Cyntaf Pedr 2:1-25

  • Dysgu dyheu am y gair (1-3)

  • Cerrig byw yn cael eu hadeiladu’n dŷ ysbrydol (4-10)

  • Byw fel estroniaid yn y byd (11, 12)

  • Ymostwng i’r rhai mewn awdurdod (13-25)

    • Crist, esiampl i ni (21)

2  Felly mae’n rhaid ichi gael gwared ar bob drygioni a thwyll a rhagrith a chenfigen a phob siarad maleisus y tu ôl i gefnau pobl.  Fel babanod newydd eu geni, dysgwch ddyheu am laeth pur y gair, fel eich bod chi’n gallu tyfu’n aeddfed a chael eich achub drwyddo,  cyn belled â’ch bod chi wedi profi* bod yr Arglwydd yn garedig.  Mae dynion wedi ei wrthod ef fel carreg fyw, ond mae Duw wedi ei ddewis ac yn ei ystyried yn werthfawr. Pan fyddwch chi’n mynd ato  rydych chithau fel cerrig byw yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol sy’n dderbyniol i Dduw drwy Iesu Grist.  Oherwydd mae’r Ysgrythur yn dweud: “Edrychwch! Rydw i’n gosod yn Seion garreg sydd wedi cael ei dewis, carreg gornel sylfaenol sy’n werthfawr, ac ni fydd unrhyw un sy’n ymarfer ffydd yn y garreg honno byth yn cael ei siomi.”*  Felly, i chi mae ef yn werthfawr, oherwydd eich bod chi’n gredinwyr; ond i’r rhai sydd ddim yn credu, “y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel”  ac yn “garreg a fydd yn gwneud i bobl faglu a chraig a fydd yn pechu yn eu herbyn nhw.” Maen nhw’n baglu oherwydd eu bod nhw’n anufudd i’r gair. I’r union ddiben hwn y cawson nhw eu penodi.  Ond rydych chi’n “hil sydd wedi cael ei dewis gan Dduw, yn offeiriadaeth frenhinol, yn genedl sanctaidd, yn bobl a fydd yn eiddo arbennig i Dduw, er mwyn ichi gyhoeddi ym mhobman weithredoedd ardderchog”* yr Un a wnaeth eich galw chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w oleuni bendigedig. 10  Oherwydd ar un adeg, nid pobl Dduw oeddech chi, ond nawr rydych chi’n bobl i Dduw; ar un adeg doedd Duw ddim wedi dangos trugaredd tuag atoch chi, ond nawr rydych chi wedi derbyn ei drugaredd. 11  Frodyr annwyl, rydw i’n erfyn arnoch chi fel estroniaid a thrigolion dros dro i barhau i gadw draw rhag chwantau cnawdol, sy’n rhyfela yn eich erbyn chi.* 12  Parhewch i ymddwyn yn dda ymhlith y cenhedloedd; yna pan fyddan nhw’n eich cyhuddo o fod yn ddrwgweithredwyr, gallan nhw fod yn llygad-dystion i’ch gweithredoedd da ac, o ganlyniad, ogoneddu Duw yn nydd ei archwiliad. 13  Er mwyn yr Arglwydd, ufuddhewch i bob awdurdod* dynol, p’run ai i frenin sy’n uwch na chi 14  neu i lywodraethwyr sydd wedi cael eu hanfon ganddo i gosbi drwgweithredwyr ac i glodfori’r rhai sy’n gwneud daioni. 15  Oherwydd ewyllys Duw yw bod eich daioni chi yn gallu distewi siarad anwybodus dynion afresymol. 16  Byddwch fel pobl rydd, gan ddefnyddio eich rhyddid, nid fel esgus dros wneud* pethau drwg, ond fel caethweision Duw. 17  Anrhydeddwch ddynion o bob math, carwch yr holl frawdoliaeth, ofnwch Dduw, anrhydeddwch y brenin. 18  Gadewch i weision ymostwng i’w meistri gyda phob ofn priodol, nid yn unig i’r rhai da a rhesymol ond hefyd i’r rhai sy’n anodd eu plesio. 19  Oherwydd mae’n plesio Duw pan fydd rhywun yn dyfalbarhau er gwaethaf caledi* ac yn dioddef anghyfiawnder oherwydd ei gydwybod tuag at Dduw. 20  Oherwydd pa les sy’n dod o gael eich curo am bechu a chithau’n dyfalbarhau? Ond os ydych chi’n dyfalbarhau er gwaethaf dioddefaint oherwydd eich bod chi’n gwneud daioni, mae hynny’n plesio Duw. 21  Yn wir, cawsoch chi’ch galw i’r llwybr hwn, oherwydd fe wnaeth hyd yn oed Crist ddioddef ar eich cyfer, gan adael esiampl ichi i ddilyn ôl ei draed yn agos. 22  Ni wnaeth ef bechu o gwbl, na dweud geiriau twyllodrus. 23  Pan oedd yn cael ei sarhau, ni wnaeth ef sarhau yn ôl. Pan oedd yn dioddef, ni wnaeth ef fygwth, ond fe wnaeth ei roi ei hun yn nwylo’r Un sy’n barnu’n gyfiawn. 24  Fe wnaeth ef ei hun gario ein pechodau yn ei gorff ei hun ar y stanc,* er mwyn inni farw i bechodau a byw i gyfiawnder. A “thrwy ei glwyfau ef cawsoch chi eich iacháu.” 25  Oherwydd roeddech chi fel defaid yn mynd ar gyfeiliorn, ond nawr rydych chi wedi dod yn ôl at y bugail ac arolygwr eich eneidiau.*

Troednodiadau

Neu “blasu.”
Llyth., “ei gywilyddio.”
Llyth., “rhinweddau,” hynny yw, ei briodoleddau a’i weithredoedd canmoladwy.
Neu “yn erbyn yr enaid.”
Neu “sefydliad; creadigaeth.”
Neu “nid i guddio gwneud.”
Neu “galar; poen.”
Neu “y goeden.”
Neu “bywydau.”