Datguddiad i Ioan 3:1-22

  • Negeseuon i Sardis (1-6), i Philadelffia (7-13), i Laodicea (14-22)

3  “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Sardis: Dyma beth mae’r un yn ei ddweud sydd â saith ysbryd Duw a’r saith seren: ‘Rydw i’n gwybod am dy weithredoedd, fod gen ti enw am fod yn fyw, ond rwyt ti’n farw.  Bydda’n wyliadwrus, a chryfha’r pethau a oedd yn barod i farw, oherwydd rydw i’n gweld nad ydy dy weithredoedd wedi cael eu cwblhau o flaen fy Nuw.  Felly, dal ati i gadw mewn cof yr hyn rwyt ti wedi ei dderbyn a’r hyn rwyt ti wedi ei glywed, a dal ati i’w gadw, ac edifarha. Yn sicr, oni bai dy fod ti’n deffro, bydda i’n dod fel lleidr, ac ni fyddi di’n gwybod o gwbl ar ba awr bydda i’n dod arnat ti.  “‘Er hynny, mae gen ti ychydig o unigolion yn Sardis sydd heb lygru eu dillad, a byddan nhw’n cerdded gyda mi mewn dillad gwyn, oherwydd eu bod nhw’n deilwng.  Yn yr un modd, bydd yr un sy’n concro yn gwisgo dillad gwyn, ac ni fydda i ar unrhyw gyfri yn dileu* ei enw o lyfr y bywyd, ond bydda i’n cydnabod ei enw o flaen fy Nhad ac o flaen ei angylion.  Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd.’  “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Philadelffia: Dyma beth mae’r un yn ei ddweud sy’n sanctaidd, sy’n wir, sydd ag allwedd Dafydd, sy’n agor y drws fel na fydd neb yn gallu ei gau ac sy’n cau’r drws fel na fydd neb yn gallu ei agor:  ‘Rydw i’n gwybod am dy weithredoedd—edrycha! rydw i wedi gosod drws agored o dy flaen di, un does neb yn gallu ei gau. Ac rydw i’n gwybod bod gen ti ychydig o rym, a dy fod ti wedi cadw fy ngair heb brofi’n anffyddlon i fy enw.  Edrycha! Bydda i’n gwneud i’r rhai o synagog Satan sy’n dweud eu bod nhw’n Iddewon ond dydyn nhw ddim, rhai sy’n dweud celwydd—edrycha! bydda i’n gwneud iddyn nhw ddod a phlygu* o flaen dy draed ac yn gwneud iddyn nhw wybod fy mod i wedi dy garu di. 10  Gan dy fod ti wedi dilyn fy esiampl o ddyfalbarhad,* bydda innau hefyd yn dy gadw di rhag awr y prawf, sydd am ddod ar y ddaear gyfan, i roi prawf ar y rhai sy’n byw ar y ddaear. 11  Rydw i’n dod yn gyflym. Dal ati i lynu wrth yr hyn sydd gen ti, fel na fydd neb yn gallu cymryd dy goron. 12  “‘Bydda i’n gwneud yr un sy’n concro yn golofn yn nheml fy Nuw, ac ni fydd ef ar unrhyw gyfri yn mynd allan ohoni mwyach, a bydda i’n ysgrifennu arno enw fy Nuw ac enw dinas fy Nuw, y Jerwsalem Newydd sy’n dod i lawr o’r nef oddi wrth fy Nuw, a fy enw newydd i hefyd. 13  Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd.’ 14  “Ysgrifenna hyn at angel y gynulleidfa yn Laodicea: Dyma beth mae’r Amen yn ei ddweud, y tyst ffyddlon a gwir, dechreuad creadigaeth Duw: 15  ‘Rydw i’n gwybod am dy weithredoedd, nad wyt ti’n oer nac yn boeth. Byddai’n well gen i petaset ti’n oer neu’n boeth. 16  Felly oherwydd dy fod ti’n llugoer a dwyt ti ddim yn boeth nac yn oer, rydw i’n mynd i dy chwydu di allan o fy ngheg. 17  Gan dy fod ti’n dweud, “Rydw i’n gyfoethog ac rydw i wedi hel llawer o gyfoeth a does dim angen dim byd o gwbl arna i,” ond dwyt ti ddim yn gwybod dy fod ti’n drist ac yn druenus ac yn dlawd ac yn ddall ac yn noeth, 18  rydw i’n awgrymu iti brynu aur gen i sydd wedi ei buro drwy dân er mwyn iti fod yn gyfoethog, a dillad gwyn i’w gwisgo fel na fydd dy gywilydd o fod yn noeth yn cael ei ddatgelu, ac eli i’w rwbio yn dy lygaid er mwyn iti allu gweld. 19  “‘Rydw i’n ceryddu ac yn disgyblu’r holl rai sy’n annwyl imi. Felly bydda’n selog ac edifarha. 20  Edrycha! Rydw i’n sefyll wrth y drws ac yn cnocio. Os oes rhywun yn clywed fy llais ac yn agor y drws, bydda i’n dod i mewn i’w dŷ ac yn bwyta swper gydag ef ac yntau gyda mi. 21  Bydda i’n caniatáu i’r un sy’n concro eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel gwnes innau goncro ac eistedd gyda fy Nhad ar ei orsedd yntau. 22  Dylai’r un sydd â chlust glywed beth mae’r ysbryd yn ei ddweud wrth y cynulleidfaoedd.’”

Troednodiadau

Neu “rhwbio allan.”
Neu “ac ymgrymu.”
Neu “cadw’r gair am fy nyfalbarhad.”