hyn sy’n gyfiawn o flaen dynion er mwyn iddyn nhw sylwi arnoch chi; neu chewch chi ddim gwobr gan eich Tad sydd yn y nefoedd.  Felly pan fyddi di’n rhoi i’r tlawd,* paid â chwythu trwmped o dy flaen, fel y mae’r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn y strydoedd, er mwyn iddyn nhw gael eu gogoneddu gan ddynion. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn.  Ond pan fyddi dithau’n rhoi i’r tlawd, paid â gadael i dy law chwith wybod beth mae dy law dde yn ei wneud,  er mwyn i dy roddion i’r tlawd fod yn gyfrinachol. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di.  “Hefyd, pan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch ag ymddwyn fel y rhagrithwyr, oherwydd maen nhw’n hoffi gweddïo yn sefyll yn y synagogau ac ar gorneli’r prif strydoedd er mwyn cael eu gweld gan ddynion. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn.  Ond pan fyddi dithau’n gweddïo, dos i mewn i dy ystafell breifat ac, ar ôl cau’r drws, gweddïa ar dy Dad sydd mewn lle dirgel. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di.  Wrth weddïo, peidiwch â dweud yr un pethau drosodd a throsodd fel y mae pobl y cenhedloedd yn gwneud, oherwydd maen nhw’n meddwl y bydd Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw’n defnyddio llawer o eiriau.  Felly peidiwch â bod yn debyg iddyn nhw, oherwydd mae eich Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi cyn ichi hyd yn oed ofyn iddo.  “Mae’n rhaid i chi weddïo, felly, fel hyn: “‘Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.* 10  Gad i dy Deyrnas ddod. Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear, fel y mae yn y nef. 11  Rho inni heddiw ein bara ar gyfer y diwrnod hwn; 12  a maddau inni ein dyledion, fel rydyn ninnau hefyd wedi maddau i’n dyledwyr. 13  A phaid â gadael inni ildio i demtasiwn, ond achuba ni rhag yr un drwg.’ 14  “Oherwydd, os ydych chi’n maddau i ddynion eu pechodau, bydd eich Tad nefol yn maddau i chithau hefyd; 15  ond os nad ydych chi’n maddau i ddynion eu pechodau, fydd eich Tad ddim yn maddau i chithau eich pechodau chwaith. 16  “Pan fyddwch chi’n ymprydio, peidiwch â gwneud i’ch wynebau edrych yn drist fel y rhagrithwyr, oherwydd maen nhw’n hagru eu hwynebau* er mwyn i ddynion weld eu bod nhw’n ymprydio. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn. 17  Ond pan fyddi dithau’n ymprydio, rho olew ar dy ben a golcha dy wyneb, 18  er mwyn iti beidio â chael dy weld yn ymprydio gan ddynion, ond gan dy Dad yn unig sydd mewn lle dirgel. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di. 19  “Stopiwch gasglu trysorau ar y ddaear i chi’ch hunain, lle mae gwyfyn a rhwd yn difetha a lle mae lladron yn torri i mewn ac yn dwyn. 20  Yn hytrach, casglwch drysorau yn y nef i chi’ch hunain, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nad yw lladron yn torri i mewn nac yn dwyn. 21  Oherwydd le bynnag mae dy drysor di, yno y bydd dy galon di hefyd. 22  “Lamp y corff yw’r llygad. Felly, os yw dy lygad wedi ei ffocysu ar un peth yn unig,* bydd dy gorff cyfan yn ddisglair.* 23  Ond os yw dy lygad yn genfigennus,* bydd dy gorff cyfan yn dywyll. Os yw’r goleuni sydd ynot ti mewn gwirionedd yn dywyllwch, mor fawr yw’r tywyllwch hwnnw! 24  “Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd y bydd naill ai’n casáu un ac yn caru’r llall, neu’n ffyddlon i un ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch chi wasanaethu Duw a Chyfoeth. 25  “Oherwydd hyn rydw i’n dweud wrthoch chi: Stopiwch fod yn bryderus am eich bywydau o ran beth rydych chi’n mynd i’w fwyta neu beth rydych chi’n mynd i’w yfed, neu am eich cyrff a beth rydych chi’n mynd i’w wisgo. Onid yw bywyd yn golygu mwy na bwyd a’r corff yn golygu mwy na dillad? 26  Edrychwch yn ofalus ar adar y nefoedd; dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Onid ydych chithau yn werth mwy na nhw? 27  Pa un ohonoch chi sy’n gallu ychwanegu un munud* at ei fywyd drwy fod yn bryderus? 28  Hefyd, pam rydych chi’n pryderu am ddillad? Dysgwch wers oddi wrth lili’r maes, y ffordd maen nhw’n tyfu; dydyn nhw ddim yn llafurio, nac yn gwnïo dillad; 29  ac eto rydw i’n dweud wrthoch chi nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant yn edrych mor hardd ag un o’r rhain. 30  Nawr, os mai dyma sut mae Duw yn dilladu planhigion y maes sydd yma heddiw, ac yfory yn cael eu taflu i’r ffwrn, oni fyddai’n llawer gwell ganddo eich dilladu chi, chi o ychydig ffydd? 31  Felly peidiwch byth â bod yn bryderus a dweud, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w fwyta?’ neu, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w yfed?’ neu, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w wisgo?’ 32  Oherwydd yr holl bethau hyn yw’r pethau mae’r cenhedloedd yn eu ceisio’n frwd. Mae eich Tad nefol yn gwybod bod angen yr holl bethau hyn arnoch chi. 33  “Daliwch ati, felly, i geisio yn gyntaf y Deyrnas a chyfiawnder Duw, a bydd yr holl bethau eraill hyn yn cael eu rhoi ichi. 34  Felly peidiwch byth â bod yn bryderus am yfory, oherwydd y bydd gan yfory ei bryderon ei hun. Mae gan bob diwrnod ddigon o’i drafferthion ei hun.

Troednodiadau

Neu “rhoi rhoddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.
Neu “ei ystyried yn gysegredig; ei drin yn sanctaidd.”
Neu “yn esgeuluso eu pryd a’u gwedd.”
Neu “yn gweld yn glir.” Llyth., “yn syml.”
Neu “yn llawn goleuni.”
Llyth., “yn ddrwg.”
Neu “cufydd.”