Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 2: Paratoi ar Gyfer Bedydd

A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 2: Paratoi ar Gyfer Bedydd

 Os wyt ti’n cadw safonau’r Beibl ac yn meithrin cyfeillgarwch â Duw, mae hi ond yn naturiol y byddi di’n meddwl am gael dy fedyddio. Sut wyt ti’n gwybod dy fod yn barod am hynny? a

Yn yr erthygl hon

 Faint ydw i angen gwybod?

 Dydy paratoi ar gyfer bedydd ddim yn golygu bod angen cofio ffeithiau, fel byddai rhywun yn ei wneud i basio arholiad yn yr ysgol. Ond, dylet ti ddefnyddio dy ‘allu i feddwl’ i bwyso a mesur y ffeithiau er mwyn cryfhau dy argyhoeddiad. (Rhufeiniaid 12:1) Er enghraifft:

  •   Wyt ti’n gwbl sicr fod Duw yn bodoli a’i fod yn haeddu cael ei addoli gen ti?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n mynd at Dduw gredu ei fod yn bodoli a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio’n daer.”—Hebreaid 11:6.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Pam ydw i’n credu yn Nuw?’ (Hebreaid 3:4) ‘Pam dylwn i roi fy addoliad iddo?’—Datguddiad 4:11.

     Angen help? Gweler Creation or Evolution?—Part 1: Why Believe in God?

  •   Wyt ti’n gwbl sicr fod neges y Beibl yn dod oddi wrth Dduw?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol ar gyfer dysgu, ar gyfer ceryddu, ar gyfer cywiro, ar gyfer disgyblu mewn cyfiawnder.”—2 Timotheus 3:16.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Pam ydw i’n credu fod y Beibl yn fwy na llyfr o syniadau gan ddynion?’—Eseia 46:10; 1 Thesaloniaid 2:13.

     Angen help? Gweler “Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 1: Dod i ’Nabod Dy Feibl.

  •   Wyt ti’n gwbl sicr fod Jehofa yn defnyddio’r gynulleidfa Gristnogol i gyflawni ei ewyllys?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae [Duw] yn haeddu’r gogoniant drwy gyfrwng y gynulleidfa a thrwy gyfrwng Crist Iesu, i bob cenhedlaeth byth bythoedd.”—Effesiaid 3:21.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n ystyried beth dw i’n dysgu o’r Beibl yn y cyfarfodydd Cristnogol yn rhywbeth gan ddynion neu gan Jehofa?’ (Mathew 24:45) ‘Ydw i’n mynd i’r cyfarfodydd hyd yn oed pan fydd fy rhieni’n methu mynd (os fyddan nhw’n caniatáu iti wneud hynny)?’—Hebreaid 10:24, 25.

     Angen help? Gweler “Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?

 Beth dylwn i fod yn ei wneud?

 Does dim rhaid iti fod yn berffaith i gael dy fedyddio. Ond, dylet ti ddangos dy fod ti eisiau “troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy’n dda.” (Salm 34:14) Er enghraifft:

  •   Wyt ti’n byw yn ôl safonau Jehofa?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Cadwch gydwybod dda.”—1 Pedr 3:16.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Sut ydw i wedi dangos fy mod i wedi hyfforddi fy ngallu meddyliol “i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg”?’ (Hebreaid 5:14) ‘Ydw i’n gallu meddwl am sefyllfaoedd penodol pan wnes i wrthod pwysau negyddol gan gyfoedion? Ydy fy ffrindiau yn annog fi i wneud beth sy’n iawn?’—Diarhebion 13:20.

     Angen help? Gweler “Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?

  •   Wyt ti’n deall dy fod ti’n atebol i Jehofa am yr hyn rwyt ti’n ei wneud?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb droston ni’n hunain o flaen Duw.”—Rhufeiniaid 14:12.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n onest gyda fi fy hun a gyda phobl eraill?’ (Hebreaid 13:18) ‘Ydw i’n cyfaddef fy nghamgymeriadau, neu ydw i’n eu celu nhw neu’n beio eraill amdanyn nhw?’—Diarhebion 28:13.

     Angen help? Gweler How Can I Deal With My Mistakes?

  •   Wyt ti’n cadw perthynas glòs â Jehofa?

     Mae’r Beibl yn dweud: “Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.”—Iago 4:8.

     Gofynna i ti dy hun: ‘Ym mha ffyrdd ydw i’n closio at Jehofa?’ Er enghraifft, ‘Pa mor aml ydw i’n darllen y Beibl?’ (Salm 1:1, 2) ‘Ydw i’n gweddïo’n aml?’ (1 Thesaloniaid 5:17) ‘Pa mor benodol ydy fy ngweddïau? Ydy fy ffrindiau i yn ffrindiau i Jehofa?’—Salm 15:1, 4.

     Angen help? Gweler “Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 2: Mwynhau Darllen y Beibl” a “Pam Dylwn i Weddïo?

 AWGRYM: I dy helpu di baratoi ar gyfer bedydd, darllena bennod 37 o’r llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 2. Hefyd mae’n werth edrych ar y daflen waith ar dudalennau 308 a 309.

a Darllena’r erthygl “A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1,” sy’n trafod ystyr a phwysigrwydd cysegru dy hun i Dduw a chael dy fedyddio.