Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Os Ydw i Wedi Diflasu?

Beth Os Ydw i Wedi Diflasu?

 I rai pobl, does ’na ddim byd gwaeth ’na bod gartref ar bnawn gwlyb gyda dim byd i’w wneud a nunlle i fynd. “Ar adegau felly,” meddai dyn ifanc o’r enw Robert, “mi fydda i jest yn eistedd yna, heb wybod beth i wneud gyda fi fy hun.”

 A wyt ti erioed wedi teimlo fel ’na? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu!

 Beth ddylet ti ei wybod?

  •   Efallai na fydd defnyddio technoleg yn helpu.

     Gall syrffio’r We fod yn ffordd o basio’r amser, ond gall hefyd fygu dy ddychymyg ac felly bydd yn cyfrannu at ddiflastod. “Rwyt ti’n cael dy hun yn syllu ar sgrin heb feddwl am unrhyw beth,” meddai Jeremy, 21 oed.

     Mae dynes ifanc o’r enw Elena yn cytuno. “Dim ond hyn a hyn gelli di wneud efo technoleg,” meddai hi. “Mae’n tynnu dy sylw di oddi ar fywyd go iawn, felly pan wyt ti’n rhoi dy ddyfais i lawr, rwyt ti’n diflasu mwy byth ar fywyd!”

  •   Mae agwedd yn gwneud gwahaniaeth.

     A fydd cael llawer i’w wneud yn dy gadw di rhag diflasu? Mae hi i gyd yn dibynnu ar faint o ddiddordeb sydd gen ti yn yr hyn rwyt ti’n ei wneud. Er enghraifft, mae dynes ifanc o’r enw Karen yn dweud: “Roedd ysgol yn ddiflas iawn imi, er bod gen i bethau i’w gwneud trwy’r dydd. Mae’n rhaid iti gymryd diddordeb yn y pethau rwyt ti’n eu gwneud er mwyn peidio â diflasu.”

 Oeddet ti’n gwybod? Dydy “cael dim byd i’w wneud” ddim yn rhwystr, mae’n gyfle—pridd da lle gall creadigrwydd dyfu.

Mae amser ar dy ddwylo yn bridd da lle gall creadigrwydd dyfu

 Beth elli di ei wneud?

 Ehanga dy orwelion. Gwna ffrindiau newydd. Dechreua hobi newydd. Gwna ymchwil ar bynciau newydd. Mae pobl sydd ag amrywiaeth o ddiddordebau yn llai tebygol o ddiflasu pan fyddan nhw ar eu pennau eu hunain—ac yn llai tebygol o fod yn ddiflas yng nghwmni pobl eraill!

 Egwyddor o’r Beibl: “Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud.”—Pregethwr 9:10.

 “Wnes i ddechrau dysgu Tsieineeg Mandarin yn ddiweddar, ac mae ymarfer bob dydd wedi gwneud imi sylweddoli fy mod i wedi colli’r math yna o ddysgu. Dw i wrth fy modd yn cael prosiect i weithio arno. Mae’n cadw fy meddwl yn brysur ac yn fy helpu i wneud y defnydd gorau o fy amser.”—Melinda.

 Canolbwyntia ar dy nod. Os wyt ti’n gweld pwrpas yn beth wyt ti’n ei wneud, bydd dy ddiddordeb ynddo yn cynyddu. Gall hyd yn oed gwaith ysgol fod yn llai diflas pan wyt ti’n gweld dy nod.

 Egwyddor o’r Beibl: “Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy . . . mwynhau ei waith.”—Pregethwr 2:24.

 “Tuag at ddiwedd fy amser yn yr ysgol, oeddwn i’n astudio wyth awr bob dydd am fy mod i angen dal i fyny. Diflas? Nac oedd, achos o’n i’n benderfynol o fwrw iddi. Wnes i ganolbwyntio ar y prif nod, sef graddio, a gwnaeth hynny fy sbarduno.”—Hannah.

 Derbynia’r hyn na elli di ei newid. Mae gan hyd yn oed y pethau mwyaf difyr rai agweddau diflas iddyn nhw. A bydd hyd yn oed y ffrindiau gorau yn canslo cynlluniau weithiau, gan dy adael di heb unrhyw beth i’w wneud. Yn hytrach na gadael i’r sefyllfa dy ddigalonni, ceisia feithrin agwedd bositif.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.”—Diarhebion 15:15.

 “Dywedodd ffrind wrtho i i ddysgu mwynhau fy amser ar fy mhen fy hun. Wnaeth hi ddweud bod dysgu cael cydbwysedd rhwng bod gydag eraill a bod ar dy ben dy hun yn sgil gwerthfawr mewn bywyd y dylai pawb ei feistroli.”—Ivy.