Actau’r Apostolion 7:1-60

  • Araith Steffan o flaen y Sanhedrin (1-53)

    • Oes y patriarchiaid (2-16)

    • Arweiniad Moses; Israel yn addoli eilunod (17-43)

    • Dydy Duw ddim yn byw mewn temlau o waith llaw (44-50)

  • Steffan yn cael ei labyddio (54-60)

7  Ond dywedodd yr archoffeiriad: “Ai felly y mae?”  Atebodd Steffan: “Ddynion, frodyr a thadau, gwrandewch. Gwnaeth y Duw gogoneddus ymddangos i’n cyndad Abraham tra oedd ef yn Mesopotamia, cyn iddo fynd i fyw yn Haran,  a dywedodd wrtho: ‘Dos allan o dy wlad ac oddi wrth dy berthnasau a thyrd i mewn i’r wlad y bydda i’n ei dangos iti.’  Yna aeth allan o wlad y Caldeaid ac ymgartrefu yn Haran. Ac oddi yno, ar ôl i’w dad farw, symudodd Duw ef i’r wlad hon lle rydych chi nawr yn byw.  Ac eto, ni roddodd iddo unrhyw etifeddiaeth ynddi, naddo, ddim digon o dir iddo roi ei droed arno hyd yn oed; ond fe wnaeth addo rhoi’r wlad iddo ef i’w meddiannu, ac i’w ddisgynyddion* ar ei ôl, er nad oedd ganddo blentyn bryd hynny.  Ar ben hynny, dywedodd Duw wrtho y byddai ei ddisgynyddion yn bobl estron mewn gwlad nad oedd yn perthyn iddyn nhw ac y byddai’r bobl yn eu caethiwo ac yn eu cam-drin am 400 mlynedd.  ‘A bydda i’n barnu’r genedl sy’n eu caethiwo nhw,’ meddai Duw, ‘ac ar ôl y pethau hyn byddan nhw’n dod allan ac yn fy ngwasanaethu i yn y lle hwn.’  “Hefyd fe roddodd iddo gyfamod enwaediad, a daeth ef yn dad i Isaac a’i enwaedu ar yr wythfed dydd, a daeth Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i’r 12 penteulu.*  A daeth y penteuluoedd yn genfigennus o Joseff a’i werthu i’r Aifft. Ond roedd Duw gydag ef, 10  ac achubodd ef o’i holl dreialon a rhoi iddo ffafr a doethineb o flaen Pharo brenin yr Aifft. A phenododd Pharo ef i lywodraethu dros yr Aifft a’i holl dŷ. 11  Ond daeth newyn ar yr Aifft ac ar Ganaan i gyd, ie, trychineb mawr, a doedd ein cyndadau ddim yn gallu cael hyd i unrhyw beth i’w fwyta. 12  Ond clywodd Jacob fod ’na fwyd* yn yr Aifft, ac anfonodd ein cyndadau yno y tro cyntaf. 13  Yn ystod yr ail dro, dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr pwy oedd ef, a daeth Pharo i wybod am deulu Joseff. 14  Felly anfonodd Joseff neges a galw Jacob ei dad ato, a’i holl berthnasau o’r lle hwnnw, 75 o bobl* i gyd. 15  Felly aeth Jacob i lawr i’r Aifft, a bu farw yno, a’n cyndadau hefyd. 16  A chafodd eu hesgyrn eu cludo i Sechem a’u gosod yn y beddrod a brynodd Abraham am swm o arian oddi wrth feibion Hamor yn Sechem. 17  “Fel roedd yr amser i gyflawni’r addewid a gyhoeddodd Duw i Abraham yn agosáu, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, 18  nes i frenin arall godi dros yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff. 19  Gwnaeth hwn ddelio’n gyfrwys â’n hil ni a cham-drin ein cyndadau gan eu gorfodi i adael eu babanod fel na fydden nhw’n aros yn fyw. 20  Yr adeg honno cafodd Moses ei eni, ac roedd ef yn hardd iawn yng ngolwg Duw.* A chafodd ei fagu am dri mis yn nhŷ ei dad. 21  Ond pan gafodd ef ei adael, dyma ferch Pharo yn ei gymryd a’i fagu fel petai’n fab iddi hi ei hun. 22  Felly cafodd Moses ei hyfforddi yn holl ddoethineb yr Eifftiaid. Yn wir, roedd yn rymus mewn gair a gweithred. 23  “Nawr pan oedd yn 40 oed, penderfynodd* ymweld â’i frodyr, meibion Israel. 24  Pan welodd ef un ohonyn nhw’n cael ei gam-drin, dyma’n ei amddiffyn ac yn dial ar yr Eifftiwr a oedd yn ei gam-drin drwy ei ladd. 25  Roedd yn meddwl byddai ei frodyr yn deall bod Duw yn eu hachub nhw drwy ei law ef, ond wnaethon nhw ddim deall hynny. 26  Y diwrnod wedyn, ymddangosodd iddyn nhw tra oedd dau ohonyn nhw’n brwydro, a cheisiodd eu cymodi mewn heddwch, gan ddweud: ‘Ddynion, brodyr ydych chi. Pam rydych chi’n cam-drin eich gilydd?’ 27  Ond dyma’r un oedd yn cam-drin ei gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud: ‘Pwy wnaeth dy benodi di’n rheolwr ac yn farnwr droston ni? 28  Wyt ti eisiau fy lladd i fel y gwnest ti ladd yr Eifftiwr ddoe?’ 29  Wrth glywed hyn, dyma Moses yn ffoi ac yn byw fel rhywun estron yng ngwlad Midian, lle cafodd dau fab eu geni iddo. 30  “Ar ôl i 40 mlynedd fynd heibio, yn anialwch Mynydd Sinai fe ymddangosodd angel iddo mewn fflam dân a oedd mewn perth ddrain. 31  Pan welodd Moses hyn, dyma’n rhyfeddu. Ond wrth iddo nesáu er mwyn edrych yn fanwl, clywodd ef lais Jehofa: 32  ‘Fi ydy Duw dy gyndadau, Duw Abraham ac Isaac a Jacob.’ Dechreuodd Moses grynu ac nid oedd yn meiddio edrych yn fanylach. 33  Dywedodd Jehofa wrtho: ‘Tynna dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd rwyt ti’n sefyll ar dir sanctaidd. 34  Rydw i’n sicr wedi gweld camdriniaeth fy mhobl sydd yn yr Aifft, ac rydw i wedi clywed eu crio trist, ac rydw i wedi dod i lawr i’w hachub nhw. Nawr tyrd, bydda i’n dy anfon di i ffwrdd i’r Aifft.’ 35  Y Moses hwn, yr un roedden nhw wedi ei wadu, gan ddweud: ‘Pwy wnaeth dy benodi di’n rheolwr ac yn farnwr droston ni?’ ydy’r union un a anfonodd Duw yn rheolwr ac yn achubwr drwy gyfrwng yr angel a ymddangosodd iddo yn y berth. 36  Y dyn hwn wnaeth eu harwain nhw allan, gan gyflawni rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aifft ac wrth y Môr Coch ac yn yr anialwch am 40 mlynedd. 37  “Dyma’r Moses a ddywedodd wrth feibion Israel: ‘Bydd Duw yn codi ichi broffwyd fel fi o blith eich brodyr.’ 38  Dyma’r un a oedd ymysg y gynulleidfa yn yr anialwch gyda’r angel a siaradodd ag ef ar Fynydd Sinai, a gyda’n cyndadau, a derbyniodd ef ddatganiadau cysegredig byw i’w rhoi i ni. 39  Gwrthododd ein cyndadau ufuddhau iddo, ond gwnaethon nhw ei wthio i’r ochr, ac yn eu calonnau dyma nhw’n troi’n ôl i’r Aifft, 40  gan ddweud wrth Aaron: ‘Gwna dduwiau inni i fynd o’n blaenau ni. Oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r Moses yma, a wnaeth ein harwain ni allan o wlad yr Aifft.’ 41  Felly dyma nhw’n gwneud llo yn y dyddiau hynny a dod ag aberth i’r eilun a dechrau eu mwynhau eu hunain a dathlu gwaith eu dwylo. 42  Felly trodd Duw oddi wrthyn nhw a gadael iddyn nhw wasanaethu byddin y nef, yn union fel y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr y Proffwydi: ‘A wnaethoch chi offrymu ac aberthu i mi am 40 mlynedd yn yr anialwch, O dŷ Israel? Naddo. 43  Ond pabell Moloch a seren y duw Reffan y gwnaethoch chi eu cario o un lle i’r llall, y delwau a wnaethoch chi i’w haddoli. Felly bydda i’n eich alltudio chi y tu hwnt i Fabilon.’ 44  “Roedd gan ein cyndadau babell y dystiolaeth yn yr anialwch, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn i Moses ei chreu yn ôl y patrwm roedd ef wedi ei weld. 45  A dyma ein cyndadau yn derbyn y babell a mynd â hi gyda Josua i mewn i wlad y cenhedloedd a gafodd eu gyrru allan gan Dduw o flaen ein cyndadau. Ac arhosodd hi yma hyd at ddyddiau Dafydd. 46  Cafodd ef ffafr yng ngolwg Duw a gofynnodd am y fraint o adeiladu tŷ ar gyfer Duw Jacob. 47  Ond Solomon wnaeth adeiladu tŷ iddo. 48  Ond, dydy’r Goruchaf ddim yn byw mewn tai wedi eu gwneud â dwylo, yn union fel mae’r proffwyd yn dweud: 49  ‘Y nef ydy fy ngorsedd, a’r ddaear ydy’r stôl i fy nhraed. Pa fath o dŷ byddwch chi’n ei adeiladu imi? meddai Jehofa. Neu ble bydda i’n gorffwys? 50  Onid fy llaw i wnaeth greu’r pethau hyn i gyd?’ 51  “Ddynion ystyfnig sydd â chalonnau a chlustiau anufudd,* rydych chi’n wastad yn gwrthwynebu’r ysbryd glân; rydych chi’n gwneud yr un peth â’ch cyndadau. 52  Pa un o’r proffwydi wnaeth eich cyndadau ddim ei erlid? Do, fe laddon nhw’r rhai a gyhoeddodd ymlaen llaw fod yr un cyfiawn yn dod, yr un rydych chithau nawr wedi ei fradychu a’i ladd, 53  chi sydd wedi derbyn y Gyfraith a gafodd ei throsglwyddo drwy’r angylion ond sydd ddim wedi ei chadw.” 54  Wel, wrth glywed y pethau hyn, roedden nhw’n gynddeiriog yn eu calonnau a dechreuon nhw grensian eu dannedd tra oedden nhw’n edrych arno. 55  Ond dyma ef, yn llawn o’r ysbryd glân, yn syllu i’r nef ac yn gweld gogoniant Duw ac Iesu’n sefyll ar law dde Duw, 56  a dywedodd: “Edrychwch! Rydw i’n gweld y nefoedd wedi eu hagor a Mab y dyn yn sefyll ar law dde Duw.” 57  Ar hynny gwaeddon nhw nerth eu pennau a rhoi eu dwylo dros eu clustiau a dyma nhw i gyd yn rhuthro ato gyda’i gilydd. 58  Ar ôl ei daflu allan o’r ddinas, dechreuon nhw ei labyddio. Gwnaeth y tystion osod eu cotiau wrth draed dyn ifanc o’r enw Saul. 59  Tra oedden nhw’n llabyddio Steffan, fe wnaeth ef yr apêl hon: “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” 60  Yna, aeth ar ei bennau gliniau, a gwaeddodd â llais cryf: “Jehofa, paid â dal y pechod yma yn eu herbyn nhw.” Ac ar ôl iddo ddweud hyn, syrthiodd i gysgu mewn marwolaeth.

Troednodiadau

Llyth., “had.”
Neu “patriarch.”
Neu “fod ’na wenith.”
Neu “eneidiau.”
Neu “yn ddwyfol hardd.”
Neu “daeth i’w galon i.”
Neu “sydd heb eu henwaedu.”