Yr Ail at Timotheus 3:1-17

  • Sefyllfa hynod o anodd a pheryglus yn y dyddiau olaf (1-7)

  • Dilyn esiampl Paul yn agos (8-13)

  • ’Parhau i ddilyn y pethau y gwnest ti eu dysgu’ (14-17)

    • Yr holl Ysgrythurau wedi eu hysbrydoli gan Dduw (16)

3  Ond rydw i eisiau iti wybod hyn: Yn y dyddiau olaf bydd y sefyllfa’n hynod o anodd ac yn beryglus.  Oherwydd bydd dynion yn eu caru eu hunain, yn caru arian, yn frolgar, yn ffroenuchel, yn cablu, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar, yn anffyddlon,  heb gariad naturiol, yn gwrthod cytuno â phobl eraill, yn enllibwyr, heb hunanreolaeth, yn ffyrnig, heb gariad at ddaioni,  yn fradwyr, yn ystyfnig, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw,  yn honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw ond heb ddangos hynny yn y ffordd maen nhw’n byw; cadw draw o’r pethau hyn.  O’u plith nhw mae dynion yn sleifio i mewn i deuluoedd ac yn camarwain merched* gwan sydd wedi eu llwytho o dan faich pechodau, ac sydd wedi eu harwain gan wahanol chwantau.  Mae’r merched* hynny yn wastad yn ceisio dysgu ond byth yn gallu dod i wybodaeth gywir o’r gwir.  Nawr yn yr un ffordd ag y gwnaeth Jannes a Jambres wrthwynebu Moses, felly hefyd mae’r rhain yn parhau i wrthwynebu’r gwir. Mae meddyliau dynion o’r fath yn hollol lwgr, a dydy Duw ddim yn eu cymeradwyo nhw oherwydd eu bod nhw’n mynd yn groes i’r ffydd.  Er hynny, fyddan nhw ddim yn mynd yn bell, oherwydd bydd eu ffolineb yn hollol amlwg i bawb, fel yr oedd yn achos y ddau ddyn hynny. 10  Ond rwyt ti wedi dilyn yn agos fy nysgeidiaeth, fy ffordd o fyw, fy mhwrpas, fy ffydd, fy amynedd, fy nghariad, fy nyfalbarhad, 11  yr erledigaeth a’r dioddefaint gwnes i eu profi yn Antiochia, Iconium, a Lystra. Gwnes i ddyfalbarhau yn wyneb yr erledigaeth hon, a gwnaeth yr Arglwydd fy achub i bob tro. 12  Yn wir, bydd pawb sydd eisiau byw mewn undod â Christ Iesu ac sydd eisiau dangos defosiwn duwiol hefyd yn cael eu herlid. 13  Ond bydd dynion drwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn camarwain pobl eraill ac yn cael eu camarwain. 14  Ond tithau, parha i ddilyn y pethau y gwnest ti eu dysgu ac y cest ti dy berswadio i’w credu, gan wybod pwy sydd wedi eu dysgu nhw iti 15  a dy fod ti wedi gwybod yr ysgrifau sanctaidd ers iti fod yn blentyn. Mae’r ysgrifau hynny’n gallu rhoi iti ddoethineb sy’n arwain i achubiaeth drwy ffydd yng Nghrist Iesu. 16  Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol ar gyfer dysgu, ar gyfer ceryddu, ar gyfer cywiro, ar gyfer disgyblu mewn cyfiawnder, 17  er mwyn i weision Duw fod yn hollol gymwys, wedi eu harfogi ar gyfer pob gwaith da.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “menywod.”