Yn Ôl Ioan 4:1-54

  • Iesu a’r ddynes o Samaria (1-38)

    • Addoli Duw “â’r ysbryd ac yn unol â’r gwir” (23, 24)

  • Llawer o Samariaid yn credu yn Iesu (39-42)

  • Iesu’n iacháu mab swyddog (43-54)

4  Pan ddaeth yr Arglwydd i wybod bod y Phariseaid wedi clywed bod Iesu yn gwneud mwy o ddisgyblion na Ioan ac yn eu bedyddio nhw—  er mai’r disgyblion a oedd yn gwneud y bedyddio, nid Iesu ei hun—  gadawodd Jwdea a mynd unwaith eto tuag at Galilea.  Ond roedd rhaid iddo fynd trwy Samaria.  Felly fe ddaeth i ddinas yn Samaria o’r enw Sychar, yn agos at y cae roedd Jacob wedi ei roi i’w fab Joseff.  Yn wir, roedd ffynnon Jacob yno. Nawr, roedd Iesu wedi blino ar ôl ei daith, ac roedd yn eistedd wrth y ffynnon. Roedd hi tua’r chweched awr.*  Daeth dynes* o Samaria i godi dŵr o’r ffynnon. Dywedodd Iesu wrthi: “Rho ddiod imi.”  (Oherwydd roedd ei ddisgyblion wedi mynd i mewn i’r ddinas i brynu bwyd.)  Felly dywedodd y ddynes* o Samaria wrtho: “Pam rwyt ti, er dy fod ti’n Iddew, yn gofyn i mi am ddiod er fy mod i’n ddynes* o Samaria?” (Oherwydd dydy’r Iddewon ddim yn ymwneud â’r Samariaid.) 10  Atebodd Iesu: “Petaset ti wedi gwybod am rodd Duw sydd am ddim ac am bwy sy’n dweud wrthot ti, ‘Rho ddiod imi,’ byddi di wedi gofyn iddo, ac fe fyddai wedi rhoi dŵr bywiol iti.” 11  Meddai hithau wrtho: “Syr, does gen ti ddim bwced hyd yn oed i godi dŵr, ac mae’r ffynnon yn ddwfn. Felly o le byddet ti’n cael y dŵr bywiol i’w roi imi? 12  Wyt ti’n fwy na’n cyndad Jacob, yr un a roddodd y ffynnon inni ac a oedd yn yfed ohoni gyda’i feibion a’i wartheg?” 13  Dyma Iesu’n ei hateb hi: “Bydd pawb sy’n yfed o’r dŵr yma yn mynd yn sychedig eto. 14  Bydd pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr rydw i’n ei roi iddo byth yn mynd yn sychedig o gwbl, ond bydd y dŵr rydw i’n ei roi iddo fel ffynnon o ddŵr sy’n byrlymu i roi bywyd tragwyddol.” 15  Dywedodd y ddynes* wrtho: “Syr, rho’r dŵr hwn imi, fel na fydda i’n mynd yn sychedig nac yn gorfod dod yma o hyd i godi dŵr.” 16  Dywedodd ef wrthi: “Dos i nôl dy ŵr a thyrd ag ef yma.” 17  Atebodd y ddynes:* “Does gen i ddim gŵr.” Dywedodd Iesu wrthi: “Rwyt ti’n iawn i ddweud, ‘Does gen i ddim gŵr.’ 18  Oherwydd rwyt ti wedi cael pum gŵr, a dydy’r dyn sy’n byw gyda ti nawr ddim yn ŵr iti. Rwyt ti wedi dweud y gwir.” 19  Dywedodd y ddynes* wrtho: “Syr, mae’n rhaid dy fod ti’n broffwyd. 20  Roedd ein cyndadau’n addoli ar y mynydd yma, ond rydych chi bobl yn dweud bod rhaid i bobl addoli yn Jerwsalem.” 21  Meddai Iesu wrthi hi: “Creda fi, ddynes,* mae’r awr yn dod pan fyddwch chi ddim yn addoli’r Tad ar y mynydd yma nac yn Jerwsalem. 22  Dydych chi ddim yn gwybod pwy rydych chi’n ei addoli; ond rydyn ni’n gwybod pwy rydyn ni’n ei addoli, oherwydd mae achubiaeth yn cychwyn gyda’r Iddewon. 23  Er hynny, mae’r awr yn dod, ac yn wir y mae eisoes wedi dod, pan fydd gwir addolwyr yn addoli’r Tad â’r ysbryd* ac yn unol â’r gwir, oherwydd, yn wir, mae’r Tad yn chwilio am rai fel hyn i’w addoli ef. 24  Ysbryd ydy Duw, ac mae’n rhaid i’r bobl sy’n ei addoli wneud hynny â’r ysbryd* ac yn unol â’r gwir.” 25  Dywedodd y ddynes* wrtho: “Rydw i’n gwybod bod y Meseia yn dod, yr un sy’n cael ei alw’n Grist. Bryd bynnag y bydd hwnnw’n dod, fe fydd yn cyhoeddi pob peth inni yn agored.” 26  Meddai Iesu wrthi: “Fi ydy’r un hwnnw, yr un sy’n siarad â ti nawr.” 27  Dyma ei ddisgyblion yn cyrraedd, ac roedden nhw’n synnu oherwydd ei fod yn siarad â dynes.* Wrth gwrs, ni ddywedodd neb: “Beth rwyt ti eisiau ganddi hi?” neu “Pam rwyt ti’n siarad â hi?” 28  Felly gadawodd y ddynes* ei llestr dŵr ac aeth hi i ffwrdd i’r ddinas i ddweud wrth y bobl: 29  “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrtho i bopeth rydw i wedi ei wneud. Ydy hi’n bosib mai hwn ydy’r Crist?” 30  Dyma nhw’n gadael y ddinas ac yn dechrau dod ato. 31  Yn y cyfamser, roedd y disgyblion yn annog Iesu: “Rabbi, bwyta.” 32  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae gen i fwyd i’w fwyta dydych chi ddim yn gwybod amdano.” 33  Felly dywedodd ei ddisgyblion wrth ei gilydd: “Ydy rhywun wedi dod â bwyd iddo?” 34  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Fy mwyd i ydy gwneud ewyllys yr un a wnaeth fy anfon i, a gorffen ei waith. 35  Onid ydych chi’n dweud bod ’na bedwar mis eto cyn i’r cynhaeaf ddod? Edrychwch! Rydw i’n dweud wrthoch chi: Codwch eich llygaid ac edrychwch ar y caeau, maen nhw’n wyn ac yn barod i’w cynaeafu. Nawr, 36  mae’r un sy’n medi eisoes yn derbyn cyflog ac yn casglu ffrwyth ar gyfer bywyd tragwyddol, er mwyn i’r un sy’n hau a’r un sy’n medi lawenhau gyda’i gilydd. 37  Oherwydd yn hyn o beth mae’r dywediad yn wir: Mae un yn hau ac un arall yn medi. 38  Gwnes i eich anfon chi i fedi’r hyn na wnaethoch chi ei hau. Mae eraill wedi llafurio, ac rydych chi wedi camu i mewn i elwa ar eu llafur nhw.” 39  Rhoddodd llawer o Samariaid o’r ddinas honno ffydd ynddo oherwydd tystiolaeth y ddynes* a ddywedodd: “Dywedodd ef wrtho i bopeth rydw i wedi ei wneud.” 40  Felly pan ddaeth y Samariaid ato, gwnaethon nhw ofyn iddo aros gyda nhw, ac fe wnaeth aros yno am ddau ddiwrnod. 41  O ganlyniad, dechreuodd llawer mwy o bobl gredu oherwydd yr hyn a ddywedodd ef, 42  a dywedon nhw wrth y ddynes:* “Dydyn ni ddim yn credu oherwydd beth ddywedaist ti bellach; oherwydd rydyn ni wedi clywed droston ni’n hunain, ac rydyn ni’n gwybod mai’r dyn hwn yn wir ydy achubwr y byd.” 43  Ar ôl y ddau ddiwrnod, dyma’n gadael y lle hwnnw a mynd tuag at Galilea. 44  Ond dywedodd Iesu ei hun nad yw proffwyd yn cael unrhyw anrhydedd yn ei wlad ei hun. 45  Felly pan gyrhaeddodd Galilea, dyma’r Galileaid yn ei groesawu, oherwydd eu bod nhw wedi gweld yr holl bethau a wnaeth ef yn Jerwsalem yn ystod yr ŵyl, oherwydd roedden nhwthau hefyd wedi bod yn yr ŵyl. 46  Yna, fe ddaeth i Gana Galilea unwaith eto, lle roedd wedi troi’r dŵr yn win. Nawr, roedd ’na swyddog brenhinol ac roedd ganddo fab a oedd yn sâl yng Nghapernaum. 47  Pan glywodd y dyn fod Iesu wedi dod allan o Jwdea a mynd i mewn i Galilea, aeth ato a gofynnodd iddo ddod i lawr i iacháu ei fab, oherwydd ei fod ar fin marw. 48  Ond dywedodd Iesu wrtho: “Oni bai eich bod chi bobl yn gweld arwyddion a phethau rhyfeddol, fyddwch chi byth yn credu.” 49  Dywedodd y swyddog brenhinol wrtho: “Arglwydd, tyrd i lawr cyn i fy mhlentyn bach farw.” 50  Meddai Iesu wrtho: “Dos di; mae dy fab yn fyw.” Gwnaeth y dyn gredu beth ddywedodd Iesu wrtho, a gadael. 51  Ond tra oedd ar ei ffordd i lawr, daeth ei gaethweision i’w gyfarfod a dweud bod ei fachgen yn fyw.* 52  Felly gofynnodd ar ba awr roedd y bachgen wedi gwella. Dyma nhw’n ei ateb: “Gwnaeth y dwymyn ei adael ddoe ar y seithfed awr.”* 53  Yna roedd y tad yn gwybod bod hynny wedi digwydd yn yr union awr y dywedodd Iesu wrtho: “Mae dy fab yn fyw.” Felly gwnaeth ef a phawb yn ei dŷ gredu. 54  Hwn oedd yr ail arwydd a wnaeth Iesu ar ôl iddo ddod o Jwdea i mewn i Galilea.

Troednodiadau

Hynny yw, tua hanner dydd.
Neu “menyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “yn fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “fenyw.”
Yn ôl pob golwg mae hyn yn cyfeirio at yr ysbryd glân.
Yn ôl pob golwg mae hyn yn cyfeirio at yr ysbryd glân.
Neu “y fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “yn gwella.”
Hynny yw, tua 1:00 p.m.