Yn Ôl Luc 22:1-71

  • Offeiriaid yn cynllwynio i ladd Iesu (1-6)

  • Paratoi ar gyfer y Pasg olaf (7-13)

  • Sefydlu Swper yr Arglwydd (14-20)

  • “Mae fy mradychwr gyda mi wrth y bwrdd” (21-23)

  • Dadl danbaid am y mwyaf pwysig (24-27)

  • Cyfamod Iesu am deyrnas (28-30)

  • Rhagfynegi Pedr yn gwadu (31-34)

  • Yr angen i baratoi; y ddau gleddyf (35-38)

  • Gweddi Iesu ar Fynydd yr Olewydd (39-46)

  • Iesu’n cael ei arestio (47-53)

  • Pedr yn gwadu Iesu (54-62)

  • Pobl yn gwawdio Iesu (63-65)

  • Treial o flaen y Sanhedrin (66-71)

22  Nawr roedd Gŵyl y Bara Croyw, sy’n cael ei alw’r Pasg, yn agosáu.  Ac roedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn chwilio am ffordd effeithiol o gael gwared arno, oherwydd roedden nhw’n ofni’r bobl.  Yna aeth Satan i mewn i Jwdas, yr un a oedd yn cael ei alw’n Iscariot, a oedd yn cael ei gyfri ymhlith y Deuddeg,  ac aeth ef i ffwrdd a siarad â’r prif offeiriaid a chapteiniaid y deml ynglŷn â sut i’w fradychu ef iddyn nhw.  Roedden nhw wrth eu boddau a chytunon nhw i roi arian iddo.  Felly cytunodd yntau a dechreuodd edrych am gyfle da i’w fradychu ef iddyn nhw pan nad oedd y dyrfa o gwmpas.  Roedd Gŵyl y Bara Croyw* wedi cyrraedd, pan oedd aberth y Pasg yn gorfod cael ei offrymu;  felly anfonodd Iesu Pedr ac Ioan, gan ddweud: “Ewch a gwnewch yn siŵr fod y Pasg yn barod inni ei fwyta.”  Dywedon nhw wrtho: “Lle rwyt ti eisiau inni ei baratoi?” 10  Dywedodd wrthyn nhw: “Edrychwch! Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r ddinas, bydd dyn sy’n cario llestr dŵr yn cyfarfod â chi. Dilynwch ef i mewn i’r tŷ y mae ef yn mynd i mewn iddo. 11  A dywedwch wrth berchennog y tŷ, ‘Mae’r Athro yn dweud wrthot ti: “Lle mae’r ystafell lle galla i fwyta’r Pasg gyda fy nisgyblion?”’ 12  A bydd y dyn hwnnw yn dangos ichi uwch ystafell fawr sydd wedi ei pharatoi. Gwnewch bopeth yn barod yno.” 13  Felly i ffwrdd â nhw a daethon nhw o hyd i’r lle yn union fel roedd ef wedi dweud wrthyn nhw, a dyma nhw’n paratoi’r Pasg. 14  Felly pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd gyda’r apostolion. 15  Ac meddai wrthyn nhw: “Rydw i wedi dymuno’n fawr iawn gael bwyta’r Pasg hwn gyda chi cyn imi ddioddef; 16  oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi na fydda i’n ei fwyta eto hyd nes i bopeth gael ei gyflawni yn Nheyrnas Dduw.” 17  Ac yn derbyn cwpan, rhoddodd ddiolch i Dduw a dweud: “Cymerwch hwn a’i basio o un i’r llall ymhlith eich gilydd, 18  oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, o hyn ymlaen ni fydda i’n yfed gwin eto hyd nes y bydd Teyrnas Dduw yn dod.” 19  Hefyd, cymerodd dorth, rhoi diolch i Dduw, ei thorri, a’i rhoi iddyn nhw, gan ddweud: “Mae’r bara hwn yn cynrychioli fy nghorff,* sy’n mynd i gael ei roi er eich mwyn chi. Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.” 20  Hefyd, yn yr un modd, cymerodd y cwpan ar ôl iddyn nhw gael y swper, gan ddweud: “Mae’r cwpan hwn yn cynrychioli’r cyfamod newydd ar sail fy ngwaed i, sy’n mynd i gael ei dywallt er eich mwyn chi. 21  “Ond edrychwch! mae fy mradychwr gyda mi wrth y bwrdd. 22  Oherwydd, yn wir, bydd popeth sydd wedi cael ei ysgrifennu am Fab y dyn yn digwydd iddo; er hynny, gwae’r dyn hwnnw sy’n ei fradychu!” 23  Felly dechreuon nhw drafod ymhlith ei gilydd pa un ohonyn nhw oedd ar fin gwneud hyn. 24  Fodd bynnag, cododd dadl danbaid yn eu plith ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y mwyaf pwysig. 25  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw, ac mae’r rhai sydd ag awdurdod drostyn nhw yn cael eu galw’n Gymwynaswyr.* 26  Ond dydych chi, fodd bynnag, ddim i fod fel ’na. Gad i’r un mwyaf pwysig yn eich plith fod fel yr ieuengaf, a’r un sy’n arwain fod fel yr un sy’n gweini. 27  Oherwydd pa un sy’n fwyaf pwysig, yr un sy’n bwyta* wrth y bwrdd neu’r un sy’n gweini?* Onid yr un sy’n bwyta* wrth y bwrdd? Ond rydw i yn eich plith chi fel un sy’n gweini.* 28  “Fodd bynnag, chi ydy’r rhai sydd wedi glynu wrtho i drwy gydol fy nhreialon; 29  ac rydw i’n gwneud cyfamod â chi i reoli mewn teyrnas, yn union fel y gwnaeth fy Nhad gyfamod â mi i reoli mewn teyrnas, 30  fel y gallwch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac eistedd ar orseddau i farnu 12 llwyth Israel. 31  “Simon, Simon, edrycha! mae Satan yn mynnu eich ysgwyd chi i gyd fel us sy’n cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. 32  Ond rydw i wedi erfyn drostot ti er mwyn i dy ffydd di beidio â gwanhau; a tithau, unwaith iti ddod yn ôl, cryfha dy frodyr.” 33  Yna dywedodd wrtho: “Arglwydd, rydw i’n barod i fynd gyda ti i’r carchar ac i farwolaeth.” 34  Ond dywedodd yntau: “Rydw i’n dweud wrthot ti, Pedr, ni fydd ceiliog yn canu heddiw hyd nes y byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod ti’n fy adnabod i.” 35  Dywedodd wrthyn nhw hefyd: “Pan wnes i eich anfon chi allan heb fag arian na bag bwyd na sandalau, oeddech chi’n brin o unrhyw beth?” “Nac oedden ni,” medden nhw. 36  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Ond nawr os oes gynnoch chi fag arian, ewch ag ef gyda chi, a bag bwyd yn yr un modd, ac os nad oes gynnoch chi gleddyf, gwerthwch eich cotiau a phrynwch un. 37  Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod yr hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn gorfod cael ei gyflawni yno i, hynny yw, ‘Roedd ef yn cael ei gyfri gyda’r rhai digyfraith.’ Oherwydd mae hyn yn cael ei gyflawni yno i.” 38  Yna dywedon nhw: “Arglwydd, edrycha! mae gynnon ni ddau gleddyf.” Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Mae hynny’n ddigon.” 39  Wrth iddo adael, yn ôl ei arfer fe aeth i Fynydd yr Olewydd, ac fe wnaeth y disgyblion hefyd ei ddilyn. 40  Pan gyrhaeddodd y lle, dywedodd wrthyn nhw: “Parhewch i weddïo fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.” 41  Ac aeth i ffwrdd ryw dafliad carreg oddi wrthyn nhw, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, 42  gan ddweud: “Dad, os wyt ti eisiau, cymera’r cwpan hwn oddi wrtho i. Er hynny, gad i dy ewyllys di ddigwydd, nid fy ewyllys i.” 43  Yna ymddangosodd angel o’r nef iddo a’i gryfhau. 44  Ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd yn parhau i weddïo yn fwy taer; ac roedd ei chwys fel diferion o waed yn disgyn i’r ddaear. 45  Pan gododd ar ei draed ar ôl gweddïo a mynd at y disgyblion, fe welodd eu bod nhw’n cysgu, wedi ymlâdd o achos eu galar. 46  Meddai wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n cysgu? Codwch a daliwch ati i weddïo, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.” 47  Tra oedd yn dal i siarad, edrycha! daeth tyrfa ato, ac roedd y dyn a oedd yn cael ei alw’n Jwdas, un o’r Deuddeg, yn eu harwain nhw, a dyma’n mynd at Iesu ac yn ei gusanu. 48  Ond dywedodd Iesu wrtho: “Jwdas, wyt ti’n bradychu Mab y dyn â chusan?” 49  Pan welodd y rhai o’i gwmpas yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd, dywedon nhw: “Arglwydd, a ddylen ni daro â’r cleddyf?” 50  Gwnaeth un ohonyn nhw hyd yn oed daro caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. 51  Ond atebodd Iesu: “Dyna ddigon.” A dyma’n cyffwrdd â’r glust ac yn iacháu’r dyn. 52  Yna meddai Iesu wrth y prif offeiriaid a chapteiniaid y deml a henuriaid a oedd wedi dod yno i’w nôl: “A ddaethoch chi allan â chleddyfau a phastynau fel yn erbyn lleidr? 53  Tra oeddwn i gyda chi yn y deml bob dydd, wnaethoch chi ddim ceisio fy arestio i. Ond hon ydy eich awr chi ac awdurdod y tywyllwch.” 54  Yna fe wnaethon nhw ei arestio a mynd ag ef i ffwrdd, a daethon nhw ag ef i mewn i dŷ’r archoffeiriad; ond roedd Pedr yn dilyn o bell. 55  Pan wnaethon nhw gynnau tân yng nghanol y cwrt ac eistedd gyda’i gilydd, roedd Pedr yn eistedd yn eu plith. 56  Ond fe wnaeth morwyn, o’i weld yn eistedd yng ngoleuni’r tân, edrych yn ofalus arno a dweud: “Roedd y dyn hwn hefyd gydag ef.” 57  Ond fe wadodd y peth, gan ddweud: “Dydw i ddim yn ei adnabod ef, ddynes.”* 58  Ychydig wedyn, fe welodd rhywun arall ef a dweud: “Rwyt tithau hefyd yn un ohonyn nhw.” Ond dywedodd Pedr: “Ddyn, dydw i ddim.” 59  Ac ar ôl tua awr, dechreuodd dyn arall fynnu: “Yn bendant, roedd y dyn hwn hefyd gydag ef, mae’n dod o Galilea!” 60  Ond dywedodd Pedr: “Ddyn, dydw i ddim yn gwybod beth rwyt ti’n sôn amdano.” Ac yn fwyaf sydyn, tra oedd yn dal i siarad, dyma geiliog yn canu. 61  Gyda hynny, trodd yr Arglwydd ac edrych yn syth ar Pedr, a chofiodd Pedr eiriau’r Arglwydd pan oedd ef wedi dweud wrtho: “Cyn i geiliog ganu heddiw, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” 62  Ac fe aeth allan a chrio’n chwerw. 63  Nawr dechreuodd y milwyr a oedd yn gwarchod Iesu ei wawdio a’i guro; 64  ac ar ôl rhoi gorchudd ar ei wyneb, roedden nhw’n gofyn o hyd: “Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di?” 65  Ac fe ddywedon nhw lawer o bethau cableddus eraill yn ei erbyn. 66  A phan ddaeth hi’n ddydd, daeth cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion, at ei gilydd, a dyma nhw’n ei arwain ef i mewn i neuadd y Sanhedrin a dweud: 67  “Os mai ti ydy’r Crist, dyweda wrthon ni.” Ond dywedodd yntau wrthyn nhw: “Hyd yn oed petaswn i’n dweud wrthoch chi, fyddech chi ddim yn credu’r peth o gwbl. 68  Ar ben hynny, petaswn i yn eich cwestiynu chi, fyddech chi ddim yn ateb. 69  Fodd bynnag, o hyn ymlaen bydd Mab y dyn yn eistedd ar law dde rymus Duw.” 70  Ar hynny dyma nhw i gyd yn dweud: “Ai ti felly ydy Mab Duw?” Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Chi’ch hunain sy’n dweud fy mod i.” 71  Dywedon nhw: “Pam mae angen tystiolaeth bellach arnon ni? Oherwydd rydyn ni’n hunain wedi clywed y peth o’i geg ei hun.”

Troednodiadau

Llyth., “dydd y Bara Croyw.”
Llyth., “Hwn yw fy nghorff.”
Teitl o barch ar gyfer pobl sy’n helpu eraill.
Neu “cymryd ei le.”
Neu “gwasanaethu.”
Neu “cymryd ei le.”
Neu “gwasanaethu.”
Neu “fenyw.”