Actau’r Apostolion 4:1-37

  • Pedr ac Ioan yn cael eu harestio (1-4)

    • 5,000 o ddynion yn credu (4)

  • Treial o flaen y Sanhedrin (5-22)

    • “Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad” (20)

  • Gweddïo am hyder (23-31)

  • Disgyblion yn rhannu eu heiddo (32-37)

4  Tra oedd y ddau yn siarad â’r bobl, dyma’r offeiriaid, capten y deml, a’r Sadwceaid yn dod atyn nhw’n fwyaf sydyn.  Roedd y rhain wedi gwylltio oherwydd bod yr apostolion yn dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi’n agored atgyfodiad Iesu o’r meirw.  Felly dyma nhw’n gafael ynddyn nhw a’u harestio hyd y diwrnod wedyn, oherwydd roedd hi eisoes wedi dechrau nosi.  Fodd bynnag, gwnaeth llawer o’r rhai a oedd wedi gwrando ar yr anerchiad ddod i gredu, a gwnaeth nifer y dynion gynyddu i ryw 5,000.  Y diwrnod wedyn daeth eu rheolwyr, yr henuriaid, a’r ysgrifenyddion at ei gilydd yn Jerwsalem,  ynghyd ag Annas, y prif offeiriad, Caiaffas, Ioan, Alecsander, a phawb oedd o deulu’r prif offeiriad.  Rhoddon nhw Pedr ac Ioan i sefyll yn eu plith a dechrau eu cwestiynu nhw: “Trwy ba nerth neu yn enw pwy y gwnaethoch chi hyn?”  Yna, wedi ei lenwi â’r ysbryd glân, dywedodd Pedr wrthyn nhw: “Chi reolwyr y bobl a henuriaid,  os ydyn ni’n cael ein croesholi heddiw am wneud daioni i ddyn anabl, ac rydych chi eisiau gwybod pwy wnaeth iacháu’r dyn hwn, 10  dylech chi i gyd a holl bobl Israel wybod mai yn enw Iesu Grist o Nasareth, yr un y gwnaethoch chi ei ddienyddio ar stanc ond y gwnaeth Duw ei godi o’r meirw, trwyddo ef y mae’r dyn hwn yn sefyll yma o’ch blaen yn iach. 11  Dyma’r ‘garreg a gafodd ei diystyru gynnoch chi’r adeiladwyr ac sydd wedi dod yn brif garreg gornel.’ 12  Ar ben hynny, does ’na ddim achubiaeth yn neb arall, oherwydd does dim enw arall o dan y nef sydd wedi ei roi i ddynion y mae’n rhaid inni gael ein hachub drwyddo.” 13  Nawr pan welson nhw hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai dynion diaddysg* a chyffredin oedden nhw, roedden nhw’n rhyfeddu. A dechreuon nhw sylweddoli eu bod nhw wedi bod gyda Iesu. 14  Wrth iddyn nhw edrych ar y dyn a oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll gyda nhw, doedd ganddyn nhw ddim ateb. 15  Felly dyma nhw’n eu gorchymyn i fynd allan o’r Sanhedrin, a dechreuon nhw ymgynghori â’i gilydd, 16  gan ddweud: “Beth dylen ni ei wneud â’r dynion hyn? Oherwydd, yn sicr, mae arwydd trawiadol wedi digwydd trwyddyn nhw, un sy’n amlwg i holl drigolion Jerwsalem, ac ni allwn ni wadu hynny. 17  Fel nad ydy hyn yn lledaenu ymhellach ymysg y bobl, gadewch inni eu bygwth nhw a dweud wrthyn nhw am beidio â siarad â neb mwyach ar sail yr enw hwn.” 18  Gyda hynny dyma nhw’n eu galw a’u gorchymyn i beidio â dweud dim na dysgu ar sail enw Iesu. 19  Ond atebodd Pedr ac Ioan: “Barnwch chi a yw’n iawn yng ngolwg Duw inni wrando arnoch chi yn hytrach nag ar Dduw. 20  Ond o’n rhan ni, dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” 21  Felly ar ôl iddyn nhw eu bygwth ymhellach, dyma nhw’n eu rhyddhau, oherwydd ni wnaethon nhw ddod o hyd i unrhyw sail dros eu cosbi, a hefyd oherwydd y bobl, gan eu bod nhw i gyd yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. 22  Oherwydd roedd y dyn a gafodd ei iacháu drwy’r wyrth hon dros 40 mlwydd oed. 23  Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, aethon nhw at eu pobl eu hunain ac adrodd yr hyn roedd y prif offeiriaid a’r henuriaid wedi ei ddweud wrthyn nhw. 24  Pan glywson nhw hynny, codon nhw eu lleisiau yn unfryd at Dduw a dweud: “Sofran Arglwydd, ti ydy’r Un a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phob peth sydd ynddyn nhw, 25  ac a ddywedodd drwy’r ysbryd glân yng ngheg ein cyndad Dafydd, dy was: ‘Pam y gwnaeth y cenhedloedd gynhyrfu a’r bobloedd fyfyrio ar bethau ofer? 26  Cymerodd brenhinoedd y ddaear eu safiad ac ymgasglodd y rheolwyr ynghyd yn erbyn Jehofa ac yn erbyn ei eneiniog ef.’* 27  Yn wir, fe wnaeth Herod a Pontius Peilat ynghyd â dynion y cenhedloedd a phobloedd Israel ymgasglu yn y ddinas hon yn erbyn dy was sanctaidd Iesu, yr un y gwnest ti ei eneinio, 28  i wneud beth roedd dy law a dy gyngor wedi ei benderfynu ymlaen llaw. 29  Ac nawr, Jehofa, rho sylw i’w bygythion, a chaniatâ i dy gaethweision barhau i gyhoeddi dy air â phob hyder, 30  wrth iti estyn dy law i iacháu ac wrth i arwyddion a rhyfeddodau ddigwydd drwy enw dy was sanctaidd Iesu.” 31  Ac ar ôl iddyn nhw erfyn ar Dduw,* cafodd y lle roedden nhw wedi ymgynnull ynddo ei ysgwyd, ac fe gawson nhw i gyd eu llenwi â’r ysbryd glân ac roedden nhw’n cyhoeddi gair Duw â hyder. 32  Ar ben hynny, roedd y dyrfa o gredinwyr o un galon ac o un enaid,* ac ni fyddai hyd yn oed yr un ohonyn nhw yn dweud bod y pethau oedd ganddo yn perthyn iddo, ond roedden nhw’n rhannu popeth â’i gilydd. 33  Ac â nerth mawr fe wnaeth yr apostolion barhau i roi’r dystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, ac fe ddangosodd Duw ei garedigrwydd rhyfeddol tuag atyn nhw i gyd. 34  Yn wir, doedd neb yn eu plith mewn angen, oherwydd byddai pawb oedd yn berchen ar gaeau neu dai yn eu gwerthu nhw a dod â gwerth yr hyn a gafodd ei werthu, 35  a’i roi wrth draed yr apostolion. Yna byddai’r apostolion yn rhannu’r arian â phob un mewn angen. 36  Roedd Joseff, Lefiad, brodor o Gyprus, a oedd yn cael ei alw hefyd yn Barnabas gan yr apostolion (sydd, o’i gyfieithu, yn golygu “Mab Cysur”), 37  yn berchen ar darn o dir, a dyma’n ei werthu ac yn dod â’r arian a’i roi wrth draed yr apostolion.

Troednodiadau

Neu “anllythrennog,” hynny yw, heb gael addysg yn yr ysgolion rabinaidd; nid yw’n golygu nad oedden nhw’n gallu ysgrifennu na darllen.
Neu “ei Grist.”
Neu “weddïo’n daer.”
Gweler Geirfa.