Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’i Wrthsefyll Temtasiwn?

Sut Galla’i Wrthsefyll Temtasiwn?

 Dyma ysgrifennodd yr apostol Paul: “Er fy mod i eisiau gwneud beth sy’n iawn, mae’r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.” (Rhufeiniaid 7:​21) Wyt ti wedi teimlo fel Paul weithiau? Os felly, gall yr erthygl hon ddangos iti sut i wrthsefyll y temtasiwn i ddilyn awydd drwg.

 Beth ddylet ti ei wybod?

 Yn aml, mae temtasiwn a phwysau gan gyfoedion yn dod gyda’i gilydd. Yn wir, dyma rybudd y Beibl: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Gall pwysau gan gyfoedion neu’r cyfryngau godi awydd cryf yn dy galon a all dy arwain i demtasiwn, ac achosi iti ‘ddilyn y dorf i wneud drwg.’​—Exodus 23:2.

 “Gall yr awydd i fod yn hoffus ac yn un o’r criw achosi i ti ymuno â holl bethau’r criw, er mwyn cadw eu ffafr.”​—Jeremy.

 Rhywbeth i’w ystyried: Pam gall temtasiwn fod yn gryfach os wyt ti’n poeni’n ormodol am beth mae eraill yn ei feddwl amdanat ti?​—Diarhebion 29:25.

 Y gwir yw: Paid â gadael i bwysau gan dy gyfoedion achosi iti gefnu ar dy safonau.

 Beth elli di ei wneud?

 Gwna dy gred yn gryf. Os nad wyt ti’n gwybod beth rwyt ti’n ei gredu, gelli di fod fel pyped y mae eraill yn ei reoli. Well o lawer iti wrando ar gyngor y Beibl: “Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda.” (1 Thesaloniaid 5:​21) Os wyt ti’n dod i ddeall dy gredoau’n well, yna bydd yn haws iti ddal atyn nhw, yn hytrach nag ildio i’r temtasiwn.

 Rhywbeth i’w ystyried: Pam rwyt ti’n credu bod safonau moesol Duw er dy les di?

 “Dyma wela’ i, os dw i’n cadw at fy nghredoau, yn hytrach nag ildio i demtasiwn, dw i’n ennill mwy o barch gan eraill.”​—Kimberly.

 Esiampl dda yn y Beibl: Daniel. Mae’n debyg roedd Daniel dal yn ei arddegau wrth iddo benderfynu y byddai’n cadw cyfraith Duw.​—Daniel 1:8.

Os nad yw dy gredoau di yn gryf, yna gelli di fod fel pyped dan reolaeth pobl eraill

 Bydda’n ymwybodol o dy wendidau. Mae’r Beibl yn sôn am “chwantau gwamal ieuenctid”​—chwantau sy’n arbennig o gryf pan wyt ti’n ifanc. (2 Timotheus 2:​22) Mae’r rhain yn cynnwys teimladau rhywiol, yr awydd i ffitio i mewn, a’r awydd i fod yn annibynnol cyn iti fod yn barod amdano.

 Rhywbeth i’w ystyried: Mae’r Beibl yn dweud mai “chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd.” (Iago 1:​14) Pa awydd sy’n dy demtio di fwyaf?

 “Bydda’n onest gyda ti dy hun am y temtasiynau sy’n dy ddenu di fwyaf. Gwna ymchwil ar sut i ymladd yn erbyn dy demtasiynau, gwna nodyn o bopeth sy’n berthnasol i ti. Yna y tro nesa’ rwyt ti’n wynebu’r temtasiwn hwnnw, byddi di’n gallu ei wrthsefyll.”​—Sylvia.

 Esiampl dda yn y Beibl: Dafydd. Ar adegau fe ildiodd i bwysau gan eraill ac i’w chwantau ei hun. Ond dysgodd Dafydd o’i gamgymeriadau a cheisiodd fod yn ddyn gwell. Fe weddïodd ar Jehofa: “Crea galon lân yno i, O Dduw, a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.”​—Salm 51:10.

 Cymera reolaeth. Dywed y Beibl: “Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau.” (Rhufeiniaid 12:21) Does dim rhaid i ti gael dy ddal gan demtasiwn. Mi fedri di ddewis gwneud y peth iawn.

 Rhywbeth i’w ystyried: Pan wyt ti mewn sefyllfa lle mae ’na demtasiwn i wneud drwg, sut medri di reoli pethau a ‘newid y diweddglo’?

 “Dwi’n meddwl am sut bydda i’n teimlo os wna i ildio i’r temtasiwn. A fydda i’n teimlo rhyddhad? O bosib, am ychydig. A fydda i’n teimlo’n dda yn y pen draw? Na, bydda i’n teimlo’n waeth. Ydy’r pris yn un gwerth ei dalu? Na!”​—Sophia.

 Esiampl dda yn y Beibl: Paul. Er iddo gydnabod ei dueddiadau drwg, fe gymerodd reolaeth. Ysgrifennodd: “Dw i’n gwthio fy hun i’r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr.”​—1 Corinthiaid 9:​27.

 Y gwir yw: Pan mae’n dod at ymdrin â themtasiwn, ti sydd yn sêt y gyrrwr.

 Cofia, pethau dros dro yw temtasiynau. “Erbyn hyn, pethau bach yw’r temtasiynau a oedd yn teimlo’n fawr yn yr ysgol uwchradd,” meddai Melissa, sy’n ugain oed. “Mae cofio hyn yn galonogol, oherwydd dw i’n gwybod bydd fy nhemtasiynau presennol yn pasio, a ryw ddydd wna i edrych yn ôl a gweld mai ymladd yn eu herbyn oedd y peth gorau i mi.”