At y Galatiaid 3:1-29

  • Gweithredoedd y Gyfraith yn erbyn ffydd (1-14)

    • Y cyfiawn yn byw trwy ffydd (11)

  • Addewid i Abraham nid trwy’r Gyfraith (15-18)

    • Had Abraham, Crist (16)

  • Tarddiad a phwrpas y Gyfraith (19-25)

  • Meibion Duw trwy ffydd (26-29)

    • Had Abraham, y rhai sy’n perthyn i Grist (29)

3  Chi Galatiaid disynnwyr! Pwy sydd wedi dod â chi o dan y dylanwad drwg hwn, chi sydd wedi cael eich helpu i ddeall yn eglur farwolaeth Iesu Grist ar y stanc?  Yr unig beth rydw i eisiau gofyn ichi ydy: A wnaethoch chi dderbyn yr ysbryd drwy weithredoedd y gyfraith neu oherwydd ffydd yn yr hyn a glywsoch chi?  Ydych chi mor ddisynnwyr? Yn y dechrau gwnaethoch chi ddilyn yr ysbryd, ond a ydych chi’n gorffen drwy ddilyn y cnawd?  A wnaethoch chi ddioddef cymaint yn ofer? Os oedd hynny’n ofer mewn gwirionedd.  Felly, ydy’r un sy’n rhoi’r ysbryd ichi ac sy’n cyflawni gweithredoedd nerthol yn eich plith yn gwneud hynny oherwydd eich gweithredoedd sy’n ymwneud â’r gyfraith neu oherwydd eich ffydd yn yr hyn a glywsoch chi?  Yn union fel y gwnaeth Abraham “roi ffydd yn Jehofa,* ac roedd yn cael ei ystyried yn gyfiawn.”  Mae’n rhaid eich bod chi’n gwybod mai’r rhai sy’n glynu wrth y ffydd yw meibion Abraham.  Nawr mae’r ysgrythur, gan ragweld y byddai Duw yn galw pobl y cenhedloedd yn gyfiawn drwy ffydd, wedi cyhoeddi’r newyddion da ymlaen llaw i Abraham, sef: “Drwyddot ti y bydd yr holl genhedloedd yn cael eu bendithio.”  Felly mae’r rhai sy’n glynu wrth y ffydd yn cael eu bendithio ynghyd ag Abraham, dyn oedd â ffydd. 10  Mae pawb sy’n dibynnu ar weithredoedd y gyfraith o dan felltith, oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Melltigedig yw pawb sydd ddim yn parhau i wneud pob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith.” 11  Ar ben hynny, mae’n amlwg nad ydy Duw yn galw neb yn gyfiawn trwy’r gyfraith, oherwydd “bydd yr un cyfiawn yn byw oherwydd ei ffydd.” 12  Nawr dydy’r Gyfraith ddim yn seiliedig ar ffydd. Yn hytrach, “bydd unrhyw un sy’n gwneud y pethau hyn yn byw trwyddyn nhw.” 13  Gwnaeth Crist ein prynu ni, gan ein rhyddhau ni oddi wrth felltith y Gyfraith drwy dderbyn y felltith yn ein lle, oherwydd mae’n ysgrifenedig: “Melltigedig yw pob dyn sy’n cael ei hoelio* ar stanc.” 14  Roedd hyn er mwyn i’r fendith a gafodd ei haddo i Abraham ddod i’r cenhedloedd drwy gyfrwng Crist Iesu, er mwyn i ni dderbyn trwy ffydd yr ysbryd mae Duw wedi ei addo. 15  Frodyr, rydw i’n siarad drwy ddefnyddio enghraifft o fywyd pob dydd: Unwaith i gyfamod gael ei gadarnhau, hyd yn oed gan ddyn, ni all neb ei ddirymu nac ychwanegu ato. 16  Nawr, cafodd yr addewidion eu gwneud i Abraham a’i had. Nid yw’n dweud, “ac i dy ddisgynyddion,”* yn y lluosog. Yn hytrach, mae’n dweud, “ac i dy had,” yn yr unigol, sef Crist. 17  Ymhellach, rydw i’n dweud: Nid yw’r Gyfraith, a ddaeth i fodolaeth 430 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn dirymu’r cyfamod a wnaeth Duw gynt, er mwyn dileu’r addewid. 18  Oherwydd os yw’r etifeddiaeth yn seiliedig ar y gyfraith, nid yw mwyach yn seiliedig ar addewid; ond mae Duw yn ei garedigrwydd wedi ei rhoi i Abraham drwy addewid. 19  Beth oedd pwrpas y Gyfraith felly? Cafodd ei rhoi i amlygu troseddau, hyd nes y byddai’r had* yn cyrraedd, yr un a gafodd yr addewid; ac fe gafodd y Gyfraith ei rhoi i bobl gan angylion drwy law canolwr. 20  Nawr does dim angen canolwr pan fydd ’na un person yn unig, ond Duw oedd yr unig un a wnaeth yr addewid hwnnw. 21  Ydy’r Gyfraith, felly, yn erbyn addewidion Duw? Ddim o gwbl! Oherwydd petai cyfraith wedi ei rhoi a fyddai’n gallu rhoi bywyd, byddai cyfiawnder yn wir wedi dod drwy’r gyfraith. 22  Ond dangosodd yr Ysgrythurau fod pobl wedi cael eu carcharu gan bechod, er mwyn i’r addewid sy’n dod o ganlyniad i ffydd yn Iesu Grist gael ei roi i’r rhai sy’n ymarfer ffydd. 23  Fodd bynnag, cyn i’r ffydd gyrraedd, roedden ni’n cael ein gwarchod o dan y gyfraith, yn cael ein carcharu ganddi, gan ddisgwyl am y ffydd a oedd ar fin cael ei datguddio. 24  Felly daeth y Gyfraith yn warchodwr inni sy’n ein harwain at Grist, er mwyn inni allu cael ein galw’n gyfiawn drwy ffydd. 25  Ond gan fod y ffydd bellach wedi cyrraedd, dydyn ni ddim o dan warchodwr mwyach. 26  Rydych chi i gyd, yn wir, yn feibion Duw trwy eich ffydd yng Nghrist Iesu. 27  Oherwydd mae pob un ohonoch chi sydd wedi cael ei fedyddio yng Nghrist wedi efelychu* Crist. 28  Does ’na ddim Iddew na Groegwr, does ’na ddim caethwas na dyn rhydd, does ’na ddim gwryw na benyw, oherwydd eich bod chi i gyd yn un, mewn undod â Christ Iesu. 29  Yn ogystal, os ydych chi’n perthyn i Grist, had Abraham ydych chi mewn gwirionedd, etifeddion yn ôl yr addewid.

Troednodiadau

Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Llyth., “ei grogi.”
Llyth., “hadau.”
Neu “y disgynnydd.”
Llyth., “gwisgo.”