Datguddiad i Ioan 4:1-11

  • Gweledigaeth o bresenoldeb nefol Jehofa (1-11)

    • Jehofa yn eistedd ar ei orsedd (2)

    • Y 24 henuriad ar orseddau (4)

    • Y pedwar creadur byw (6)

4  Ar ôl hyn edrycha! fe welais ddrws wedi ei agor yn y nef, ac roedd y llais cyntaf a glywais yn siarad â mi ac yn swnio fel trwmped, gan ddweud: “Tyrd i fyny yma, ac fe wna i ddangos iti’r pethau sy’n rhaid digwydd.”  Ar ôl hyn fe ddes i ar unwaith o dan rym yr ysbryd, ac edrychwch! roedd gorsedd yn ei safle yn y nef, ac roedd rhywun yn eistedd ar yr orsedd.  Ac roedd yr Un a oedd yn eistedd arni yn debyg o ran ei olwg i’r gem iasbis a’r gem sardion,* ac o amgylch yr orsedd roedd ’na enfys yn debyg i emrallt.  O amgylch yr orsedd roedd ’na 24 gorsedd, ac ar y gorseddau hyn fe welais 24 henuriad yn eistedd wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn, ac roedd ’na goronau aur ar eu pennau.  Ac roedd mellt a lleisiau a tharanau yn dod o’r orsedd; ac roedd ’na saith lamp dân yn llosgi o flaen yr orsedd, ac mae’r rhain yn golygu saith ysbryd Duw.  O flaen yr orsedd roedd ’na rywbeth yn debyg i fôr o wydr, fel grisial. Yng nghanol yr orsedd* ac o amgylch yr orsedd roedd ’na bedwar creadur byw a oedd yn llawn o lygaid o’r tu blaen a’r tu ôl.  Roedd y creadur byw cyntaf yn debyg i lew, ac roedd yr ail greadur byw yn debyg i darw ifanc, ac roedd gan y trydydd creadur byw wyneb fel dyn, ac roedd y pedwerydd creadur byw yn debyg i eryr yn hedfan.  Ac roedd gan bob un o’r pedwar creadur byw chwe adain; roedden nhw’n llawn o lygaid o amgylch ac o dan yr adenydd. Ac yn barhaol, ddydd a nos, maen nhw’n dweud: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy Jehofa Dduw, yr Hollalluog, a oedd yn bodoli gynt ac sy’n bodoli nawr ac sy’n mynd i ddod.”  Bryd bynnag y bydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolchgarwch i’r Un sy’n eistedd ar yr orsedd, yr Un sy’n byw am byth bythoedd, 10  mae’r 24 henuriad yn syrthio o flaen yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd ac yn addoli’r Un sy’n byw am byth bythoedd, ac maen nhw’n taflu eu coronau o flaen yr orsedd, gan ddweud: 11  “Rwyt ti’n deilwng, Jehofa ein Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r grym, oherwydd ti a greodd bob peth, ac oherwydd dy ewyllys di y daethon nhw i fodolaeth ac y cawson nhw eu creu.”

Troednodiadau

Neu “a gem gwerthfawr coch.”
Neu “Yn y canol gyda’r orsedd.”