At yr Hebreaid 2:1-18

  • Talu mwy o sylw nag arfer (1-4)

  • Darostwng pob peth i Iesu (5-9)

  • Iesu a’i frodyr (10-18)

    • Prif Arweinydd eu hachubiaeth (10)

    • Archoffeiriad trugarog (17)

2  Dyna pam mae’n rhaid inni dalu mwy o sylw nag arfer i’r pethau rydyn ni wedi eu clywed, fel na fyddwn ni byth yn drifftio o’r ffydd.  Oherwydd os oedd y gair a gafodd ei ddweud drwy’r angylion yn sicr, ac os oedd pob trosedd a gweithred anufudd wedi derbyn cosb yn unol â chyfiawnder,  sut byddwn ni’n dianc os ydyn ni wedi anwybyddu achubiaeth mor fawr? Oherwydd dechreuodd yr achubiaeth gael ei phregethu drwy ein Harglwydd ac fe gafodd ei chadarnhau inni gan y rhai a oedd wedi ei glywed ef,  tra bod Duw wedi rhoi tystiolaeth hefyd gydag arwyddion a phethau rhyfeddol ac amryw o weithredoedd nerthol a thrwy ddosbarthu’r ysbryd glân yn ôl ei ewyllys.  Oherwydd dydy Duw ddim wedi penodi angylion i reoli’r ddaear sydd i ddod, y ddaear rydyn ni’n sôn amdani.  Ond mewn un lle, dywedodd un tyst: “Beth yw dyn i ti ei gadw mewn cof, neu fab dyn i ti ofalu amdano?  Gwnest ti ei roi mewn safle ychydig yn is na’r angylion; gwnest ti ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, a’i benodi dros waith dy ddwylo.  Gwnest ti ddarostwng pob peth o dan ei draed.” Drwy ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd Duw ddim byd sydd heb ei ddarostwng iddo. Ond nawr, dydyn ni ddim eto’n gweld pob peth sydd wedi ei ddarostwng iddo.  Ond rydyn ni yn gweld Iesu, a gafodd ei benodi mewn safle ychydig yn is na’r angylion, sydd nawr wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd am iddo ddioddef marwolaeth, fel y gallai brofi blas marwolaeth dros bawb drwy garedigrwydd rhyfeddol Duw. 10  Mae popeth yn bodoli er mwyn gogoniant Duw ac mae’n bodoli drwy gyfrwng Ef. Felly, er mwyn gogoneddu llawer o feibion, mae’n briodol iddo Ef wneud y Prif Arweinydd yn berffaith drwy ddioddefaint. Mae Duw yn eu hachub nhw drwy gyfrwng y Prif Arweinydd hwn. 11  Oherwydd mae’r un sy’n sancteiddio a’r rhai sy’n cael eu sancteiddio i gyd yn dod o’r un tad, ac am y rheswm hwn does gan Iesu ddim cywilydd eu galw nhw’n frodyr, 12  fel mae’n dweud: “Bydda i’n cyhoeddi dy enw i fy mrodyr; ymhlith y gynulleidfa bydda i’n canu mawl iti.” 13  Ac wedyn: “Bydda i’n ymddiried ynddo ef.” Ac yna: “Edrycha! Dyma fi gyda’r plant ifanc, y rhai mae Jehofa* wedi eu rhoi imi.” 14  Felly, gan fod y “plant ifanc” wedi eu gwneud* o gig a gwaed, fe ddaeth ef hefyd yn ddyn wedi ei wneud o gig a gwaed, fel y gallai ef, drwy ei farwolaeth, ddileu’r un sydd â’r gallu i achosi marwolaeth, hynny yw, y Diafol, 15  ac fel y gallai ef ryddhau’r holl rai hynny a oedd wedi eu dal mewn caethwasiaeth ar hyd eu bywydau oherwydd eu bod nhw’n ofni marwolaeth. 16  Oherwydd nid angylion mae ef yn wir yn eu helpu, ond mae’n helpu disgynyddion* Abraham. 17  O ganlyniad, roedd rhaid iddo ddod fel ei “frodyr” ym mhob ffordd, fel y gallai ddod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon mewn gwasanaeth i Dduw, er mwyn offrymu aberth cymod dros* bechodau’r bobl. 18  Gan ei fod ef ei hun wedi dioddef pan gafodd ei roi o dan brawf, mae’n gallu rhoi cymorth i’r rhai sy’n cael eu rhoi o dan brawf.

Troednodiadau

Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Neu “yn gyfranogion.”
Llyth., “had.”
Neu “aberth sy’n gwneud yn iawn am.”