Yn Ôl Marc 12:1-44

  • Dameg y ffermwyr llofruddiol (1-12)

  • Duw a Chesar (13-17)

  • Cwestiwn am yr atgyfodiad (18-27)

  • Y ddau orchymyn pwysicaf (28-34)

  • Ydy’r Crist yn fab i Dafydd? (35-37a)

  • Rhybudd yn erbyn yr ysgrifenyddion (37b-40)

  • Dwy geiniog y wraig weddw dlawd (41-44)

12  Yna dechreuodd siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion: “Plannodd dyn winllan a chodi ffens o’i hamgylch a chloddio cafn ar gyfer gwasgu grawnwin ac adeiladu tŵr; yna gwnaeth ei gosod hi allan ar rent i ffermwyr a theithio dramor.  Pan oedd hi’n amser i gasglu’r ffrwythau, anfonodd ef gaethwas at y ffermwyr i gasglu rhai o ffrwythau’r winllan oddi wrthyn nhw.  Ond gwnaethon nhw afael ynddo, ei guro, a’i anfon i ffwrdd heb ddim byd.  Unwaith eto fe anfonodd gaethwas arall atyn nhw, a gwnaethon nhw ei daro ar ei ben a dwyn gwarth arno.  Ac anfonodd ef un arall, a gwnaethon nhw ladd hwnnw, ac anfonodd ef lawer eraill, a gwnaethon nhw guro rhai ohonyn nhw a lladd rhai ohonyn nhw.  Roedd ganddo un arall, mab annwyl. Anfonodd ef atyn nhw yn olaf, gan ddweud, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab.’  Ond dywedodd y ffermwyr hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn ydy’r etifedd. Dewch, gadewch inni ei ladd, ac fe gawn ni’r etifeddiaeth i ni’n hunain.’  Felly dyma nhw’n gafael ynddo a’i ladd a’i daflu allan o’r winllan.  Beth bydd perchennog y winllan yn ei wneud? Fe fydd yn dod ac yn lladd y ffermwyr ac yn rhoi’r winllan i bobl eraill. 10  Onid ydych chi wedi darllen yr ysgrythur hon: ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel.* 11  Mae hon wedi dod o Jehofa, ac mae hi’n rhyfeddol yn ein golwg ni’?” 12  Ar hynny roedden nhw eisiau ei arestio,* ond roedden nhw’n ofni’r dyrfa, oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod ei ddameg yn sôn amdanyn nhw. Felly dyma nhw’n ei adael a mynd i ffwrdd. 13  Nesaf gwnaethon nhw anfon ato rai o’r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir. 14  Pan gyrhaeddon nhw, dywedodd y rhai hyn wrtho: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n dweud y gwir a dwyt ti ddim yn ceisio cymeradwyaeth dynion, oherwydd dwyt ti ddim yn edrych ar bryd a gwedd pobl, ond rwyt ti’n dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir. Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim? 15  A ddylen ni dalu neu beidio?” Gan weld eu rhagrith, dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n rhoi prawf arna i? Dewch â denariws yma er mwyn imi edrych arno.” 16  Dyma nhw’n dod ag un, a dywedodd ef wrthyn nhw: “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedon nhw wrtho: “Cesar.” 17  Yna dywedodd Iesu: “Talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar, ond pethau Duw i Dduw.” Ac roedden nhw’n rhyfeddu ato. 18  Nawr daeth y Sadwceaid, sy’n dweud nad oes ’na atgyfodiad, a gofyn iddo: 19  “Athro, ysgrifennodd Moses: Os ydy brawd rhywun yn marw ac yn gadael gwraig ar ôl ond nid yw’n gadael plentyn, dylai ei frawd gymryd y wraig a magu plant ar gyfer ei frawd. 20  Roedd ’na saith brawd. Gwnaeth yr un cyntaf briodi, ond bu farw heb gael plant. 21  A gwnaeth yr ail ei phriodi hi ond bu farw yntau heb gael plant, a’r trydydd hefyd. 22  A bu farw’r saith ohonyn nhw heb gael plant. Yn olaf, bu farw’r ddynes* hefyd. 23  Yn yr atgyfodiad, gwraig pwy fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i’r saith ohonyn nhw.” 24  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Onid hwn ydy’r rheswm rydych chi’n anghywir, oherwydd dydych chi ddim yn adnabod yr Ysgrythurau nac yn deall grym Duw? 25  Oherwydd pan fyddan nhw’n codi o’r meirw, dydy dynion na merched* ddim yn priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nefoedd. 26  Ond ynglŷn â’r meirw yn cael eu codi, onid ydych chi wedi darllen llyfr Moses, yn yr hanes am y berth ddrain, fod Duw wedi dweud wrtho: ‘Fi ydy Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’? 27  Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw. Rydych chi’n hollol anghywir.” 28  Dyma un o’r ysgrifenyddion a oedd wedi dod ato a’u clywed nhw’n dadlau, gan wybod ei fod wedi eu hateb nhw mewn ffordd dda, yn gofyn iddo: “Pa orchymyn ydy’r un pwysicaf?” 29  Atebodd Iesu: “Y cyntaf yw, ‘Gwranda, O Israel, mae Jehofa ein Duw yn un Jehofa, 30  ac mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.’ 31  Yr ail yw hwn, ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.’ Does ’na ddim un gorchymyn arall sy’n fwy pwysig na’r rhain.” 32  Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho: “Athro, gwnest ti siarad yn dda, yn unol â’r gwir, ‘Un Duw sydd ’na, a does ’na ddim un arall heblaw amdano ef’; 33  ac mae ei garu ef â’n holl galon, â’n holl ddealltwriaeth, ac â’n holl nerth ac i garu ein cymydog fel ni’n hunain yn werth llawer mwy na’r holl offrymau llosg a’r aberthau.” 34  Gan weld ei fod wedi ateb yn ddoeth, dywedodd Iesu wrtho: “Dwyt ti ddim yn bell o Deyrnas Dduw.” Ond doedd neb yn ddigon dewr i’w gwestiynu ymhellach. 35  Fodd bynnag, wrth i Iesu barhau i ddysgu yn y deml, dywedodd: “Pam mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod y Crist yn fab i Dafydd? 36  Drwy’r ysbryd glân, dywedodd Dafydd ei hun, ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde nes imi roi dy elynion o dan dy draed.”’ 37  Roedd Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd, felly sut mae Crist yn fab iddo?” Ac roedd y dyrfa fawr yn mwynhau gwrando arno. 38  Ac wrth iddo ddysgu, aeth yn ei flaen i ddweud: “Gwyliwch rhag yr ysgrifenyddion sydd eisiau cerdded o gwmpas yn gwisgo mentyll ac sydd eisiau cael cyfarchion yn y marchnadoedd 39  a’r seddi blaen* yn y synagogau a’r llefydd mwyaf pwysig wrth gael swper. 40  Maen nhw’n cymryd mantais o’r gwragedd gweddwon ac yn cymryd eu heiddo, ac yn dweud gweddïau hir er mwyn i bobl gael eu gweld nhw. Bydd y rhain yn cael eu barnu’n fwy llym.” 41  Ac eisteddodd i lawr lle roedd yn gallu gweld y blychau cyfraniadau* a dechreuodd wylio sut roedd y dyrfa yn gollwng arian i mewn i’r blychau cyfraniadau, ac roedd llawer o bobl gyfoethog yn gollwng llawer o geiniogau. 42  Nawr fe ddaeth gwraig weddw dlawd a gollwng dwy geiniog fach o ychydig werth* yn y blwch. 43  Felly galwodd ei ddisgyblion ato a dweud wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y wraig weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall a roddodd arian i mewn i’r blychau cyfraniadau. 44  Oherwydd gwnaeth y rhain i gyd roi o’u cyfoeth, ond fe wnaeth hi roi, o’i thlodi,* bopeth roedd ganddi, bopeth roedd ganddi i fyw arno.”

Troednodiadau

Llyth., “yn ben y gornel.”
Neu “ei ddal.”
Neu “iawn.”
Neu “y fenyw.”
Neu “menywod.”
Gweler Geirfa.
Neu “gorau.”
Neu “cistiau’r drysorfa.”
Llyth., “dau lepton, hynny yw cwadrans.”
Neu “o’i phrinder.”