Yn Ôl Mathew 23:1-39

  • Peidio ag efelychu’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid (1-12)

  • Gwae i’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid (13-36)

  • Iesu’n galaru dros Jerwsalem (37-39)

23  Yna siaradodd Iesu â’r tyrfaoedd ac â’i ddisgyblion, gan ddweud:  “Mae’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid wedi hawlio cadair Moses iddyn nhw eu hunain.  Felly, gwnewch a chadwch at bopeth maen nhw’n ei ddweud wrthoch chi, ond peidiwch â gwneud fel maen nhw’n gwneud, oherwydd dweud maen nhw ond heb weithredu ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud.  Maen nhw’n rhwymo beichiau trwm ac yn eu gosod nhw ar ysgwyddau dynion, ond dydyn nhw eu hunain ddim yn fodlon codi bys i’w symud.  Popeth maen nhw’n ei wneud, maen nhw’n ei wneud er mwyn cael eu gweld gan ddynion, oherwydd maen nhw’n ehangu’r blychau sy’n dal yr Ysgrythurau, y blychau maen nhw’n eu gwisgo i’w hamddiffyn eu hunain,* ac maen nhw’n gwneud ymylon eu dillad yn hirach.  Maen nhw’n hoffi cael y lle mwyaf pwysig wrth gael swper a’r seddi blaen* yn y synagogau  a’r cyfarchion yn y marchnadoedd a chael eu galw’n Rabbi* gan ddynion.  Ond chithau, peidiwch â chael eich galw’n Rabbi, oherwydd un Athro sydd gynnoch chi, a brodyr ydych chi i gyd.  Ar ben hynny, peidiwch â galw unrhyw un ar y ddaear yn dad, oherwydd un Tad sydd gynnoch chi, yr Un nefol. 10  Peidiwch chwaith â chael eich galw’n arweinwyr, oherwydd un Arweinydd sydd gynnoch chi, y Crist. 11  Ond mae’n rhaid i’r un mwyaf yn eich plith fod yn was ichi. 12  Bydd pwy bynnag sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, a bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu. 13  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n cau drysau Teyrnas y nefoedd i ddynion; oherwydd dydych chi’ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dydych chi ddim yn caniatáu i’r rhai sydd ar eu ffordd i mewn fynd i mewn. 14  —— 15  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n teithio dros y môr a’r tir sych i wneud un proselyt,* a phan fydd yn dod yn un, rydych chi’n ei wneud yn rhywun sy’n haeddu mynd i Gehenna* ddwywaith cymaint ag yr ydych chi’ch hunain. 16  “Gwae chi, arweinwyr dall, sy’n dweud, ‘Os oes unrhyw un yn gwneud llw yn enw’r deml, nid yw’n golygu dim; ond os ydy rhywun yn gwneud llw yn enw aur y deml, mae ef o dan orfodaeth.’ 17  Ffyliaid a phobl ddall! Pa un, mewn gwirionedd, sy’n fwy pwysig, yr aur neu’r deml a wnaeth sancteiddio’r aur? 18  Ar ben hynny, ‘Os oes unrhyw un yn gwneud llw yn enw’r allor, nid yw’n golygu dim; ond os ydy rhywun yn gwneud llw yn enw’r offrwm sydd arni, mae ef o dan orfodaeth.’ 19  Bobl ddall! Pa un, mewn gwirionedd, sy’n fwy pwysig, yr offrwm neu’r allor sy’n sancteiddio’r offrwm? 20  Felly, mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r allor yn gwneud llw yn enw’r allor ei hun ac yn enw pob peth sydd arni; 21  ac mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r deml yn gwneud llw yn enw’r deml ei hun ac yn enw’r Un sydd biau’r deml; 22  ac mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r nef yn gwneud llw yn enw gorsedd Duw ac yn enw’r Un sy’n eistedd arni. 23  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n rhoi un rhan o ddeg* o’r mintys a llysiau’r gwewyr* a’r cwmin, ond rydych chi wedi anwybyddu pethau pwysicach y Gyfraith, sef, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb. Roedd yn angenrheidiol ichi wneud y pethau hyn, ond nid i anwybyddu’r pethau eraill. 24  Arweinwyr dall, sy’n tynnu’r gwybedyn allan o’ch diod ond yn llyncu’r camel! 25  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n glanhau y tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ond ar y tu mewn maen nhw’n llawn trachwant a hunanfoddhad. 26  Pharisead dall, glanha yn gyntaf y tu mewn i’r cwpan a’r ddysgl, er mwyn i’r tu allan iddi fod yn lân hefyd. 27  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n debyg i feddau sydd wedi eu gwyngalchu, sydd yn wir yn edrych yn hardd ar y tu allan ond ar y tu mewn maen nhw’n llawn esgyrn dynion sydd wedi marw a phob math o aflendid. 28  Yn yr un modd, ar y tu allan rydych chi’n ymddangos yn gyfiawn i ddynion, ond ar y tu mewn rydych chi’n llawn rhagrith a drygioni. 29  “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r* rhai cyfiawn, 30  ac rydych chi’n dweud, ‘Petasen ni wedi byw yn nyddiau ein cyndadau, fydden ni ddim wedi eu helpu i dywallt* gwaed y proffwydi.’ 31  Felly, rydych chi’n tystiolaethu yn eich erbyn eich hunain eich bod chi’n feibion i’r rhai a lofruddiodd y proffwydi. 32  Os felly, gorffennwch y gweithredoedd a ddechreuodd eich cyndadau.* 33  “Nadroedd, gwiberod* ydych chi, sut byddwch chi’n ffoi rhag cael eich barnu a’ch taflu i Gehenna?* 34  Am y rheswm hwn, rydw i’n anfon atoch chi broffwydi a dynion doeth ac athrawon. Byddwch chi’n lladd rhai ohonyn nhw a’u dienyddio ar stanciau, a byddwch chi’n chwipio rhai ohonyn nhw yn eich synagogau ac yn eu herlid o ddinas i ddinas, 35  fel bod yr holl waed cyfiawn a gafodd ei dywallt* ar y ddaear yn dod arnoch chi, o waed y dyn cyfiawn Abel hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a gafodd ei lofruddio gynnoch chi rhwng y cysegr a’r allor. 36  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yr holl bethau hyn yn dod ar y genhedlaeth hon. 37  “Jerwsalem, Jerwsalem, yr un sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd ati hi—mor aml roeddwn i eisiau casglu dy blant at ei gilydd fel mae iâr yn casglu ei chywion o dan ei hadenydd! Ond doeddech chi bobl ddim eisiau hynny. 38  Edrychwch! Mae eich tŷ yn cael ei adael yn adfail. 39  Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, ar unrhyw gyfri, o hyn ymlaen nes ichi ddweud, ‘Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa!’”

Troednodiadau

Neu “ehangu eu ffylacterau.”
Neu “gorau.”
Neu “Athro.”
Neu “i droi un person yn Iddew.”
Gweler Geirfa.
Neu “degwm.”
Planhigyn sy’n debyg i anis a ddefnyddir i roi blas ar fwyd.
Neu “beddrodau coffa.”
Neu “arllwys.”
Llyth., “llanwch fesur eich cyndadau.”
Neu “Seirff, epil gwiberod.”
Gweler Geirfa.
Neu “arllwys.”