Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?

Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?

 Ddwywaith yr wythnos, mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd yn eu mannau addoli, sy’n cael eu galw’n Neuaddau’r Deyrnas. Beth sy’n mynd ymlaen yno, a sut gelli di elwa o fynd i’r cyfarfodydd?

 Beth sy’n digwydd yn Neuadd y Deyrnas?

 Canolfan sy’n canolbwyntio ar addysg Feiblaidd ymarferol yw Neuadd y Deyrnas. Gall y cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal yno dy helpu di:

  •   dysgu’r gwir am Dduw.

  •   deall arwyddocâd beth sy’n mynd ymlaen yn y byd.

  •   dod yn berson gwell.

  •   cael hyd i ffrindiau o’r math gorau

 Oeddet Ti’n Gwybod? Mae man cyfarfod Tystion Jehofa yn cael ei alw’n Neuadd y Deyrnas am fod Teyrnas Dduw yn cael ei thrafod yno yn aml iawn.—Mathew 6:9, 10; 24:14; Luc 4:43.

 Pam dylet ti fynychu?

 Bydd y wybodaeth yn dy helpu. Bydd egwyddorion y Beibl sy’n cael eu trafod yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa yn dy helpu i “fod yn ddoeth.” (Diarhebion 4:5) Mae hynny’n golygu gall y Beibl dy helpu i wneud penderfyniadau da yn dy fywyd. Gall hefyd dy helpu i gael hyd i atebion i gwestiynau mawr bywyd, fel:

 Dyma syniad o rhai o’r anerchiadau sy’n cael eu traddodi yn ystod ein cyfarfodydd penwythnos:

  •   Pam Dilyn Cyngor y Beibl?

  •   Lle Gallwch Gael Cymorth Mewn Amserau Anodd?

  •   Yr Hyn Mae Teyrnas Dduw yn ei Wneud i Ni Nawr.

 “Daeth cyd-ddisgybl imi i un o’n cyfarfodydd. Eisteddodd efo’n teulu, a rhannodd ein llyfrau efo ni. Ar ôl y cyfarfod, dywedodd fod y sylwadau a glywodd gan bobl yn y sesiwn holi ac ateb wedi gwneud cryn argraff arno. Dywedodd hefyd nad oedd gan ei eglwys ddeunydd astudio tebyg i ni.”Brenda.

 Oeddet Ti’n Gwybod? Mae mynediad i Neuadd y Deyrnas am ddim, a does ’na fyth gasgliad.

 Bydd y cwmni yn dy galonogi di. Yn ôl y Beibl, un rheswm y dylai Cristnogion gydgyfarfod yw “i annog ein gilydd.” (Hebreaid 10:24, 25) Mae cwmni da ymhlith pobl sy’n rhoi Duw ac eraill yn gyntaf yn eu bywydau yn dipyn o donic yn yr hen fyd hunanol hwn.

 “Ar ôl diwrnod hir, fydda i’n aml wedi blino’n lân ac yn teimlo’n isel, ond mi fydd pobl Neuadd y Deyrnas bob amser yn gwneud imi deimlo’n well. Ac ar fy ffordd adref ar ôl y cyfarfod, bydda i’n teimlo’n hapus ac yn barod i wynebu diwrnod arall.”Elisa.

 Oeddet Ti’n Gwybod? Mae ’na fwy na 120,000 o gynulleidfaoedd o Dystion Jehofa o gwmpas y byd, yn cyfarfod mewn mwy na 60,000 o leoliadau. Bob blwyddyn, ar gyfartaledd, mae tua 1,500 o Neuaddau’r Deyrnas yn cael eu hadeiladu ar gyfer y cynnydd yn y rhai sy’n mynychu. a

a I gael hyd i leoliad un o’r cyfarfodydd, dos at y dudalen “Cyfarfodydd Tystion Jehofa” a chlicia ar “Cael hyd i’r Lleoliad Agosaf.”