Yr Ail at y Corinthiaid 1:1-24

  • Cyfarchion (1, 2)

  • Cysur gan Dduw yn ein holl dreialon (3-11)

  • Cynlluniau teithio Paul yn newid (12-24)

1  Paul, apostol Crist Iesu drwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd, at gynulleidfa Duw sydd yng Nghorinth, gan gynnwys yr holl rai sanctaidd ledled Achaia:  Rydw i’n gweddïo y byddwch chi’n cael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch gan Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.  Mawl i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy’n llawn trugaredd a Duw pob cysur,  sy’n ein cysuro* ni yn ein holl dreialon fel ein bod ni’n gallu cysuro eraill sy’n wynebu unrhyw fath o dreial drwy’r cysur rydyn ni’n ei dderbyn gan Dduw.  Yn union fel rydyn ni’n llawn o ddioddefiadau’r Crist, rydyn ni hefyd yn llawn o’r cysur rydyn ni wedi ei dderbyn drwy’r Crist.  Nawr os ydyn ni’n wynebu treialon, er mwyn eich cysur a’ch achubiaeth chi mae hynny; ac os ydyn ni’n cael ein cysuro, er mwyn eich cysur chi mae hynny, i’ch helpu chi i ddyfalbarhau yn wyneb yr un dioddefiadau ag yr ydyn ni’n eu dioddef.  Ac mae ein gobaith amdanoch chi yn sicr, gan ein bod ni’n gwybod mai yn union fel rydych chi’n rhannu yn y dioddefiadau, fe fyddwch chi hefyd yn rhannu yn y cysur.  Oherwydd rydyn ni eisiau i chi fod yn ymwybodol, frodyr, o’r treialon a wynebon ni yn nhalaith Asia. Roedden ni o dan bwysau aruthrol, y tu hwnt i’n cryfder ein hunain, ac roedden ni’n ansicr iawn hyd yn oed o’n bywydau.  Yn wir, roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi derbyn dedfryd marwolaeth. Roedd hyn er mwyn inni ymddiried, nid ynon ni’n hunain, ond yn y Duw sy’n atgyfodi’r meirw. 10  Rhag y fath beryg o farw y mae ef wedi ein hachub ni ac y bydd yn ein hachub ni, ac ynddo ef y mae ein gobaith ni y bydd yn parhau i’n hachub. 11  Gallwch chithau hefyd ein helpu ni drwy erfyn droston ni, er mwyn i lawer allu rhoi diolch ar ein rhan am yr help rydyn ni’n ei dderbyn yn ateb i weddïau llawer. 12  Dyma’r hyn rydyn ni’n brolio amdano: bod ein cydwybod yn tystio ein bod ni wedi ymddwyn yn y byd, ac yn enwedig tuag atoch chi, mewn sancteiddrwydd a didwylledd duwiol, ac nid mewn doethineb cnawdol, ond yng ngharedigrwydd rhyfeddol Duw. 13  Oherwydd dydyn ni ddim yn ysgrifennu atoch chi am unrhyw beth heblaw’r pethau hynny rydych chi’n gallu eu darllen* a’u deall, ac rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n parhau i ddeall y pethau hyn yn llawn,* 14  yn union fel rydych chi hefyd wedi deall i raddau ein bod ni’n destun brolio i chi, yn union fel y byddwch chithau i ni yn nydd ein Harglwydd Iesu. 15  Felly, oherwydd fy mod i’n hyderus yn hyn o beth, roeddwn i’n bwriadu dod atoch chi’n gyntaf, er mwyn ichi fedru cael llawenydd am yr eildro;* 16  ac roeddwn i’n bwriadu ymweld â chi ar fy ffordd i Facedonia, a dod yn ôl atoch chi o Facedonia, ac yna ichi ddod gyda mi ran o’r ffordd i Jwdea. 17  Wel, pan oedd gen i’r fath fwriad, a oeddwn i’n gwneud yn fach ohono? Neu ydw i’n bwriadu gwneud pethau mewn ffordd gnawdol, fel fy mod i’n dweud “Ie, ie” ac yna “Nage, nage”? 18  Gellir dibynnu ar Dduw nad ydyn ni’n dweud wrthoch chi “ie” ac yna “nage.” 19  Doedd Mab Duw, Iesu Grist, a bregethwyd yn eich plith drwyddon ni, hynny yw, drwyddo i a Silfanus* a Timotheus, ddim wedi dod yn “ie” ac yna’n “nage,” ond mae “ie” wedi dod yn “ie” yn ei achos ef. 20  Oherwydd ni waeth faint o addewidion Duw sydd ’na, maen nhw i gyd wedi dod yn “ie” drwyddo ef. Felly, trwyddo ef hefyd y mae’r “Amen” a ddywedwyd wrth Dduw, sy’n dod â gogoniant iddo ef drwyddon ni. 21  Ond yr un sy’n gwarantu eich bod chithau a ninnau yn perthyn i Grist, a’r un sydd wedi ein heneinio ni, ydy Duw. 22  Mae ef hefyd wedi rhoi ei sêl arnon ni ac mae wedi rhoi inni’r blaendal o’r hyn sydd i ddod,* hynny yw, yr ysbryd, yn ein calonnau. 23  Nawr rydw i’n galw ar Dduw yn dyst mai i’ch arbed chi y penderfynais beidio â dod i Gorinth. 24  Nid ein bod ni’n feistri ar eich ffydd, ond rydyn ni’n gyd-weithwyr i’ch llawenydd, oherwydd trwy eich ffydd rydych chi’n sefyll.

Troednodiadau

Neu “calonogi.”
Neu efallai, “y pethau rydych chi eisoes yn eu gwybod yn dda.”
Llyth., “hyd y diwedd.”
Neu efallai, “er mwyn ichi elwa ddwywaith.”
A elwir hefyd Silas.
Neu “arian ernes; gwarant (addewid) o’r hyn sydd i ddod.”