Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1: Ystyr Bedydd

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1: Ystyr Bedydd

 Bob blwyddyn, mae llawer o bobl ifanc sy’n cael eu magu fel Tystion Jehofa yn cael eu bedyddio. Wyt ti’n meddwl am gymryd y cam hwnnw? Os felly, byddi di angen deall ystyr ymgysegriad a bedydd yn gyntaf.

 Beth yw bedydd?

 Yn y Beibl, mae bedydd yn golygu mwy na chael ychydig ddiferion o ddŵr ar y pen. Mae’n golygu cael dy drochi’n llwyr mewn dŵr, ac mae hynny’n symboleiddio rhywbeth pwysig iawn.

  •   Mae mynd o dan y dŵr yn ystod bedydd yn dangos yn gyhoeddus dy fod ti ddim bellach am fyw i wneud dim ond beth sy’n dy blesio di.

  •   Mae cael dy godi allan o’r dŵr yn dangos dy fod ti wedi dechrau bywyd newydd o wneud beth sy’n plesio Duw.

 Drwy gael dy fedyddio, rwyt ti’n cydnabod yn gyhoeddus mai Jehofa sydd â’r awdurdod i ddweud beth sy’n dda a drwg, ac rwyt ti’n cyhoeddi dy fod ti wedi addo y byddi di wastad yn dewis gwneud beth mae ef eisiau iti ei wneud.

 Ystyria hyn: Pam dylet ti fod eisiau dangos yn gyhoeddus dy fod ti wedi addo ufuddhau i Jehofa ar hyd dy fywyd? Gweler 1 Ioan 4:19 a Datguddiad 4:11.

 Beth yw ymgysegriad?

 Cyn iti gael dy fedyddio, dylet ti gysegru dy hun i Jehofa yn breifat. Sut?

 Mewn gweddi bersonol, byddi di’n dweud wrth Jehofa dy fod ti’n addo ei wasanaethu am byth, ac y byddi di’n gwneud beth bynnag mae ef yn dymuno, ni waeth beth fydd yn digwydd na beth fydd eraill yn dewis ei wneud.

 Mae cael dy fedyddio yn dangos i eraill dy fod ti wedi gwneud yr ymgysegriad hwnnw. Mae’n dweud wrth eraill dy fod ti wedi stopio rhoi dy hun yn gyntaf a dy fod ti bellach yn perthyn i Jehofa.—Mathew 16:24.

 Ystyria hyn: Pam mae dy fywyd yn gwella pan wyt ti’n perthyn i Jehofa? Gweler Eseia 48:17, 18 a Hebreaid 11:6.

 Pam mae bedydd yn bwysig?

 Dywedodd Iesu fod rhaid i’w ddisgyblion gael eu bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Felly mae bedydd yn dal yn ofynnol i Gristnogion. Mae’r Beibl yn mynd mor bell â dweud ei fod yn hanfodol er mwyn cael ein hachub.—1 Pedr 3:21.

 Er hynny, dylet ti gael dy fedyddio oherwydd dy fod yn caru Jehofa ac yn gwerthfawrogi dy berthynas ag ef. Dylet ti deimlo’n debyg i’r salmydd, a ysgrifennodd: “Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i? . . . Dw i am alw ar enw’r ARGLWYDD. Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD.”—Salm 116:12-14.

 Ystyria hyn: Pa bethau da mae Jehofa wedi eu gwneud drostot ti, a sut gelli di ei dalu yn ôl? Gweler Deuteronomium 10:12, 13 a Rhufeiniaid 12:1.