CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 1: Dod i ’Nabod Dy Feibl
“Dw i wedi trio darllen y Beibl, ond mae’n anodd gan fod e mor hir!”—Briana, 15.
Wyt ti’n teimlo’r un ffordd? Gall yr erthygl hon dy helpu di!
Pam darllen y Beibl?
Ydy’r syniad o ddarllen y Beibl yn swnio’n ddiflas? Os felly, mae hynny’n ddealladwy. Efallai dy fod ti’n ystyried y Beibl fel llyfr gyda miloedd o dudalennau, print bychan, a dim lluniau—dim llawer o gystadleuaeth yn erbyn y teledu a fideos!
Ond meddylia am hyn: Os byddet ti’n dod o hyd i hen gist drysor anferth, a fyddi di’n awyddus i weld beth sydd y tu mewn iddi?
Mae’r Beibl fel cist drysor. Mae’n cynnwys doethineb sy’n debyg i drysorau gwerthfawr a fydd yn dy helpu di i
Wneud penderfyniadau da
Dod ymlaen yn dda gyda dy rieni
Dod o hyd i ffrindiau da
Ymdopi â straen
Sut gall llyfr mor hen fod yn ymarferol ar gyfer ein hoes ni? Oherwydd mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r ysgrifau sanctaidd hynny i gyd.” (2 Timotheus 3:16) Mae hynny’n golygu bod y cyngor yn y Beibl yn dod o’r ffynhonnell gorau oll.
Sut dylwn i ddarllen y Beibl?
Un ffordd ydy darllen y Beibl o glawr i glawr. Bydd hynny yn rhoi darlun cyffredinol iti o neges y Beibl. Mae ’na lawer o ffyrdd i ddarllen y Beibl. Ystyria ddwy esiampl:
Gelli di ddarllen 66 llyfr y Beibl yn y drefn maen nhw’n ymddangos, o Genesis i Datguddiad.
Gelli di ddarllen y Beibl yn gronolegol—hynny yw, yn y drefn a wnaeth y digwyddiadau gymryd lle.
Gair i gall: Mae rhan 4 yn y llyfryn “Cymorth i Astudio Gair Duw” yn rhoi rhestr gronolegol o’r prif ddigwyddiadau ym mywyd Iesu ar y ddaear.
Ail ffordd i ddarllen y Beibl ydy dewis hanes sy’n ymwneud â her rwyt ti’n ei hwynebu. Er enghraifft:
Wyt ti eisiau dod o hyd i ffrindiau dibynadwy? Darllena hanes Jonathan a Dafydd. (1 Samuel, penodau 18-20) Wedyn, ystyria pa rinweddau da oedd gan Dafydd a oedd efallai wedi denu Jonathan ato.
Wyt ti eisiau mwy o nerth i wrthod temtasiwn? Darllena’r hanes am sut gwnaeth Joseff wrthod temtasiwn. (Genesis, pennod 39) Wedyn, ystyria o le cafodd Joseff y nerth i wrthsefyll temtasiwn.
Wyt ti eisiau dysgu sut gall gweddïo dy helpu di? Darllena brofiad Nehemeia. (Nehemeia, penodau 1 a 2) Wedyn, ystyria’r dystiolaeth sy’n dangos nerth gweddïau Nehemeia.
Gair i gall: Wrth iti ddarllen y Beibl, gwna’n siŵr dy fod ti mewn man ddistaw fel dy fod ti’n gallu canolbwyntio.
Trydedd ffordd i ddarllen y Beibl ydy dewis hanes neu un o’r salmau, ac wedyn ystyria sut mae’n berthnasol i ti. Ar ôl darllen, gofynna gwestiynau fel y rhai canlynol i ti dy hun:
Pam gwnaeth Jehofa gynnwys hyn yn y Beibl?
Beth mae hyn yn datgelu am bersonoliaeth Jehofa neu ei ffordd o wneud pethau?
Sut galla’ i roi’r wybodaeth hon ar waith yn fy mywyd i?
Gair i gall: Gosoda nod! Gwna nodyn o’r dyddiad y byddet ti’n hoffi dechrau darllen y Beibl, gan ddefnyddio’r Rhaglen Darllen y Beibl sydd ar ein gwefan.