Yn Ôl Marc 6:1-56

  • Iesu’n cael ei wrthod yn ei dref ei hun (1-6)

  • Y Deuddeg yn cael cyfarwyddyd am y weinidogaeth (7-13)

  • Marwolaeth Ioan Fedyddiwr (14-29)

  • Iesu’n bwydo 5,000 (30-44)

  • Iesu’n cerdded ar y dŵr (45-52)

  • Iacháu yn Genesaret (53-56)

6  Gadawodd Iesu y lle hwnnw a mynd i mewn i’r ardal lle cafodd ei fagu, a gwnaeth ei ddisgyblion ei ddilyn.  Pan ddaeth y Saboth, dechreuodd ddysgu yn y synagog, ac roedd y rhan fwyaf a glywodd ef wedi rhyfeddu ac yn dweud: “O le cafodd y dyn yma y pethau hyn? Pam cafodd y dyn yma y doethineb hwn, a pham mae’n gallu gwneud gwyrthiau?  Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago, Joseff, Jwdas, a Simon? Ac onid ydy ei chwiorydd yma gyda ni?” Felly dechreuon nhw faglu oherwydd yr hyn roedd ef yn ei ddweud.  Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei anrhydeddu ym mhob man heblaw yn ei fro ei hun ac ymhlith ei berthnasau ac yn ei gartref ei hun.”  Felly nid oedd yn gallu gwneud unrhyw weithredoedd nerthol yno heblaw am roi ei ddwylo ar ychydig o bobl sâl a’u hiacháu nhw.  Yn wir, roedd yn rhyfeddu at eu diffyg ffydd. Ac fe aeth o gwmpas yn y pentrefi cyfagos, yn dysgu.  Nawr, dyma’n galw’r Deuddeg ato ac yn dechrau eu hanfon nhw allan bob yn ddau, ac fe roddodd iddyn nhw awdurdod dros yr ysbrydion aflan.  Hefyd, gorchmynnodd iddyn nhw beidio â chario dim byd ar gyfer y daith heblaw am ffon—dim bara, dim bag bwyd, dim arian* yn eu beltiau—  ond i roi sandalau am eu traed ac nid i wisgo dau grys.* 10  Ar ben hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i gartref, arhoswch yno nes y byddwch chi’n gadael y lle hwnnw. 11  Ac os na fydd rhywle yn eich derbyn chi nac yn gwrando arnoch chi, wrth ichi fynd allan o’r lle hwnnw, rhaid ichi ysgwyd y pridd oddi ar eich traed fel tystiolaeth iddyn nhw.” 12  Yna aethon nhw allan a phregethu bod rhaid i bobl edifarhau, 13  a gwnaethon nhw fwrw allan lawer o gythreuliaid a rhwbio olew ar lawer o bobl sâl a’u hiacháu nhw. 14  Nawr clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd daeth enw Iesu’n adnabyddus, ac roedd pobl yn dweud: “Mae Ioan Fedyddiwr wedi cael ei godi o’r meirw, a dyna pam mae’r gweithredoedd nerthol yn gweithredu ynddo.” 15  Ond roedd eraill yn dweud: “Elias ydy ef.” Ac roedd eraill yn dweud: “Mae’n broffwyd fel un o’r proffwydi gynt.” 16  Ond pan glywodd Herod am hyn, dywedodd: “Yr Ioan gwnes i dorri ei ben, mae hwn wedi cael ei godi.” 17  Oherwydd gwnaeth Herod ei hun drefnu i Ioan gael ei arestio a’i rwymo yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, oherwydd iddo ei phriodi. 18  Oherwydd roedd Ioan wedi bod yn dweud wrth Herod: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” 19  Felly roedd Herodias yn dal dig yn ei erbyn ac eisiau ei ladd, ond doedd hi ddim yn gallu. 20  Oherwydd roedd Herod yn ofni Ioan, gan wybod ei fod yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac roedd yn ei gadw’n ddiogel. Ar ôl gwrando arno, doedd ganddo ddim clem beth i’w wneud, ond eto roedd yn mwynhau gwrando arno. 21  Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan wnaeth Herod baratoi swper ar ei ben-blwydd ar gyfer ei uwch swyddogion a chadlywyddion y fyddin a’r dynion mwyaf pwysig yng Ngalilea. 22  A daeth merch Herodias i mewn a dawnsio a phlesio Herod a’r rhai oedd yn bwyta* gydag ef. Dywedodd y brenin wrth y ferch: “Gofynna imi am unrhyw beth rwyt ti eisiau, a bydda i’n ei roi iti.” 23  A dyma’n gwneud llw iddi: “Beth bynnag rwyt ti’n gofyn imi amdano, bydda i’n ei roi iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” 24  Felly aeth hi allan a dweud wrth ei mam: “Beth dylwn i ofyn amdano?” Dywedodd hithau: “Pen Ioan Fedyddiwr.” 25  Ar unwaith dyma hi’n rhuthro i mewn at y brenin a gofyn iddo: “Rydw i eisiau iti roi imi ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl yn syth.” 26  Er bod hyn wedi achosi iddo deimlo’n hynod o drist, doedd y brenin ddim eisiau diystyru’r hyn roedd hi wedi gofyn amdano, oherwydd ei lwon a’i westeion.* 27  Felly anfonodd y brenin warchodwr ar unwaith a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Felly fe aeth i ffwrdd a thorri ei ben yn y carchar 28  a dod â’i ben ar ddysgl. Fe roddodd y ddysgl i’r ferch, a dyma’r ferch yn ei rhoi i’w mam. 29  Pan glywodd ei ddisgyblion am hyn, fe ddaethon nhw a chymryd ei gorff a’i roi i orwedd mewn beddrod.* 30  Daeth yr apostolion ac ymgasglu o gwmpas Iesu ac adrodd wrtho am yr holl bethau roedden nhw wedi eu gwneud a’u dysgu i eraill. 31  A dywedodd ef wrthyn nhw: “Dewch chi’ch hunain i le unig ichi gael ychydig o orffwys.” Oherwydd roedd ’na lawer yn mynd ac yn dod, a doedd ganddyn nhw ddim amser i gael pryd o fwyd hyd yn oed. 32  Felly aethon nhw i ffwrdd yn y cwch i le unig er mwyn bod ar eu pennau eu hunain. 33  Ond gwnaeth pobl eu gweld nhw’n mynd a daeth llawer i wybod am y peth, ac o’r holl ddinasoedd rhedon nhw gyda’i gilydd a chyrraedd yno o’u blaenau nhw. 34  Wel, pan ddaeth Iesu allan o’r cwch, fe welodd dyrfa fawr, ac roedd yn teimlo piti drostyn nhw, oherwydd eu bod nhw fel defaid heb fugail. A dechreuodd ddysgu llawer o bethau iddyn nhw. 35  Erbyn hyn roedd hi wedi mynd yn hwyr, a daeth ei ddisgyblion ato a dweud wrtho: “Lle unig ydy hwn, ac mae hi eisoes yn hwyr. 36  Anfona nhw i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fynd i’r wlad a’r pentrefi oddi amgylch a phrynu rhywbeth i’w fwyta iddyn nhw eu hunain.” 37  Atebodd ef: “Rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Ar hynny dywedon nhw wrtho: “A ddylen ni fynd i ffwrdd a phrynu gwerth 200 denariws o fara a’i roi i’r bobl i’w fwyta?” 38  Dywedodd wrthyn nhw: “Sawl torth sydd gynnoch chi? Ewch i edrych!” Ar ôl cael gwybod, dywedon nhw: “Pump, a dau bysgodyn hefyd.” 39  A dyma’n gorchymyn i’r holl bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.* 40  Felly eisteddon nhw mewn grwpiau o 100 ac o 50. 41  Gan gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a dweud bendith. Yna dyma’n torri’r torthau ac yn dechrau eu rhoi nhw i’r disgyblion er mwyn eu rhoi nhw i’r bobl, a rhannodd y ddau bysgodyn rhwng pawb. 42  Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, 43  a chodon nhw 12 basged yn llawn tameidiau, heb gynnwys y pysgod. 44  5,000 o ddynion a wnaeth fwyta’r torthau. 45  Yna, heb oedi, dywedodd wrth ei ddisgyblion am fynd i mewn i’r cwch a mynd o’i flaen i’r lan gyferbyn, tuag at Bethsaida, tra oedd ef ei hun yn anfon y dyrfa i ffwrdd. 46  Ond ar ôl dweud hwyl fawr wrthyn nhw, fe aeth i fyny mynydd i weddïo. 47  Ar ôl iddi nosi, roedd y cwch yng nghanol y môr, ond roedd ef ar ei ben ei hun ar y tir. 48  Felly pan welodd ef eu bod nhw’n cael trafferth rhwyfo, oherwydd bod y gwynt yn eu herbyn, rywbryd rhwng tri a chwech y bore* fe ddaeth atyn nhw, yn cerdded ar y môr; ond roedd yn bwriadu* mynd heibio iddyn nhw. 49  Pan welson nhw Iesu yn cerdded ar y môr, gwnaethon nhw feddwl: “Ysbryd sydd yna!” A dyma nhw’n gweiddi. 50  Oherwydd gwnaethon nhw i gyd ei weld ac roedden nhw wedi dychryn. Ond ar unwaith siaradodd ef â nhw a dweud: “Byddwch yn ddewr! Fi sydd yma; peidiwch ag ofni.” 51  Yna dringodd i mewn i’r cwch gyda nhw, a dyma’r gwynt yn tawelu. Roedden nhw’n rhyfeddu’n fawr at hyn, 52  oherwydd doedden nhw ddim wedi deall ystyr y torthau, ond roedd eu calonnau’n dal i gael trafferth deall. 53  Pan wnaethon nhw groesi at y tir, fe ddaethon nhw i Genesaret ac angori’r cwch wrth y lan. 54  Ond unwaith iddyn nhw ddod allan o’r cwch, roedd pobl yn ei adnabod. 55  Rhedon nhw o gwmpas yr holl ardal honno a dechrau dod â’r rhai oedd yn sâl at Iesu ar stretsieri. 56  Ac i le bynnag y byddai’n mynd i mewn i bentrefi neu i ddinasoedd neu i’r wlad, bydden nhw’n gosod y rhai sâl yn y marchnadoedd, a bydden nhw’n erfyn arno am iddyn nhw gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei gôt. Ac fe gafodd pawb a gyffyrddodd â’r gôt eu hiacháu.

Troednodiadau

Llyth., “pres.”
Neu “nid i wisgo crys ychwanegol.”
Neu “yn eistedd wrth y bwrdd.”
Neu “a’r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “porfa.”
Llyth., “tua’r bedwaredd wylfa o’r nos.”
Neu “roedd ar fin.”