Y Cyntaf at y Corinthiaid 11:1-34

  • ‘Dod yn efelychwyr ohono i’ (1)

  • Penteuluaeth a gorchuddio’r pen (2-16)

  • Cadw Swper yr Arglwydd (17-34)

11  Dewch yn efelychwyr ohono i, yn union fel rydw innau o Grist.  Rydw i’n eich canmol chi am eich bod chi’n fy nghofio i ym mhob peth ac am eich bod chi’n dilyn yn ofalus y traddodiadau yn union fel y gwnes i eu trosglwyddo nhw ichi.  Ond rydw i am ichi wybod mai pen pob dyn ydy Crist; pen y ddynes* ydy’r dyn; pen Crist ydy Duw.  Mae pob dyn sy’n gweddïo neu’n proffwydo â rhywbeth ar ei ben yn cywilyddio ei ben;  ond mae pob dynes* sy’n gweddïo neu’n proffwydo a hithau heb orchudd ar ei phen yn cywilyddio ei phen, oherwydd mae hynny’n union yr un peth â phetasai hi’n ddynes* sydd wedi eillio ei phen.  Oherwydd os nad yw dynes* yn gorchuddio ei phen, dylai hi dorri ei gwallt yn llwyr; ond os yw’n rhywbeth cywilyddus i ddynes* dorri ei gwallt yn llwyr neu eillio ei phen, dylai hi orchuddio ei phen.  Ni ddylai dyn orchuddio ei ben, oherwydd ei fod yn adlewyrchu Duw a’i ogoniant, ond mae’r ddynes* yn adlewyrchu gogoniant dyn.  Oherwydd ni greodd Duw y dyn o gorff y ddynes,* ond fe greodd y ddynes* o gorff y dyn.  Ac yn ogystal â hynny, ni chafodd dyn ei greu er mwyn y ddynes,* ond dynes* er mwyn y dyn. 10  Dyna pam y dylai’r ddynes* gael arwydd o awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11  Yn ychwanegol, yng nghynulleidfa’r Arglwydd, dydy dynes* ddim yn annibynnol ar ddyn na dyn yn annibynnol ar ddynes.* 12  Oherwydd yn union fel mae’r ddynes* yn dod o’r dyn, felly hefyd y mae’r dyn yn dod trwy’r ddynes;* ond mae pob peth yn dod o Dduw. 13  Barnwch drostoch chi’ch hunain: Ydy hi’n weddus i ddynes* weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen? 14  Onid ydy natur ei hun yn eich dysgu chi fod gwallt hir yn dwyn gwarth ar ddyn, 15  ond os oes gan ddynes* wallt hir, mae’n ogoniant iddi? Oherwydd fe roddwyd ei gwallt iddi hi yn lle gorchudd. 16  Fodd bynnag, os ydy rhywun eisiau dadlau o blaid rhyw arfer arall, does gynnon ni na chynulleidfaoedd Duw ddim un arall. 17  Ond wrth imi roi’r cyfarwyddiadau hyn, dydw i ddim yn eich canmol chi, oherwydd eich bod chi yn cyfarfod gyda’ch gilydd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18  Yn gyntaf oll, pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd yn y gynulleidfa, rydw i wedi clywed bod ’na raniadau yn eich plith; ac i raddau, rydw i’n credu hynny. 19  Oherwydd y bydd hefyd sectau yn eich plith yn bendant, er mwyn i’r rhai ohonoch chi sy’n gymeradwy hefyd ddod yn amlwg. 20  Pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd mewn un lle, nid i fwyta Swper yr Arglwydd yw hyn mewn gwirionedd. 21  Oherwydd mae pob un, wrth ei fwyta, yn cymryd ei swper ei hun ymlaen llaw, fel bod un wedi llwgu a’r llall wedi meddwi. 22  Onid oes gynnoch chi dai ar gyfer bwyta ac yfed? Neu ydych chi’n dirmygu cynulleidfa Duw ac yn gwneud i’r rhai sydd heb ddim deimlo cywilydd? Beth galla i ei ddweud wrthoch chi? A ddylwn i eich canmol chi? Yn hyn o beth, dydw i ddim yn eich canmol chi. 23  Oherwydd fe wnes i dderbyn oddi wrth yr Arglwydd yr hyn y gwnes i ei drosglwyddo i chi, bod yr Arglwydd Iesu, ar y noson yr oedd am gael ei fradychu, wedi cymryd torth o fara, 24  ac ar ôl diolch i Dduw, torrodd y bara a dweud: “Mae hwn yn cynrychioli fy nghorff,* sydd er eich mwyn chi. Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.” 25  Cymerodd hefyd y cwpan a gwneud yr un fath, ar ôl iddyn nhw gael y swper, gan ddweud: “Mae’r cwpan hwn yn cynrychioli’r cyfamod newydd ar sail fy ngwaed i. Parhewch i wneud hyn, bob tro rydych chi’n ei yfed, er cof amdana i.” 26  Oherwydd bob tro rydych chi’n bwyta’r bara ac yn yfed o’r cwpan, rydych chi’n parhau i gyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes iddo ddod. 27  Felly, bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r bara neu’n yfed o gwpan yr Arglwydd, heb fod yn deilwng, yn euog ynglŷn â chorff a gwaed yr Arglwydd. 28  Yn gyntaf, gadewch i ddyn ei gymeradwyo ei hun ar ôl iddo chwilio ei galon, a dim ond wedyn gadewch iddo fwyta’r bara ac yfed o’r cwpan. 29  Oherwydd mae’r sawl sy’n bwyta ac yn yfed heb ddeall y corff, yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth yn erbyn ei hun. 30  Dyna pam mae llawer yn eich plith yn wan ac yn sâl, ac mae tipyn go lew yn cysgu mewn marwolaeth.* 31  Ond petasen ni’n edrych yn graff ar y math o bobl ydyn ni, ni fydden ni’n cael ein barnu. 32  Fodd bynnag, pan ydyn ni’n cael ein barnu, rydyn ni’n cael ein disgyblu gan Jehofa, er mwyn inni beidio â chael ein condemnio gyda’r byd. 33  Felly, fy mrodyr, pan ydych chi’n dod at eich gilydd i’w fwyta, arhoswch am eich gilydd. 34  Os bydd unrhyw un wedi llwgu, gadewch iddo fwyta gartref, er mwyn ichi beidio â chael eich barnu pan ddewch chi at eich gilydd. Ond ynglŷn â’r materion eraill, fe wna i roi trefn arnyn nhw pan fydda i’n dod atoch chi.

Troednodiadau

Neu “y fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “yn fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “i fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “ar fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “i fenyw.”
Neu “gan fenyw.”
Llyth., “Hwn yw fy nghorff.”
Yn cyfeirio yn ôl pob golwg at farwolaeth ysbrydol.