Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Pam Dylwn i Weddïo?

Pam Dylwn i Weddïo?

 Yn ôl un arolwg, dim ond 18 y cant o bobl ifanc ym Mhrydain sy’n gweddïo bob wythnos. Mae’n rhaid bod rhai yn gofyn: ‘Ai dim ond rhywbeth sy’n ein cynnal ni’n seicolegol yw gweddi? Neu, ydy hi’n fwy na hynny?’

 Beth yw gweddi?

 Gweddi yw cyfathrebu â’r Un a greodd bob peth. Meddylia am hynny! Mae Jehofa yn uwch na ni ym mhob ffordd, ond eto “dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.” (Actau 17:27) Yn wir, yn y Beibl rydyn ni’n gweld y gwahoddiad rhyfeddol hwn: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

 Sut gelli di glosio at Dduw?

  •   Un ffordd yw drwy weddi—dyna sut rwyt ti’n siarad â Duw.

  •   Ffordd arall yw drwy astudio’r Beibl—dyna sut mae Duw yn siarad â ti.

 Bydd cyfathrebu â Duw drwy weddïo ac astudio’r Beibl yn dy helpu di i greu perthynas agos ag ef.

 “Mae siarad â Jehofa, y Duw Goruchaf, yn un o’r breintiau mwyaf y gall rhywun ei chael.”Jeremy.

 “Mae rhannu teimladau fy nghalon â Jehofa mewn gweddi, yn gwneud i mi deimlo’n agosach ato.”Miranda.

 Ydy Duw yn gwrando?

 Hyd yn oed os wyt ti’n credu yn Nuw, ac yn gweddïo arno, gall fod yn anodd credu ei fod yn gwrando arnat ti. Ond, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Mae’n ein hannog ni: “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe.” Pam felly? “Achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”1 Pedr 5:7.

 Rhywbeth i’w ystyried: Wyt ti’n treulio amser yn siarad â dy ffrindiau agos yn rheolaidd? Gelli di wneud yr un fath gyda Duw. Gweddïa arno’n aml, gan ddefnyddio ei enw, Jehofa. (Salm 86:5-7; 88:9) Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Daliwch ati i weddïo.”—1 Thesaloniaid 5:17.

 “Sgwrs rhyngo i a fy Nhad nefol yw gweddi, cyfle imi dywallt fy nghalon.”Moises.

 “Dw i’n siarad â Jehofa yn hollol agored, yn union fel y byddwn i’n siarad â fy mam neu unrhyw ffrind agos.”Karen.

 Beth galla’ i weddïo amdano?

 Mae’r Beibl yn dweud: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”—Philipiaid 4:6.

 Ydy hynny’n golygu ei bod hi’n iawn iti weddïo am dy broblemau? Ydy! Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.”—Salm 55:22.

 Wrth gwrs, dylet ti siarad am fwy na dy broblemau yn unig yn dy weddïau. “Fyddai hi ddim yn berthynas agos ’taswn i ddim ond yn gofyn i Jehofa am help,” meddai merch o’r enw Chantelle. “Dw i’n teimlo y dylwn i ddiolch i Dduw yn gyntaf a dylai’r rhestr o bethau i ddiolch amdanyn nhw fod yn un hir.”

 Rhywbeth i’w ystyried: Pa bethau wyt ti’n ddiolchgar amdanyn nhw? Elli di feddwl am dri pheth i ddiolch i Jehofa amdanyn nhw heddiw?

 “Gall hyd yn oed rhywbeth syml, fel blodyn hardd, wneud i ni ddiolch i Jehofa mewn gweddi.”Anita.

 “Meddylia am rywbeth ym myd natur sy’n gwneud argraff arnat ti, neu adnod o’r Beibl sy’n cyffwrdd dy galon, a diolch i Jehofa amdano.”Brian