Yn Ôl Luc 3:1-38

  • Ioan yn dechrau ar ei waith (1, 2)

  • Ioan yn pregethu am fedydd (3-20)

  • Bedydd Iesu (21, 22)

  • Llinach Iesu Grist (23-38)

3  Yn y 15fed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Peilat yn llywodraethwr ar Jwdea, Herod* yn rheolwr rhanbarthol* ar Galilea, Philip ei frawd yn rheolwr rhanbarthol ar wlad Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn rheolwr rhanbarthol ar Abilene,  yn nyddiau’r prif offeiriaid Annas a Caiaffas, rhoddodd Duw neges i Ioan fab Sechareia yn yr anialwch.  Felly aeth ef drwy’r holl ardal o gwmpas yr Iorddonen, gan bregethu am fedydd sy’n symbol o edifeirwch am faddeuant pechodau,  yn union fel mae’n ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa! Gwnewch ei lwybrau’n syth.  Mae’n rhaid i bob dyffryn gael ei lenwi, a phob mynydd a bryn eu lefelu; mae’n rhaid i’r ffyrdd troellog gael eu gwneud yn syth, a’r ffyrdd garw gael eu gwneud yn esmwyth;  a bydd pob cnawd* yn gweld achubiaeth Duw.’”  Felly dechreuodd ddweud wrth y tyrfaoedd a oedd yn dod allan i gael eu bedyddio ganddo: “Gwiberod* ydych chi! Pwy sydd wedi eich rhybuddio chi i ffoi rhag y dicter sydd i ddod?  Felly, cynhyrchwch ffrwyth sy’n dangos edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthoch chi’ch hunain, ‘Mae gynnon ni Abraham yn dad i ni.’ Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod Duw yn gallu codi plant i Abraham o’r cerrig hyn.  Yn wir, mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed. Bydd pob coeden, felly, sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân.” 10  Ac roedd y tyrfaoedd yn gofyn iddo: “Beth, felly, y dylen ni ei wneud?” 11  Atebodd yntau: “Dylai’r dyn sydd â dau grys* rannu â’r dyn sydd heb grys, a dylai’r un sydd â rhywbeth i’w fwyta wneud yr un peth.” 12  Daeth hyd yn oed casglwyr trethi i gael eu bedyddio, a dywedon nhw wrtho: “Athro, beth dylen ni ei wneud?” 13  Dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â mynnu* mwy na’r dreth sydd wedi ei gosod.” 14  Hefyd, roedd milwyr yn gofyn iddo: “Beth dylen ni ei wneud?” Ac meddai wrthyn nhw: “Peidiwch â gorfodi neb i roi arian ichi na chyhuddo rhywun ar gam, ond byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”* 15  Nawr roedd y bobl yn disgwyl am y Meseia ac roedd pawb yn rhesymu yn eu calonnau am Ioan, “Tybed ai Ioan ydy’r Crist?” 16  Atebodd Ioan, gan ddweud wrth bawb: “O’m rhan fy hun, rydw i’n eich bedyddio chi â dŵr, ond mae’r un sy’n gryfach na mi yn dod, a dydw i ddim yn deilwng i ddatod carrai* ei sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio chi â’r ysbryd glân ac â thân. 17  Mae rhaw nithio yn ei law er mwyn glanhau’n llwyr ei lawr dyrnu ac er mwyn casglu’r gwenith i’w ysgubor, ond bydd ef yn llosgi’r us â thân na ellir ei ddiffodd.” 18  Hefyd, rhoddodd ef lawer o anogaeth a pharhaodd i gyhoeddi newyddion da i’r bobl. 19  Ond gan fod Ioan wedi ceryddu Herod, rheolwr y rhanbarth, ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â’r holl bethau drwg roedd ef wedi eu gwneud, 20  dyma Herod yn ychwanegu’r canlynol at yr holl weithredoedd hynny: Gwnaeth ef gloi Ioan yn y carchar. 21  Nawr pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, cafodd Iesu hefyd ei fedyddio. Tra oedd yn gweddïo, cafodd y nef ei hagor, 22  a daeth yr ysbryd glân i lawr arno ar ffurf colomen, a daeth lais allan o’r nef: “Ti yw fy Mab annwyl; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.”* 23  Pan ddechreuodd Iesu ei waith, roedd ef tua 30 oed, ac yn ôl y farn gyffredin, roedd ef yn fabi Joseff,fab Heli, 24  fab Mathat,fab Lefi,fab Melchi,fab Jannai,fab Joseff, 25  fab Matathias,fab Amos,fab Nahum,fab Esli,fab Nagai, 26  fab Maath,fab Matathias,fab Semein,fab Josech,fab Joda, 27  fab Joanan,fab Rhesa,fab Sorobabel,fab Sealtiel,fab Neri, 28  fab Melchi,fab Adi,fab Cosam,fab Elmadam,fab Er, 29  fab Iesu,fab Elieser,fab Jorim,fab Mathat,fab Lefi, 30  fab Symeon,fab Jwdas,fab Joseff,fab Jonam,fab Eliacim, 31  fab Melea,fab Menna,fab Matatha,fab Nathan,fab Dafydd, 32  fab Jesse,fab Obed,fab Boas,fab Salmon,fab Naason, 33  fab Aminadab,fab Arni,fab Hesron,fab Peres,fab Jwda, 34  fab Jacob,fab Isaac,fab Abraham,fab Tera,fab Nachor, 35  fab Serug,fab Reu,fab Peleg,fab Eber,fab Sela, 36  fab Cainan,fab Arffacsad,fab Sem,fab Noa,fab Lamech, 37  fab Methwsela,fab Enoch,fab Jared,fab Maleleel,fab Cainan, 38  fab Enos,fab Seth,fab Adda,fab Duw.

Troednodiadau

Hynny yw, Herod Antipas. Gweler Geirfa.
Llyth., “y tetrarch.”
Neu “yr holl fodau dynol.”
Neu “Epil gwiberod.”
Neu “sydd â chrys ychwanegol.”
Neu “Peidiwch â chasglu.”
Neu “ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu ichi.”
Neu “lasyn.”
Neu “rydw i wedi dy gymeradwyo.”