Genesis 2:1-25
2 Felly cafodd y nefoedd a’r ddaear a phopeth ynddyn nhw* eu gorffen.
2 Ac erbyn y seithfed dydd, gorffennodd Duw’r gwaith roedd wedi bod yn ei wneud, a dechreuodd orffwys ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, y gwaith roedd wedi bod yn ei wneud.
3 Ac fe aeth Duw yn ei flaen i fendithio’r seithfed dydd a chyhoeddi ei fod yn gysegredig, am mai ar y diwrnod hwnnw mae Duw wedi bod yn gorffwys oddi wrth yr holl waith mae wedi ei greu, popeth roedd wedi bwriadu ei wneud.
4 Dyma hanes y nefoedd a’r ddaear yn yr amser y cawson nhw eu creu, yn y dydd y gwnaeth Jehofa* Dduw ddaear a nefoedd.
5 Doedd dim planhigion y maes ar y ddaear eto a doedd llysiau’r maes ddim wedi dechrau blaguro, oherwydd doedd Jehofa Dduw ddim wedi gwneud iddi lawio ar y ddaear a doedd dim dyn i drin y tir.
6 Ond byddai niwl yn codi o’r ddaear, ac yn dyfrio holl wyneb y tir.
7 Ac aeth Jehofa Dduw yn ei flaen i ffurfio’r dyn allan o lwch y tir ac i chwythu i mewn i’w ffroenau anadl bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.*
8 Ar ben hynny, plannodd Jehofa Dduw ardd yn Eden, tua’r dwyrain, a rhoi’r dyn roedd wedi ei ffurfio yno.
9 Felly gwnaeth Jehofa Dduw i bob coeden dyfu o’r tir, coed hardd a choed a oedd yn dda ar gyfer bwyd, a hefyd coeden y bywyd yng nghanol yr ardd a choeden y wybodaeth am dda a drwg.
10 Nawr roedd ’na afon yn llifo allan o Eden i ddyfrio’r ardd, ac oddi yno roedd hi’n rhannu’n bedair afon.*
11 Enw’r gyntaf ydy Pison; hon yw’r un sy’n amgylchynu holl wlad Hafila, lle mae ’na aur.
12 Mae aur y wlad honno yn dda. Mae gwm Bdeliwm a’r gem onics yno hefyd.
13 Enw’r ail afon ydy Gihon; hon yw’r un sy’n amgylchynu holl wlad Cus.*
14 Enw’r drydedd afon ydy Hidecel;* hon yw’r un sy’n mynd i’r ochr ddwyreiniol o Asyria. A’r bedwaredd afon ydy Ewffrates.
15 Cymerodd Jehofa Dduw y dyn a’i setlo yng ngardd Eden i’w thrin ac i ofalu amdani.
16 Hefyd, rhoddodd Jehofa Dduw y gorchymyn hwn i’r dyn: “Cei di fwyta a digoni ar bob coeden yn yr ardd.
17 Ond chei di ddim bwyta o goeden y wybodaeth am dda a drwg, oherwydd byddi di’n sicr o farw yn y dydd y byddi di’n bwyta ohoni.”
18 Yna dywedodd Jehofa Dduw: “Dydy hi ddim yn beth da i’r dyn barhau i fod ar ei ben ei hun. Rydw i’n mynd i wneud helpwr iddo, fel partner priodol iddo.”*
19 Nawr roedd Jehofa Dduw wedi bod yn ffurfio o’r ddaear holl anifeiliaid gwyllt y maes a’r holl greaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a dechreuodd ddod â nhw at y dyn i weld beth fyddai’n galw pob un ohonyn nhw; a beth bynnag y byddai’r dyn yn galw pob creadur byw,* dyna oedd ei enw.
20 Felly rhoddodd y dyn enwau ar yr holl anifeiliaid domestig a’r holl greaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd a phob anifail gwyllt y maes, ond doedd gan y dyn ddim helpwr fel partner priodol iddo.*
21 Felly achosodd Jehofa Dduw i’r dyn gysgu’n drwm, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o’i asennau ac yna cau’r cnawd dros ei lle.
22 A gwnaeth Jehofa Dduw ffurfio dynes* allan o’r asen roedd wedi ei chymryd o’r dyn, a daeth â hi at y dyn.
23 Yna dywedodd y dyn:
“Hon o’r diwedd ydy asgwrn o fy esgyrnA chnawd o fy nghnawd.
Dynes* fydd hon yn cael ei galw,Oherwydd o ddyn y cafodd hi ei chymryd.”
24 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth* ei wraig, a byddan nhw’n dod yn un cnawd.
25 Ac roedd y ddau ohonyn nhw’n parhau i fod yn noeth, y dyn a’i wraig; ond eto doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
Troednodiadau
^ Llyth., “a’u holl luoedd.”
^ Y tro cyntaf i enw personol unigryw Duw ymddangos, יהוה (YHWH).
^ Llyth., “daeth yn bedwar pen.”
^ Neu “Ethiopia.” Fodd bynnag, mae lleoliad y lle hwn yn ansicr.
^ Neu “Tigris.”
^ Neu “fel cymar sy’n ei wneud yn gyflawn.”
^ Neu “enaid.”
^ Neu “fel cymar sy’n ei wneud yn gyflawn.”
^ Neu “menyw.”
^ Neu “Menyw.”
^ Neu “aros gyda.”