CWESTIYNAU POBL IFANC
Pa Mor Bwysig Ydy Poblogrwydd Ar Lein?
Mae Elaine, sydd yn ei harddegau, yn dweud: “Pan welais i fod gan fy ffrindiau ysgol gannoedd o ddilynwyr ar lein, meddyliais, ‘Wow—maen nhw’n boblogaidd!’ O’n i braidd yn genfigennus i ddweud y gwir.”
Wyt ti erioed wedi teimlo fel ’na? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu i osgoi’r boen o geisio bod yn boblogaidd ar lein.
Beth ydy’r peryglon?
Yn Diarhebion 22:1, mae’r Beibl yn dweud bod “enw da yn well na chyfoeth mawr.” Felly mae’n iawn i eisiau enw da—hyd yn oed i eraill dy hoffi di.
Ond weithiau mae’r awydd i gael dy dderbyn yn troi’n awch am boblogrwydd. Ydy hynny’n beryglus? Mae Onya sy’n 16 yn meddwl ei bod hi:
“Dwi wedi gweld pobl yn gwneud pethau twp—fel neidio oddi ar ail lawr yr ysgol—jest i fod yn boblogaidd.”
Er mwyn cael sylw eu cyfoedion, mae rhai pobl hyd yn oed yn ffilmio eu styntiau gwirion a’u postio nhw ar lein. Er enghraifft, mae nifer o arddegwyr wedi lanlwytho fideos o’u hunain yn bwyta podiau sebon golchi dillad—capsiwlau bach sy’n cynnwys sylweddau tocsig—rhywbeth na ddylai neb byth ei wneud!
Dywed y Beibl: “Peidiwch bod . . . yn llawn ohonoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:3.
Ystyria hyn:
Ydy bod yn boblogaidd ar lein yn bwysig i ti?
A fyddi di’n risgio dy iechyd neu dy fywyd i gael sylw a chymeradwyaeth dy gyfoedion?
“Argraff o boblogrwydd”
Dydy pobl ddim wastad yn gwneud pethau peryglus er mwyn ceisio bod yn boblogaidd. Mae Erica sy’n 22 yn nodi sut mae eraill yn mynd ati:
“Mae pobl yn postio llawer o uchafbwyntiau eu bywydau, gan ymddangos fel bod ganddyn nhw restr ddiddiwedd o ffrindiau agos sy’n treulio amser gyda nhw. Mae’n creu argraff o boblogrwydd.”
Mae Cara sy’n 15 yn dweud bod rhai pobl yn twyllo er mwyn creu’r argraff honno:
“Dw i wedi gweld pobl yn cymryd ffotograffau i ymddangos fel bod nhw mewn parti, ond mewn gwirionedd roedden nhw adref.”
Mae Matthew sy’n 22 yn cyfaddef ei fod wedi gwneud rhywbeth tebyg:
“Wnes i bostio llun a tagio Mynydd Everest fel y lleoliad, er fy mod i erioed wedi mynd i Asia!”
Dywed y Beibl: “Byw yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18, Beibl Cysegr-lân.
Ystyria hyn:
Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, wyt ti’n postio pethau anonest er mwyn dod yn fwy poblogaidd?
Ydy dy luniau a dy sylwadau yn wir yn dangos pwy wyt ti a beth rwyt ti’n ei gredu?
Ydy dilynwyr a’r nifer sy’n ‘hoffi’ yn bwysig?
Mae llawer o bobl yn credu bod rhaid cael nifer enfawr o bobl yn dy ‘ddilyn’ ac yn ‘hoffi’ beth rwyt ti’n ei bostio er mwyn bod yn boblogaidd ar lein. Mae Matthew a ddyfynnwyd yn gynharach yn cyfaddef ei fod wedi teimlo fel hynny ar un adeg:
“O’n i’n gofyn i bobl, ‘Faint o ddilynwyr sydd gen ti?’ neu ‘Beth ydy’r nifer mwyaf o bobl yn ‘hoffi’ rhywbeth rwyt ti wedi postio?’ I gael mwy o ddilynwyr, o’n i’n dilyn pobl ddiarth, gan obeithio bydden nhw’n dilyn fi hefyd. Datblygais awch am boblogrwydd, ac roedd cyfryngau cymdeithasol yn cryfhau’r teimlad yna.”
Mae Maria sy’n 25 wedi sylwi bod rhai pobl yn mesur eu hunan-werth ar sail faint o ddilynwyr a hoffiadau maen nhw’n eu derbyn:
“Mae merch yn meddwl ei bod hi’n hyll os nad ydy digon o bobl yn ‘hoffi’ ei hunlun. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir, ond byddai llawer o bobl yn ymateb fel ’na yn yr un sefyllfa. Mewn ffordd, maen nhw’n seiberfwlio eu hunain.”
Dywed y Beibl: “Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.”—Galatiaid 5:26.
Ystyria hyn:
Os wyt ti’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ydyn nhw’n achosi iti gymharu dy hun ag eraill?
Ydy nifer dy ddilynwyr yn bwysicach iti na gwneud ffrindiau go iawn sy’n gofalu amdanat ti?