Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 2: Mwynhau Darllen y Beibl

Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 2: Mwynhau Darllen y Beibl

 “Gall y Beibl ymddangos yn ddiflas,” meddai Will sydd yn ei arddegau, “os nad wyt ti’n gwybod y ffordd orau o’i ddarllen.”

 Hoffet ti wybod y gyfrinach o sut i fwynhau darllen y Beibl? Bydd yr erthygl hon yn dy helpu di.

 Gwna i’r Beibl fyw

 Dychmyga dy hun yn yr hanes rwyt ti’n ei ddarllen. Sut?

  1.   Dewisa hanesyn o’r Beibl hoffet ti ei astudio. Gallet ti ddewis digwyddiad yn y Beibl neu ran o’r Efengylau, neu gallet ti ddewis hanesyn o gasgliad darlleniadau dramatig o’r Beibl sydd ar jw.org.

  2.   Darllena’r hanesyn. Gallet ti ei ddarllen ar dy ben dy hun, neu gallet ti ei ddarllen yn uchel gyda ffrindiau neu aelodau’r teulu. Gallai un person adrodd yr hanes tra bod eraill yn actio’r cymeriadau.

  3.   Tria un neu fwy o’r awgrymiadau canlynol:

    •   Tynna luniau o’r stori. Neu gwna fwrdd stori​—cyfres o luniau syml sy’n dangos trefn digwyddiadau. Defnyddia gapsiynau i ddisgrifio beth sy’n digwydd ym mhob golygfa.

    •   Llunia ddiagramau. Er enghraifft, wrth iti ddarllen am gymeriad ffyddlon, cysyllta rinweddau a gweithredoedd y person hwnnw â’i fendithion.

    •   Tro’r hanes yn fwletin newyddion. Adrodda hanes y digwyddiad o sawl gwahanol safbwynt, gan gynnwys “cyfweliadau” â’r prif gymeriadau a llygad-dystion.

    •   Os gwnaeth un o’r cymeriadau benderfyniad annoeth, dychmyga ddiweddglo gwahanol. Er enghraifft, ystyria hanes Pedr yn gwadu Iesu. (Marc 14:66-​72) Sut byddai Pedr wedi gallu ymateb yn well o dan bwysau?

    •   Os wyt ti’n teimlo’n hynod o greadigol, beth am dderbyn yr her o ysgrifennu dy ddrama dy hun yn seiliedig ar hanesyn yn y Beibl? Cofia gynnwys y gwersi sydd i’w dysgu o’r hanes.​—Rhufeiniaid 15:4.

      Gelli di wneud i’r Beibl fyw!

       

 Ymchwilia!

 Wrth edrych yn fanwl, gelli di ddod o hyd i drysorau cudd yr hanesyn. A dweud y gwir, weithiau dim ond gair neu ddau o fewn hanes Beiblaidd sy’n arwyddocaol.

 Er enghraifft, cymhara Mathew 28:7 â Marc 16:7.

  •    Pam gwnaeth Marc gynnwys y manylyn fod Iesu am ymddangos yn fuan i’w ddisgyblion “a Pedr”?

  •  Cliw: Nid oedd Marc yn llygad-dyst i’r digwyddiadau hyn. Mae’n ymddangos ei fod wedi cael ei wybodaeth gan Pedr.

  •  Y trysor cudd: Mae’n rhaid bod Pedr wedi cael cysur o wybod fod Iesu eisiau ei weld eto, ond pam? (Marc 14:66-​72) Sut dangosodd Iesu ei fod yn ffrind go iawn i Pedr? Sut gelli di efelychu Iesu a bod yn ffrind go iawn i eraill?

 Wrth iti ddefnyddio dy ddychymyg ac ymchwilio’n fanwl, byddi di’n mwynhau darllen y Beibl lawer mwy!