Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gallaf Gael Mwy o Gwsg?

Sut Gallaf Gael Mwy o Gwsg?

 Os nad wyt yn gwneud yn rhy dda gyda mathemateg, efallai y byddi di’n meddwl bod angen astudio mwy. Os nad wyt yn gwneud yn rhy dda yn chwaraeon, efallai y byddi di’n meddwl bod angen ymarfer mwy. Ond yn y ddau achos, efallai yr hyn sydd ei angen ydy mwy o gwsg. Ystyria pam.

 Pam rwyt ti angen cysgu?

 Mae arbenigwyr yn dweud bod angen i’r rhan fwyaf o bobl yn eu harddegau gael rhwng wyth a deg awr o gwsg bob nos. Pam bod cael digon o gwsg mor bwysig?

  •   Mae cwsg yn dy helpu i feddwl yn glir. Mae rhai yn dweud bod cwsg fel “bwyd i’r ymennydd.” Mae’n gallu dy helpu i wella yn yr ysgol, yn chwaraeon, a hefyd yn dy sgiliau datrys problemau.

  •   Mae cwsg yn gwella dy agwedd a dy hwyliau. Mae pobl sy’n methu cysgu’n dda yn fwy tebygol o gael hwyliau ansad, teimlo’n drist, dioddef iselder, neu o gael trafferth dod ymlaen ag eraill.

  •   Mae cysgu’n dda yn dy helpu i yrru’n ddiogel. Dangosodd astudiaeth o’r Unol Daleithiau fod gyrwyr rhwng 16 a 24 oed “bron i ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gysglyd ar adeg damwain, o gymharu â gyrwyr rhwng 40 a 59 oed.”

  •   Mae cysgu’n dda yn hybu iechyd gwell. Mae cwsg yn helpu dy gorff i gynnal ac i atgyweirio celloedd, meinweoedd, a phibellau gwaed. Gall cwsg da leihau’r tebygolrwydd o ddioddef gordewdra, clefyd siwgr, neu strôc.

Fel mae ffôn angen ei ail-drydanu er mwyn gweithio, rwyt ti angen digon o gwsg i fod ar dy orau

 Beth sy’n dy rwystro rhag cysgu?

 Er bod buddion cwsg mor dda, dydy llawer yn eu harddegau ddim yn cael y cwsg maen nhw ei angen. Er enghraifft, mae Elaine sy’n 16 oed yn dweud:

 “Gofynnodd yr athrawes i’r dosbarth am faint o’r gloch oedden ni’n mynd i gysgu. Ateb y rhan fwyaf oedd tua 2 o’r gloch y bore. Roedd eraill yn dweud tua 5 o’r gloch y bore. Dim ond un bachgen a ddywedodd 9:30 y nos.”

 Beth sy’n dy gadw di’n effro?

 Cymdeithasu. “Mae hi mor hawdd aros i fyny’n hwyr a gwastraffu amser, yn enwedig os ydw i allan gyda fy ffrindiau.”—Pamela.

 Cyfrifoldebau. “Dwi’n caru fy nghwsg, ond mae’n anodd cael digon pan mae bywyd mor brysur.”—Ana.

 Technoleg. “Fy ffôn yw un o’r rhesymau mwyaf pam dw i’n aros yn effro. Mae’n anodd peidio ag edrych arno pan dw i yn fy ngwely.”—Anisa.

 Sut gelli di gael mwy o gwsg?

  •   Ystyria dy agwedd tuag at gwsg. Mae’r Beibl yn dweud: “‘Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio.’ Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!” (Pregethwr 4:6) Nid yw cwsg yn opsiynol, mae’n angenrheidiol. Hebddo, fyddi di ddim yn cael llawer o hwyl yn dy waith nac yn dy amser hamdden.

  •   Canfod beth sy’n rhwystro dy gwsg. Er enghraifft, a wyt ti’n aros allan yn hwyr gyda ffrindiau? A wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi dy orlwytho gyda gwaith cartref a chyfrifoldebau eraill? Ydy dy ffôn yn dy gadw di’n effro heibio amser gwely, neu yn dy ddeffro ar ôl i ti fynd i gysgu?

 Rhywbeth i’w ystyried: Bydd yn cymryd ymdrech i ddod dros y pethau sy’n achosi trafferth i ti, ond bydd y canlyniadau yn werth chweil. “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled,” meddai Diarhebion 21:5.

 Wrth gwrs, nid yw’r un pethau yn gweithio i bawb. Er enghraifft, mae rhai yn dweud bod cysgu am gyfnod byr yn ystod y dydd yn eu helpu nhw i gysgu gyda’r nos. Tra bo eraill yn dweud bod hyn yn gweithio i’r gwrthwyneb. Canfod beth sy’n well i ti. Gall yr awgrymiadau canlynol dy helpu:

  •   Gosod amser i ymlacio. Os wyt yn dechrau ymlacio cyn amser gwely, mae’n debyg byddi di’n syrthio i gysgu’n gynt.

     “Mae’n beth da i orffen dy waith a dy gyfrifoldebau eraill yn fuan fel nad wyt yn poeni amdanyn nhw amser gwely.”—Maria.

  •   Bydda’n frwdfrydig. Yn hytrach na gadael i amgylchiadau dy feistroli, trefna dy amserlen fel dy fod yn cael digon o gwsg.

     “Dw i angen o leiaf wyth awr o gwsg bob nos. Felly os ydw i angen deffro’n gynt nag arfer, dw i’n cyfrif yn ôl i weld faint o’r gloch dw i angen mynd i wely.”—Vincent.

  •   Bydda’n gyson. Bydd cloc y corff yn gweithio i ti, ond mae’n rhaid ei hyfforddi. Mae arbenigwyr yn awgrymu mynd i gysgu a deffro ar yr un amser bob diwrnod. Rho gynnig ar hyn am fis, a byddi di’n gweld dy fod yn teimlo’n well.

     “Os wyt ti’n mynd i gysgu yr un amser bob nos, mi fyddi di’n meddwl yn gliriach y diwrnod wedyn. Bydd hyn yn dy helpu i fod yn fwy effeithiol beth bynnag wyt ti’n ei wneud.”—Jared.

  •   Cadw cydbwysedd yn dy fywyd cymdeithasol. Mae’r Beibl yn ein hannog i “ymddwyn yn gyfrifol,” mae hyn yn cynnwys yr hyn rwyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden.—1 Timotheus 3:2, 11.

     “Roedd rhaid i mi gyfyngu’r amser roeddwn i’n ei dreulio’n cymdeithasu gyda’r nos. Os nad ydw i’n gosod terfynau ar f’amser hamdden, mi fydd rhywbeth yn dioddef, a mwy na thebyg fy nghwsg bydd o!”—Rebecca.

  •   Gadael i dy ffôn “gysgu” hefyd! Am o leiaf awr cyn amser gwely, gwrthod y temtasiwn i edrych ar y we neu i anfon negeseuon i dy ffrindiau yn hwyr gyda’r nos. A dweud y gwir, mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio bod y math o olau sy’n dod oddi ar sgrin y ffôn, y teledu, neu’r dabled yn ei gwneud hi’n anoddach syrthio i gysgu.

     “Mae pobl yn disgwyl inni fod ar gael rownd y rîl. Ond i gael digon o orffwys mae’n rhaid cadw’r ffôn i un ochr.”—Julissa.