Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gallaf Reoli Fy Emosiynau?

Sut Gallaf Reoli Fy Emosiynau?

“Un diwrnod rydw i’n teimlo’n grêt, a’r diwrnod wedyn dw i’n teimlo’n ofnadwy. Mae’r pethau nad oeddwn ni’n eu gweld yn broblemau mawr ddoe yn anodd delio â nhw heddiw.”—Carissa.

Ydy dy emosiynau yn tueddu mynd i fyny ac i lawr fel io-io? a Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu!

 Pam mae’n digwydd?

 Mae teimlo’n dda ac wedyn yn isel yn gyffredin pan wyt ti’n mynd drwy dy arddegau. Hyd yn oed pan wyt ti yn dy arddegau hwyr, efallai byddi di’n synnu ar pa mor eratig yw dy emosiynau neu ba mor anodd yw eu rheoli.

 Os ydy dy emosiynau ansefydlog yn dy ddrysu, cofia fod llawer o’r teimladau hynny yn digwydd o ganlyniad i newidiadau hormonaidd gan gynnwys y teimladau o ansicrwydd sy’n rhan naturiol o dyfu i fyny. Y newyddion da ydy, fe elli di ddeall dy emosiynau a dysgu sut i’w rheoli.

 Ffaith: Mae dysgu sut i reoli dy emosiynau tra dy fod ti’n ifanc yn bwysig, bydd angen y sgìl hwn arnat ti mewn gwahanol sefyllfaoedd pan wyt ti’n oedolyn.

Mae emosiynau negyddol fel tyllau yn y ffordd. Wrth feithrin y sgìl, gelli di osgoi’r rhai gwaethaf a mwynhau taith esmwyth

 Tri pheth gelli di eu gwneud

 Siarad. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.”​—Diarhebion 17:17.

 “Mae gennyn ni ffrind agos teuluol sydd fel modryb imi. Mae hi wir yn gwrando arnaf pan dw i’n siarad, ac dw i’n teimlo’n rhydd i fynegi fy nheimladau iddi. Pan fydd fy safbwynt yn gywir, mae hi’n falch ohonof fi, ac os dw i’n anghywir, mae hi’n fy nghywiro yn y ffordd orau bosib.”—Yolanda.

 Awgrym: Yn hytrach na siarad â dy ffrindiau yn unig​—sydd efallai’n mynd trwy’r un ansicrwydd emosiynol ag wyt ti​—siarada â rhiant neu oedolyn arall rwyt ti’n gallu dibynnu arno.

 Ysgrifenna. Mae’r Beibl yn sôn am Job, a oedd wedi anobeithio’n llwyr pan ddywedodd: “Ydw, dw i’n mynd i gwyno, a dweud mor chwerw dw i’n teimlo.” (Job 10:1) Yn ogystal â siarad â rhywun, ffordd arall y gelli di “gwyno” ydy trwy ysgrifennu am dy deimladau.

 “Rydw i’n cymryd llyfr nodiadau bach gyda mi i bobman. Pan fydd rhywbeth yn digwydd sy’n fy mrifo, dw i’n ysgrifennu amdano. Mae ysgrifennu yn hynod o therapiwtig imi.”—Iliana.

 Awgrym: Cadwa ddyddiadur er mwyn iti allu ysgrifennu am dy deimladau, am y pethau a wnaeth gwneud iti deimlo’n emosiynol, ac am sut i ddelio â dy deimladau. Bydd y daflen waith sy’n mynd gyda’r erthygl hon yn dy helpu i wneud hynny.

 Gweddïa. Mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.”—Salm 55:22.

 “Dw i’n gweddïo’n ddi-stop ar Jehofa pan dw i’n poeni am rywbeth. Dw i bob amser yn teimlo’n well ar ôl tywallt fy nghalon iddo.”—Jasmine.

 Awgrym: Er gwaetha’r pryder rwyt ti’n ei deimlo, meddylia am dri pheth y gelli di fod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Pan wyt ti’n gweddïo ar Jehofa, gofynna am help​—ond dyweda ddiolch iddo am y bendithion rwyt ti’n eu cael hefyd.

a Mae’r erthygl hon yn trafod y newidiadau emosiynol sy’n gyffredin i lawer o bobl ifanc. Os wyt ti’n delio ag anhwylder bipolar neu fath arall o iselder, gweler yr erthygl “How Can I Deal With Depression?”