Y Cyntaf at Timotheus 2:1-15

  • Gweddïo dros bob math o ddynion (1-7)

    • Un Duw, un canolwr (5)

    • Y pris angenrheidiol i ryddhau pawb (6)

  • Cyfarwyddiadau ar gyfer dynion a merched (8-15)

    • Gwisgo’n wylaidd (9, 10)

2  Yn gyntaf oll, felly, rydw i’n annog pawb i erfyn, i weddïo, i ymbil, ac i ddiolch, ac i wneud y pethau hynny dros bob math o ddynion,  dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, er mwyn inni fedru byw bywyd llonydd a thawel gan ddangos defosiwn duwiol a difrifoldeb ym mhob peth.  Peth da a derbyniol ydy hyn yng ngolwg ein Hachubwr, Duw,  sy’n dymuno gweld pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir.  Oherwydd un Duw sydd ’na, ac un canolwr rhwng Duw a dynion, sef dyn, Crist Iesu,  a wnaeth ei roi ei hun a thalu’r pris* angenrheidiol er mwyn rhyddhau pawb* o bechod—bydd pobl yn siarad am hyn yn yr amser priodol.  Er mwyn tystiolaethu i’r ffaith hon y ces i fy mhenodi yn bregethwr ac yn apostol—rydw i’n dweud y gwir, dydw i ddim yn dweud celwydd—yn athro i’r cenhedloedd ynglŷn â ffydd a gwirionedd.  Felly rydw i’n dymuno bod dynion ffyddlon ym mhob lle yn parhau i weddïo, heb ddicter na dadleuon.  Yn yr un modd, rydw i’n dymuno bod merched* yn eu gwneud eu hunain yn hardd drwy wisgo’n weddus,* a thrwy fod yn wylaidd a synhwyrol,* nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, 10  ond â gweithredoedd da, fel sy’n briodol i ferched* sy’n proffesu defosiwn i Dduw. 11  Dylai dynes* aros yn ddistaw* pan fydd hi’n cael ei dysgu, gan ymostwng yn llwyr. 12  Dydw i ddim yn caniatáu i ddynes* ddysgu eraill na chael awdurdod dros ddyn, ond mae’n rhaid iddi aros yn ddistaw.* 13  Oherwydd cafodd Adda ei ffurfio’n gyntaf, ac wedyn Efa. 14  Hefyd, ni chafodd Adda ei dwyllo, ond fe gafodd y ddynes* ei thwyllo’n llwyr ac fe dorrodd hi orchymyn Duw. 15  Fodd bynnag, bydd geni plant yn ei chadw hi’n saff, cyn belled â’i bod hi’n* parhau i fyw mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd ynghyd ag ymddwyn yn synhwyrol.*

Troednodiadau

Neu “pridwerth.”
Neu “pob math o bobl.”
Neu “menywod.”
Neu “yn barchus.”
Neu “yn bwyllog; yn gall.”
Neu “i fenywod.”
Neu “menyw.”
Neu “yn dawel; yn llonydd.”
Neu “i fenyw.”
Neu “yn dawel; yn llonydd.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “â’u bod nhw’n.”
Neu “yn bwyllog; yn gall.”